Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

AT J. H. P. A VERITAS.

[No title]

NODIADAU 0 L'ERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU 0 L'ERPWL. Golwg digon anriymunol ar y dref gan effeith- iau y sefyll allan. Gall y darllenydd gael rhyw fath o ddrychfeddwl am yr olygfa pan ddywedaf fod yma ddegau ofiloedd yn cerdded yr heolydd. Y meistri wedi penderfynu dal yn gyndyn, a pheidio ymostwng i geisiadau y gweithwyr. Oynygiodd y meistri yr hen bris, ond gefynent am awr arall yn y dydd o waith, a saith ceiniog yr awr yn lie wyth am weithio dros amser. Y gweithwyr yn foddlon i'r hen bris heb ychwan- egu yr awr, a gostwng y geiniog yn ol y cais ond methwyd cytuno ar hyn, ac o ganlyniad nid oes neb am ymostwng. Mae rhai o'r meistri wedi Uwyddo i gael rhai canoedd o ddyeithriaid i lwytho a dadlwytho y llongau. Cedwir hwynt ar y bwrdd nos a dydd, a sicr ddigon fod y treuliau yn llawer mwy i gadw y dyeithriaid na phe buasent yn ymostwng i geisiadau y gweith- wyr,—prawf arall fod y meistri yn benderfynol y mynant orchfygu, er colli miloedd o bunau yn yr ymdrechfa. Mae y golled fasnachol yn barod wedi cyrhaedd y swm anferth o ddegau o filoedd o bunau, a mwy na thebyg y costia eto rai degau cyn y dygir pethau i drefn. Pe terfynai yr an. nghydfod mewn diwrnod, fe fydd y naill blaid fel y llall wedi dysgu gwers nad annghofiant yn fuan. Os oedd y lie yn orlawn o'r blaen, mae yn ddigon sicr y bydd yn llawnach ar ol hyn, am nad yw yn debyg yr' ymedy y newydd- ddyfodiaid wedi dechreu gweithio, a chael gwell cyflogau nag oeddent yn gael gartref. Derbyn- iant yma y gyflog o bedwar a chwech y dydd. tra nad oeddent yn cael ond haner coron gartref. Dywedir fod dyoddefiadau canoedd o wragedd a phlant yn anfesurol; a rhaid fod hyn yn wir- ionedd, am nad oeddent yn cael ond prin digon o gynaliaeth pan oedd pob peth yn rhedeg yn y cwrs priodol. Mae rhai o'r agerlongau sydd yn rhedeg i Bombay wedi gorfod aros yn y porth- ladd am y pythefnos diweddaf, am nad allent gael eu llwytho; ac aeth amryw o'r agerlongau a redant i'r porthladdoedd gorllewinol yn haner llwythog. Nid oedd yn bosibl cadw y rhai hyn yn ol, am fod y llythyr-godau yn rhwym o gael eu cludo yn amserol, neu ynte dalu dirwy trwm am doriad y cytundeb. Gobeithio nad yw i barhau yn hir fel hyn, ac y dygir petbau i der- fyniad heddychol. Gresyn nad ellid taro ar ryw fath o gynllun i drefnu materion mewn dull gwahanol i'r hwn a fodola yn bresenol. Mae y sefyll allan mynych a geir yn ein gwlad yn difa nerth y werin, yn llaid masnach, ac yn creu colled ar ol colled, hyd nes mae Prydain ar fyned yn ailraddol mewn ystyr fasnachol, tra mae gwledydd ereill yn ymgyfoethogi ar ein han- ffodion ni. Nid oes un dyn yn ei bwyll a geisia brofi fod sefyll allan wedi enill dim i neb mewn un oes, ond fe ellir profi fod y dosbarth gweith- iol wedi ei wthio allan fwy nag unwaith trwy annghyfiawnder a cham. Uchelgais a mawredd pendefigol ydyw gwreiddyn y drwg. Ffalsder a chynllwyn dynion drygionus a hoffant an- nghydfod, y rhai a gyfarfyddwn yn ami yn mhlith pob dosbarth o weithwyr, sydd wedi bod yn achos o lawer o ddrwg, a chreu annghysur a gofid i filoedd a hoffent fyw yn heddychol pe caffent. ANNGHYSONDEB.—Cafwyd profion yn ddi- weddar, yn ein llysoedd cyfreithiol, fod cyfraith ein gwlad yn annghyson yn y gweinyddiad ohoni. Dyna gyfarwyddwyr Ariandy Glasgow yn dianc gydag ychydig o gosp, er iddynt dreulio bywyd mewn twyll a lladrad; un ohonynt yn cael dim ond wyth mis o garchar gyda llafur caled, er fod y diffygion yn cyrhaedd i rai mil- oedd o bunau. Yn y dref hon, fe ddygwyd hen foneddwr i'r llys am y trosedd o lawnodi papyr am fil o bunau. Er fod ei gymeriad yn glir hyd yr anffawd yma, fe gafodd ei gondemnio i bum' mlynedd o garchar gyda llafur caled, yn yr oedran mawr o bedwar ugain mlwydd. Byddwn yn mynych ddarllen am anngbysondeb llysoedd cyfreithiol yr Amerig, ond os edrychwn gartref, ni gawn gymaint o annghysonderau yn ein gwlad ag a ellir gael mewn gwledydd ereill. Gall fod gwahaniaeth yn y deddfau, neu fod barn-raith yr Alban yn wahanol i'r hyn ydyw yn Lloegr a Chymru. Gwyddom am lawer o wahaniaeth mewn gwahanol lysoedd, ond nid ydym yn gwybod fod gwahaniaeth yn nghyfraith y troseddau cyhoeddus. Bid a fyno, fe ddylai yr un gyfraith fod mewn grym yn yr un lly ,v- I odraeth, a than awdurdod yr un orsedd. AMR YWION .-Mae tua dwsin o agerlongau' perthynol i L'erpwl wedi eu llogi i gario milwyr i faes y rhyfel, a thebyg ydyw y byddant ar y daith cyn bydd y llinellau hyn yn Haw y dar llenydd. Rhaid i mi gyfyngu fy sylwadau, ery dymunaswn fanylu ar fynediad y llynges, a'r hyn a gludant. Bydd yn rhaid cael llawer o ddynion i weithio y llongau hyn, am fod y gyf- raith yn gofyn am fintai ddwbl o ddynion i forio llongau yn ngwasanaeth y Llywodraeth. Rhagor ar hyn yn y nesaf, os yn gyfleus.- Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.

Galwad Cyntaf y West of England…

NEWYDDION TRAMOR.

Drylliad ar gyfflniau y Gower,…

Eisteddfod Gadeiriol Deheudir…

Galwad Mawr am Lo Cymru.

Angladd y Diweddar Barch Dr.…

Glofeydd Powell Dyffryn, Aberdar.

Llywodraethwr Glofa wedi ei…

Rhwystriad Damweiniau mewn…

Y Cynygiad Pwysig yn Ngweithiau…

Advertising

YR AWDL AB " UNIGEDD."