Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y DIWEDDAF 0 BARTHED DINYSTR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAF 0 BARTHED DIN- YSTR CHICAGO. Y mae yr holl adeiladau ar dros pum milldir ysgwar wedi eu llosgi yn Chicago. Y mae y dinystr yn un o'r rhai mwyaf yr oes bresenol. Yr oedd poblogaeth y ddinas hon y flwyddyn ddiweddaf yn 300,000, ac wedi cynyddu 200,000 yn y deg mlynedd diweddaf! Y mae y ddinas hynod hon wedi ei hadeiladu yn ymyl un o gonglau y Llyn Michigan, ac yr oedd mwy o reil- ffyrdd yn cyfarfod ynddi nag yn un ddinas arall yn y byd. Yn wir, yr oedd Chicago yn cael ei chyfrif y ddinas harddaf yn y byd; ond y mae wedi cael ei gwneud yn garnedd ddechreu yr wythnos hon gan dan! Cyfrifir fod y golled yn cyrhaedd i rhwng dau a thri chan miliwn o ddoleri. Dywedir i'r tan ddechreu mewn beudy, lie y taflwyd lamp i lawr gan fuwch aflon- ydd. Rhedodd yr hylif tanawl oedd yn y lamp hyd at y pavement coed, o'r hwn ddefnydd y mae y rhan fwyaf o heolydd Chicago wedi cael eu gwneud. Y mae yn cael ei hvsbysu nad ydyw yn debyg y bydd i'r trueiniaid digartref gael dyoddef dim o angen ymborth nac arian, ond y bydd arnynt eisiau gwisgoedd yn fwy na dim, a bernir mai y gymwynas fwyaf a allwn m yn y wlad hon ei wneud, fyddai anfon ar unwaith agerlong llwythog o bob math o ddillad cynes i ddilladu y miloedd a ddiangasant am eu bywyd heb ond yr ychydig oedd am danynt.

Y GWIR AM PATAGONIA.

• ; ' AMERICA ;RRR"

Advertising

CALFARIA, CLYDACH.

GWYL GEBPDOBOL UNDEBOL ABERDAR.

Advertising

ELIM, CWMDAR.

Advertising

Carmel, Treherbert.

Advertising