Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

SYLW AR YSGRIF "UN O'R GRAIG."

"L" AC EISTEDDFOD Y GLOCH…

EISTEDDFOD ADULLAM MERTHYR,…

EISTEDDFOD ADULLAM, DRILL…

FY LLITH OLAF AT MR. SLICK.

I EISTEDDFOD CWMAFON.

AT MR. ISAAC THOMAS.

AT DANIEL YN NGWLADGARWR MEDI…

GWLADYCHFA GYMREIG YN PALESTINA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

graddau. Yn ein dyddiau ni, yn ein gwlad ein hunain, ac ar Gyfandir Ewrop, ac yn wir, trwy y byd gwareiddiedig, y mae y rheilffyrdd yn dyfod i ateb dyben afonydd a chamlesydd, ac mewn rhai ystyriaethau, yn debyg o gario dylanwad llawer mwy ar wlad a chymydogaeth. Y mae yr un egwyddor yn perthyn eto i arwynebedd y byd. Yr un fath ag y mae sefyllfa ambeil dref mewn teyrn- as yn fanteisiol i'w llwyddiant, a sefyllfa tref arall yn anfanteisiol, felly y mae sefyllfa gwledydd ar wyneb y ddaear. Y mae ambell wlad yn mhell allan o gyrhaedd trafnidiaeth y byd, ac felly, yn niffyg fod ynddi gyfoeth naturiol ac anarferol, y mae yn annichon iddi byth lwyddo. Y mae ambell wlad o'r tu arall, yn nghanol masnaoh y byd, ac felly yn fan- teisiol i lwyddo, pe na bai dim naturiol ynddi hi ei hun. Yr ydym wedi dangos eisioes yn fyr fod Palestina yn gyfoethog ynddi ei hun-ei bod yn cynwys holl elfenau naturiol ac angenrheidiol i'w gwneud yn wlad Iwyddianus. Yn chwanegol at hyn, y mae ei sefyllfa yn un o'r rhai mwyaf man- teisiol sydd yn bosibl at lwyddiant masnachol. Y mae yn sefyll yn nghanol "yr hen fyd," ac Ewrop, Asia, ac Affrica, ar bob tu, a hithau fel exchange iddynt, yn gymhwys fel pe buasai Rhagluniaeth ddwyfol wedi ei dethol i ateb tueddfryd fasnachol plant Abraham. Yr oedd Solomon yn canfod manteision sefyllfa y wlad, a gwnaeth y defnydd goreu o hyny. Yn unol ag esiampl ei dad Dafydd fe ffurfiodd gyfeillgarwch a brenin Tyrus, ac ym- unodd ag ef mewn anturiaethau morwriaethol rhy faith i'w holrhain yn bresenol, a thrwy hyny a wnaeth yr arian a'r aur yn Jerusalem cyn amled a'r ceryg. Y mae yn wir na fu Palestina ei hun mor Iwyddlanus drachefn, o herwydd dylni ac ynfyd- rwydd ei llywodraethwyr; ond fe fu Syria, ac oes- oedd ar ol dyddiau Solomon yr oedd cyfoeth y dwyrain yn dylifo i mewn i Esiongeber, ar gaine dwyreiniol y Mor Ccch, i gyfoethogi nid yn unig marsiandwyr bras a didduw Peira brydferth, ond hyd yn oed marsiandwyr Ewropaidd. Oddi wrth y golygiad a ellir ei ffurfio yn awr ar fasnach y byd mewn oesoedd dyfodol, fe fydd cyflwr Pales- tina mor, fanteisiol ag y bu erioed. Ni chyll Ewrop byth el gafael ar gyfoeth India, China, a'r dwyrain yn gyffredin-rhaid i drafnidiaeth bara rhyngddynt byth mwy. Y mae pob peth yn ein dyddiau ni, yn tueddu yn gyflym i uno ygwledydd hyn yn fwyfwy a'u gilydd, yn gystal a holl wled. ydd y byd. n ol fel y byddo hyn yn cynyddu fe fydd Palestina yn dyfod yn fwy gwerthfawr-nid oes dim a all ammharu hyny-rhaid iddi hi aros ar gyffiniau y dramwyfa o Ewrop i'r Dwyrain, ac yn neillduol o Brydain i'r India. Byddai Palestina yn fanteisiol dros ben i anni- byniaeth gwladychfa. Y mae rhai o'n cydgenedl yn ymfudo i gartrefi uewydd heb deimlo na gofalu dim yn neillduol o barth eu cenedl—eu hunig am- can yw gwella eu hamgylchiadau. 0 ganlyniad nid ydynt yn ymdrafferthu am ymuno yn eu han- turiaeth a ueb o'u cydwladwyr, acnidywogymaint pwys ganddynt yn mhlith pwy y bwriant eu coel- bren. I lawer o'r cyfryw, y rhai fo wedi cael rhyw gymaint o ddysg, ac wedi ffurfio arferion da, ac yn awyddus i lwyddo yn y byd, y mae cystal mantais mewn llawer parth o Brydain ag sydd mewn gwledydd tramor—a gwell yn wir. >' mae lluaws o ddrysau yn agored i'r cyfryw rai yn ein holl drefydd mawrion, ac y mae llwyddiant cynifer o Gymry yn Llundain, yn Lerpwl, yn Manceinion, a lleoedd ereill, yn brawf o hyny. Ond y mae ereill yn awyddus i ymfudo, nid yn unig i wella eu hamgylchiadau. ond hefyd i gadw eu Cymreig- yddiaeth Y maent yn chwenych cydfudo a rhyw nifer o'u cydgenedl i ryw le y gallent fyw fel cy- mundeb o Gymry-byw ar eu tir eu hunain, enill eu bara eu hunain; mewn gair, cario yn mlaen eu holl achosion fel cymundeb annibynol ar bob llyw- odraeth arall. Yr ydym yn cydymdeimlo a hwy hyd waelod ein calon; ac yr ydym yn credu fod yr amcan nid yn unig yn un i'w ddymuno, ond hefyd yn un cyrhaeddadwy-yr unig rwystr yw diffyg ysbryd anturiaeth ac undeb yn mhlith ein cenedl. Nid oes eisiau i ni ddyweyd ein bod wedi colli ein hannibyniaeth yn Nghymru. Pa un bynag ai er gwell ai er gwaeth, y mae hyny yn bod, y mae y ffaith yn amlwg; ac nid rhyfyg mawr fyddai penderfynu ei fod wedi ei golli am byth. Ac nid yn unig yr ydym wedi colli ein hannibyniaeth, ond fel Cymry, yr ydym wedi ein colli oddi ar fap y byd. Nid oes neb yn rhoi lie i ni mwy, nac yn ein cydnabod fel cenedl wahanedig oddi wrth ein cy- mydogion, oddi eithr ambell hanesydd a hynaf- iaethwr. Yn wir y mae ami ysgrifenwr bostfawr y blyn- yddoedd hyn wedi canu cnul ein claddedigaeth, yn nghyda'r holl deulu Celtaidd, acyn barodiddarllen y gwasanaeth uwchben y bedd. Yn awr yr ydym yn cydnabod yn rhwydd y byddai mor hawdd cychwyn gwladychfa Gymreig mewn rhyw barth o gyfandir America, ag a fyddai yn Palestina ond nid gyda'r un gobaith am ei pharhad. Gyda golwg ar Patagonia, yr ydym yn credu o'r dechreu nad oes ynddi hi yr anhebgorion angenrheidiol i wladychfa fu eisoes dan sylw, ac mai y ffolineb mwyaf oedd ameanu hyny. A phe ceffid cytundeb a Llywodraeth yr Unol Daleithiau i ffurfio Gwladychfa o fewn eu terfynau hwy, y mae yn eithaf sier y collid y Gymraeg yn raddol tan ddylanwad uwchafog Saesoneg yno hefyd, canys ni byddai y gwahaniaeth cymdeithas- 01 o ran dylanwad yr iaith yn llawer gwahanol yno nag yr hwn ydyw yma. Ond nid felly yn Pales- tina. Yno byddai yn fanteisiol i lechu rhag dy- lanwad anmharus iaith, ac yn arbenig rhag dylan- wad cenhedlaethoL Mae sylw y byd gwareidd- iedig ami hi yn barhaus, a phob teyrnas yn eidd- igeddus rhag i'r naill na'r Hall ymyryd dim a hi. Fel hyn byddai Gwladychfa Gymreig yn Palestina dan olygiad parhaus y gwahanol alluoedd Ewrop- aidd, a byddai hyn yn sicrwydd ynddo ei hun na chai neb ymyred a'i hannibyniaeth. Rhoddai hyn le iddi hefyd ar fap y byd, os oes gwerth yn hyny, a phwy a ddywed nad oes! Beth pe bai y Wlad- ychfa yn Mhatagonia er enghraifft, yn llwyddo yn ddirfawr, y mae y lie mor anghyspell, ac allan o olwg y byd gwareiddiedig, fel nad oes gobaith y deuai byth i sylw, ond am Palestina, y mae pob cenedl yn teimlo cymaint o ddawr ynddi fel y byddai y cymundeb lleiaf yno o gymaint pwys ag i gael lie yn y fan yn naearyddiaeth ac ar fap y byd. Wrth derfynu gellid crybwyll i ysgrifenydd y Uinellau hyn, ychydig flynyddau yn ol, ar ddy- muniad rhai oedd yn cymeryd y blaen gyda mater y Wladychfa, ymohebu a Bwyddogion Llywodraeth Twrci, gyda golwg ar sefydlu Gwladychfa o fewn eu hymerodraeth, ac iddo dderbyn sicrhad na byddai dim rhwystr, ond yn hytrach cymhorth i gario allan y cynllun.