Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

AMRYWIAETHAU.

Y NHW.

BRYNDU.

IPENUEL, YSTRADFELLTE. -

[No title]

-rONGWYNLAIS A'R AM }YLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

rONGWYNLAIS A'R AM }YLCHOEDD. Yr oedd dydd Iau Rhagfyr y 9fed yn ddi- wrnod a liir gofir yn yr ardaloedd hyn, am mai dyma y dydd y gosodwyd o'r neilldu weddillion y trueiniaid. hyny a gyfarfuasant a'u diwedd drwy y danchwa ofnadwy hyny a gymerodd le y Llun blaenorol yn nglofa y Lan, Pentyrch, pa rai sydd erbyn hyn yn 14 mewn nifer. Gallasai unrhyw ddyeithrddyn a fuasai yn ymweled a'r gymydogaeth hon ganfod yn rhwydd fod rhyw beth mawr i gymeryd lie. Yr oedd yr holl weithfeydd wedi eu hatal—nid oedd cymaint a morthwyl i'w glywed mewn un man drwy y lie, y mas- nachdai wedi eu cau, ylleni gwynion yn y 1:1 gorchuddio bron bob ffenestr trwy yr holl ardal, a prudd-der a dwysder yn argraffedig ar bob gwedd. Yr oedd y mwyafrif or tru- einiaid a gyfarfuant a'u diwedd yn preswylio' yn nghymydogaeth Pentyrch, yn yr hwn le ni welwyd gan neb sydd yn fyw y fath olygfa dorcalonus a welwyd yno ar y dydd hwn, pan yr oedd chwech neu tfaith o angladdau yn cydgwrdd yn un angladd fawr, a hyny dan amgylchiadau mor gynhyrfus. Aeth eich 11 y gohebydd i Tongwynlas i dalu y gymwynas olaf i weddillion y cyfaill trylwyr, y Cristion gonest, didwyll, a; didderbynwyneb, Daniel Evans. Yn mhell cyn dau o'r gloch dechreu- odd y dyrfa ymgasglu yn nghyd, fel erbyn dau, yr oedd yno olygfa na welwyd mo'i chy- ffelyb yn Tongwynlais er ys tro. Trefnwyd yr orymdaith gan Mr. Jeremy, masnachydd. Gosododd y dorf i gerdded bob yn ddau yn y blaen, yna Cor Undebol y lie, o'r hwn yr oedd Daniel Evans yn aelod ffyddlawn, yna y corff, y perthynasau, ac ereill. Cyn cychwyn, rhoddodd y Parch. Mr. Morris, Bethesda, benill allan i ganu, pryd y canwyd yr hen "Eifionydd" mewn teimlad dwys a gafaelgar iawn. Cychwynodd yr angladd tua Bethel, Treforgan, lie mae claddfa y teulu, y cor yn lleddfus ganu gan mwyaf o'r ffordd; wedi cyrhaedd y capel, yn nghyd ag angladd un arall o'r trueiniaid, sef Moses Llewelyn, bachgen ieuanc tua 13 oed. Perthynai rhyw neillduolrwydd arbenig i'r bachgen hwn yn ei gysylltiad a'r Ysgol Sabothol a Society y Plant yn Bethel. Byddai yn blino ei rieni ac ereill a chwestiynau mawr, y rhai fyddent yn ddigon i ddrysu yr athronydd mwyaf dwfn-ddysg. Teimlir yn ddwys ar ei olgan bawb a'i hadwaenai. Darllenwyd y gwasan- aeth allan yn y fynwent, yn herwydd maint y dyrfa. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. Mr. Morris, Bethesda, a phregethwyd gan y Parch. T. Rees, Tabor. Cyfarchwyd y dorf hefyd gan Mr. Morris, a gweddiwyd mewn modd hynod 6 ddwys a theimladwy gan y Parch. J. Thomas (B.). Ainon. Wedi i'r cor ganu Yn y man," aeth pawb adref o un o'r angladdau mwyaf effeithiol y bum ynddo erioed. Yr Hwn sydd a phob llyw- odraeth yn ei law a ofalo am y teuluoedd hyn yn nghanol y dyfroedd dyfnion. Da genym ddeall fod y Cwmpeini, sef T. W. Booker & Co., yn wir ofalus o honynt.—Gohebydd.

BRITON FERRY.

CROSS INN, LLANDYBIE.

YSTRADGYNLAIS.

CWMAFON.

DIN AS.

Peiriant i Ehedeg. -

Llofrudd wadi ei Ddedfrydu…

Nodion am y Beirdd, &c.