Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

YN EISIEU,—MORWYN GYMREIG.

BWRDD Y GOLYGYDD.

[No title]

SEFYLLFA EIN BYDDIN.

MARWOLAETH SYR CHARLES LYELL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH SYR CHARLES LYELL. Yn nghanol cynhyrfiadau Seneddol, chwildroadau teyrnasoedd, a chyfyngderau neu ffyniantau masnach, y mae angau yn distaw-ddiwyd chwynu y ddynoliaeth-a dyma un arall o gedrwydd athrylith wedi talu y dreth i deyrn y gweryd dydd Llun diweddaf. Y llwybrau ag y bu Syr Charles Lyell yn hoff o'i tramwy trwy ystod ei oes hirfaith, oedd myned i lawr dan sylfeini y myriyddoedd a chwilio a chwalu yno yn mhlith y gobenyddiau a'r gwrthbanau sydd ar wely cadarngryf y bryniau. Merch ieuane yw Daeareg yn mysg y gwyddorau, ond y mae yn un a chanddi lawer o admirers yn y dyddiau diweddaf hyn. Mae Daeareg mor hen a'r eyfnod hwnw- Ae ar ei air neidiai'r nen—I'w chylchoedd, A chwarddai bydoedd yn lluoedd llawen, A chwblhawyd hyd at drwch y blewyn, Y lleoedd uchel a lie pob llwchyn, Anian gydbwyswyd, rhanwyd pob gronyn Wrth arfaeth yr Hwn fu'n murio'i therfyn; Goleuadau gloew eu hedyn- W elwyd, Trwy rym nodwyd eu tro i'r mynydyn." Ond, yn gymharol ddiweddar, y mae wedi cael y sylw a'r ymchwiliad dyladwy fel gwyddor. Diau fod nifer fawr o'n darllen- wyr wedi gweLed yr ysgrifau dyddorol hyny ar Ddaeareg a ymddangosasant yn y Popular Educator, cyhoeddedig gan Cassell, awdwr y rhai oedd fachgen tlawd, genedigol o Ferthyr Tydfil, ac a fu unwaith ai fandrel yn tori glo, sef yr enwog Dr. Jenkyn. Geill Daeareg ddarllen oedran y bryniau 4ragywyddol drwy agor eu coluddion a rhifo eu hasenau. Geill fynegu oes y graig wrth gyfrif ei danedd. Wedi i Ddaeareg esgyn i'w gorsedd yn mysg y gwyddonau, bu rhai penboethiaid fanaticaidd mor ynfyd a dadleu ei bod yn milwrio yn erbyn hanes y cread a roddir gan Moses yn llyfr Genesis, ond cododd Pye Smith, Lyell, Jenkyn, ac enwogion ereill i roddi taw bythol ar faldordd y fath benweiniaid ofaus. Y mae y cyd-gysondeb a'r eydweddiad perffeithiaf yn bodoli rhwng Daeareg a'r Pentateuch, ac ni raid i dduwinyddion ffoldybus bryderu dim am y gwirioneddau a gyhoeddir i'r byd gan y blaenaf. Yn y dechreuad ddy- wedodd Moses, ac yn y dechreuad" ddywed Daeareg, pa bryd bynag oedd hyny. Tad ein gwrthddrych oedd Mr. Charles Lyell o Kinordy, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1849, ac oedd yn dra adnabyddus fel llysieuydd enwog, ac y mae llawer o blanigion Awstralaidd wedi eu galw ar ei enw. Syr Charles oedd ei fab hynaf, yr hwn a anwyd yn Tachwedd 1797, ae aeth i goleg Exeter, Rhydychain, yn 1818, a graddiwyd ef yn M.A. yn 1821. O'r Brif Ysgol daeth i Lundain, a galwyd ef i'r bar, ond yn fuan ar ol hyny, yn 1824, aeth allan ar ymchwiliad gwyddonol i barthau mynyddig Ffrainc, Germani, ac Itali. Cy- hoeddwyd ei sylwadau ar y daith hon yn "Ngweithrediadau y Gymdeithas Ddaear- egol" y rhai a dynasant sylw gwyddonwyr. Yn 1830, cyhoeddwyd y gyfrol..gyntaf o'i waith mawr "Elfenau Daeareg;" ac yn 1832 apwyntiwyd ef i draddodi cyfres o ddarlithiau ar Ddaeareg yn King's College, yr hwn a agorasid y flwyddyn flaenorol. Felly, o ris i ris, esgynodd Syr Charles Lyell i binaclau uchaf anrhydedd fel daear- egydd, ac mewn araeth a draddodwyd gan Proffeswr Huxley, hen ddisgybl iddo, yn Llundain, dydd Llun diweddaf, cydnabydd- wyd ef fel y daearegydd blaenaf yn ei oes. A droddai y Proffeswr am ei ymweliad a'r athronydd enwog yn ddiweddar, a phan oedd bron yn rhy wan i siarad trosglwyddai i'r Proffeswr y syniadau oeddynt yn pasio trwy ei feddwl cawraidd ar ei hoff bwnc. Ond efe a fu farw, ac y mae erbyn heddyw wedi cael myned i wyddfod yr Hwn sydd yn "pwyso y mynyddoedd mewn pwysau, a'r bryniau mewn clorianau." Y mae erbyn heddyw yn mhrif ysgol y bydysawd, lie y caiff ei feddwl mawr ymagor ac ym- ddadblygu, a rhyfeddu yn dragywyddol uwchben rhyfeddodau creadigaeth lor. Pwy a wyr na chaiff ei enaid mawr fyned weithiau ar excursion gyda mintai o engyl i chwilio mynyddoedd a dadansoddi haenau yn mhell-fydoedd ymerodraeth y Brenin Mawr ?

[No title]

YR ARSYLLFA.

GLOWYR CRAIGCEFNYPARO A'R…

ESGORODD.

BU FARW.

[No title]

At Bawb sydd yn Gweithio.

Advertising