Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CANTON, GER CAERDYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CANTON, GER CAERDYDD. Nos Fa, wrth, Chwef. 25ain, ymgyfarfu Cor Undebol y lie uchod i fwvnhau eu hunain uwchben dysglaid o de a" theisen. Wedi clirio'r byrddau, darllenodd yr ysgrifenydd gyfrifon y cor am y tri mis diweddaf, ac yna galwodd y cadeirydd (Mr. Jacob Davies, y conductor) ar Mr. N. Fenn, un o aelodau henaf y c6r, i gyflwyno tystaho oriawr aur dlws a chostus i Miss Clara N. Davies, am ei ffyddlondeb fel prif gantores ac fel accom- panist i'r cor am oddeutu pum' mlynedd. Awd drwy y seremoni yn nghanol banllefau byddarol o gymeradwyaeth. Dywedodd Mr. Fenn fod yr anrheg yn arwydd fychan o burdeb teimladau y cor tuag at Miss Davies, yr hon oedd, fel y gwyddent i gyd, wedi enill serch ac edmygedd y c6r, ac, nid yn unig hyny, ond eiddo trigolion Canton yn gyffred- inol. Cafwyd anerchiadau gan Mr. M. Morgan, Roath Mr. A. Mathews, Docks a Mr. S. Evans, Loridoun-square, ac ereill. Hefyd, adroddwyd amryw ddarnau, a chan- wyd rhai caneuon. Canodd y c6r ddarn i ddiweddu, ac aeth pawb adref wrth fodd eu calonau. Darllenwyd yr englynion canlynol yn ystod y cyfarfod Cantores gynes ei geiriau—air clir, Yw Clara, mae'n ddiau A da hynod, mewn clod clau, Yw iaith anwyl ei thdnau. Pereiddlais, adlais yn hidlo-nodol Ganiadau yw'r gryno A'i miwsig ar frig y fro- Un felus yw Novello. Cun y dwg ganiadau lach,—i loni Dilynol gyfeillach; Ni fu'n fyw un fenyw fach Is yr haul o'i siriolach. -Dyfnwal.

. TREORCI.,

[No title]

. -----AT Y BEIBDD.

[No title]

PENILLION I DDAU DYMOR O'R…

Advertising

LLITH O'R DERI.