Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

■| WELE ENGLYN PERRIS.

Eisteddfod Nadolig Hope Chapel,…

[No title]

COLEG Y GWEITHIWR.

ENGL YN "AROH NOAH."

CADEIBIAU DEWI WYN 0 ESSYLLT.

EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEU-DIB…

AT VERITAS.

Y GLASUROL VERITAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GLASUROL VERITAS. MR. GOL.,—Dysgwyliem, wrth waith y gwr dysgedig (2) uchod yn defnyddio y gair Lladinaidd "'Veritas" (" gvvirionedd ") fel ffugenw, y buasai yn ymgadw yn fanwl at y perl gwerthfawr hwnw ond mae y fath beth a bombast a chrach-ddysgeidiaeth yn y byd, a cheir engreifftiau poenus o bresenoldeb yr elfenau gwrthnawsaidd a chyfoglyd hyny yn ysgrif y brawd dan sylw. Yn wir, y mae wedi britho ei ysgrif a geiriau gigantic, conical," Aborigines," Antxpodes," "Omea Patri," a llu mawr hebiaw, fel pe na b'ai neb yn deall Saesonaeg na Lladin ond ei hun. Hynod y fath ddwndwr a ffusto perthi sydd am englyn haner-coron i "Gar- iad." Gwarchod y bydoedd Pe gwybu- aswn fod y fath oraclau yn d'od i Olympia englynol y Guron, Aberdar, y mae yn fwy na thebyg y buaswn yn crynu yn fy esgxdiau wrth daro fy Haw ar eu cynyrchion eneid- fawr. Dyma'r englyn a addoiir gan Veritas yn y diwyg diweddaf yr ymdda.ugosodd Cariad. yn wir, yw coron--y Duwdocl- Hedd gan nefolion Hedd a rhad y ddaear hon, A golud pena 'r galon. Os yw hwna yn englyn cynghaneddol, barned beirdd Cymru a Bro walia" gyda hwy. Os yw Veritas yn fardd, fel yr ydym yn credu ei fod yn saernio ambell hnell, dylasai wybod mai hen linell-hen iawn hefyd yw :— A golud yena 'r galon. Yr ydwyf wedi ei darlleii lawer gwaith er s blynyddau-, a phan welais hi yn dangos ei hen wyneb mewn englyn ntwydd, dywedais ar unwaith, "Wnai di ddim or tro dos yn dy ol i orwedd gyda'r hen awdiau ac englyn- I ion lie bu dy wely orwy y biyayddau." A1 nid hyn wnaethai Veritas, ty bed? i efyd, nid oes so a gan un o m gwrthj sgritenwyr iy mod wedi gosod engiyn yn gydfu :dog^l a. t un wobrwywyd. Yn enw pob peth, eedwch at y ffeithiau, frodyr dylwn gael, a mynaf gael y benefit o hyny, beth bynag a. ysgrif- loch. Yr ydych yn hutf iawn. hefyd, o anwybyddu y ffaith fod un engiyn yn y gvs tadleuaeth yn tra ragori ar y adau wobrwy- wyd ond gan nad oedd yr awdwr yn bresen- ol i ateb cwestiwn o barthed iddo, collodd y wobr, ac hefyd rhaid oedd bod y buddugwr yn bresenol! Yn awr, deuaf at gyfieithiad mawreddog Veritas o'r englyn :— Cariad, yn wir, yw coron-y Duwdod- (Love, in reality, is the crowning element of the Godhead). Oddiar pa bryd y mae cariad i gael ei gyf- ieithu yn c;'owning element" ? Dedwydd gan nefolion (The happy theme of the songs of the celestial choirs). Oddiar pa bryd y mae "gân" i gael ei gyf- ieithu yn theme of the songs ? Hedd a rhad y ddaear hon (Earth's tranquility and munificence-i.e., promo- ter of tranquility and generosity). Oddiar pa bryd y mae rhad i gael ei gyf- ieithu yn munificence" i "Rhad," giilce, favour, ydyw yn fy ngeiriadur i. Ond cura Veritas yr awyr yn annghyffredin am i mi ddweyd fod "dedwydd," 'hedd, a y rhad." yn golygu yr un peth. Yr wyf yn sefyll at fy ngosodiad, a hyny yn ngwyneb mil o Veritasiaid o "tantp yr un sydd yn ceisio fy ffonodio yn y GWLADGARWR. Efallai y dylaswn ddweyd nad ydynt yn llythyrenol yr un mewn ystyr; ond beiddiaf ddweyd eu bod yn berthynasau agos i'w gilydd a. phob un ohonynt yn cynwys rhyw grymaint o elfenau y ddau arali. Nis gall fod ded- wyddwch" heb fod yno "heddwch." Nis gall dedwyddwch na "heddweh fod yn ddim amgen na rhadau a bendithion lor. Felly, wedi yr holl exhibition a wnaethoch o'ch mawrddysg a'ch acumen, pa Ie y safweh erbyn hyn ? Addefaf fod i'r tri gair, yn llythyrenol, ystyrion gwahanol; ond myn- tumiaf fod pob un ohonynt yn cyfranogi, i ryw fesur, o elfenau y lleill. Geirxau dewisol eritas. hefyd, yw idiot a dunce. Y rhai mwyaf parod' o lawer i alw idiots a dunce., ar ereill yw y rhai sydd yn idiots eu hunain, ac y mae yn sicr fod y sawl fydd yn euog o alw idiot ar ei gydgreadur yn bradychu ei fod yn feddianol ar elfenau gor- phwylledd ei hun. Oes, Veritas, hebiaw fod rhaid cael tipyn o common, sense yn mhen- glog beirniad," ys dywedwch, ychwanegaf finau fod yn rhaid cael tipyn, neu fe ddylid cael common judice hefyd. Nid trin y pwnc mewn dadl yw bloeddio, chwythu yn v corn, swaggero, crugio bombast, a phentyru geiriau cas ac anfoneddigaidd ar y gwrthwynebydd, a son am y ci bach Tommy sydd yn eistedd ar deök ei feistr arch-athronyddol, &c. Dysg- wch etiquette gohebyddol cyn rhuthro i'r Wasg o hyn allan yw cynghor B.

MR. ISAAC THOMAS AO EISTEDDFOD…

YR AWDL AB " UNIGEDD."