Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

ABERTAWE—YR UNDEB CYNULTEID-.…

[No title]

.CAERGYNYDD A WÍL-ÕÎJi NANT.

Y NADOLIG YN AGOSHAU.

[No title]

EISTEDDFODAETH.

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHUMNI.—Nos Lun, Hydref y laf, cynal- iwyd cyfarfod yn Twyncarno ar ymadawiad Mr. W. Tafonydd Evans. Er na fu yn Rhumni ond ychydig fisoedd, eto y mae wedi enill serch ac edmygedd y gymydogaeth yn gyffredinol. a hyny trwy ei dalent a'i ostyngeiddrwydd diffuant. Siaradwyd ar yr achlysur gan y brodyr canlyn- ol:—Mri. D. Brynlwyn Davies, John Watkins, (loan Gwent); J. Davies, Brynhyfryd; T. Pro- bert, Brynhyfryd; John Davies, (Osian Gwent); W. Jones, Seion; John Evans, (Ieuan ab Dewi), ac ereill. Dyddiau Mawrth, Mercher, a'r Iau canlynol, cynaliwyd cymanfa gan y Methodist- iaid yn Twyncarno. Cafwyd pregethau rhagor- ol, ac arwyddion amlwg fod lies mawr wedi ei wneud i'r ardal yn gyffredinol. Y mae y brodyr yn Rhumni yn teilyngu canmoliaeth uchel am y caredigrwydd a ddangoswyd gan- ddynt i ddyeithriaid, a byddai yn briodol iawn i frodyr mewn manau ereill eu hefelychu. Y mae yn dda iawn genyf ddeall fod trigolion Rhumni yn dechreu agor eu llygaid mewn cy- sylltiad a chael neuadd. Gresyn eu bod wedi oedi cyhyd, ac wedi cario cymaint o'u harian i fanau ereill. Nid oes dim anhawsder ar y ffordd ond i bawb fod yn unol ac ymdrechol. Yn awr, fechgyn, am df anrhydeddus yn Rhumni, fel y gellir cynal cyfarfodydd teilwng fel manau ereill. Gadewch ddadleuon y Bwrdd Y sgol a'r darllen- iadau dichwaeth sydd-genych mewn cysylltiad a hwy, ac adeiledir neuadd ddirwestol hardd, yr hyn fydd yn slnrhydedd mawr i chwi.—YM- "WBLYDD. > PENNSYLVANIA. — Dcmwain. — Cymerodd damwain alarus le yma ar y 5ed cyfisol, drwy i up o'r enw Jonathan J ones, 29 mlwyddiodd, Cyfarfod a'i ddiwedd yn sydyn tra wrth; ei waith yn yr Hyde Park Shaft. Cymerodd hyn le drwy iddp fyned yn ol i'r breast yn rhy fuan ar ol tanio y twlI, gan dybied fod y twll wedi methu ond erbyn ei fod o fewn ychydig latheni i'r face, taniodd y twll, a daeth cyfran o'r glo yn erbyn y trancedig nes ei ladd yn y fan, gan wirio yr ymadrodd < hwnw i ninau y byw, "yn nghanolein bywyd yr ydym yn angeu." Dydd Iau canlynol, hebryngwyd ei weddillion marwol i dy ei hir gartref yn y lie hwn, gan dorf luosog o gyf- eillion. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. D. W. Morris, (B.) Ymfudodd y trancedig i'r wlad hon o Mountain Ash, D. C., tua dwy flynedd a haner yn ol. Gad- awodd wraig a dau o blant bychain i alaru a theimlo eu colled ar ol priod a thad caru- aidd a gofalus, yn nghyda rhieni oedranus, a lluaws o berthynasau a chyfeillion i deimlo chwerwedd y brofedigaeth. Bydded i'r hwn sydd yn briod i'r weddw, ac yn dad i'r amddifaid ofalu am ei deulu galarus, a'r hwn a fedr droi "Holl chwerwon ddyfroedd Mara Yn win i blant Jehofah" fyddo yn amddiffynfa i'w rieni galarus yn eu henaint.—J. T. D. CAERPHILLY.—Mae'n arferiad gan Anni- bynwyr y lie hwn i gynal eu cyfarfod blynyddol tua diwedd Medi neu ddechreu Hydref. Nos Lun a dydd Mawrth, y 25ain a'r 26ain o Fedi, oedd yr amser cymeradwy yn eu golwg eleni. Pregethwyd yn y pedwar cyfarfod gan y Parchn. J. Farr, Caerdydd; H. Oliver, B.A., Caerdydd; E. Hughes, Penmain; a J. Mathews, Castell- nedd. Darllenwyd ac anerchwyd gorsedd gras gan y Parchn. R. Rowlands (B.), Tonyfelin; B. Davies, Glandwr; a T. L. Jones, Machen. Mae crefyddwyr Caerphilly yn hoffi cael efengyl bur a llawn o Grist, ac y maent hefyd yn hoffi clywed ei thraddodi gyda gwres. Cawsant y ddau beth uchod yn helaeth yn y cyfarfod hwn, a hawdd oedd deall ar eu dull yn gwrando eu bod yn gyfarwydd a phethau o'r fath yn y weinidogaeth feunyddiol. Yn wir yr oedd y pregethu a'r gwrando yn dda dros ben. Casgl- wyd F,64 lis. 4c. Yr oedd yn lion genym weled Mr. Richards yn edrych mor dda a chalonog. Hyderaf y ca achos llawenhau wrth weled ffrwyth toreithiog i'r pregethau grymus a'r gweddiau taerion yn y cyfarfod blynyddol hwn. —Gwrandawr.

[No title]

[No title]

[No title]