Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y BEBLLAN 0 dan olygiaeth Rhydderch ab Morgan ac Eos Hafod. Cyhoeddedig gan Williams a'i Fab, Gadlys, Aberd&r. Cyhoeddiad misol newydd yw y Berllan at wasanaeth ieuenctyd Cymru, a'i bris ddim ond un geiniog, ac yn wir, y mae yn llawn werth yr arian. Y mae, o ran ei lenyddiaeth gerddorol, yn gystal a'i lenyddiaeth syniadol, wedi ei gyfaddasu at cyfarfod a chwaeth ac a galluoedd meddyliol yr ieuenctyd. Y mae ei erthyglau yn flasus, dyddorol, ac adeiladol, a'r rhan fwyaf ohonynt yn cynwys tameidiau melus droB ben. Cynwysa rai darluniau maenar^raffol; ac y mae ynddo gryn dipyn o farddoniaeth, a hono yn un o nodwedd ac arddull heb fod mor gyffredin a llawer o farddoniaeth ein cydgyfnodolion. Rhwydd hynt i'r Cyhoeddwr a'r ddau Olygydd gwyl- aidd a pharchus y mae eu Perllan yn oynwys ffrwythau ag a werthfawrogir gan lawer heblaw yr hwn sydd yn ysgrifenu.
------___.__h__-. Y BARDD.
-h_ Y BARDD. Llith I. But to think true, Let '6 cast off prejudice and think anew. Gair byr i ymgydnabyddu a'r darllenydd. Y mae Oymru mor oludog mewn barddoniaeth, mor doreithiog mewn beirdd-mewn gwirion- odd, y mae pob Cymro yn fardd, neu o leiaf dylai fod, gan fod barddoni yn orchwyl mor hawdd, yn ol ein syniadau am hyny-fel ag y mae sylwadau ar fardd neu farddoniaeth, bob amser, yn dderbyniol. Ond yr hyn sydd wedi ein synu lawer gwaith ydyw y ffaith fod cyn lleied o wybodaeth genym am natur bardd ac ansawdd ei alwedigaeth, fel ag y dangosodd Index i ni yn ei gyfres ar "Farddoniaeth a Beirdd." Dygodd lu o gyfeiiiorniadau barddonol gerbron mewn modd darluniadol; a'n crediniaeth ni ydyw iddo oleuo cryn lawer ar y pwnc o farddoni. Dygodd, hefyd, gerbron engreifftiau o'n beirdd, yn cynwys meddylddrychau y byddai yn anhawdd i ddewin weled eu rhesymoldeb. Y mae Plato, yn un o'i Ymddyddanion, yn awgrymu y dylai y beirdd fod yn bresenol, bob amser, pan ddarllenir eu gweithiau, oblegyd nid oes neb yn alluog i gael allan eu meddyliau ond hwy eu hunain. Y mae yr awgrym mor gymhwysiadol at feirdd Cymru a neb ac yr ydym yn llwyr gredu y byddai yn gymhorth mawr i boblogeiddrwydd ein Uenyddiaeth pe yr ymgymerai pob bardd &g ysgrifenu nodiadau helaethion eglurhaol, i ddwyn goludoedd dirgeledig eu geiriau i'r amlwg. Yr ydym ni yn arfer meddwl mai nid yn ddwfn y mae ein barddoniaeth, ond cythryblw. Lie byddo dyfroedd clir, er yn ddyinion, gwelir y gwaelod; ond y mae eh we' modfedd o ddyfroedd tir mawn yn ddigon i argyhoeddi dyn fod yno ddyfnder brawychuB. Yr oedd Horn Tooke yn arfer dweyd am Plato ei fod yn ireiddio i bwnc mor ddwfn nes cyffroi y llaid yn ei waelod, ac wrth hyny, yn creu dirgelwch lie na ddylai fod. Pa fodd y penderfynwn ni am natur barddoniaeth Gymreig- Or deep or muddy ? Os dwfn, cynghorem ein beirdd i fabwysiadu ein cynllua uchod; os cythryblus, dylem gael ftHan ryw foddion i buro ac eglurhau ffynonell meddylddrychau. Yn ol ein barn ni, dylai meddylddrych rhag gwneyd gwawd a gwatwar o eiriau fod yn ddrych i feddwl, For true no-meaning puzzles more than wit. Am gyfeirio sylw at hynyma, edrychid ¡-r Index fel pe byddai yn elyn i'w gyd-genedi. yn fradwr i'w barddoniaeth, ac yn deilwng o ddim ond y dirmyg mwyaf barddol. Nid ei feirniadaeth, yn gymaint, yr oeddem yn ei hedmygu yn ei lythyrau (er fod ynddi gryn lawer o gymhwysiadau gwerth eu defnyddio), ond ysbryd ei ymdriniaeth ei rydd-deb oddiwrth ymryson isel wael-ei waith yn cadw at y nod-yn traethu ei farn yn glir a phenderfynol, yn heddychol a thangnefeddus, er cyfarth a swrnach c*n barddol sydd yn camgymeryd fod pob beirniadaeth yn golygu ysbeiliad. Yr oedd hyn i'w ganfod yn eglur yn y nifer bychan o sylwadau gwrthwynebuB iddo ymddangosodd yn ystod yr amser y bu yn traethu ei farn a'i argyhoeddiad. Nid oedd ymgais o gwbl i resymu a gwrthbrofi yn deg yr hyn a gefnogai efe yn dra nerthol yn ein tyb ni, ond ryw bentyru danodiaeth ar ddanodiaeth yn ol gwir ysbryd Barddas yr oes. I'r neb a sylwo, y mae yr ansawdd meddwl a chalon hwnw angenrheidiol i feirniadu a rhesymu yn deg a digyffro yn beth nad yw ein beirdd yn feddianol arno. Rhesymeg y Oymro barddol yw ei duedd anorchfygol i fychanu, i gecran, ac i ddanod mewn ffurf- ymadrodd bol-wyntog, a hunan-heriol. Felly, nid oes wedi nac i ymddangos feirniad yn ein plith i iawn-ddysgyblu ein beirdd ieuainc hyd y caffer ymwared rhag y drwg cenedl- aethol hwn. Y mae ein llenorion yn llawn o'r ysbryd hwn, oblegyd y mae pob llenor yn fardd. Y mae gwagedd eu hymddygiad ymboniadol a'u hunanoldeb yiniirostgar (yr hyn feithrinir, yn ddiau, gan gymeradwy- aethau Eisteddfodol) yn buan ddmystrio ein llenorion ac er nad oes nemawr un o'n beirdd yn ddynion o faintioli ail-raddol, eto, yr ymdeimlad gan ba un yr ymchwyddant i faint anferthol yw I am Sir Oracle Yr ydym ni wedi bod yn nghwmni rhai o'n beirdd mwyaf poblogaidd yn y Deheudir, ac ni siomwyd ni er y goreu erioed. Y mae'r wybodaeth feddant yn gynwysedig o ddyfyn- iadau o'n beirdd, y rhai a adroddir ganddynt yn dra hyawdl a rhigl, gydag ysgogiadau ac ystumiau barddol addas iddynt; ond pan gyfeirir eu meddyliau at feddylddrychau y cyfryw gyda ryw gymaint o graffder beirn- iadol, ymddiflanant. Y maent yn gwario cymaint o'u hamser ar ffurfiau barddoniaeth fel mai braidd y tront eu meddyliau at enaid ac ysbryd y gelf. Diwedd a dechreu eu huchelgais yw gallu tori llinellau at hyd, fel y mae y saer coed yn llifo astelli, a chael eu hymylon i gyffelyb dine. Y mae hyn yn nodweddiadol o feirdd Oymru erioed; ac mor bell ag yr ydym ni yn deall, y mae y parch i'r ddefodaeth hon yn myned ar gynydd parhaus. Nis gall y Oymro lai na chredu fod hyd llinell, odl, a chynghanedd yn rhai o brif-y prif, feallai-anhebgorion barddon- iaeth. Yr ydym yn teimlo yn gywilyddgar fod un bardd mor blentynaidd a dal hynyna, pan y mae y darnau mwyaf ffodus, mwyaf cywrain, mwyaf dedwydd a llewyrchus— gwir dywyniadau yr awen-i'w cael heb nac odl na chynghanedd. Dangosodd Index berthynas sain a meddwl yn un o'i lithiau cyntaf mewn dull athronyddol ac argyhoedd- iadol. Y mae rhai o ergydion mwyaf ys- blenydd Shakespeare heb odl, ac y maent oil heb gynghanedd. Y mae Twm o'r Nant, yn ei fanau mwyaf hapus, yn taro yn erbyn rheol a mesur. Pwy sydd yn amheu gwreidd- ioldeb a naturioldeb y ddau 1 Nid ydyw natur yn gwneyd dim wrth rifyddiaeth. Pe byddai ein bardd Cymreig yn cael creu pethau yn ol fel y myn farddoni, gwnai bob pren a changen o'r un hyd, ac yn syth i fyny byddai pob ffrwyth yr un faintioli byddai pob mynydd a bryn o'r un uchder pob cwmwl yn ysgw&r neu grwn, neu drionglog, fel y byddai mympwyon ei feddwl ar y pryd a byddai yr oil yn saerniaeth, ond nid mwy- ach yn natur ag yr ydym ni yn garu. Bydd- ed y llinell yn ugain sill, beth waeth o hyny ? Ceir cangenau ar yr un pren yn gwahan- iaethu llawer mewn hyd a phrander ond gan fod bywyd y llai yn gymaint ag eiddo y mwy, boddlonir natur. Meddwl a theimlad yw barddoniaeth, ac y mae cymhwysder llinell neu gyfres o eiriau i gyffroi teimlad ac awgrymu meddwl yn bob peth ond odl a chynghanedd. Ond nid ein hamcan, wrth ysgrifenu ein llythyrau yn gymaint, yw beirniadu bardd- oniaeth, ac edrych i mewn i natur ac ansawdd y creadur elwir yn fardd. Ceisiwn gael allan pa beth sydd i feddwl wrth fardd-pa beth yw ansawdd ei feddwl a'i galon pwy dylir alw yn fardd, a phethau o gyffelyb natur. Bwr- iadwn barchu, anrhydeddu, ac edmygu y gwir fardd ond yr ydym yn benderfynol o drin y gau a'r coeg-fardd gyda'r gwawd a'r dirmyg y mae yn ei haeddu. Carem, drwy ein sylwadau, ddwyn y gwir fardd i hoffder calon pob darllenydd, a chyfodi a meithrin yn ei galon gasineb at y rywogaeth wag- ogoneddus hono ag sydd mor lluosog yn Nghymru.—Yr eiddoch, &c., &c., CATO.
Yr Eisteddfod.
Yr Eisteddfod. Dyma yr unig sefydliad cenedlaethol a feddwn fel cenedl, a dylem edrych arno yn y goleuni hwnw ac nid trwy yspectol plaid. Cyfarfod yno fel Cymry, ac nid yn wahanol bleidiau, yn cario baneri sectyddol o wahanol liwiau. Pethau personol yw gwleidyddiaeth a chrefydd, fel nad yw yn rhesymol llusgo dim o'r cyfryw i'r llwyfan genedlaethol. Dyma y culni melldithiol sydd wedi bod yn rhwystr ar ffordd llawer un i ymddyrchafu i sylw yn y byd, a hyny yn gyfangwbl i'w briodoli i ddallbleidiaeth sectyddol. Prawf y miri diweddaf fod gormod o grachyddiaeth yn llusgo i mewn i'r sefydliad, a hyny mewn arddull sectyddol, ac ambell i dro yn fym- pwyol. Nid oes dim yn genedlaethol fod 'Sentar yn feirniad a 'Sentar arall yn cael y Gad air. Ddaw hi ddim, yn wir, frodyr, oa nad allwn ddiwygio gwell ydyw bod heb yr un Eisteddfod o gwbl. Gwelais, dro yn ol, feirniadaeth gwr dysgedig ar ddarn cystadleu- ol mewn Eisteddfod Gymreig, a dywedai fod un yn rhagori ar y lleill, ond trodd allan yn y diwedd nad oedd hwnw yn amgen na bardd- oniaeth llif a bwyell, a rhoes y wobr i rimyn o gywydd, am ei fod, digon tebyg, yn hoffach o glee y gynghanedd nac o hediadau nwyfus a bywiog fydd yn cludo y meddwl megys ar adenydd yr awel i fro y darfelydd a'r dy- chymyg. Gan mai yr Eisteddfod ydyw uchel wyl y genedl, dylid ei chynal yn Gymraeg, a dethol testynau Cymreig, yn draethodol, barddonol, a cherddorol. Gan fod digon o ddarnau cerddorol o waith awdwyr Cymreig, fe ddylid rhoddi cefnogaeth i'r cyfryw er mwyn codi i sylw y byd dalent gartrefol. Onid oes genym gyfansoddiadau awduron Cymreig yn ddigon addas i'w canu mewn cyfarfodydd lleol a'r cyffelyb, ac ereill o nodwedd uwch yn llawn digon teilwng o lwyfan yr Eisteddfod Genedl- aethol. Twrw byddarol a glywir yn fynych ydyw Oes y byd i'r iaith Gymraeg," ond pan ddewisir y testynau cerddorol rhaid gsdael Cymru a myned i faesydd estronol cyn ceir cyfansoddiadau digon chwaethus er mwyn dal i fyny yr hen arferiad o dalu parch a gwarogaeth i Die Shon Dafydd. Mae dysgu Saesneg yn lies i ddyn er mwyn myned trwy y byd, ond nid oes rhaid i neb esgeuluso y Gymraeg i gyrhaedd yr amcstu hwn. Cyn gwneir yr Eisteddfod yn sefydliad teilwng rhaid cael diwygiad mewn amywiol bethau heblaw yn newisiad y testynau. Ni ddylai yr Awdl fod dros dri chant o linellau; y Bryddest i gael ei therfynu ar bum' cant; yr Arwrgerdd yn chwe' chant. Wrth y rheol uchod gellid gobeithio y darllenid cyfansodd- iadau arobryn ein heisteddfodau ond am y cyfansoddiadau fel ag a geir yn awr, nid y w yn debyg fod un o bob mil yn darllen yr awdlau a'r pryddestau meithion sydd yn ar- graffedig yn y Gymraeg. Bydd caniadau bychain megys "Bedd y bardd," gan Ifor Cwmgwys, a Bedd y dyn tlawd," a llawer o delynegion ereill ellid enwi yn sicr o fyw yn hirach na'r awdl neu y bryddest oreu yn yr iaith. Gwell fuasai gan yr ysgrifenydd fod yn awdwr Hen wlad fy nhadau na'r un awdl a ddarllenais hyd yma ond eto, fe all un arall fod yn barnu yn wahanol. Pwnc sylw cenedlgarwyr Oymreig ddylai fod yn y cyfeiriad o wneyd yr Eisteddfod yn aefydliad teilwng o'r hen Frytaniaid. Mae gan bob cenedl eu cylchwyliau, a chadwanthwynt i fyny gyda sel a gweithgarwch teilwng o efel- ychiad. Cymered y darllenydd frasolwg ar wyliau yr Albanwyr, y Gwyddelod, a phawb cenedloedd ereill, a gwel ar unwaith fod y Cymry ar ol. Edrychwch i'r cylch a fynoch, yn llenyddol neu gymdeithasol, maent yn mhell o flaen ein cenedl ni. Pan byddo tra- moriaid yn gadael gwlad eu genedigaeth maent yn symud wrth reol a threfn-sefydlant yn finteioedd, llwyddant ac ymgyfoethogant, a chynorthwyant y naill a'r llall. Cydnebydd pawb fod y Cymry yn genedl hawddgar a charedig, ond er y cwbl mae diffyg arbenig yn y Cymry fel ymlynwyr y naill wrth y llall. Yr annghytuno parhaus sydd yn ein plith fel cenedl ydyw ein prif wendid cenedl- aethol. Pe gellid cael diwygiad yn y cyfeir iad hwn byddem y bobl hynotaf ar wyneb y ddaear. Mae teyrngarwch a ffyddlondeb y Cymry i'r awdurdodau goruchel yn siarad cyfrolau, ond fod y m&n bethau bychain yn tynu yn ol. Coetmok.
ABERDAR.
ABERDAR. Dydd Iau diweddaf, trwy garedigrwydd y Gwarcheidwaid, anrhegwyd plant yr Induat- rial School, Trecynon, a gwyl de ardderchog. Ar ol y te, rhoddwyd gwobrwyon o lyfrau i amryw o'r plant, gan Mr. G. T. Clark, yr hwn a gymerodd y gadair ar yr achlysur. Yr oedd Arglwydd Aberdar hefyd yn bresenol, a chafwyd sylwadau gwerthfawr i'r plant ganddo ef a Mr. Clark. Gwelsom hefyd, yn mhlith y cyfeillion oedd wedi dyfod yn nghyd, Mr. R. H. Rhys, Ficer Aberdar, a'r Anrh. Mrs. Jones, yn nghyd ag amryw fasnachwyr y lie. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod difyrus iawn gan y plant trwy ad- rodd a chanu, pa un oedd yn adlewyrchu clod mawr i Mri. Williams a Hicks. TROSEDDIAD Cyfkaith RHEOLEIDDIAD MWNGLODDIAU.-Dydd Mawrth, Ionawr 28ain, yn llys Ynadon Aberdar, gerbron J. Bishop, R. H. Rhys, a D. E. Williams, Ysweiniaid, gwnawd achwyniadpwysig gan Mr. Rees Llewelyn, llywodraethwr Glofa y Bwllfa, Aberdar, yn erbyn Thomas Davies, glowr, ei fod wedi smocio yn y gwaith, ar y 6fed o Ionawr. Tystiai Mr. Llewelyn iddo ef ei hun i ddal Davies yn y weithred o smocio. Sylwai Mr. Rhys ei fod yn arferiad beryglus iawn a dywedai Mr. Bishop wrth draddodi barn y Ilys, fod anhapion truenus a choll bywyd mawr yn dygwydd yn fynych trwy yr arferiad hyn. Dirwywyd y cyhudd- iedig i ddwy bunt a'r costiau, pa arian a dal- wyd yn uniongyrchol. BETHESDA, ABBRNANT.-Cynaliodd ysgol y capel uchod ei chyfarfod chwarterol dydd Sul, Ionawr 26ain, pryd y gwasanaethwyd gan ddeiliaid yr ysgol yn rhagorol dda, a chanodd y c6r yn ardderchog amryw o ddarnau, o dan arweiniad Mr. William Thomas (Gwilym Wenallt). Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr. A. N. James, R.A.M., yr hwn sydd yn teilyngu parch mawr, ac yn wir deilwng o sylw. Llywyddwyd y cyfarfod dau o'r gloch gan Mr. Abraham Treharne, a chyfarfod yr hwyr gan Mr. Evan Howells. Da iawn genyf fod yr yagol hon yn myned ar ei chynydd yn barhaus, fel y mae ei llafur yn dangos. Cafodd pawb o'r gynulleidfa eu boddloni, fel yr oeddynt yn hiraethu am gael cyfarfod o'r fath eto yn fuan. Rhwydd hynt i'r yagol fychan uchod i fyned yn gref, medd- Un oedd yno.
TREHERBERT.
TREHERBERT. Mewn trengholiad a gynaliwyd ar yr 28ain cynfisol, ar gorff un Samuel Thomas, yr hwn a fu farw mewn canlyniad i anaf a dderbyn- iodd ar ei ben, trwy ergyd careg, yr hon a ollyngwyd at geffyl gan ddyn o'r enw David Lewis, haulier, dychwelodd y rheithwyr y rheithfarn o ddyn-laddiad yn erbyn y dywededig David Lewis.
YSTRAD RHONDDA.
YSTRAD RHONDDA. Cynaliwyd darlleniadau ceiniog yma nos Wener, wythnos i'r diweddaf, yn vertry Capel y Bedyddwyr; Mr. Rees Howells, (Alaw Oynon) a lywyddai. Cymerwyd rhan yn ngweithrediadau y cyfarfod gan Mri Thomas Felix, Henry Felix, Dewi Dyfodwg, T. Hopkins, Miss M. A. Davies, Miss M. J. Jenkins, Miss Lloyd, Miss M. Davies, Miss S. J. Williams a Miss M. A. Phillips. Yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn.
DINAS POWIS.
DINAS POWIS. SOCIAL ENTERTAINMENT. — Nos Fawrth, Ionawr 28ain, cynaliwyd un arall o'r cyfar- fodydd pythefnosol hyn, dan lywyddiaeth y Parch. 1. D. Jenkins, Rector St. Andrews. Y mae clod mawr yn ddyledus i noddwyr y cyfarfodydd hyn am eu hymdrech egniol a di-ildio i gael rhywbeth a fyddo o leshad i breswylwyr y lie gwledig hwn i dreulio eu horiau hamddenol yn ystod y gauaf yma. Cymerwyd rhan yn ngweithrediadau y cyfar- f 1. gan Miss Guthrie, Misses England, a ]\: ,i. Morris, Cram, Williams, E. England, 1' Miles, H. Edwards, W. Harry, Williams, y.^olfeistr; a pharties gan Mri. Thomas, t.ithews, a Johns. Deallwn fod y cyfarfod- ydd hyn i'w cynal yn ystod y gweddill o'r gauaf. Llwyddiant iddynt.-Gohebydd.
LLANEDI.
LLANEDI. Caeiijv*. lkm.—Nos Sadwrn, Ionawr 25ain, cynaliwyd cyfarfod adroddiadol yn y capel uchod, perthynol i'r Methodistiaid Calfmaidd, dan lywyddiaeth y Parch. T. James, Hendre, pryd y cymerwyd rhan yn ngwaith y cyfar- fod gan y personau canlynol:—D. Jones, D. B. Daniel, R. Vaughan, G. Davies, J. Pugh, R. Lloyd, J. Price, M. Pugh, L. Vaughan, J. B. Lewis, J. Jones, T. Morgan, J. Morgan, J. Vaughan, R. Watkins, S. Davies, R. Reea, L. Harris, J. Davies, D. V. Davies, H. Pugh, R. Rees, D. Walters, G. J. Morgan, M. Lewis, M. Davies, W. Davies, W. Lewis, D. Morgan, P. Williams, R. Davies. Yna, cawsom don gan y parti o'r Mynydd yn rhagorol. Canodd parti o'r lie, dan arwein- iad Wm. Lewis, yn ardderchog. Felly, gallwn ddweyd ei bod oil yn deilwng o glod nid bychan am eu llafur gyda'r canu. Ym- adawodd pawb wedi eu llwyr foddloni.—Nid Ymwelwr.
RHIWFAWR.
RHIWFAWR. Prydnawn dydd Sul, Ionawr y 19eg, yn Ysgold^ y lie uchod, cynaliodd yr Ysgol Sabothol perthynol i'r hwn le ei chyfarfod adroddiadol chwarterol, pryd yr adroddwyd penod gan y chwaer Hannah Harris. Wedi camr, dechreuwyd trwy weddi gan y brawd Jacob Davies. Yna, cafwyd adroddiada»\ gan y rhai canlynol :-Roger Owens, David Williams, Mary Anne Watkins, Anne Davies, Jennet Williams, Thomas Williams, Eliza- beth Lewis, Lewis Williams, Wm. Williams, Thomas Watkins, Joseph Llewelyn, Jane Rees, Wm. Rees, Samuel Lewis, a Hezekiah Jones. Wedi gwrando adroddiadau gwir deimladwy gan y cyfryw bersonau, terfyn- wyd y cyfarfod trwy weddi gan yr hen dad, Thomas Rees, gan yr hwn y cawsom gy- nghorion dwys a theimladwy ar y diwedd. Ar ol canu yr hen don, Glanyrafon," ym- adawodd pawb i'w cartref. Cawsom gyfar- fod gwir dda. Mae yn gysur mawr genyf i weled yr Ysgol Sabothol yn cynyddu cymaint yn ein plith. Gobeithiwn y bydd y sefydliad hwn yn offerynol i ddwyn y rhai hyny sydd yn esgeluso cymaint ar yr Ysgol Sabothol i weled gwerthfawredd y cyfryw. Byddai yn hyfrydwch mawr genym weled gwragedd y gymydogaeth yn dyfod i'r Ysgol Sul, canys fe fyddai yn llawer weddusach na myned o dy i dy gydag amcan difudd iddynt hwy a'u gwrandawyr. Cymered y cyfryw bersonau y cynghor hwn gan un sydd yn dymuno lies iddynt.-Gwynfab.
GLYN EBWY.]
GLYN EBWY. CYNGHBRDDAU MA WREDDOG.-N os Fercher nos Iau, a nos Sadwrn, yr 22ain, 23ain, a'r 25ain o Ionawr, cynaliwyd cyngherddau mawreddog yn nghapel eang y Wesleyaid Seisnig, James-street, yn y He uchod, dan nawdd J. F. Rowbotham, low., yn nghyd ag amryw foneddigion ereill y lie. Perform- iwyd y cantata cysegredig, Y Lan Frenines Father;" a chymerwyd rhan y gwahanol gymeriadau gan y personau canlynol:- Y Frenines Esther, Mrs. T. Davies; Brenin Ahasferus, Mr. F. Hilton, C.E.; Haman, Mr. J. Prout; Zeresh, Miss W. Beddoe Mordecai, Mr. T. Roberts; Harbonah, Mr. D. Smith Hegai, Mr. Hazel; Anrhydeddus brif forwyn, Miss Thomas; Prophtoydes, Miss E. Protheroe; Adroddeg, Miss M. J. Evans. Canwyd y cydganau gan Gor Un- debol Glyn Ebwy, yn cael ei gynorthwyo gan yr Ebbw Vale Philharmonic Band, yn cynwys 1st violins, Mri. J. Rogers, H. Chapman, a R. Hopkins; 2nd violins, Mri. G. Parfit, a T. Richards flute, Mr. J. M. James; elarionette, Mr. J. Short; cornet, Mr. T. Richards; violincellos, Mri. H. Batchelor, a J. Rogers, leu. bombardon, Mr. W. Holley. Harmoniums, Miss E. Short, a Mr. W. Bedford; pianos, Miss E. A. Morgan, Brynmawr a Mr. G. Stephens. Arweinydd, Mr. T. Davies, A.C., Glyn Ebwy. Cafwyd perfformiad ardderchog o'r cantata uchod, ac yr oedd y capel yn orlawn y noson gyntaf a chredwn fod pawb wedi eu bodd- loni. Ond nid oedd y cynulliadau yn agos mor lluosog y ddwy noson ddiweddaf ag y dymunasid, ar fod y prisoedd wedi eu lleihau i 6c. a 3c. ond yr oedd hyny i'w briodoli i sefyllfa masnach a thlodi y dosbarth gweith- gar y lie. Y mae Mr. Davies, yr arweinydd, yn deilwng o ganmoliaeth uchpl am ei ym- drechion diflino gyda chor y lie i osod y gwaith uchod allan mor ardderchog. Y mae yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, wedi cyrhaedd safle uchel mewn cerddoriaeth, yn gyfansodd- wr tlws, ac yn arweinydd deheuig. Rhag ei flaen yr elo yw dymuniad llawer heblaw ysgrifenydd y llinellau hyn.—Puntan.
CYMDEITHAS Y SWANSEA ROYAL…
CYMDEITHAS Y SWANSEA ROYAL YN ABERDAR. Nos Fawrth, Ionawr 21ain, cynaliwyd cy- farfod perthynol i'r gymdeithas uchod yn Calvaria Hall, Aberdar, i'r dyben o gyflwyno gwaddolion i'r personau hyny ag yr oedd y cyfryw yn ddyledus iddynt. Cymerwyd y gadair ar yr amser penodedig gan Mr. David Hughes, goruchwyliwr glofeydd Abernant, pa un a gafodd gymeradwyaeth uchel gan y dorf; a thraddododd araeth agoriadol bwrpasol iawn yn Gymraeg. Ar ol hyny, galwyd ar Mr. Reed, cadeirydd y gymdeithas, i anarch y gynulleidfa, yr hwn a ddywedodd ei fod, er yn analluog i draddodi ei araeth yn Gymraeg, ei fod yn teimlo ei hun yn gystal Cymro a'r personau hyny oedd yn alluog i wneyd felly. Yr oedd wedi penderfynu glynu wrth Gymru, ac yr oedd Cymru wedi glynu wrtho ef. Yr oedd yn alluog i ddweyd fod y gym- deithas i ba un yr oedd efe yn gadeirydd yn myned ar ei chynydd yn barhaus, ac wadi talu, bob amser, ugain swllt y bunt. Profai ei ddywediad fod y gymdeithas yn myned ar ei chynydd trwy ddweyd eu bod newydd osod 6,000p. heibio i'w chredit, ac y gallai ddal swllt ar ei law gan herio unrhyw un i ddweyd ei bod yn ddyledus iddi. Y mae y gymdeithas wedi ei rhanu i dri dosbarth 1. Trysorfa y cleifion, pa un sydd wedi ei darparu mewn modd ag y gall y dosbarth tlotaf gyfranu iddo. 2. Trysorfa claddu, yr hon a sicrhaai swm penodol o arian ar farwol- aeth aelodau, pa un a fyddai yn felus iawn, lawer pryd, i weddw neu blant un o'r aelodau ar ei farwolaeth. 3. Y dosbarth gwaddoledig, pa un a alluogai bersonau a osodai chwe' cheiniog yr wythnos heibio am saith mlynedd, i ddcrbyn y swm o lOp. 2s. o'r drysorfa os am bedair blynedd ar ddeg, y swm o 22p. 14s. Dywedai Mr. Reed, wrth ddymuno i drigolion Aberd&r, iechyd, cyfoeth, a llwydd- iant, ei fod yn gobeithio y cawsai y pleser o weled canoedd yn ymuno a'r gymdeiithas fendithiol hon. Yna cafwyd tSn gan barti o Aberaman, yn hynod swynol. Yn nesaf daeth yn mlaen y gorchwyl o gyflwyno y gwaddolion i'r rhai hyny ag oedd yn ddyled- us iddynt, pa rai a gyrhaeddent y swm o 125p. 17s. 4c., a phob un wrth ei fod yn derbyn ei gyfran a gawsai gynghorion pwr- pasol iawn gan y cadeirydd. Cafwyd anerch- iadau hefyd gan Mr. D. Davies, Abertawe •; Mr. D. Brookes, Abertawe Parch. B. Evans, Gadlys, Aberdar Mr. J. Ebyn Jones, adarllenwyd penillion gan Mr. Jenkin Howell. Oafwyd hefyd adroddiadau a chan- enon yn ystod y cyfarfod gan John Thomas, Theophilus Jones, Charles Davies, James Davies, M. M. Jenkins, a'r enwog Gwilym Cynon. Dygwyd y cyfarfod i ben ar ol talu diolchgarwch i'r cadeirydd trwy i Gwilym Cynon ganu Hen wlad fy nhadau" yn Seisnig.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. DAVIES, PRIOD MR. DAVIES (GWILYM TELLO), LLANDEILO. Teimlir yn hynod flin i orfod cofnodi marwol- aeth y foneddiges garedig a duwiol uchod. Ail ferch ydoedd Mrs. Davies i'r diweddar Mr. Benjamin Roberts, Inland Revenue Officer, a chwser i'r diweddar Mr. John Roberts, Cam- brian House, o'r dref hon. Ei chwaer henaf ydyw Mrs. Lewis, priod y Parch. Wm. Lewis, yn awr yn Wrexham, ond newydd ddychwelyd ar ol bod yn genadwr am yr ysbaid hir o amser o ugain mlynedd yn y Northern Indian Mis- sionary. Mrs. Lewis ydyw yr unig un sydd yn fyw. Yr oedd y diweddar Mrs. Davies yn una berchid yn fawr gan bawb-mewn gwirionedd, yr oedd yn llawn o rinweddau da fel menyw dduwiol, gwraig a mam serchus a thirion, ac yn un o'r cymydogesau caredicaf. Bu farw ar yr 16eg cnyfisol, yn 54 mlwydd oed. Dangos- odd trigolion y Llan' wir barch i Mr. Davies a'i deulu parchus dydd yr angladd, trwy gau yr holl fasnachdai trwy'r dref ar amser yr angladd. Gwasanaethwyd yn y tt gan y Parch. D. Mor- gan yn hynod o doddedig ac i bwrpas. Teimlir yn hynod o flin dros y bardd a'r hanesyddwr enwog, Mr. Gwilym Teilo, yn nghyd ai dri phlentyn, am yr ergyd trwm a ddaeth i'w eyfarfod. Yn ddiddadl, gwelant un ac oil ei heisieu yn ddirfawr. Boed iddynt nerth o'r Uchelder o dan yr amgylchiad. Yn mhlith amryw ereill o wahanol fanau, oddiwrth feirdd a llenorion, gwelais lythyr o gydymdeimlad a'r bardd yn ei drallod oddiwrth yr anfarwol fardd, Dewi Wyn o Essyllt. Dylaawn ddweyd, hefyd, fod y diweddar Mrs. Davies yn aelod ffyddlon gan y Methodistiaid Calfinaidd oddiar pan ond megys plentyn. Heddwch i'w llwch, medd yr eiddoch-Ap Puntan, Llandeilo.
Ysgrif Llafar-gloawl (gagging)…
Ysgrif Llafar-gloawl (gagging) Bismarck. Cynyg oedd yr ysgrif haerllug a gorifcesol hon at roddi clo neu ataliad ar lafar rhydd a dadleuaeth gyhoeddua yn Germani, o dan rhith ac esgus llwyr ddileu socialism allan-o'r wlad eithr diolch i'r nefoedd, y mae hyd yn oed y man of blood and iron wedi gorfod tynu yn ol y corn hyn o'i eiddo. Y mae Bismarck wedi deall yn amserol nad gwiw iddo ef ydyw ceisio cau genau llafar-gwlad experiment beryglus iawn ydyw, ac y mae, cyn hyn, wedi coetio yn ddrud iawn i dreiswjft a gormeswyr gwledydd. Mae yr hen ddiareb "Trech gwlad nac arglwydd," yn wirionedd pur a safadwy, ac yn ol y newyddion diwedd- araf, y mae y Canghellydd Germanaidd (Bismarck), er ei holl gyfrwysdra a'i wybod- aeth wleidyddol fawr wedi deall a chredu hyn yn amserol, canys hysbysir yn awr fod y cynyg melldigedig a gormesol hwn o geisio cael cyfraith i gloi genau y wlad neu atal dadleuaeth rhydd a chyhoeddus, ddim i'w gario yn mlaen yn mhellach-fod y "Gagging Bill i'w dynu yn ol. Dywed un yagrifen- ydd galluog am yr ysgrif hon fel y canlyn Y mae llindagu dadleuaeth rhydd yn y senedd, ac yn yr argraffwasg yn gyfartal i gloi clawr diogelwch (safety valve) olaf an- loddionrwydd y cynoeaa. x mae yn weith- red cyffelyb i eiddo y Yanki dibris hwnw, yr hwn, pan yn cydredeg ag agerfad arall ar y Mississippi, a barodd i negro i eistedd ar y safety valve i rwystro yr agerdd i fyned allan y ffordd hono. Y canlyniad buan o hyn oedd ffrwydriad y berwedydd, a'r llestr i fyned ar dAn, a chymaint a allasai y dyn dwl ei wneyd, ydoedd myned a'r teithwyr a'r dwy- law i dir, serch aberthu ei fywyd ei hun. Pe y llwyddai Tywysog Bismarck i basio ei ysgrif wallgof, ni fuasai yn annhebyg o ddyfod i ofid, a hyny yn fuan iawn. Y mae, eieoes, wedi achosi teimlad dwfn o atgasrwydd ac anesmwythder trwy yr holl ymerodraeth, yr hwn deimlad sydd yn debyg o gynyddu o ddydd i ddydd, nes amlygu ei hun mewn gweithredoedd nas gellir eu camddeall."
Dyn o'r Coity yn Eisieu.
Dyn o'r Coity yn Eisieu. Mae Thomas Thomas, gweithiwr-hur, o'r Coity, ger Penybont, yn eisieu oddiar boreu dydd Iau diweddaf. \eth yn foreu o'r ty, ar ol bygwth lladd y wraig, ac er chwilio yn fanol, nid ydys wedi dyfod o hyd iddo. Y mae y dyn, druan, yn dyoddef oddiwrth isel- der ysbryd er's cryn amser.
Gwedi rhewi i Farwolaeth ar…
Gwedi rhewi i Farwolaeth ar y Mynydd. Prydnawn dydd j wener diweddaf, cyn- aliwyd trengholiad yn Nlotty Aberhonddu ar gorff dyn a gawd wedi rhyuu i farwolaeth ar y mynydd gerllaw Glanrhyd, saith milldir o Aberhonddu. Adwaonwyd y trancedig fel Georgo Blacker, Miakin, ger Mountain Ash, yr hwn a ymadawodd oddigartref y Sul blaenorol. Yr oedd y trancedig am y ddwy dynedd ddiweddaf wedi bod yn dyoddef oddi- wrth wendid ar ei synwyrau. Dychwelwyd y rheithfare o Cafwyd wedi marw."