Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

GOMER JONES: NEU, YR YMGYKCH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOMER JONES: NEU, YR YMGYKCH CARWRIAETXIOL, GAN MR. TOM EVANS (WEDI-OS.) PE&. vI. DRANOETH, ar ol dychwelyd o'r Plasllwyd, teimlai Price yn hynod ddedwydd; gwenai drwy'r dydd yn gyson. Yr oedd yn hynod sionc, symudai ei heglau gyda rhwyddineb nnarferol, yn fwy felly nag y gwelwyd ef yn nghof neb byw, nid oedd dringo y counter ond gorchwyl dibwys iddo; symudai y cadeiriau, os byddai angen am hyny, ar darawiad amrant, rhedai i gwr pellaf yr adeilad fel train pan y gelvid ef yno gan y cwsmeriaid, a dychwelai yn ol eilwaith at the rate of 10 miles an hour yn nghyfeir- iad y drws, a hyny mor chwyrn nes taro ei ben yn ei erbyn, gan eifod yn mothu stopio pan yr hoffai, oblegyd anystwythder ei goesau ac er fod pob cwsmcr a ddeuai i'r siop yn tystio yn ddifloesgni fod. yr hin yn L hynod oer, nid oedd ef yn hollol o'r un farn a hwynt, a'r achos o hyny i'w briod- oli i'r ffaith bwysig ei fod o ran ei feddwl yn symud, byw, a bod o flaen y tan glo yn hen gegin y Plas, yn .nghwmni ei anwyl Gwendolen, ac felly yn methu a chael ham- dden i svlweddoli pethau amgylchiadol megys oerni yr hin. Yr oedd yn gallu pwyso y siwgr yn well nag y gwelwyd ef yn gwneyd hyny erioed, a mawr ganmolid ei alluoedd yn y cyfeiriad hwn gan ei dad, a thystiai ei fam hefyd yn ai wyddoeaol v Iboreu hwnw, fod Price "yn improvo." Syl- wai pawb a ddeuai i'r siop ar y cyfne-wiicliad rhyfedd hwn yn agwedd Price, a theimlai yntau ei hun mai gorchwyl hawdd oedd gwenu y dwthwn hwnw. Pan yn nghanol y llawenydd hwn, wele rywun yn dyf.d i fewn i'r siop yn ddisymwth, ac nid oedd y gwr yn neb 11 ai na gwas bach y Plas. "We, Tom, 'machgen i," I "i Price, "ti sydd yna," a gwenodd y llei'aryud yn swynol ar y gwr bach. "Ie, Price," ebai Tom yn ol; "dewch a siwgr a the i mi," -all right, Tom, eisfcf J.d yn y fan yna tra fyddaf yn eu gwneyd yn barod; a rhoddodd Price lu o felusion iddo. Thanh you, sir" ebai'r bych\m. Gwenodd Price yn fwy perchoj &r y gwr bach nag o'r blaen, pan y dywedodd y gair c, syr ac o, fcl yr hoffai i Gwendolen fod yno yn gvrando y gair bach unsill hwn buasri yn sicr o'i garu yn fwy o lawer nag o'r Faen. Fel y byddai i lorn ddweyd gartref "mac dyna un caredig oedd Price y siop," ac er gwneyd ad-daliad iddo am y it syr," rhoddodd Price ddyrnsid arall o felusion iddo. Ah," meddyliai Price ynddo ei hun, gwn beth a vnaf y tro nesaf yr af i'r Plas, mynaf gael Tom, y gwas bach yn ymyl y ffenestr pan fyddaf yn cnoco/ rhoddaffeluson iddo, yna thank you, sir, clywa Gwendolen, yna all right. Ni fu Price ond ychydig iawn o arnser yn gwneyd y cyfan yn barod, fel y byddai i'r gwas bach ddweyd wrth Gwendolen mae dyna "fachgen handy" oedd Price y siop, fel pe buasai cysylltiad rhyfeddol yn bodoli, rhwng pnoio te a siwgr yn gyflym; ag enill serch. "Sut y mae Gwendolen," gofynai Price, ac 0 fel y dychlamai ei galon pan yn rhoddi y cwestiwn i Tom. Y mae yu burion," atebai'r gwr bach, it a dywedodd wrthyf am ei chofio atoch." Nid oedd y rhan ddiwedclaf y frawddeg yn gywir, ond dywedodd Tom hi er cael rhagor o felusion. "D'wed y gwir," ebai Price, gan ym- sythu fel rhyfeddr od, ac agor ei ben, fel pe buasai yn myned i lyncu camel, a'r wen ar y wyneb wedi cyrhaedd yr eithaf-bwynt. 'Wedodd hi hyny, wir?" 11.0o, do, Price," eb„i Tom. Gydi byn, collc-dd Price ei huuan-lywodr- aeth, a ffarweliodd ei bolion am foment a llawr y siop; a chafodd ei hun, pan ddis- gynodci o'r uchelder, yn nghanol y blwch wyftU oedd yn ymyl, u gwuaeth havoc ry- feddol o'r trugnreddau hyny. Edrychodd gan wenu, ar ei draed, a meddyliai, gan wed yn fwy fyth, y buasai yn well ganddo gael cynwysiad yr wyau yn ei fol, yn hytrach nag yn eiesgidiau. Yn faan, ym- drechodd gael ei draed yn rhydd o'r blin gacthiwed hyn; fie in yr ymdrech, llithrodd ei d, oHl ddeha' a chafodd ei hun y foment ncwf a'i bengiog yn argyhoedui llawr y siop o'i grde Iwcii; ond y mne yn hyfryd- wch genym hysbysr. na dderbyniodd ei gorff yr un niwed. Khoddodd fusion eto i Tom am beidio hysbysu Gwendolen o'r ffgith iddo syrthio, ac ar ol dweyd hefyd wrtho am ei golio yn faisr nt Gwendolen, fel pe buasai heb ei gweled er's deng mlynedd, aech y gwas bach o'r siop, gan f,dael Price yno a gwen ar ei wyncb, PRY. vii. FEL hya y Lo-uliodcl Price yr wy linos, yn wen o gltist i glust, ac mor siaradus a phe buasai bywyd y corff yn dibynu ar symud y tafod. Treuliai lawer o'i amser wuth y ddesc, i wneyd i fyny gyfrifon byebain o eiddo ei dad; £ C 0! yr oedd hyd yn nod ,.yr ysgrif-bin, "wrth symud dros y papyr, V yn sisial enw Gwendolen Hughes I 0, y dychmygion rhyfedd a wyllt wybiai drwy ei benglog mawr. Torai ami i ddalen o'r llyfr cownt ymaith, ac ysgrifenai arnynt yn ami fel hyn,- "Yn eglwys C-, J. Price, Ysw., Siop, a Miss Hughes, Plasllwyd." Rhyfedd fel y dycblamai ei galon gan lawenydd wrth edrych ar ei enw, yn nghyd ag eiddo ei anwylyd wedi eu huno yn y modi yma. 0 ddiwrnod dedwydd, pan fyddai Dafydd Jones yn anfon hyn i'r papyr newydd, a'r holl gymydogaeth yn ei weled yno pan yn meddwl am hyn, teimlai Price ei wadnau yn gadael y ddaear, ac yr oedd o dan yr angenrheidrwydd o ymaflyd yn dyn yn y ddesc rhag ofn y buasai, gan effaith y drychfeddwl gogoneddus, yn cy- meryd 11am disymwth, ac yna yn cael codwm a niweidio ei hun. Yn y nos, blinid ef yn rhyfeddol gan freuddwydion, a rhaid hysbysu ei fod yn gallach lawer yn breuddwydio nac yn effro. Un boreu, yr wythnos ddilynol, wele Price, a gwen ar ei wyneb, yn sefyll ar ei bedion yn y siop, ac yn cyfarch y prentis, yr hwn oedd dair ar ddeg oed, byr o gorffoloeth, gyda gwallt cocn, a choesau hirion. "Boreu da, Joseph," ebai, dyna freu- ddwyd rhyfedd freuddwydiais i neithiwr, faehgen." Beth oedd," ebai'r prentis. "Gwelais fy hun yn myned i garu, i'r Plas, fachgen,-yn cnoco, Gwendolen yc d'od i'r ffenestr, siarad yn saucy, cael 'cwd.' Dyna fe, Joseph. Dyna falch oeddwn pan ddyhunais, mae breuddwyd oedd; ond beth os gall fod yn wir ? "JNa," ebai y prentis, "peidiwch ofni, y mae breuddwydion yn d'od i ben yn hollol wahanol i'r fel y mae dyn yn eu gweled. Ody, cdy, Price." Gwenodd Price ar Joseph, ac yr oedd y geiriau iddo fel y diliau mel. Wel, fe'i treiaf hi heno eto, fachgen," ebai Price, eilwaith, "i fi gael gwel'd. A ddeui i'm hebrwng, Joseph ? "Deuaf fi, Price," oedd yr atebiad. Treuliodd Price y rhan fwyaf o'r diwrnod drwy ddisgwyl am y nos, a gwenu. O'r diwedd, daeth y nos, ac ar ol iddo glywed yr awrlais yn taro deg o'r gloch, cafodd ei hun a'r gob a'r bytymau melyn- ion am ei gefn, a'r esgidiau trystiog am ei draed; ac ar ol cau y siop, yn agor ei geg i hysbysu Joseph ei fod yn barod i'r daith. Pan oeddent ar fyned allan, wele rywun yn dyfod i fewn. "Holo, Dafydd Jones, sut yr ydych heno ? gofynai Price. ic Symol, diolch i chwi," atebai'r gwr hwnw; "sut yr ydych chwi ? "Da iawn, Dafydd Jones," ebai Price. 'Ble y buoch yn dillad dydd Sul' ? Yn LI yn hebrwng eich cariad chwi i ffwrdd. Y mae wedi myned i Sir Forganwg, i aros am ryw gymaint gyda'i pherthynasau." "'Nghariad i?" ebai Price, gan wenu, Pwy yw hono ? "Ah'r gwalch!" ebai Dafydd Jones, gan roddi ymgrymiad awgrymiadol i'w ben, pwy ydyw hono, yn wir yr ydwyf yn meddwl fy mod yn gwybod yn rhy dda." "'Does genyf fi neb i gael," ebai Price, gan wenu yn waeth eto, ymsythu, bywiogi, ac agor ei geg. "Dim o hyna i fi," ebai Dafydd Jones, gan wenu a chodi ei fys yn awgrymiadol, 'does dim eisieu i chwi ddweyd fel yna. Peidiwch treio gwadu, y mae'r holl ardal yn gwybod am hyn; neu, mewn geiriau plaen, Price y siop yw cariad Gwendolen Hughes." Gorfu i Price, yn awr, ymaflyd yn y counter a'i holl nertb, er ei alluogi i ymgadw rhag ffarwelio am foment a terra,firma a theimlodd yn hapus rhyfeddol. 'Rol i Price roddi wns o fyglys i Dafydd Jones am ei druth, aeth y diweddaf allan. Yn fuan, darfu i Price weled a theimlo ei fod wedi cyfarfod a siomedigaeth dost-dim talu ym- weliad a'r Plas am wythnosau, na gweled Gwendolen. Yr oedd hyn yn chwerw iawn iddo, ac yn fuan tybiodd mai doeth fuasai iddo ei phrysuro tua'r gwely; ac oni buasai i Dafydd Jones ddyweyd mae Gwendolen oedd "cariad" Price, yr ydym bron a chredu y buasai yn myned i'w wely y noson hono heb ei wen arferol. Ond pa le a sut y mae Gomer? cawn weled yn y benod nesaf. Pw barhm.

[No title]

HANESIAETH.

Advertising

AGORIAD Y SENEDD.

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD NADOLIG…