Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
T\R, HUNTER'S Special Lectures to Young Men, on HEALTH, ITS RESTOR- ATION, AND HAPPY MARRIAGES,—When to marry, with advice to those who contemplate marriage, pointing out certain impediments which render married life unhappy, and directions for their speedy removal. Should beread by all who value health, strength, and man- hood, and wish to attain a bappt old age.—Post free on receipt of two atamps.—AddMM, Secretary, Institute of Anatomy, Birmingham.
Y GLOWR AR LAWR.
Y GLOWR AR LAWR. LLYTHYR II. Mr. Gol.,—Gan fy mod yn amdcliffynydd y ffydd yn ol egwyddorion puraf yr eglwys fawr ddaearol, y mae yn bwnc difyrweh mawr i mi ddarllen sylwadau ambell i wrach yn clegar tebyg i "Ni Waeth Pwy," o'r Maesteg. y.flordd debycaf i godi y glowr oddiar y Hawr ydyw cael undeb—nid i ym- ladd a'r meistri byth a hefyd, ond ceisio cael gaaddynt i gydnabod teilyngdod y gweith- iwr, ac edrych arno fel un o olwynion ar- benig yn mheiriant mawr masnachaeth y byd. Pwy, tybed, ydyw pedleriaid a gau broffwydi yr anfeidrolddyn hwn? Ac yn fyr, pwy ydyw y doethwr ei hun i Adwaenom lawer o fechgyn yn nghymoedd Dar a Rhondda ondatolwg, pwy ydyw yr offeiriedyn hwn sydd yn chwythu ei lava danllyd a dinystriol mor diwyrn1 Nid trwy ymrysonau a dadwrdd y daw meistragweithiwri ddeall eugilydd. Trysorfa fawr undebol sydd yn anhebgorol er lleihau ycrynswth mawr sydd yn gorlenwi marchnad Hafur, oblegyd cyhyd ag y byddo y farchnad yn llawn, gobaith gwan fydd am ddyrchafiad ygweithiwr, am fod y llanw gweithfaol yn oacmod i ateb gwerthiant nwyddau, megys glo ac haiarn. Pe gellid cael trefn ar gyd- weithrediad, nid oes dim braidd yn anmhosibl irr dosbarth gweithiol ei gyflawni, oblegyd y mae pawb ar unwaith yn foddlon cydnabod fod. cyfalaf yn beth hollol ddiwerth i'r byd heb gael ei ddwyn i gyffyrddiad a llafur; fdlyniganfyddwn fod y gweithiwr yn ys- gogydd dechreuol cysur a dedwyddwch y tealu dynol o ben tir Cymru hyd Ynysoedd HAr y De, ac oddiyno i begynau eithafol y gogleidd oer. dim modd gwneud prawf ar godi trysorfa undebol yn Morganwg a Mynwy, achael pob dyn yn mhob glofa i dalu swllt y mis, er gweled beth fyddai y canlyniad mewn haner blwyddyn? Byddai hyny yndebyg o ddysgu gwers i'r meistri i beidio ymddwyn mor galed tuag at y gweithwyr. Gwir fod rhai meistri wedi eu haiarneiddio i'r fath eithafion, fel na fyddant yn ddim ond teyrniaid gormesol hyd ymyl y bedd. Adwaenoch hwynt yn dda, ao y mae yn resyn meddwl fod y fath ddynion yn cael cymaint o wrandawiad a dylanwad ar y werin bobl mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Digon tebyg bydd y llew yn pori gwellt, ac ereill o deulu y goedwig wedi cyrhaedd sef- yllfa o ddiniweidrwydd cyn byth y gadawant yr hen arfer o ormesu, am fod yr elfen mca: gryf ynddynt ag ydyw elfen y barcutan am gywion byehain yr iar. Buom yn dysgwyl am reolau y oyflafaredd- iad, ond yn ofer hyd yn hyn, er y gallem dybio y dylasent fod wedi eu cyhoeddi tfjTi hyn, fel y gallo'r wlad ffurfio barn ar eu teilyngdod. Hyd nes y caffom weled y cyf- ryw, ni a barhawn i goleddu amheuaeth am ddilysrwydd yr arbitration a wnaethpwyd yn Nghaerdydd. Dadleued rhywun yr egwydd- orion ar dudalenauyGwLADGARWR, oblegyd y mae yn sicr fod mwy na haner ein glowyr heb ddeall natur y cytundeb, nac ychwaith wybod dim am ei egwyddorion sylfaenol. Os na cheir hyn, fe syrthanrhydedd y Sais i'r llwch, a bydd Sais addolwp- Cymru yn gorfod cuddio o dan fantell cywilydd pan welont y gath wedi dyfod o'r cwdyn. Brysied y doethion i roddi eglurhad ar y pethau sydd yn dywyll i'r werin, fel na byddont anwybod- usion mwyach o'r |)ethau a ddylent wybod i fanylrwydd. Un o brif ddiflfygion y cyfundeb gloawl ydyw, fod y lluaws yn rhy barod i wrando ar chwedlau byrbwyll dynionj cynenllyd sydd &'u holl fryd ar gynhyrfu a gwneud drygioni, ac ar ol y cyflawniad o'r gweithredoedd di- eflig hyn, cawn hwynt yn cludo pob peth a gymer le yn nghyfarfodydd cyfrinachol eu cydweithwyr. Adeiladodd ami un o'r rhai hyn y grogbren i faglu ei gymydog, a syrth- iodd yn aberth i'r rhaff ei hun cyn diwedd y drafodaeth. Dyna. un o'r prif resymau fod y glowr ar lawr, ydyw dichell a bradwriaeth cythreuliaid wedi gwisgo cnawd. Credwn fod a fyno rhywbeth a gosod marciau ar y teulu hwn, oblegyd y maent yn wahanol i blant y llawr yn y cyifredin yn eu hystum- iau corffaroI a dullwedd eu hymarweddiad yn y byd. Dangos i mi fradwr, ti allu ben- derfynu fod arno ei nod, megys trwyn mawr, llygaid croesion, neu w&n sarphaidd. Bydd ambell un arall wedi cael corn mawr, afrosgo, ac mor ddiflygiol o synwyr cyflredin a'r oeflylau ar Gomin Hirwaun. Y mae y bodau hyn yn suro cymdeithas, yn difwyno y wlad lie y preswyliant, a difetha eu hunain yn y diwedd. Hoff ddarllenydd, gochel fradwr, Gwylia ar ei gamrau certh, Atat daw fel ffugymhonwr, Chwilio bydd lie mae dy nerth Mil o honynt geir trwy'r cyrau, I gymdeithas nxaent yn blâ, Difa wnant trwy wrachaidd chwedlau Heddwch pob cym'dogaeth dda; Arwydd un fydd trwyn anferthol, Arall gyda llygad croes, Y nesaf fydd â chorff aruthrol, Diwybodaeth trwy ei oes Gwen Wyddelig y pedwarydd Ddengys beth syad dan y croen, Ymdrabaeddu byadant beunydd 0 dan erch arteithiawl boen. Dichon fod y penill wedi ei ysgrifenu dipyn yn lleddf, ond fe wna y tro ar y testyn i ateb yr amgylchiadau. Rhag myned a gormod o Ie, dichon y byddai yn well cau yr hopran, gan fod eto lawer o bethau i gael eu traethu yn y llithiau nesaf felly dyma derfyn yr ail, gyda dy- muno llwydd i wladgarwch, rhinwedd^gonest- rwydd, a chaffed pob bradwr cilwgus feddrod yn nyffryn dinodedd ar waelod cwmwd ebar- gofiant. TWBCH DAEAR. OLNODIAD. — Cofied y darllenydd nad oes perthynas rhwng y Twrch hwn a Twrch Cynon. Y mae y brawd hwn yn byw mewn awyrgylch gwahanol i'r eiddom ni y tyrchod daear. Mae ganddo ddawn prydyddu a gwneud coftmau rhad, Efe sydd yn teilyngu anrhydedd tref a gwlad; Adgofir ei wladgarwch gan dlodion Oymru wen, Am goffin rhad a chryno Twrch Cynon sydd yn ben. TwROH DAEAR.
[No title]
A GENTLEMAN, having been cured of the results of YOUTHFUL ERROR and PRIVATE DISEASES, after years of suffering, will be happy to send a copy of the prescription nsed, on receipt of One Stamp.—Address, Arthur Jones, (Esq., 4, Frederick's Place, Shacklewell, London.
AT BWYLLGOR Y GYNGHERDD A…
AT BWYLLGOR Y GYNGHERDD A GYNALIWYD YN GLYNNEDD YN MIS MAWRTH DIWEDDAF. Foneddigion,-Tebyg nad oes eisiau eich hys- bysu mewn modd o adgof am y gyngherdd a gynaliwyd yn ysgoldy Brytanaidd y lie uchod, ar yr amser a nodwyd. Yr wyf yn ystyried mai boneddigeiddrwydd ynoch fyddai gwneud eich goreu i ddwyn y peth i derfyniad yn bresentfl, gan ein bod wedi cael ar ddeall nad yw hyny wedi ei wneud hyd yn hyn. Y mae yr ardal a'i Uygaid yn agored, ac yn dysgwyl i ehwi gyf- lawni eich dyledswydd. Pe buaaech yn gaaael i'r cyhoedd wybod ar y dechreu nad oedd -v jnath o gyfrif i fod, ni fuasai lie i ddweyd gait. Nid oes oyoyutiad yn y mesur IWiM rhysgwyf a'r pwyllgor. ond yn umig fy mod -widi telmkr l-hyw j^ma^t o ddyddord^b dsa^ ty ugalluCgi i Tmewl fy rbaa>gya«qj l. &
DYN YN GREADUR GWEITHGAR.
DYN YN GREADUR GWEITHGAR. Mr. GoLj-Yn fy llythyr diweddaf a ym- ddangosodd, dywedais fod gweithwyr Cymru yn cael eu gormesu, eu gwasgu, a'u gor- weithio yn druenus yn yr oes gythryblus hon, fel y cawn ddangos eto, os byw a gweddwl gryf a fyddwn. Eithr rhag ofn i rywun, neu rywrai, gymeryd mantais arnom, a thrwy hyny ddywedyd ein bod yn honi na ddylai dyn weithio o gwbl pe caffai chwareuteg, nyni a ddangoswn yn y llythyr hwn ein bod yn credu mai creadur gweithgar, diwyd, a da y bwriadodd y Crewr mawr i ddyn fod yn y dechreu, eithr ni fwriadodd erioed ei orthrymu, ei wasgu, a'i orweithio, oofier. Clywsom ddywedyd lawer gwaith na fuasai rhaid i ddyn weithio o gwbl oni fuasai i Adda bechu trwy fwyta o ffrwyth y pren gwahardd- edig. Yr wyf yn addef yn rhwydd na fuasai trais a gormes yn y byd pe na fuasai i'r dyn cyntaf agor y ddor i bechod ddyfod i fewn ond y mae y dybiaeth na fuasai rhaid llafurio, yn fy marn i yn gyfeiliornus, ac yn gamsyn- ied i'r eithaf, oblegyd y mae pob peth mewn natur, a phob peth mewn perthynas i ddyn yn eglur ddangos mai creadur gweithgar, diwyd, a da y bwriadwyd iddo i fod yn y dechreu. Y mae yn eithaf gwir i Dduw greu y nefoedd a'r ddaear, a hyny filoedd o fly- nyddoedd, efallai, cyn gwneud dyn, a gwir ddigon fod Gardd Eden wedi ei phlanu, a phob darpariaeth ynddi ar gyfer cynal dyn pan y oaf odd Adda ei hun gyntaf yn ei chanol; ond y mae mor wir a hyny i Dduw roddi gofal yr ardd hynod hono i'r dyn cyntaf Adda, gan roddi gorchymyn iddo i'w llafurio. Os oafodd Adda ei foreufwyd cyntaf yn Eden heb lafurio am dano, nid oedd hyny yn profi y cawsai ei gynal am naw neu ddeg cant o flynyddau yno heb gyflawni un ergyd o waith pe buasai wedi cadw ei ddechreuad. Na, na, yr oedd "Edenodiaeth" i'w llafurio; ac fel y mae diogi a segurdod yn difwyno y tir, felly hefyd buasai esgeulusdra Adda o lafurio, pe buasai wedi cadwfei ddechreuad, yn ddigon i daflu Paradwys y byd yn anial- wch gwag erchyll A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd yn ngardd Eden i'w llafurio, ac i'w chadw hi." Rheol gweithrediad Duw yn mhob achos yn awr, ac erioed, ydyw gwneud yr hyn na fedr dyn ei wneuthur. Gwnaeth Duw bob peth mewn perthynas i'r byd hwn na allasai dyn ei wneud, gan adael y gweddill i ddyn, yr hwn a gynysgaeddodd â. galluoedd cyfaddss, fel y gallasai ddarganfod y ffordd i gyflawni y gwaith a berthynai iddo, er budd cymdeithas ar ddyrus daith yr anial mawr. Y mae y deddfau mawrion ar ba rai y mae y greadig- aeth hon yn ymddibynu yn eiddo Duw, oblegyd y maent yn mhell, bell uwchlaw gallu dyn. Y mae y belen ddaearol hon yn troi ar ei phegynau yn y gwagle annherfynol, a'r planedau yn dilyn eu cylchdroadau yn yr wybren fry yn annibynol ar ddyn; oblegyd nis gallasai dyn, pe ewyllysiai, mwyhau neu leihau dim ar y grym, neu y gallu rhvfedd hwnw a elwir dysgyrchiant. Eiddo y Crewr mawr yw rhanau bywydol y greadigaeth, ac eiddo y dyn yw yr offerynoL Gwaith dyn ydyw dadblygu galluoedd bywydol natur, fel y byddo iddynt weithredu yn y fath fodd er cyrhaedd ei amrywiol amcanion. Duw blan- odd galluoedd hydyffant yn mynwes oer y ddaear ddu, eithr dyn sydd i'w haredig a i hau tuag at iddi ddwyn ffrwyth er ymborth a chynaliaeth iddo. Duw lor gauodd y m6r mawrwyllt yn ei wely tywodlyd, eithr gwaith dyn oedd darganfod y ffordd i farchog ei gefn llydan a rhychiog. Duw lor y nen a greodd yr hylif gwthiol hyny ag sydd yn treiddio trwy fater yn gyffredinol, ac a elwir trydaniaeth (deetrwity), eithr gwaith dyn oedd darganfod y ffordd i'w ddefnyddio. Duw gudaiodd y trysorau yn mherfeddion y mynyddoedd, a'r perlau gwerthfawr yn ngwaelodion y dyfnderoedd, eithr gwaith dyn yw ehwilio am danynt, eu rhawio i'r gwyneb, a'u dansoddi i'r dorian, yn nghyda gwneud y defnydd goreu o honynt. Ni wnaeth Duw yr un peiriant erioed, eithr efe a gynysgaeddodd y dyn & galluoedd peirian- yddol, fel y gallasai ddarganfod y ffordd i wneud peirianau drosto ei hun ac y mae yn ddywenydd genyf allu dweyd fod y dyn wedi darganfod y pethau uchod erbyn heddyw, a llawer yn rhagor, ac y mae dynion yn parhau i ddarganfod pethau newyddion o flwyddyn i flwyddyn, a pharhau a wnant ond odid hyd olaf awr amser, os nad i dragy- wyddoldeb. Ac y mae fod dyn yn feddianol ar y fath alluoedd rhyfeddol a bytholgynydd- ol, yn nghyda'r ystyriaeth na wnaeth y Crewr mawr ddim erioed ag y gallasai dyn ei wneud, yn profi ar unwaith, debygwn i, mai creadur gweithgar, diwyd, a da y bwriadwyd i ddyn fod. Rhag ofn, Mr. Gol., eichblino â. meithder, torwn y llythwr hwn yn y fan yma, gan ddychwelyd at y gweddill yn ein nesaf. Hyd hyny, derbyniwch fy nymuniadau mwyaf di- ffuant, gan fy nghofio yn fawr at y Parch: R. Saunders, (Llwynog), yr hwn a fu yn ymweled 4 mi yn ddiweddar. Alltwen. Eos WYN.
LLYTHYR 0 AMERICA.
LLYTHYR 0 AMERICA. Buttler, Buttler Co., P. A. Braskiik o'n taith o Dreorci i New York. Anwyl wragedd, plant, a pherthynasau,- Dyma ni wedi cyrhaedd y rhan hon o'r ddaear, yr hon oedd dynfaen ein meddyliau er yg rhai dyddiau. Cyrhaeddasom L'erpwl ar y lOfed o Orphenaf, 1871, a chawsom y Cymro yn deilwng o'r enw a'i swydd, ac yn llawn o weith^Arweh a charedigrwydd. Yr oedd of wraig jTi gyf xyw ag y g^llasem ar ^unwaitli wi^^ud em hunwn yn gartrefol, ac i fnynJ^u en<p»olc^dau ar £ cyfer. Ar y 12fed,. ajrehtfynaaom i'r llong., Y? oeddem ytf gwneud i 650 o deithwjT, o fca rai yr oedd 15 o honom yn Gymry, yn nghyda 4 o'r morwyr. Yr oedd ar fwrdd y llong 150 o Formoniaid yn myned i'r Llyn Halen. Yr oedd ar y bwrdd ddeg o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad. Ar yr 16eg, gwelsom for- fil ychydig bellder oddiwrth y llong, yr hwn oedd yn Quohio y dwfr i fyny am latheni lawer. Gwelsom ganoedd o forfoch. Cawsom lawer o bregethau gan y Mormoniaid yn ystod ein taith, ac yr oeddem ninau yn di- fyru ein hunain ar amserau trwy ganu emyn- au Cymreig, a Thomas Williams yn arwain y gan. Ar yr 22ain, cawsom ymladdfa rhwng dau o'r Gwyddelod, a thua 2 o'r gloch y boreu diffoddodd y lampau oil, pan y credodd y Gwyddelod fod y llong yn suddo, a gwaedd- asent yn ddychrynedig am y "Virgin" i ddyfod i'w gwaredn, ac i beidio bod yn faith hefyd, neu buasai yn rhy ddiweddar. Cyrhaeddasom New York am 2 o'r gloch y 25ain. Aethom gyda'r b&d yn groes i'r afon i'r Castle Gardens, a gwysiwyd ni i ryw neuadd fawr'er cael ein cofrestru, yn mha le y cawsom ein geni, ac i ba le yr oeddem yn myned. Ar y 26ain, aeth pob un i'w ffordd, a chawsom ein perthynasau a'n cyfeillion yn ein dysgwyl yn iach. Cofion cynes at ein perthynasau a'n cyfeillion yn Nghymru. JEFFREY PRICE. JOHN POWELL. THOMAS WILLIAMS.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Ffrwydriadmi Tmidfiam/rol a Thnjsorfa G&nedlaetlwl (hjnr>rthuryol.—Mae llawer eto yn aros heb ei wneud naevm perthynas i ddeddf arolygiad mwngloddiau, er sicrhau llymach dysgyblaeth ar berohenogion glo- feydd, a'r glowyr yn gyffredinol: ni byddai hyny yn ddigon i osod atalfa hollol ar ffrwydriadau, er y gallai fod yn lies mawr ac yn gam pwysig yn y cyfeiriad priodol. Pan y delom ^ryneb yn wyneb a pheryglon ar y m6r, fel yn ngrombil yr hen ddaear, mae dyfais celfyddyd gyda chywreinrwydd meddwl y dyn wedi syrthio yn rhy brin lawer gwaith, oblegyd anweledig bethau y tu allan i gyrhaeddiadau y gallu dynol. Mae glo yn un o'r prif bethau ag sydd ar waelod ein llwyddiant masnachol, o ganlyn- iad, mae achos y glowyr yn gorwedd yn agos wrth ddrws pob dyn a dynes ar diroedd cred, ag oddiar yr ystyriaeth hyn mae y glowr yn hawlio cydymdeimlad pawb yn ddiwahanijieth. Wei, yn gymaint a bod dygwyddiadau ac anffodion yn cymeryd lie er pob manylwch a gofal, mae hyn yn galw am sylw y byd, nid yn unig i deimlo trwy siarad, ond hefyd i gyfranu at achosion a gymer le y naill flwyddyn ar ol y llall. Gwir fod llawer o ymdi-echion Ueol wedi eu gwneud, ond mae y galwad yn aiv-r am rhywbeth mawr oenedlaethoL Dyna drychineb yn nglofa Hartley, tebyg fod pob gofynion ar y drysorfa wedi eu talu, a bod llawer o arian eto yn aros yn nwylaw Arglwydd Faer Llundain; yn hollol farw a difudd; arian a ellir ystyried yn perthyn yn gyfangwbl i'r wlad. Sicr ydyw y dylai perchenogion pob glofa gael eu gorfodi i dalu yn helaeth i'r drysorfa, eto, ni fydd hyny yn lleihau dim ar hawl genedlaethol y glowr ar gydym- deimlad holl genedloedd y ddaear. Mae calon y wlad yn gwaedu yn awr, o dan y drychfeddwl fod yn agos i gant 0 lowyr diwyd a gweithgar wedi ei cloi i fyny yn nghell marwolaeth, heb un ffordd i'w cael allan am fisoedd; o'r hyn lleiaf, mae y rheithchwiliad wedi ei ohirio am ddau fis yn mhellach, er gweled os gellir llwyddo i gael gafael yn y cyrff. Edrych ddarllenydd ar y pwnc yn y goleuni a fynot, nid oes i ti allu osgoi rhag taflu dy hatling i'r drysorfa ac ar dranl cydweithrediad cyffredinol, gellir yn hawdd osod gweddwon ac amddifaid glowyr ein gwlad o gyrhaedd angen bara a chaws. Achoswyd y nodiadau hyn gan sylwadau a glywais gan foneddwr ag sydd yn perthyn i linell o agerlongau, rhwng y porthladd hwn a dinas Efrog Newydd. Bydd pawb ac sydd yn gwybod rhywbeth am werth glo, yn barod i ddweyd Amen gyda theimlad boneddwr fel yr uchod, yr hwn sydd wedi cyfranu yn barod gant punt i drysorfa y lofa a nodwyd yn ymyI Wigan. Glo ydyw prif ysgogydd ein masnach forawl, a dibyna trafnid- iaeth y gwledydd i raddau mawr ar y glo, am y rheswm fod agerlongau yn cymeryd lie yr hen ddull o fordeithio, a chludo nwyddau masnaehol o'r naill wlad i'r llall, felly, priodol dweyd gyda'r Sais. "That coal is the king of the country, and rouser of the mighty deep; the very essential agent in our mercantile marine." Caffed y sylwadau hyn y sylw a deilyngant yn ol eu gwerth, a. chymered rhywun arall y pwnc mewn llaw, a gwyntyller ef yn dda, fel ag i hawlio sylw pendefigion y gwledydd a thywysogion y byd. Mae yr adeg bresenol yn un gyfleus dros ben am ddiwygiad; am hyny, deflfrowch, ac 11a ohysgwch ar fynyddoedd Mynwy a. Morganwg. Y Beivdefigaeth a'r Dosbarth Gweithiol.— Odid na fydd y darllenydd meddylgar yn agor ei lygaid ar y penawd hynod hwn; ond cyn ffurfio barn ar y mater, gad i mi gael dweyd y stori yn gyflawn, yna, ti allu famu fel y mynot. Rhyw dri neu bedwar mis yn ol, meddyliodd Mr. Scott Russell, y buasai pwyllgor wedi ei ffurfio o bendefigion, mas- nachwyr a gweithwyr, yn gam pwysig at gael dealltwriaeth gwell cydrhwng y llywoor- aeth a'r werin bobl, er mwyn hyrwyddo yn mlaen gynydd a llwyddiant y wlad, a dyrchafiad y dosbarth gweithioL Cyfyngodd Mr. Russell ei fwriadau yn benaf i sylw y defodwyr, am ei fod yn perthyn i'r blaid hono ei hun. Er fod y blaid hon yn ystyried ei hun fel mamaethod i'r dosbarth gweithiol ond pan welsant hyn, fe darawyd arbeudod-
SIOP Y CRYDDION.
nhw, 1 gystadlu g^&a "chwarelwyr ac amaeth- wjiptc ynteu yn ganwr proffesedlg. Holo, y doe £ hlon,pa la y cawsoch y wybodaeth hon ? At nidoedd tlabdcuhers L'erpwl a Birkenhead fBfrf'Fabam na ddaeth rhai o guns y Qogledd fx ymarechfa, gan fod yno gymaint o ysbail iV gael, yn hytrach na gadael bachgenyn o welthfeydd glo a mwn hatam Morganwg i redeg ymaith a'r gwobrau 1 Hwntw i'r earn ydyw Pencerdd America, a chafodd el sarhau yn Towyn gan y Gogleddwyr, trwy osod T. J. Hughes, L'erpwl, i gydfeirnladu ag ef, er nad yw yr Hughes hwn yn deall nemawr I ddim am elfenau cerddoriaeth. Medr ganu yn ØJIDOl felly mewn cor eglwysig, ond dim tebyg I fechgyn Aberdar a Merthyr. Nodwn Eos Bar, Hywel Cynon, Gwilym Cynon, yr Awr- leisydd o Canon-street, U A. Haw. eilld awl Sy'n glod a nerth I'n gwlad ni." Dyna'r brawd Silas wed'yn, a John George, Glandwr, Dafydd Francis, a mil a mwy o fechgyn lawn, ac nid rhyw tpctrbils o ganwyr lei Mynyddog a'l gyffelyb. Y mae y cryddion yn barod a phum' punt un diwrnod i gael gwneud cant punt 1 fyny, er cael cystadleu- aeth gorawl rhwng De a Gogledd—y ddwy blaid i gasglu cant punt bob ochr, a'r canwyr goreu i gael y ddati gant. Modi yr Amwythig £ d lie canolog i gyfarfod, ac yna yr wyf yn aicr y gellid canad hoprau y gohebydd a melin glecar S. R. y Dydd. Ww$te Dafydd.—Y mae y cyfaill Pugh wedi codl yr hwyl yn gethin efo'r canu, ac er fy mod i fy hun yn frodor o Ynys Mon, rhaid cydnabod y gwlrionedd Nerth mil sydd I Northman, Ond mae seithmil i Southmaa." Y mae blagardiaeth y gohebydd yn ddiweddar yn galw am eithaf boncluat, a phe deuai heibio I'r mop yma, synwn i ddim na chat o v my- nawyd yn ei grwmp, neu gurfa dda ar fy lap- stone. Ond dyna, rhaid Iddo gael ei ffordd yn y peth hwn, fel myrdd o bethau ereill. Shon Pobman yw efe o hyd, ac felly bydd o nes y csffo ei gyfnewid yn y byd tu draw i'r lien. Y mae oriau hirion y gauaf yn dechreu tori amom, fel y bydd genym gyfle I gael llawer dadl frwd cyn y Nadolig. Arthur Jones.-Cor o gant a haner o For- ganwg a wna ysgubo y cyfan o'u blaenau, ac ni adewid dim i aros. Meddyllweh am y cynyg, a rhoddweh wynt i'r pwnc. Fe ddichon y cymer y gohebydd gan' punt y Gogledd i mewn. Os gwna, fe ddangosir i'r byd pa Ie y mae y cantorion. Y mae yn well i mi beidio myned yn mhellach, onide mi a yraf y boyt yn wallgof. D'tweddglo.—Nid yw y gynadledd ond byr, ond tra rhamantus a chyrhaeddgar. Y mae TCtdd Orispyn er dyddiau Adda Jones wedi gosod bri ac urddas ar y teula dynol, gan adlewyrchu gogoniant ar y byd. NED Y COBLER.