Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AT OLYGYDD Y "GWLADGARWR."

---..'---.------..---------.-.-----------EISTEDDFOD…

----LLYTHYR O'R AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR O'R AMERICA. Oddiwrth Mrs. Davies, gynt o Mynyddbach, at gyfaill yn Merthyr. Providence, Luzerne County, Pennsylvania, America, Awst y 31ain, 1867. DAVID DAVIES, YSW. Anwyl Syr,—0 wlad machlud haul, am y tro cyntaf erioed, rhaid i mi eich cyfarch yn Y cvwair lleddf! Hoff fuasai genyf y lion, ond yn yr anialwch yr ydym yn yr ymdrechfa am y wlad a miliynau yw rhif y testynau pruddglwyfus Yr wyf heb unrhyw intro- duction, yn gorfod dweyd mai aewydd ddvch- Welyd wyf o dy galarus eich cyfneither, Mrs. Davies, diweddar oddiyna. Gwledd heb ddim ond dail melus gafodd hi oddiar pan adawodd Cyroru hyd at yr wythnos hon; ond, wele ddalen sur iawn y mae Emanuel anwyl yn ei fedd Echdoe, gyda'i waith, o dan y ddae- ar, syrthiodd tua 50 o dynelli o'r graig lo oddiamgylch iddo, a gorchuddiwyd ei babell gan ran go fawr; a bu y cwymp mor ddi- symwth, nes y bu farw mewn eiliad Cafodd ei ddryllio yn enbyd. Ddoe gwnaeth can- oedd o ddynion goreu Plymouth ymgynull yn nghyd i dalu iddo y gymwynas olaf; a gosodwyd ef yn nhy ei hir gartref tua chwech o'r gloch p.m. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan dri o'r gweinidogion hoffaf ganddo ef; sef y Parch Mr. Snowdon, Americaniad; y Parch. Thomas Phillips, T.C.; a'r Ysgrifenydd, gwein- idog Annibynol. Siaradodd yr Americaniad a'r ysgrifenydd rhyw ychydig yn Seisnig yr Oedd mwy na haner y gynulleidfa yn Saeson. Yr oedd Samuel vn ddyn ieuanc a gerid gan bawb, a mwy na'r cwbl, yr oedd yn un o'r •fynion ieuainc mwyaf gobeithiol, yn ol ei tanteision a'i oedran a welodd yr ysgrifenydd erioed. Mvnydd mawr o nwyddau gwybod- aeth, dysg, a dawn, oedd, heb ddechreu dangos el gyfnerth rhyfedd. Yr oedd wedi siarad yn barchus am danoch chwi, Syr, wrthyf lawer gwaith, a chredai, pan ygwnai fyn< d i'r coleg, y cawsai gydymdeimlad byw ynoch chwi. Yr °edd yr ysgrifenydd ag yntau fel J onathan a Dafydd. Meddyliaswn i fod dyfodol ardd- erchog draw yn y dyfodol, oblegyd yr oedd y Wawr wedi codi, ac arwyddion diwrnod goleu, digwmwl, gwresog! Machludodd ein haul cyn canol dydd. Yr Arglwydd yw efe, gwnaeth fel oedd dda yn ei olwg. Casglu cyfoeth, a gwasanaethu Duw mewn Vd arall wnaeth Samuel, ac aeth a hwy ganddo bob un drwy y glyn ac yr ydym fcinau wedi ein gadaeli ryfeddu y cymylau ^r ty wyllwch sydd oddiamgylch ei orseddfainc Ef." Hi ddaw yn oleu arnom ninau, y mae yn ddydd ar Samuel. Mae yr hen wraig yn teimlo yn unigol iawn. tachgen ddigon delicate yw Thomas, nid oes ganddo ond nerth byohan. Y mae John tua 2000 o filltiroedd oddiwrthi, draw tua Netras- ka. Y mae George yma, ond y mae ef yn Idach iawn. Y mae Dafyddyn weinidog yn ()hio, o dan ei gyfrifoldeb. Ond y mae Duw el thadau yma fel yn y dyddiau cynt. Y *hai a ymddiriedant ynyr Arglwydd a fyddont xnynydd Seion." Rhaid i mi derfynu, y Sabboth o'm blaen, ac y mae bron a yn nos, a deg milldir genyf i deithio i'r ac wyf i wasanaethu y fory. Carwn roddi rhagor o oleu i chwi, ond chwi gewch eto. Byddai yn dda ganddi hi pe y cyhoeddir y trychineb yn y newyddiadur yna er mwyn ei miloedd adnabyddiaeth. ^ofia y teulu oil atoch, ac at eich priod %ddlon a pharchus, a derbyniwch yr eiddof er yn anadnabyddus. Y mae gwynegon J11 fy llaw, nis gallaf ysgrifenu yh eglur, 8°beithio y gwnewch ef allan. D. E. EVANS.

LlYTHYR MORDDAL 0 MILWAUKEE,…

YMWELIAD A CHYMRU.

YSGOL FRYTAN iIDD ABERCR WE.

LERPWL.