Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mae eglwys Maerdy, Rhondda Faeh, wedi rhoddi galwad i'r Parch. David Jones, Barry (diweddar o Lansawel), i fod yn fiig ail iddi. Drwg geiiyf glywed fod y Patch. W. Lèwis, Pont- ypridd, wedi bod am dymor yn methti pregethu. Ond bydd yn llaWen gan bawb glywed ei fod yn cryfhaw yn rhagorol. 4 Da. genyf glywed fod Mr. J. E. Powell, Wrexham, wedi dychwelyd adref, wedi cael adnewyddiad ic-ch, yd drwy ei arhosiad ar lanau Gogledd Cymru ac yn Iwerddon, a'i fod yn gwella yn foddhaol. • Mae y Parch. B. D. Thomas, Woodstock, wedi ysgrifenu cyfrol o Fywgraffiadau nifer o weinidog- ion Methodistiaid Swydd Benfro," yr hon a ddygir allan ar anogaeth Cyfarfod Misol y Sir. Cyhoeddir y gyfrol yn Swyddfa'r GOLEUAD. Mae Bwrdd Addysg Sirol Meirion wedi pender- fynu codi y technical rate' a ddimai i geiniog y bunt. Defnyddir yr arian i roddi rhagor o ysgolor- laethau, i gael darlithiau ar fwnau a chwareli, i ffttrfio dosbarthiadau i ddysgtl tori dillad, neu drin gerddi, a'r gweddill i helpti yr ysgolion canolraddol. — Mae cyfeillion Llandrindod wedi cyhoeddi cyfrif- lea y Bazaar a gynhaliwyd ganddynt y llynedd er dirio y ddyled ar Albert Hall. Costiodd y neuadd £ 1,600, a dengys y cyfrifon sydd newydd eu cy- hoeddi fod gan y brodyr L10 2s. 11c. yn awr mewn Haw wedi talu yr hall ddyled. Hysbysir fod y Parch. Phillip Jones, Abergwaen, Wedi pregethu ei bregeth ymadawol i'r gynulleidfa yn nghapel Pentowr, a'i fod yn symud i fugeilio eg- lwys y Methodistiaid yn Llandeilo. Bu Mr. Jones yn fugail i'r eglwys yn Abergwaen am 14 o flynydd- oedd. ■ ♦ Hysbysir fod Mrs. Mary Davies wedi penderfynu ymneillduo o'i gwaith cyhoeddus fel cantores,- a Rhoddi ei holl aniser yn y dyfodol i ddysgu eraill. Treuliodd: hi a'i phriod, Mr. Cadwaladr Davies, y gauaf ar y Riviera ac yn nghymydogaeth llynoedd Itali, ond byddant yn dychwelyd yn fuan. Penderfynodd mainc ynadol Machynlleth y dydd Or blaen i ganiatau cais tafarnwr am gael gwerthu diodydd meddwol mewn pabell gerllaw ei dy o un (/1' gloch hydi ddeg ddiwrnod eisteddfod Commins Ooch. Gwrthwynebodd Mr. Edward Davies, ond yr oedd digon o fwyafrif fel arall. Yr oeddwn yn tybio fod yr arferion hyn wedi darfod o'r wlad. Pa le yr oedd dirwestwyr Machynlleth? ♦ Drwy anryfusedd gadewais onw allan o Bwyll- gor Apel Mr. W. 0. Jones, B.A. Dyma fel y dy- asai enwau y Pwyllgor fod Parchri. Win. James, D.D., T. Gwynedd Roberts, John Owen, B.A., Mri Peter Roberts, U.H., Richard Williams, F.R.H.S., Drofnewydd; 0. Robyns-Owen, Pwllheli; Dr. ftoger Hughes, gyda'r Parch. E. James Jones, M.A., ysgrifenydd. Ychydig wythnosau yn ol crybwyllais fod Cofiant y Parch. Dr. Herber Evans wedi ei gyhoeddi yn feaesneg. Erbyn hyn wele y Cofiant Cymraeg wedi tWyn, yn llyfr destlus o 366 o dudalgnau. Elfed y yw awdwr y ddau; ond fel y crybwylla yn ei rag- ynaadrodd, gwahaniaetha y ddau gofiant gryn lawer, Ito o'r ddau, buaswn yn rhoi y flaenoriaeth i'r un ^mraeg. Gadawodd Dr. Herber Evans ar ei ol y 'ath doraeth o ddefnyddiau yn ei ddyddlyfr, a dar- "enant yn llawn gwell yn Gymraeg. Nid oes eu canmol, na chanmol y golygydd,—-maent ddigon adnabyddus,—a'r cyhoeddwyr hefyd,- p na raid eu canmol. Gyda'r cofiant rhoddir dar- «m rhagorol o Dr. Herber; Evans yn ei lyfrgell. I wneyd i fyny am brinder Ceidwadwyr yn Nghymru, mae Cymdeithas yr Undebwyr Cymreig wrthi yn ceisio dyfod o hyd i Geidwadwyr yn Llun- dain. Cadwaeant gyfarfocL ar ddeciirou eu hym- gyrch yil Llundain gyda larll Dinbych yn y ga.dair. Barnai y siaradwyr nad yw Cymru mor Ryddfrydol ag y myn rhai, a nodwyd etholiad Bwrdeisdrcfi Mynwy fel prawf o hyny. Ond ai nid yw y Toriaid yn arfer dweyd mai yii Lloegr y mae Mynwy ? ♦ Bu dadl yli ftghyfarfod dosbarth eglwysi Saesneg Mon, Arfon, a Dinbych, a gynhaliwyd yn Llan- dudno Junction ddydd Iaoll, ar y priodoldefo o fab- wysiadu y Llyfr Tonau Saesneg CyfundeboL Llyfr arall sydd yn cael ei ddefnyddio yn fwyaf cyffredin- ol yn eglwysi y glanau, a dadleuid yn y cyfarfod yn erbyn newid cyn y Gymanfa Ganu nesaf. Gohirio y ddadl a wnaed, er mwyn cael llais yr eglwysi. Nid oes genyf amheuaeth, os gwel yr eglwysi y Llyfr Cyfunclcbol, na bydd iddynt ei fabwysiadu. Nid wyf yn eael. tal am hysbysu1 y Ilyfr, a dylai y ganmolia-eth o gymaint a hyny fod yn gywirach. Clywais fod Syr Charles Lyell, Chief Commis- sioner Assam, drwy y swyddfa Indiaidd, wedi anfon sypyn o lawysgrifau gyda thuia chant a haner o gweetiynau yn dwyn perthynas a'r cangen ieith- oedd yn Ngogledd-ddwyrain India i'r Parch. Hugh Roberts, Treffynon. Y mae yr Indian Government yn dwyn allan yn awr yr hyn a alwant yn "Lin- guistic Survey of India," h.y. Trefniad neu Ddos-i barthiad leithyddol; ac y maent wedi apelio at Mr. Roberts am gydweithrediad i wneyd y gwaith yn nglyn a Bryniau Cassia a/r tylwytliaxi cyfagosol, a. dwyn y copi trwy y wasg. — Co Dyma. reolau, newydd aelodaeth o Ysgol Sabboth- 01 y Methodistiaid yn Nwyrain Meirionydd: -(1) Fod pawb sydd a'u henwau ar Gofrestr yr Ysgol neu ar Lyfr yr Athraw yn aelodaui o'r Ysgol Sab- bothol. (2) Y dylai athrawon fugeilio y rhai es- geulus ac arolygu eu rhestr yn fanwl ar ddiwedd blwyddyn. (?) Nid oes gan neb pwy bynag hawl i dynu enw neb oddiar y llyfrau heb ymgynghori a swyddogion yr Ysgol, y Cyfarfod Athrawon a'r Swyddogion Eglwysig. (4) Na ddylid cyfrif yn esgeuluswyr y rhai fethant fod yn bresenol am flwyddyn neu ychwaneg oherwydd eu galwediga.eth- au neu drwy afiechyd, llesgedd neu henaint. 4 Methodd y Rhyddfrydwyr ag enill bwrdeisdrefi Mynwy. Dychwelwyd Mr. SherifF Lawrence gyda mwyafrif o 343 ar Mr. Albert Spicer. Dyma yr eglurhad a rydd Mr. J. Bryn Roberts ar y di- gwyddiad — The failuse to recapture the Mon- mouth Boroughs, though a disappointment, ought not to surprise true Liberals. It simply illustrates once more the oft-proved truth that opportunism is not a. policy that will ever excite the conquer- ing enthusiasm of Liberalism. Mr. Albert Spicer is a prominent Nonconformist, an ex-President of the Congregational Union, a professed follower of the Prince of Peace; but at the previous contest, in the vain hope of abating Jingo antagonism, lie proclaimed himself an advocate of the war, which he described as just'—a war that has horrified the Christians of every country except our own. He has always been a supporter of the Nonconformist policy of undenominational State education; but in order to secure Irish votes he gave way on the question of the State endowment of a Roman Catholic University. He has always professed temperance views, and introduced the Bill for ex- tending the Welsh Sunday Closing Act to Mon- mouthshire; but hoping to mollify the liquor trade in Newport he promised not to do it again. I think it is no discredit to Liberalism that such a candidate as that failed to excite the energy and enthusiasm that alone can secure Liberal victories." Rhagorol! Pe bai rhagor o siarad plaen fel yna deuai pethau yn well. Y mae y Parch. Dr. Griffiths a'r teulu wedi cyr- aedd yn ddiogel i Fangor er nos Lun yr wythaps ddiweddaf. Y mae y teulu yn dda, ond y mae y Dr. yn cwyno, a than orchymyn caeth ei feddyg i beidio gwneyd dim gwaith cyhoeddus am rai mis- oedd, ond myned allan i'r awyr agored gymaint ag a fydd yn bosibl. Digon tebyg na chedwir y gyfraith hon heb ballu mewn un pwnc,'—ac an- hawdd iddo fydd peidio bod yn bresenol yn Nhy- manfa Aberystwyth. 0 Cafwyd ymdriniaeth fuddiol ar y GySes Ffydd' yn Nghyfarfod Dosbarth Penllyn, yr hwn a gyn- y haliwyd yn y Bala, Mai 8fed, yr hon a agorwyd gan y Parch. E. 0. Davies, B.Sc., Bala. Ymhlith pethau craill gahvyd sylw at y modd y mae wedi ei ranu. Gwaith dynion ydyw, ac felly nid ydyw yn anifaeledig. Fel arweinydd y dylid edrych arno, ac nid fel safon. Gellid ysgoi llawer o angliydwel- ediad pe byddai i'n holl aelodau ddeall ein cyfan- soddiad. Pa sawl aelod sydd yn deall y gwahan- iaeth rhwng cyfansoddiad Methodistiaeth ac Anni- byniaeth? Y mae pwysigrwydd y rban o'r Cyifes Ffydd" sydd yn ymdrin ag athrawiaethau crefydd i'w weled wrth i ni ystyried fod gwirionedd yn bwysig iawn ynddo ei hun ac yn ei effeithiau. Y dynion sydd yn deall yr athrawiaethau oreu ydyw y gvvyr mwyaf nerthol yn ein plith. Y mae yn bwysig iawn i'n holl aelodau ddeall beth a ddis- gwylir oddiwrth aelod eglwysig; beth ydyw per- thynas eglwys a disgyblaeth ? Y rhan sydd yn dwyn perthynas a'n- Cyfansoddiad sydd wedi eu hesg.euluso fwyaf. Da fyddai cael yr holl blant at ol eu derbyn i ddysgu allan y 'Rheqlau Disgybl- aethol,' a galw sylw yn fynych at yr Erthyglau yn y seiat. ProfF. Williams a sylwodd nad oes neb yn cymedd. yr hyn y mae Iesu Grist yn ddisgwyl idd- ynt. ei gyraedd ond mewn cymundeb ag eraill. Syniad CaLfin oedd fod yr eglwys, nid yn unig A ofalu am athrawiaeth, ond hefyd i wylio dros fuch- edd yr aelodau. Da fyddai cael anerchiad mewn ambell seiat gan wr cymwys ar Gyfansoddiad Meth- odistiaeth. Sylw John Elias oedd: Y mae fy ffydd i yn yr Ysgrytliyr Lan, ond y mae cyffes fy ffydd i yn y llyfr bach yna (gan gyfeirio at y Cyffes Ffydd'). Onid da fyddai i ni fel Cyfundeb ar ddechreu canrif newydd, wneuthur ymdreeb ir- benig i gael copi o'r 'Cyffes Ffydd' i ddwy- law ein holl aelodau, a'u cael oil i wybod ffurf yr atlirawia,eth iachus a rheol buchedd sanctaidd fel y dysgir hi ynddo.

"NA WYDDWN PA LE Y CAWN EF."