Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
LLAFUR RHAD. Vm
LLAFUR RHAD. Vm » ystod yr wythnosau hyn cynhelir £ rddangosfa Lafur yn Queen's Hall, Undain—yr hyn a elwir yn Sweat- Exhibition. Syniad rhagorol ydyw ynal arddangosfa o'r fath. Dylai Exhibition. Syniad rhagorol ydyw ynal arddangosfa o'r fath. Dylai S°rllygaid pawb o honom, a deffro'r yniad cyhoeddus i sylweddoli gor- a dioddefiadau tlodion ein dinas- oedd mawr. Nid yw'r syniad o gynal arddangosfa fel hyn yn wreiddiol i'r hon chwaith. O'r Almaen y aeth mewn canlyniad i arddangosfa ytfelyb a gynhaliwyd yno. Gwnaeth °nno yn yr Almaen argraff ddofn m^11 .ar kawb, ac yn enwedig y YaWrion. Cyffyrddodd galon yr ^erodres nes y dywedodd lawer SWaith — Ofnadwy, ofnadwy — a y^y'n angerdd ei henaid. Sylwer rnai yn yr Almaen ddififyndollol y fy^haUwyd hon. Honai Mr. Cham- erlain y buasai mabwysiadu diffyn- "ollaethyn ymlid ymaithhollhelbulon gweithwyr ein gwlad-y deuai mwy o Waith i'r gweithwyr, gwell cyflogau, a rnYrdd a mwy o gysuron. Ond ysyw- aeth mae y "Gyfundrefn Chwysol" (ow eating System) lawn gymaint Itlewn grym yn yr Almaen ag ydyw yma, os nad mwy. Modd bynag, o'r Almaen y daeth y syniad, ac mae'n deilwng o sylw fod y wlad hon ar y blaen i ni mewn nifer o bethau ar linellau cymdeithasol. Maent felly yn arbenig gyda'r Elberfeld System o lofalu am eu tlodion a'u plant bach aniddifaid, ac hefyd gyda'r hyn a J^,r yn Housing Problem, a'u Farm oionies i ddelio gyda'u dynion diog. fl wyneb hyn gallwn fforddio dysgu avver oddiwrth yr Almaenwr. Wedi cYnal yr Arddangosfa hon, cymerwyd y syniad i fynu gan y papur clodwiw Vv'nw y Daily News. A chyda llaw, Sadawer i ni gymell ein darllenwyr i derbyn y papur hwn. Nid oes yr un ?evvyddiadur yn rhoddi mwy o ar- enigrwydd ar newyddion Ymneill- U°1 ag a wna. Ac y mae y safle a Synier ar faterion gweithfaol a moesol J* hawlio cefnogaeth pob dyn. cre- Wdol. Dylai pob Wesleyad ei ddarllen pe ba'i dim ond oherwydd ei safle yng nglyn a hap-chwareuon a Phurdeb gwladol a moesol. Ar aw- grYm a chynllun y Daily News y ^nhaliwyd yr Arddangosfa hon. Fe'i ^gorwyd i'r cyhoedd ddydd Mercher, *ai 2il, gan y Dywysoges Henry o a^tenburg. Teimlai y Dywysoges boenus iawn wrth gymeryd i mewn Ystyr yr Arddangosfa-a pha ryfedd Ypg ngolwg y fath weledigaethau jgalon. Nodwn ychydig engraffau 0 r hyn a welir yno :-Shazvifr£nger Yn gorfod gweithio 170 oriau y dydd mwyn enill pum swllt yr wythnos. arall yn gweithio yr un oriau, ac yr un swm, wrth wneyd blouses. j^Wraig weddw yn gwneyd brushes— 11 Wrth y gwaith hwn am 57 mlynedd arhoddid 6J¡c, iddi am lenwi mil o yjlau bychain, ac nis gallai byth enlll dim mwy na chwe swllt yn yr wythnos. Mewn man neillduol y mae Personau yn gwneyd coronau con- f^ttiasiwn—y coronau a roddir ar 1 e°au y plant pan eu cyflwynir i gael edydd-esgob. Y swm a delid am fteyd dwsin ohonynt yw is. 9c. Ac fth blygu Beiblau gweithiai un arall y^ galed iawn i ennill dim ond naw Ut yr wythnos. Mewn man arall J oedd dynes yn gwneyd match- °xmes* ac yn cael y swrn hardd o ddwy jpiniog a ffyrling am wneyd deuddeg ohonynt! ar Arddangosfa tra- a ° r darlithiau gan bersonau o ^urdod ar wahanol agweddau y atcr difrifol hwn. Traddodwyd un n Mr Will Crooks, A.S., ar destyn spf es. Kingsley er's llawer dydd, w ^iHad Rhad a Ffiaidd." Yn Pruu ddarlith fe nodai engraffau iawn o ddrygedd y gyfundrefn front a chaled hon. Nodwn un engraff-Mrs. B. sydd wraig i grydd. Mae ganddi bedwar o blant, yr hynaf yn un-ar-ddeg mlwydd oed, a'r ieu- engaf yn wyth mis. Gorffen llodrau yw ei gwaith, a thelif hi am hyn yn ol dwy a dimai y par i ddynion a chein- iog a fiyr ling y par i fechgyn. Cymer pob par awr a hanner i'w gorffen a rhaid iddi dalu am yr edau allan o'i chyflog cywilyddus. Enilla ei phriod 13s. yr wythnos. Cyfartaledd ei chyflog wythnosol hi ydyw 4s. Yr oedd y teulu hwn o chwe pherson yn byw mewn un ystafell, a honno'n fudr a ffiaidd tu hwnt i ddesgrifiad." Mae'r desgrifiad a roddir o gyflwr y cartref tlawd yn ddigon i "yrru calon craig i wylo." Y budreddi, yr anifeiliaid man, a'r afiechydon Rhaid tynu'r Hen i lawr ar y cyfan. Cyfundrefn ofnadwy yw hon yn sicr a gwarth ar ein gwareiddiad crefyddol. Dyma'r gyfundrefn a ffynna mewn mil- oedd o gartrefi yn ein dinasoedd mawr. Beth a ddaw o ddynoliaeth ieuangc ein gwlad yn y dyfodol nid oes ond y nefoedd 3 ei hun a wyr. Oblegid fel y dywed un Pan nad yw'r llafur yn enill ond ceiniog yr awr, gwesgir pob aelod o'r teulu i wasanaeth er cadw'r cartref i fyn'd. Gosodir hyd yn oed y plant bach i weithio, ac nid yn unig y plant ond yr eneth hanner call, y ddynes eiddilaf, ac yn fwy na'r oil yr hen methiantus- rhaid iddynt weithio'n galed hyd yr anadl olaf. Ac felly rhaid llafurio nos a dydd a hyny heb orffwysfa hyd yn oed ar y dydd Sabboth." Onid yw hyn yn ofnadwy. Credwn y bydd yr Arddan- gosfa hon yn foddion i oleuo'r wlad a deffro'r syniad cyhoeddus ar y mater. Yn awr beth ellir wneyd i atal cyfun- drefn anfoesol fel hon ? Nid gwaith hawdd ydyw ateb hyn mewn llith mor fyr. Y mae yn fater mor cang ac aml- ochrog fel y dylid ysgrifenu cyfrol er gwneyd cyfiawnder ag ef. Ond gallwn roddi ychydig awgrymiadau cartrefol ar y mater. Yn un peth, dylid dangos rhan a chyfrifoldeb pawb ohonom yn y peth hwn. Oblegid wedi'r cyfan pwy sy'n gyfrifol am yr aflwydd hwn ? Pwy ydyw y gwir chwyswyr (sweaters) ? Atebwn mai cymdeithas gyda'i gwangc am bethau rhad, costied a gostio i eraill. Tra mae gwangc afresymol ym mhlith pobl am radlondeb nis gellir symud y drwg hwn. Nid yn erbyn yr awydd am bethau rhad y cwynwn, ond yn erbyn yr awydd afresymol. Ni charem ennyn rhagfarn cenedlaetnol ar unryw gyfrif, ond rhaid addef mai'r pechaduriaid pennaf yn y cyfeiriadau hyn yw'r luddewon—y rhai a gerddant o ddrws i ddrws gyda'u sweated goods rhad, a'r rhai hyny wedi eu gwasgu allan o ing enaid a chwys oer trueiniaid ein dinas- oedd mawr. Darllener Hobson's Pro- blems of Poverty a gwelir hyny'n amlwg iawn. Mae ganddynt eu siopau yn ein dinasoedd lie y gwerthant grysau wedi eu gwneyd yn ol dau swllt a cheiniog a dimai y dwsin, a man ddillad eraill wedi eu gwasgu allan o drueni eraill. Tybed na ddylai ein pobl aberthu i beidio prynu sweated goods o fath yn y byd. Credwn yn sicr y dylem hyd mae'n bosibl. Dylid hefyd roddi llafur cartretol o dan arolygiaeth manylach. Mynn rhai y dylid ei atal yn hollol, ond ni charem yn awr fyned mor eithafol a hynny. Modd bynag, fel y mae pethau'n awr gall y Jewish sweater osgoi holl gyfrinion y Deddfau Gweithfaol a gormesu tru- einiaid fel y mynn. Dylid cofrestru pawb sy'n cymeryd gwaith gartref a'u gosod hwy, eu cartrefi, a'u gwaith o dan arolygiaeth llywodraethol. Paham y dylid caniatau i'r chwyswyr hyn gael osgoi'r Deddfau Gweithfaol o gwbl ? Methwn a gweled paham. Dylid cynorthwyo'r trueiniaid a or- mesir fel hyn i uno a'u gilydd er eu galluogi i sicrhau eu hiawnderau. Mae Trade Unionism wedi gwneyd lles mawr yn y cyfeiriad hwn yng nghylchoedd uehaf llafur, a dylai wneyd yr un peth ond ei fabwysiadu yn y cylchoedd isaf. Dylai'r Syniad Cyhoeddus, a'r Eglwys Gristionogol gynorthwyo'r bobl hyn i ymuno nes sicrhau gwell trefn a chysur cartrefo!. Ac yn ddiweddaf oil, byddwn yn lan ein hunain oddiwrth yr aflwydd hwn. Ni ddylai yr un dyn amlwg a chyhoedd- us gyda chrefydd gadw dynion o dan gyflog. Y mae ami i ddyn yn ein gwlad yn sicrhau pob tender a contract am ei fod yn "chwyswr." Mae'n hen bryd i ni fel dinasyddion crefyddol i godi ein llais yn erbyn y gyfundrefn ym mhob ffurf a modd. Prin y gallwn gondemnio'r gyfundrefn hon fel un foesol ddrwg os yn euog o'i chefnogi ein hunain. Cymaint ohonom ag sydd yn caru tegwch a chynydd cymdeithasol, syniwn hyn.
§o§ ISodion Golygyddol."-.
§o§ ISodion Golygyddol. Y Ddadl ar y Mesur Addysg. Dechreuiwyd y ddadl fawr ar y Mesur Addysg yn Xhy'r Gyffredin nos Lun. Wedi i Mr Birrell gynyig yn fturfiol fod y Mesur i gael ei ddar- il-en yr ail waith, cododd Mr George Wyndham, ar nan yr Wrtliblaici. i gynyg- fod y Mesur i gael ei wrthod. Siaradodd yn griyf ac yn wyllt yn er- byn y Mesur—er nad mor wyl It ac y igwnai dro yn ol mewn cyfarfod cy- lioeddus—a dywedodd y rhoddai igw'rtlhwiyneiM-ad angliymodlawn iddo ar hyd y ffordd. Galle-sid tybio oddiwTfrn ei araeth .fod cynllunwyr y Mesur wedi rlioi eu bryd ar ddinys- trio Eglwy.s Loegr ac mai y pechod ni wvaf allesid gyflawni ydoedd cyff- wrdd ymddiriedolaetli 3-r Ysgolioib Elglwiysig yn Satfr y cyhoedd. Syl- faenai ei holl dd'ad'l ar yr anghen- rheidrwydd a'r cyfiawnder o gynal i fyny y gyfundrefn ddeuplyg—yr hon a ddiddymir gan Fesur Mr Birrell. Oondemniai yn aribennig y ,cynygiad i roddi Oynghor Addysg i Gymru, gan y bydd a i hyny yn xlioddi yr Eg- Iwyswyr yn hiollol yn llaw yr Ymneill- duwyr. Mewn gair, siaradodd Mr WyndTiam yn union fel pe na bai yr un etholiad cyffredinol wedi cynieryd lie. Ar ei ol, cododd Syr Henry Fowl,er a e, ar unwaitli dygodd y Ty yn 61 at y ffaith arnlwg yn y safle bre- senol—y ffaith fod etholiad lana-wr wedi gwneyd prif egwyddorion y Mesur yn anoelieladwy. Rhoddodd gerydd haeddianol, mewn ton urddas- ol, i Mr Balfour am ddefnyddio iaith mor ei'tlrafol, y tu allan i'r Ty, o hert'hynas i'r Mesur a'i bleidiwyr. Gwrthdystiai yn bend ant yn erbyn haeriad Mr Balfour fod pleidwyr y Mesur yn ameanu at ddinystrio Eg- lwys Loegr," adywedodd mai "non- sense oedd gal'w. cynygion teg y Mesur yn nglyn a defnyddio yr ys- golion enwadol yn ( y s'hei lirad Camdde)fnyddio yr iaith Saesneg yd- yw peth felly," meddai Syr Henry, a byddai llawn mor briodol i chwi ei alw; yn llofruddiaeth." Yn niw- ildd ei araeth, apeliai Syr Henry ain i'r Wrthhlaid roddi'r credyd i'r Lly- wodiiaetli o fod yn gviwir yn eu ham- can. M a e' r wl a d," meddai, wedi penderfynu o blaid dwy egwyddor iratwr y Mesur, ac ni thrown yn ol oddiwiith yr egwyddorion hyn, hyd yn oed, yn nanedd gwrthwynebiad angliymodiarwii': ond nid wyf yn me- ddwl fod adnoddau g' wlad w ei ni a e Hi Prydeiniig, na goddefgarwch Cristion- ogol wedi eu hyslbyddu gymaint fel nad aUwll dd'od i ryw gytundeb fy- dd o'n de-go i bob plaid." Yn ddilynol, siaradwyd gan Mr. T. P. 0' Connor a Mr. Belloc, y rhai a ddadleuasrallit drüs y safle Babyddol, a chan Mr. Berks, Dr. Macnamara, a Mr. Maedonaid. Nid oedd ton yr un o'r areitliiau nxor aiigliymotllaw^i v ag eiddo Mr. Wyndham. Parhawyd y ddadl nos Fmvrth gan Mr. Lloyd George, Syr William An- son, Syr F. S. Powell, ac eraill. Caf- odd Mr. Lloyd George Dy llawn i arno a thradcTododd araetli graf, finioig a hyawdl iawn. Dang:hos- ai mor afresymol oedd y gwrtliwyneh- iad a ddaiigliosid tuag1 at y Blwrdd Addysig Cymreiig-, ac egluredd mai 'ClteriigaeMi oedd wrth wraidd y gwrtli- wyndbiad a amlygid tuaig at y Mesur. Mae'r werin yn Ffrainc, yn yr Unol Jhlaethau, ac yma," meddai, wedi d'od i'r penderfyniad mai offeiriadaetli ydyw'r .gelyn, ac y maent yn bender- fynol o'i drecliu." Hyderwn y bydd i'r Liywodraeitli gadw at ei gynau hefb ildio dim i'r gelyn hwn, ac yr anfon- ir y Mesur fel y mae i Dy yr Ar- glwyddi. yi ddylid ildio fodfedd yii rhag-or nag" a wneir yn y Mesur i fodd- hau y cleri;gw\-i'.
|o| HARDDLTR ATHRAWIAETH
|o| HARDDLTR ATHRAWIAETH BVWYD cyson a dilychwin y gwir Grist- ion ydyw y dystiolaeth orea yn tfafr Cristionogaeth. Y ddadl gryfaf yn bosibl all yr Eglwys ddwyn yn mlaen i gyfarfod ymosodiadau'r gelynion ydyw y type o gymeriad a gynyrchir yn ei haelodau, a'r ymdrech a wna i sicrhau cyfiawnder a phurdeb yn y bywyd cen- edlaethol. Bellach, mae wedi d'od yn fater o reidrwydd arnom i gydnabod y safle hon, a cheisio byw i fyny a'r cyfryw. Gogwydd pethau o'r tuallan i'r Eglwys ydyw iselu safonau moesoldeb -tynu y safon i lawr o'r hyn a ddis- gwylir oddiwrth yr unigolyn yn ogystal a chymdeithas. Wrth gwrs, mae'r naill yn dilyn y Ilall-canlyniad anochel- adwy anghofio cymhelliadau cryfion crefydd i ymarweddu heb i safon moes- oldeb syrthio i lawr yn lied lsel. Ofnwn weithiau nad yw cryn lawer o'n Crist- Z, ionogaeth amgen na ffigysbren ddi- ffrwyth. Os ydyw Eglwys Crist am gyfiawnhau ei safle ger bron y byd, rhaid iddi roddi sylw dyladwy i drbi pobpeth yn gyfryngol i ddwyn ffrwyth. Dwyn ffrwyth ydyw amcan cyntaf a phenaf yr Eglwys,—nid yw pobpeth arall ond israddol a gweinyddiadol i'r dyben hwn. Plyged pobpeth yn ngwasanaeth ffrwyth gynyrchiant. Pa ddyn a neilldua ddarn o dir i wneyd gardd neu berllan i'r unig amcan o godi offer-dy ? Buddiol ac angenrheidiol celfi mewn gardd. Myner hwy o'r cynlluniau, defnyddiau, a'r gwneuthuriad diweddaraf. Ynfyd, serch hyny, fuasai cael gardd neu winllan i ddim amgen nag i ddangos yr offer-dy a'r ceIfi. Nid yw nemawr o wahaniaeth genym, yn y pen draw, pa fath tool-house, neu pa ryw gelfi fedd y dyn i drin ei goed, y pwysicaf peth o lawer ydyw, pa fath ffrwyth gynyrchir ar y prenau? Os yw y penaf peth yn absenol, llawn mor ynfyd gwneyd ymffrost o'r pethau lleiaf ag ydyw i ddyn ymffrostio yn ei tool-house a'i gelfi, pryd ha fydd ganddo ddim i'w ddangos ond prenau moelion heb ffrwyth arnynt. Dysger yr athraw- iaethau; ond oddieithr fod genym ddim i'w gynyg i'r byd ond uniongrededd athraw- iaeth, nid ydyw'n fymryn gwell na'r dyn y C;1 y feddyliai fwy o'i gelfi na'i ffrwythau. Nid yw ein credoau duwinyddol, ffurfiau, ordinhadau, trefniadau crefyddol, amgen na chynal-byst, gweinidogion i'r prenau dyfu arnynt, a ffol odiaeth yw mawrhau y cynal-byst ac anwybyddu y ffrwyth. Ffrwyth cyfcethog, melus ac aeddfed, ydyw yr unig beth a gyfiawnha fywyd crefyddol. Perthyn i'r ddadl hon bwysigrwydd arbenig yn ngwyneb yr ymosodiadau parhaus a wneir y dyddiau presenol ar yr holl safle Gristionogol. Awgrymiadol iawn o ogwydd yr oes ydyw yr hyn a ddywed Golygydd yr Hill)ei-tjoiti-iial mewn erthygl o:i eiddo yn y cyhoeddiad crybwylledig ychydig fisoedd yn ol, Is the moral supremacy of Christendom in danger ?" "Y mae Cristionogaeth yn fethiant yn ei dylanwad ar gymeriad (meddir). Y mae Japan wedi cynyrchu cystal a gwell cymeriadau hebyr Etengyl ac un o arwyddion gobaith yn awr yw undeb rhwng nerthoedd Cristionogaeth a'r eiddo Buddwaeth i godi y ddynol- iaeth." Parodd y cwestiwn syndod nid bychan: A ydyw uwchafiaeth foesol y byd Cristionogol mewn perygl ?" Ni chodid y cwestiwn byth oni ba'i fod rhywbeth o'i Ie. Meddylier drachefn am boblogrwydd llenyddiaeth amheuol. Ofer anwybyddu y derbyniad anghyffredin a gaiff llenydd- iaeth newyddiadurol a pamphledol ydynt a'u cyfeiriad yn groes i Gristionogaeth. Gwerthir peth wmbreth o lenyddiaeth amheuol rad yn Lloegr a Chymru heddyw. Mae'r Clarion yn parhau i ymosod,-dichon nad yn yr un ffurf ag y gwnaeth dipyn o amser yn ol. Ateb- wyd Blatchford drosodd a throsodd drachefn. Gwnaed yr atebion hefyd yn gyraeddadwy o ran pris i'r werin, a hyny gyda phrydlonrwydd canmoladwy. Of- nwn, er hyny, nad cymaint croeso gafodd ac a gaiff yr atebion ag a gafodd ac a gaiff yr ymosodiadau felly coeliwn yn sicr nad trwy ymgyrch lenyddol y concrir y gelyn hwn. Pa gyfrif ellir ei roddi, tybed, dros barodrwydd cynifer yn y deyrnas i gefnogi pob math o ym- osodiad ar grefydd ? Nid am fod y werin o angenrheidrwydd yn wrth- grefyddol, neu am fod y bobl yn awyddus i ymddihatru oddiwrth atalfeydd crefydd ar ffordd ymollyngdod i bechodau y cnawd. Nid er mwyn cael rhwyddineb i borthi ei chwant a'i blys fel yr aw- gryma rhai, y dengys y werin awydd i wneyd i ffwrdd a chrefydd. Coeliwn nad oes gelyniaeth wirioneddol yn meddwl y werin i egwyddorion Crist- ionogaeth, a llawer llai i ddysgeidiaeth Iesu Grist. Teimlo wneir nad yw yr egwyddorion hyn yn cael eu cario allan megis ag y dylent yn mywyd y bobl a'u proffesant. Llawenychai y dyn o'r tu allan yn yr ymosodiadau ar Gristionog- aeth. Mae crefydd Crist a'r Eglwysi yn ei olwg yn gyfystyr-am y tybia fod yr ymosodwyr yn dadlenu'r gau a'r rhag- rithiol. Diameu yr anwesir cymhellion eraill ac is wrthun, ond credwn i ni ddadgan yn weddol glir deimlad y rhan luosocaf o oreuon y werin, yn arbenig y rhai mwyaf deallgar o honynt. Ceir prawfion mynych iawn nad yw y bobl yn gyffredinol byth yn fyr o dalu gwar- ogaeth i ddysgawdwr neu weithiwr Cristionogol gonest a hunanymosodol. Cenfydd hyd yn nod dyn yr heol y gwir beth pan wel Ef: a gall ei brisio am ei wir werth. Materion yw y rhai hyn sydd raid i'r eglwysi eu cymeryd i ystyriaeth. Rhaid gosod y ty mewn trefn, a symud o'r ffordd achosion tramgwydd. Cyn y ceir diwygiad crefyddol yn y byd o'r tuallan, rhaid cael adfywiad ysbrydol oddifewn i'r eglwys. Hen wirionedd, ni addefwn, nnd ronyn gwaeth er ei ail-ddyweyd. Diolch am yr hyn a gafwyd yn ddi- weddar yn ein gwlad ni ac yn mhlith cenedl y Cymru. Ond ni chyrhaeddodd ei ddylanwad nemawr tuallan i'n gwlad ni ein hunain, ac ni fu iddo brin gyffwrdd a neb tuallan i gylch neillduol. Casbeth genym feirniadu eto, geilw dyledswydd a chydwybod arnom i fod yn onest. Tra yn addef y bendithion a gafwyd trwyddo ni ellir celu y ffaiih i'r effeithiau moes- egol gael eu gorliwio yn anghyffredin. Ni charem awgrymu diffyg cywirdeb a didwylledd ond coeliwn y priodolwyd, yn mhoethder sel a brwdaniaeth, gormod o rin i'w ddylanwad fel gallu i ddyrchafu moesau a buchedd y bobl. Achubwyd ugeiniau, yn ddiau; diwygiwyd moesau canoedd dros arnser eithr nid gwiw anwybyddu'r ffaith fod pethau bron yn yr un stad heddyw ag oeddynt cynt. Aniweirdeb, meddwdod. anonestrwydd, ac anghyfiawnder cyn uched eu penau yn mron ag o'r blaen. Pentrefi a threfi lie cynhaliwyd cyfarfodydd bob nos o'r wythnos hyd oriau man y boreu yn bur gywilyddus eu moesau ar ol y cyfan i gyd. Ofer cau ein llygaid ar ffeithiau. Canwyd a gweddiwyd gormod o lawer. Aeth crefydd yn fater o gyffro a helynt. Gwariwyd yr ager y dylasid ei ddiogelu i wneyd gwaith effeithiol i ddim amgen na chwibianu. Ychydig o bwar sydd yn aros, oblegid afradwyd y steam mewn screchiadau. Da cael canoedd i gyfar- fodydd crefyddol, ond mae eu heisiau i rywbeth heblaw i ganu a bloeddio. Da cael cynhadleddau i siarad ac i ymddidd- an, ond dylai y cyfan gael ei droi i'r ymarferol. Ein hangan mawr ydyw dylanwad tawel, parhaus y bywyd Crist ionogol mewn cymeriad a gwasanaeth. Dylern fel Cristionogion wasgu at ein calonau a'n cydwybodau eiriau'r Athraw "Wrth ei ffrwythau yr adnabyddwch hwy." Mae hyn yn angenrheidiol, nid yn unig yn muchedd beunyddiol yr unig- olyn Cristionogol, ond hefyd yn ysbryd a gwaith yr eglwysi ac yn y dylanwad a genr ganddynt yn y materion hyny ddalient berthynas a bYlvyd cenedl- ae h )1. Harddu athrawiaeth Crist yn mhob peth ydyw dyledswydd penaf pob Cristion, ac nid yw yn llai o ddyled- swydd yr Eglwysi yn eu hansawdd corphoraidd. Hyn yw y dystiolaeth oreu ellir ei roddi o ddiffuantrwydd a galla y ffydd sydd ynddynt ac mae'r dystiolaeth yn gyfryw nas gall neb ei gwadu na'i chamgymeryd.