Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT GLEIFION ABERDAR, MERTHYR,…

BWRDD Y GOLYGYDD.

TALIADAU,-

[No title]

RHYFEDDODAU COSPAWL.

LLOSGIAD CHICAGO.;

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y mae llawer o dwyll yn cael ei gario yn mlaen hyd yn nod gan gardotwyr, esiampl hynod o ba un a ddaeth i'r amlwg yr wythnos ddiweddaf mewn cysylltiad a pherson o'r enw George Watts, yr hwn sydd'yn ddyn tal, ysgyrnog, ac yn arfer enill bywioliaeth gysurus yn Llundain trwy gymeryd arno syrthio yma a thraw mewn fits. Yr oedd y twyllwr hwn yn arfer syrthio yn erbyn y naill beth a'r llall yn y fath todd fel ag i greu cydymdeimlad yn y cyfryw a'i gwelent ef, fel yr estynent eu ceiniogau a'u chwecbeiniogan yn rhwydd iddo ond nid oedd byth yn cael fit fel nad allai gymeryd gafael yn mhob ceiniog a estynid iddo. Yr oedd bob amser hefyd i fyny a'r weithred o ewynu llond ei enau, trwy ddeihyddio dwfr a sebon, ac ym- ddangos fel pe ar ymrwygo; ond buan y deuai efe ato ei hun os rhoddid iddo ami i chwecheiniog agwydraid neu ddau o/randy. Yr oedd Watta wedi dyfod mor feistrolgar gyda'i gelfyddyd, fel ei gwelid yn fynych yn gym mewn cerbydau, yn y rhai y rhoddid ef gan ryw bersonau teimladol a feddylient ei fod ar ddarfod. Yr oedd ganddo bedwar ffwllt ar ddeg yn ei logellau pan ei cymerwyd ef i fyny; ac er ei fod ar ddechreu ei daith tua'r police station yn; ymddangos i ddyoddef yn fawr oddiwrth yr hen anhwyldeb, pan y gwelodd nad oedd dim yn tycio, ymunionodd ac aeth rhagddo yn hwylus, a bernir y bydd i fis o garchar- iad gyda llafur caled ei lwyr wella o'i anhwyldeb proffesedig.

[No title]

[No title]

GANWYD,—"

PRIODWYD,-

BU FARW,—