Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
" Dylanwad y naill Ddarganfyddiad…
Dylanwad y naill Ddarganfyddiad Celfyddydol ar y llall, a Dylan- wad yr oil ar Wareiddiad." Testyn Eisteddfod Carmd, Treherbert, Nadolig, 1875. DYLANWAD YR OLL AR WAEEIDDIAD.— Gellir dtffiaio gwareiddiad fel y cyflwr hwnw ar ddvnoliaeth pryd y mae gwrth- ddrychau catur, y rhai ydynt agored i gael en defnyddio gan ddvn, wedi cael eu dwyn megys dan warogaeth iddo, ac yn cael eu defuyddio ganddo i'r fantais oreu er ei gysur a'i ddedwyddwch, a'r dyn ei hun yn y fath ystad, oran ei feddwl, ag a'i galluogo i brisio y manteision a roddir fel hyn iddo yn briodol. Y mae y gradd o wareiddiad a gyrhaeddir yn cyfateb i'r gradd o ber- ffeithrwydd y mae dyn wedi gyrhaedd yn ei feistrolaeth ar elfenau natur; ac y mae y feistrdlaeth bono, hefyd, yn cyfateb i'r gradd o goethder y mae meddwl dyn wedi ei cbyihaedd. Y mae coethder meddwl yn fantais i ddarganfyddiadau yn y celfyddyd- au, ac y mae y darganfyddiadau hyny yn fantetsiol er gwareiddiad pwch, trwy eu bod yn cyoyrchu mwy o goethder, a mwy o ddedwyddwch. Felly, gallwn edrych ar ddarganfyddwyr fel dynion o flaen eu hoes mewn coethder meddwl a dysgeidiaeth; a thrwi eu bymdrechion tynant y byd ar eu hoi, dysgant ymarferion newyddion i'r byd, a'r rhai hyny yn fwy coeth, yn fwy chwaethus, yn fwy teilwng o'r hen ddyn- oliaeth na'r hen arferion, ac yn tueddu i helnethu cysur a dedwyddwch y ddynol- iaeth. Os edrychwn yn ol ar hanes Ewrop am rai canrifoedd, cawn yr holl wledydd yn gorwedd mewn dygn dywyllwch ac an- wybodaeth, a'u moesau a'u harferion o'r fath fwyaf diraddiol, braidd. Y mae yn wir fod dynion yn meddu yr un galluoedd yn y byd y pryd hwnw ag y maent yn eu meddu heddyw, ond yr oedd y galluoedd hyny yn cael en defnyddio, i fesur mawr, mewn gweithrr- doedd o ddinystr a distryw ac oherwydd hyny y mae yr amgylchiadau y mae hanesiaeth yn eu cofnodi yn gynwys- edig, yn benaf, o banes rhyfeloedd, ysbail, a dmystr. Ond y cytryw, pa fodd bynag, ydoedd tuedd a cbanlyniadau naturiol tevrnasiad anwybodaeth dros y meddwl dynol. Nid oedd yr holl ymrysonau a rhyfeloedd, a'r aionydd o waed a dywallt- wyd ar y ddaear yn ystod y canrifoedd sydd wedi myned heibio, ond yr hyn y gallesid yn rhes> mol ei ddysgwyl oddiwrth sefyllfa ddeallol, gy mdeithasol, a moesal y byd. Yo nghanol tywyllwch yr hen oes- oedd, ymddangosodd ychydig o belydrau deallol yn yr Aifft, yn Caldea, yn Groeg, yn Rhufain, ond nid oedd ei ddylanwad ar y cenedloedd amgUehynol ond tra egwan, digon bron i wneuthur y tywyllwch oedd yn gorchuddio y cenedloedd yn weledig a theimladwy. Nid ydym heb wybod y mohr ilawer ar wareiddiad Groeg a Bhuf- ain, a cheir rhliÏ yn myned yn hyawdl Vi rth son am wareiddiad uehel yr Aifft a Chaldea; a diau fod pethau mawr a phw sig wedi cymeryd lie yn mysg y ce,nedlot-dri hyn Edrveher ar Bysaundian yr Airtt, ei dinasoedd, ei themlau, a'i sphinxes cawrddd, y fath wychder y fath fawredd! Yn wir, v mae eu mawredd yn taro y meddwl a braw a syndod. Edrych- er ar adfeilion Caldea; eler trwy ei dinas- oedd asrheithiedig, ei chynteddoedd wedi eu gad»el yn unig, ei llysoedd adfeiliedig, ei 11? trgelloedd a fu yn hir yn gladdedig a cholledig; y tath gyfoeth fu yma unwaith, y fath fedr a diwydrwydd Darllener yr hrn svdd gan. hanesiaeth i'w ddweyd am Thebes, am Lusor, am Ninefeh, a Babylon. Edrycher ar dielwau Groeg, y fath fedr mewn eerfiadaeth na ragorwyd arno erioed gan un genedl. Edrycher ar gyfreithiau Rhufain sydd yn sail i gyfreithiau gwled- ydd cred. Onid oedd yma wareiddiad uchel ? Onid oeddynt bron wedi cyrhaedd pertfeithrwydd mewn gwareiddiad ? Y fath foethusrwjdd ya mysg yr holl genedl- oedd hvn pan yo auterth eu llwyddiant! Ac orid oedd y moethusrwydd hwn yn brtwf o'u gwareiddiad? Nid ydym yn credu, er y gailwn redeg y perygl o gael ein cdrif yn dra anwybodus am anturio peidio credu yn eu gwareiddiad. Nis gallwn weled, er yr oil a glodforir ar wareiddiad y cenedloedd hyn, fod corff mawr y boblog- aeth wedi derhyn ond ychydig iawn o les orldiwrth y goteuni a dj wynai arnynt. Yr oedd ambell un draw ac yma, mae'n wir, yn ymddangos llawer iawn o nerth meddwl a medrusrwydd Haw, ond nid oedd y cyf- ryw ond ychydig mewn nifer, tra y gor- weddai corff mawr y boblogaeth mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, ac yr oedd eu moesau a'u harferion yn eyfateb i'w gwybodaeth Y mae rhyw fawredd ofnadwy i'w deimlo yn y pyramidiau yn Thebes, ac yn ei themlau Luxor a Karnack, ond rhyw fawredd barbaraidd ydyw, ryw- fodd; a'r un modd am wychder ac ar- dderchogrwydd Ninefeh a Babylon. Ond nid ydym yn gweled un ymgais o bwys i ddyrchafu y werin, i wella a choethi eu moesau a'u harferion hwy. A'r un modd y gellid dweyd am Groeg a Rhufain. Yn rhy fynych, mantais y gormesdeyrn ydoedd cadw y bobl mewn anwybodaeth; ac yr oedd arweinwyr y bobl yn rhy gyffredin o'r fath foesau eu hunain, fel nas gallent gael un argraff ddaionus yn y cyfeiriad hwnw ar y rhai oeddynt dan eu harweiniad. Ymffrostir llawer yn ngwybodaeth a chyr- haeddiadau yr hen genedloedd; ond pan eir i mewn i elfenau eu gwybodaeth, y mae yn ymddangos yn hynod o brin mewn pob cangen o'r bron. Rhagorant, mae'n wir, ar y cenedloedd o'u hamgylch, ond nid oedd eu rhagoriaeth, er y cyfan, ond rhagoriaeth cymhariaethol. Nid ydym yn eu beio, y mae yn syndod eu bod, o dan yr amgylchiadau yr oeddynt ynddynt, yn gwybod cymaint. Y fath nerth meddwl oedd yn angenrheidiol i gael allan luaws o'r gwirioneddau ag yr oeddynt hwy yn eithaf cydnabyddus a hwynt. Yr oedd eu hym- chwiliadau mewn athroniaeth yn ddigon i roi enwogrwydd ar ddysgedigion unrhyw oes a gwlad. Ond wrth ddarllen ei hanes, njd ydym yn gweled eu bod yn dwyn eu galluoedd mawrion i ddylanwadu ar y werin, i godi y werin o'r dyfnderoedd yr oeddynt ynddynt. Yr oedd. yr Aifft a Chaldea yn enwog yn y gwyddonau cyn bod son am un wlad yn Ewrop. Edrychir ar yr Aifft, yn gyffredin, fel cryd gwar- eiddiad, fel meithrinfa gyntaf y celfyddyd- au. Y mae darganfyddiadau seryddol y Caldeaid yn syndod i'r byd ag ystyried yr anfanteision y llafurient danynt. Gwnaeth y ddwy wasanaeth ddirfawr i wyddoniaeth a chelfyddyd. Ond os edrychwn ar gorff y boblogaeth, a barnu oddiwrth eu harfer- ion, nis gallwn edrych arnynt yn amgen na barbariaid wedi y cyfan. Ac fel yr ydym wedi awgrymu fwy nag unwaith yn y traetbawd hwn, yr ydym yn amheu yn fawr ein bod yn ddyledus i China am odid i ddarganfyddiad celfyddydol. Gellir meddwl ar rai mai i China yr ydym yn ddyledus am bob darganfyddiad o bwys yn y celfyddydau; pa beth bynag a ddyfeisir yn Ewrop, y mae yn sicr o fod yn adna- byddus yn China ugain neu ddeg canrif ar ugain yn ol. Ond hyd yn nod pe byddai hyny yn wir, nid yw yn tynu dim oddi- wrth glod y darganfyddwyr diweddar, oherwydd rhaid i ni gofio fod yr hyn a ddarganfyddwyd yn Ewrop yn y canrif- oedd diweddaf yn rhagori ar yr hyn yr ymarferai y Chineaid ag ef, y mae y dyfeis- iau Ewropeaidd yn llawer perffeithiach na'r dyfeisiau Chineaidd; a rhaid i ni gofio hefyd fod China wedi bod yn hynod gau- edig i dramorwyr er's canrifoedd, fel y mae yn dra annhebygol i'r dyfeisiau y cyfeirir atynt ddyfod o China o gwbl. Ond a chaniatau yr holl goethder, yr holl ddyfeis- garwch, a'r holl wareiddiad y gall China ei hawlio, nid ydym yn gweled ei bod heddyw eto yn amgen na chenedl haner barbaraidd. I Ond caniataer yr oil a ellir ei ganiatau i'r hen genedloedd a nodwyd, ie, caniataer yr oil a hawlir iddynt, eto, yr oedd sefyllfa Ewrop yn yr oesoedd canol yn dra israddol yn y cysylltiadau hyn. Bu raid i genedl- oedd Ewrop ail-ddechreu, bron, yn yr un man tua'r ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg, a phe na buasai cenedl erioed wedi bod yn ymchwilio diwrnod i'r gwyddorau a'r celfyddydau. Yn wir, yr oedd eu syn- iadau am y nefoedd a'r ddaear, fel syniadau yr hen genedloedd, bron yn gwbl gyfeil- iornus, fel pan ddechreuodd ysbryd ymchwil- iad ymddeffro yn Ewrop, bu raid i'r cenedl- oedd Ewropeaidd ddysgu hyd yn nod A-B-C y gwahanol wyddorau a chelfyddydau. Ond i wneuthur pethau yn waeth, tua'r bumed ganrif, rhuthrodd lluoedd o farbar- iaid o barthau gogleddol a dwyreiniol Ewrop, a llwyr ddinystriasant bob arwydd- ion o wareiddiad y gallent dd'od o hyd iddo. Yn nghanol trwst rhyfel, llosgiad dinasoedd, anrheithiad gwledydd, a dinystr ymerodraetbau, fe annghofiwyd pob gwy- bodaeth fuddiol. Nid ymddangosai y ddaear namyn maes brwydr, ac yn lie coledd y celfyddydau, ymroes dynion i anrheithio ac i fwrdro y naill y llall. Am o wyth cant i fil o flynyddoedd ar ol h > n, fe ymledaenodd nos dywell anwybod <th dros hyd a lied y gwledydd. Dyna'r adeg a elwir yn neillduol Yr oesoedd tywyll- ion." Y fath oedd anwybodaeth yr oes- oedd hyn, fel nas gallai hyd yn nod y pendefigion na darllen nac ysgrifenu. Nis gallai llawer o'r offeiriaid ddeall y Uyfr gweddi, er eu bod yn ei adrodd yn ddydd- iol, ac nis gallai rhai ohonynt gymaint a'i ddarllen. Yn cyfeirio at y cyfnod hwn y dywed y Dr. Robertson, "ns chynyrchodd Ewrop, yn ystod pedair canrif, ond ychydig awdwyr gwerth eu darllen, ac nis gall y cyfnod hwn fostio ond o ychydig ddyfeis- iau defnyddiol i gymdeithas." Ac os oedd y dosbarthiadau uchaf wedi syrthio mor ddwfn mewn anwybodaeth, beth raid fod sefyllfa y dosbarthiadau isaf, rhaid eu bod hwy wedi suddo i'r dyfnderoedd mwyaf diraddiol mewn anwybodaeth. Am y cyf- nod hwn y dywed un awdwr O'r burned ganrif hyd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, yr oedd nos dywell fel y fagddu wedi ymdaenu dros y gwahanol wledydd- mor dywell ydoedd fel yr oedd amryw freninoedd, esgobion, a gwleidyddion enw- ocaf Ewrop yn analluog i ysgrifenu eu henwau eu hunain Ac, meddai Russell yn ei Modern Europe, "Heb gelfyddydau, na gwyddorau, na masnach, na gwleidydd- iaeth, nac egwyddorion, yr oedd yr holl genedloedd Ewropeaidd mewn cyflwr bar- baraidd a thruenus. Ymdrechodd Charle- magne yn wir yn Ffrainc, ac Alfred Fawr yn Lloegr, i wasgaru y tywyllwch, ac i ddofi eu deiliaid, ac i'w cynefino a rhwym au eyfraith, a buont mor ffortunus a llwyddo. Yr oedd goleuni a threfn yn nodweddu eu teyrnasiad. Ond yr oedd anwybodaeth a barbariaeth yr oes yn rhy gryf i'w sefydliadau rhyddfrydig ac ar ol eu hamser hwy, dychwelodd y tywyllwch yn dewach a thrymach nag o'r blaen, ac fe ymsefydlodd uwchben Ewrop, a syrthiodd cymdeithas drachefn i annhrefn." Y cyf- ryw ydoedd sefyllfa cymdeithas yn Ewrop yn yr oesoedd a nodwyd. (1% barhau )
Cyfarfod Llenyddol Capel Dinam,…
Cyfarfod Llenyddol Capel Dinam, Nantymoel. BEIRNIADAETH Y DON GYNULLEID- FAOL AE Y MEauR 28; A'R TRAWSDDOD- IAD 0 GANIG Y "GWUTHYN" O'E TONIC SOL- FFA I'R HEN NODIANT. Mae'n dda genym fod pwyllgor y cyfar- fod uchod wedi bod mor ddoeth a charedig a gwneyd eithriad yn eu detholiad o amrywiol destynau. Fel rheol, nid oes bellach ond yr un ewrs yn cael ei fabwys- iadu gan rai pwyllgorau, ac oherwydd hyny mae cyfansoddwyr cerddorol yn cael eu hamddifadu o'r hyn a deimlir ganddynt yn wir angenrheidiol er hyrwyddiant yn nglyn a'r gelfyddyd. Yr hyn olygir wrth gystadleuaeth, yn ddiamheu, yw cynllun i gefnogi a phuro chwaeth gwahanol ddos- barthiadau o dalentau; ond tra y parheir i wyro yn or-eithafol i ryw gyfeiriadau, mae rhyw ddosbarth yn rhwym o ddyoddef yn Dgwyneb hyny. Rhaid, mewn canlyn- iad, fod annghyfiawnder yn cael ei wneyd tuag at y cyfryw; ac yn ngwyneb hyn, mae'n bryd gofyn am ddiwygiad. Yr hyn a ddysgwylir gan gyfansoddwyr ydyw gwobr neu feirniadaeth, canys ar y nod- iadau a wneir gan feirniaid ar gyfansodd- iadau y mae canfod y cynydd a wneir yn mhrif hanfodion y gelfyddyd, gan y bydd y gwerth neu'r annghymeradwyaeth a roddir i'r cynyrchion o bwys neillduol i'w hawdwyr, am y gellir ymdrechu i ddiwygio yn yr hyn a ystyrir yn gyffredin neu gadw i fyny yr hyn a gymer- adwyir a sicr ydyw fod hyn yn cael ei dderbyn gyda boddhad gan y dos- barth hyny sydd, fel ein hunain, yn llafurio o dan anfanteision, a hyny gyda diolchgarwch i'r beirniaid hyny sydd yn gofalu am yr ieuane fel yr hen, neu'r gwael fel y cyfoethog. Wel, gobeithiwn y cawn welliant yn yr hyn a deimlir ei angen gan gyfansoddwyr cerddorol yn gyffredinol. Dechreuwn gyda'r ymgeiswyr sydd ar y don. Ffrwd Alaw.-Profa ef ei fod wedi talu peth sylw i elfenau cerddoriaeth, ond nid digon hyd yn nod yn y pethau mwyaf cyffredin. Dechreua yn weddol o ran melody a chywirdeb cynghaneddol; ond yn ban y 15, y mae gau berthynas rhwng y prif lais a'r tenor, a'r pedwerydd o'r chord 6-4 heb ei adferyd yn mesur y 19. Y mae gau berthynasau, hefyd, rhwng y prif leisiau yn ban 22, a'r alto a'r tenor yn y ban 23, ac wythau dilynol rhwng y prif leisiau yn y bar olaf ond un. Tubal.—Mae yntau, hefyd, yn un o'r anffodusion. Mae'n amddifad o wybod- aeth am melody a chynghanedd, ac yn neillduol yn yr olaf, gan fod yr holl an- nghydseiniaid yn cael eu camddefnyddio, gydag eithrio man neu ddau. Hen Dramp.—Ffugenw dichwaeth. Methwn ganfod dim yn neillduol yn ei don ef, ond rhagora ar yr ymgeiswyr blaenorol mewn cynghanedd; ond nid yw y beror- iaeth ond cyffredin. Yn ban y 9, gwell fyddai F yn y tenor, a G yn y bass (llyw- ydd 0). Mae 5au cudd rhwng y treble a'r bass yn banau 18 a 19, a rhwng y tenor a'r bass yn banau 22 a 23. Gellir dileu eu heffaith annymunol trwy osod a yn seithfed i lywydd (GJ. Alaw Ogwy.—Mae ei ymdrechion wedi troi yn fethiant y waith hon, gan fod ei gyfansoddiad yn wir ddiffygiol mewn cy- nghanedd. Telor Coegnant. Nis gellir dweyd nemawr yn well am ei eiddo yntau, gan ei fod yn mhell o gyrhaedd un rhagoriaeth mewn cymaint ag un ystyr. Cynygiwr Newydd.—Ni cheir dim yn ei beroriaeth yntau yn hawlio ei chanu fwy nag unwaith. Ond gydag ychydig o ym- drech, mae gobaith iddo ddyfod yn gyf- ansoddwr, gan fod, y gynghanedd mewn amryw o fesurau yn profi mwy na dy- chymyg o barth i'r hanfodion, ond nid yw heb ffaeleddau. Yn ban y 3, mae 5au cudd rhwng y prif leisiau, a'r chord dilynol (islywydd) heb ei 3ydd. Rhaid gosod llonod ar C, ban y 9, gan mai i B leiaf y I trawsgyweirir. Nid oes eisieu llonod ar G yn y diweddeb ffugiol ban y 12fed. Yr ydym wedi diwygio yr hyn a ystyriwn yn annghywir. Gwel y copi. E. T. L.-Mae ef wedi cyfansoddi alaw wir ganmoladwy. Ond am y gynghanedd, mae'n hynod o wallus, a braidd yn fwy felly na neb o'i gydymgeiswyr. John Goss.-I fod i fyny a rheolau y pwyllgor, dylasai y person hwn ddanfon ei gyfansoddiad i'r ysgrifenydd; ac oherwydd na wnawd hynv, mae allan o'r gystadleu- aeth. Gwnaethom nodiadau ar ei gopi fel eiddo ereill. Brython.—Cymreigaidd a thyner ei harddull yw ei don ef. Trueni fod ei ddiweddebau mor unffurfiol; oni b'ai hyn, buasem yn ei hystyried yn wir gynulleid- faol. Mae'r gynghanedd yn wallus yn banau 13, 14, 19, a 23. Cynghorem ef i astudio harmony, canys mae gallu ynddo i greu, ond yn amddifad o wybodaeth a gallu i liwio yn briodol. Mae'n naturiol i gasglu, oddiwrth ein sylwadau, nad yw yr holl gystadleuwyr i fyny a'r safon arferol; ond pan gymerom i ystyriaeth fod y gystadleuaeth yn cael ei gwneyd i fyny o gyfansoddwyr ieuainc, ni allesid dysgwyl iddynt gyrhaedd rhyw nod neillduol. Oherwydd nas gellir, gyda chydwybod onest, hyd yn nod ddweyd fod ton y goreu ohonynt, sef Brython, yn deilwng o'r wobr, yr ydym, mewn canlya- iad, yn ostyngedig ddymuno gofyn i'r pwyllgor am wobrwyo y goreu, a hyny, yn benaf, er mwyn cefnogaeth. Y Trawsddodiad. !ima Dyna gynllun i'w fawr gymeradwyo, gan fod cystadleuwyr yn cael eyfle neillduol i wneyd eu hunain yn hyddysg yn y ddwy gyfundrefn. Mae'n dda genym gofnodi fod y tri ymgeisydd yn meddu ar wybodaeth bur eang am y ddwy, a dymunwn eu llon- gyfarch am hyny. Anfedrus.—Mae ol llafur i'w ganfod ar eiddo hwn, ac mewn rhai eithriadau mae'n rhagori ar ei gydymgeiswyr; ond fel cyfan- waith, mae'n syrthio yn brin o fod i fyny a'u teilyngdod, a hyny mewn cjwirdeba thestlusrwydd. Mae genym amryw o awgrymiadau ac esiamplau ar ei gopi, a gobeithiwn y derbynia hwynt yn yr un teimlad ag y maent yn cael eu rhoddi, canys dymuno gwneyd lies iddo yw ein hamcan Ogmorian.—Ysgrifena ef yn lied dda, ond nid yw ei gyfansoddiad yn ddifai. Yn ban 4, E fyddai iawn yn y prif lais ae nid F; A yn ban 13, ac nid C yn y tenor ac F yn y prif lais (yr un mesur) yn lie E. Cyn gellir dychwelyd yn rheolaidd i'r cyweirnod gwreiddiol (A), rhaid lleddfu y D yn ban 33. Hefyd, mae'r slurs heb eu cyplysu yn gywir yn y ddau amser tri- phlyg, a chyffredin dwbl. Gwel y copi sut i'w iawn ddefnyddio. Yoden.-Mae ef yn euog o'r un gwen- didau ag Ogmorian mewn cysylitiad a'r llythyrenau a ban 33. Dylasai quavers fod yn part yr alto ban y 10, yn lie crotchets. Gellir hebgor yr E fiat mesur 21, gan fod yno un yn barod. Yn hytrach nag E naturiol yn part yr isalaw ban 35, F flat fyddai iawn. Nid yw'r adysgrifiad o'r farddoniaeth yn gywir ychwaith, megys ymddisgleirio yn lie ymddysgleirio, a disg yn lie dysg. Mae Ogmorian i'w annghymer- adwyo, i fesur, yn hyn hefyd. Wedi dwys a manwl ystyriaeth, gorfodir ni i ddyfod i'r penderfyniad poenus o ranu y wobr rhwng y ddau ymgeisydd olaf, am yr ystyriwn hwynt yn hynod o gyfartal yn eu teilyngdod; ac i wyro oddiwrth y fath ddyfarniad, buasem yn gweithredu yn an- onest tuag at yr awdwyr, canys Diogel yw cydwybod glir, A chan heddwch ei noddir; Diau engyl di ingon A chan hedd gylchyna hon." -Yr eiddoch yn ostyngedig, Eos HAFOD. O.Y.—Rhoddodd y pwyllgor y wobr i'r goreu ar y don yn unol a'n deisyfiad.-E.H.
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. YN nghyfarfod haner-blynyddol Cwmni Rheilffordd Manceinion, Sheffield, a sir Lincoln, a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf yn Manceinion, dywedai Syr E. Watkin nad oedd y cwmni yn ddiweddar yn talu ond yn unig 5s. 10c. y dunell am y glo a ddefnyddid yn ystorfeydd eu peirianau symudol, tra yr oedd y draul gyfatebol bum' neu chwech mlynedd yn ol yn 20s. y dunell. Mae y gwahaniaeth yn eithaf amlwg a nodedig, ac wedi cynorthwyo y cwmni mewn modd hynod i nofio dros yr amser caled a marwaidd ag sydd wedi goddiweddyd pob anturiaeth yn ystod y deuddeg mis diweddaf. Mae Cynghor Cymdeithas Masnach Haiarn Prydeinig, drwy ei ysgrifenydd, wedi derbyn gohebiaeth hysbysedig gan Ardalydd Salisbury, dyddiedig Ionawr 31, yr hyn yr ymddengys ei fod yr awgrymiad cyntaf o eiddo y Llywodraeth o amcanion neu fwriadau yn dal eysylltiad a llesiant marsiandol y wlad hon, drwy yr hon y mae yn rhesymol i ni dybied fod y Llywodraeth yn ameanu eu dwyn i weithrediad. Beth all y bwriadau hyn fod y mae yn fwy hawdd amgyffred am danynt na'u cyhoeddL Mae yr Ysgrifenydd Tramor yn gosod i lawr ei bod yn ymddangos yn debygol y bydd yn angenrheidiol yn ystod y flwyddyn bresenol i ymohebu a chorfforiaethau mar- siadol yn y wlad hon ar faterion pwysig gyda golwg ar fasnach a chenedloedd Ewropaidd." Dichon ei fod yn hysbys i ddarllenwyr y (■JWLADGABWK fod Pwyllgor Tollresol Ym- ofynol wedi bod yn eistedd yn Germani i gymeradwyo arddodiad duty o gymaint a chwe' cheiniog ar bob can' pwys o foreign raw iron a ddygir i'r wlad hono. Mas hyn o bwys arbenig i Gymdeithas Masnach Haiarn Prydeinig, yr hon a gefnogir ae a gynrychiolir gan haiarn feistri Cleveland, ac a'r hon yr oedd yn naturiol fod y Swyddfa Dramor Brydeinig yn gwneyd ymholiad. Mae yn rhesymol, feddyliwn, fod y mater o'r tariff cynygiedig gan Ger- mani yn cael ei drafod a'i ysgwyd. Mewn perthynas i'r crushing import hwn, y mae Arglwydd Odo Russell, ein llysgenadwr yn Berlin, yn ysgrifenu at yr Ysgrifenydd Tramor fel y canlyn :—"Nid oes angen i mi nodi i'ch harglwyddiaeth y gwna y duty hwn gau y farchnad Germanaidd yn erbyn masnach yr haiarn Prydeinig," Dy- lasai tod genym ni yn y wlad hon Wein- idog Masnach ac Amaethyddiaeth, a rhaid i ni ei gael cyn y daw trefn ar faterion masnaehol ac amaethyddol ein gwlad. Nid oes yr wythnos hon eto yr unrhyw newyddion neillduol o adlonol i'w traethu. Mae yn dda genym fod gweithio rheolaidd yn adran MERTHYR TYDFIL, ac, fel y nodwyd genym yr wythnos ddi- weddaf, y mae glowyr Plymouth ac Aber- nant yn gweithio, er mor galed oedd y gostyngiad. Y prif achwyniad yn masnach y glo yw y pris a geir am dano, ac, ysyw- aeth, nid oes yr un arwydd hyd yn hyn am welliant. Mae Gweithfeydd Dowlais wedi troi llawer allan, megys gofiaid, fitters, ac ereill. Nid yw masnach yr haiarn na'r dur yn addawol yno yn bresenol; ond y mae yn debyg y ceir gwell masnach yma yn y Gwanwyn, gan fod dysgwyliad am archebion Indiaidd i ddyfod i'r lie. Yn adran CAERDYDD, mae ein prif lofeydd yn weddol o ran gwaith, a symiau mawrion o lo yn cael eu llwytho mewn llongau yn ystod yr wyth- nos i wledydd tramor. Nid yw masnach haiarn yr adran yn cyflwyno yr un ar- ddrych newydd. Daeth i mewn i'r porth- ladd yr wythnos ddiweddaf yn nghyleh 13,500 o duneili o fwn haiarn o'r Ysbaen. Allforiwyd i wledydd tramor 66,582 o dunelli o lo, 1,902 o dunelli o batent fuelt a 176 o dunelli o haiarn a dur. Nid oes yr un cynydd bywiogol hyd yn hyn yn y coed pyllau glo. Mae y gweithfeydd alcan yn. rhoddi arwyddion bywiocaol-y cais yn dal i fyny yn lied dda, a'r prisoedd yn dangos gwelliant. Yn adran I ABEETAWE, nid oes yr un arwydd o adfywiad ya mas- nach na gweithfeydd yr haiarn. Allfor- iwyd yr wvthnos ddiweddaf 9,618 o dunelli o lo, a 1,374 o dunelli o batent fuel, ond dim haiarn na dur. Yn nghanol y marw- eidd-dra masnaehol mae masnach yr haiarn yn parhau, ac nid rhyfedd hyny, gan fod rheiliau dur yn cael eu gwneyd yn awr am ond swllt y dunell yn ychwaneg na rheiliau haiarn, a thra y bydd felly, nid oes i'w ddysgwyl ond gwelwder i'w weled ar* wynebpryd y fasnach. Lied ysmala y mae y gwaith yn myned yn miaen yn Ngweith- feydd Dur Glandwr, er fod yma gytun- debau pwysig i'w cyflawni i'r Llywodraeth ar law--digon i gadw y nifer a weithiant ya bresenol mewn gwaith am wythaosau i ddyfod. Mae yma symiau mawrion o fwn haiarn a chopr wedi dyfod i fewn i'r porth- ladd, ac felly gobeithion yn cael eu creu o adfywiad yn masnach gyffredinol y lie. Mae y gweithfeydd alcan drwy yr holl adran yn myned yn mlaen yn eu hwyl arferol, ac felly yr un modd tua Phontar- dulais a Phontardawe. Yn adran CASNEWYDD-AR-WYSG, ymddengys uad yw amgylchiadau masnach y glo La'r haiarn mewn ansawdd adfywiol. Ni allforiwyd oddiyma yr wythnos ddi- weddaf i wledydd tramor ond 15,492 o dunelli o lo. Cafodd 1,389 o dunelli o haiarn a dur eu llwytho mewn llongau i Aspinall a Bahia. Nid oes yr un awydd yn ymddangos am adfywiad yn masnach yr haiarn. Ychydig sydd yn cael ei wneyd efo rheiliau haiam ond y mae rhyw dipyn o gyffroad yn ymddangos gyda bariau haiarn. Nid yw yn ddichonadwy i nodiyr ua cyfnewidiad yn y prisiau. Masnach y dur yn weddol fywiog can belled ag y perthyn i'r gweithfeydd hyny. Ansawdd y gweithfeydd alcan yr un, ac yn parhau yn sefydlog. Yn y cylchoedd oddeutu, ac yn BHYMNI, mae tipyn o gyffroad yn masnach y glo at wasanaeth teuluol drwy y Cwm, a'r glo- feydd yn awr yn cael eu dwyn yn mlaen yn fywiog. Mae y glo ager hefyd drwy y