Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ARGOED A'R STRIKE.

GAIR AT LYWYDD UNBE8 ALCANWYR…

GWELEDIGAETHATJ DANIEL.

STRIKE Y PUDDLERS, PONTARDULAIS.

AT MR. PHILLIP HARRIS.

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

YMFUDIAETH A PHA LE I YMFUDO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

eteill yn aros i ni fyned i'w meddianu a'u triii. Y mae llawer o wahanol weithwyr yn ym- fado y dyddiau hyn, er cymaint yw bywioz- jwydd masnach yn ein gwlad yn breaenol. «alw mawr am lafurwyr amaethyddol taa New Zealand. Dylal pob dyn ystyried yn gyntaf cyn ymfudo pa wlad sydd oreu iddo e,n tori i fyny ei artref, a pha alwedigaeth fYdd yn bwriadu ei dilyn. Ni chynghorwn i fceb fyned i'r Unol Dalaethau fel glowyr neu Weithwyr haiarn, o herwydd fod y supply yn f*y na'r demand; ond "rhydd i bob dyn ei aci bob Harn ei llafar." Taa 17 mtliwn 0 dynelli ydyw galwad marchnadoedd yr triol Dalaethau o lo bob blwyddyn, ond codir tua 25 miliwn yn flynyddol; felly y mae Wyth miliwn yn ormod i ateb y tarchnad. Dyna yw y rheswm o'r strikes parhaus sydd yno, am fod rhyw anghydfod yn dygwydd yn •ml rhwng y meistr a'r gwe thiwr. Wel, pa wlad sydd oreu ymfudo iddi, ynte ? Y mae Ra da i gael tir yn rhad tua Nebraska a Kansas, talaethau gorllewinol America Og- leddol; ond y mae yn ofynol cael llogell go drom i gyrhaedd yno a chael fferm weddol. Y mae cryn bellder ar ol croeal y Werydd cyn cyrhaedd yno. Y pelider o New York I Kansas sydd tua 1,500 o filldiroedd, a chym- erir pedwar diwrnod i gyrhaedd y lie uchod gyda'r rheilffordd o New York. Wel, pa wlad y try y gweithiwr Cymreig el olygon i ymfudo ? Beth pe bawn yn dweyd gair neu ddau am Batagonla. fel gwlad gym- .Bvya i'r Cyairo i ymfudo iddi, ac ymdrechaf ddyfod ag ychydig rhesymau dros hyny. Y mae yn wlad eang iawn, ac o hinaawdd iachus —yr iachusaf ar wyneb y ddaear, medd y Gwladfawyr eu hunain. Y mae y tir i'v^ gael am ddim ond myned i'w feddianu. Gellir gwneud dyffryn Camway yn baradwya trwy d ddyfrhau. Y mae 70 o filldiroedd o hyd, a thua chwech milldir o led, a'r afon hefyd Jn fordwyol am amryw filldiroedd, ac felly y mae yn gyfieus i fasnachu yn mron a holl farchnadoedd y byd, am mat y mor yw prif heol y byd. Yr ydym fel cenedl Gymreig Wedi colli ein hannibyniaeth yn y wlad hon, ,& chan ein bod wedi cael Patagonia i'w meddianu yn rhad ac am ddim felly yr enillwn ein hannibyniaeth yn ol trwy ymfudo yno, a'i gwneud yn dalaeth i lywodraethu ein hunain pan y daw yn ugain mil o boblog- 88th. Bydd yn cael ei chyfrif yn dalaeth o'r Weriniaeth Argentaidd. Fel talaeth, bydd ganddi el his-lywydd, el senedd, ei chyngor, a'i llys barn, &c. Y mwy dwy elfen yn todoli yn mhob gwlad, sef yr elfen ffurfiol 4'r elfen doddawl. Pe ymfudwn i New Zealand, Awatralia, Canada, neu yr UnoL .Dalaethau byddai y Gymraeg yn elfen dodd- awl yn y lleoedd uchod, a'r Seisnig yn un Sornol,! fel yn y wlad hon; ond yn Pata- gonia bydd y Gymraeg yn elfen ffurfiol, a phob iaith arall yn un doddawl. Y mae y diriogaeth hon yn perthyn i'r weinyddiaeth vchod. Ei hyd o'r gogledd i'r de yw 1,100 o filldiroedd, a'i lied o'r dwyrain i'r gorllewln nydd tua 500. Ei arfordlr sydd yn 3,000 o filldiroedd. Y mae hinsawdd y wlad yn amrywio o wresog i oer. Y parth gogleddol sydd boethaf, ond nid yn rhy boeth I gyfan- aoddiad y Cymry. Yn y de, tua Cape Horn, y mae yn oer; ond lie y mae y Cymry wedi ymsefydlu y mae yr hinsawdd yn dymerus lawn, tebyg i hinsawdd Kansas, America Ogleddol. Y mae yr anifeiliald allan trwy y flwyddyn, yn ol tystiolaeth y Gwladfawyr eu hunain. Sych ydyw y parth lie mae y Cymry wedi ymsefydlu, ond y mae digon o ddwfr yn yr afon yn barhaus i ddyfrhau, yr hon sydd yn 30 llath o led, a dwy lath o ddyfn- der. Y mae cant erw o dir i bob tri dros 12 oed yn y Wladfa uchod, ac amryw bethau ereill ag sydd yn angenrheidiol yn ol trefn y ewmni ymfudol; felly y mae Patagonia yn thagori ar bob gwlad arall. Byddwn yno fel un teulu Oymreig er cadw ein hiaith, ein harferion, a'n crefydd, yn hytrach na bod yn nghano1 gwahanol genedloedd y byd yn was- garedig ar hyd yr Unol Dalaethau. Y mae llawer o ddynion ieuainc ein gwlad yn ym- fudo i America ac Awatralla, a .llawer o honynt yn ymsefycUu mewn lleoedd da er enfll arlan, ond eto yn amddifad o gyfleus- derau crefyddol; felly y mae 4ynion ieuainc yn gadael eu gwlad genedigol, a chyneusder- tm orefyddol ar bob llaw, gan ymsefydlu yta mhlith ereill, a thrwy hyny yn colli y cyf- leusderau crefyddol lawer pryd, y mae efsieu cael trefn ar ymfudiaeth yn gystal a phob peth arall. Wei, y mae yr amcan wedi cychwyn ond i III ei weithio allan a throi y ffrwd ymfudol i Patagonaldd. Y mae un o'r Gwladfawyr yn y wlad hon yn bresenol, sef y Parch. A. Mathews, (gynt o Llwydcoed, Aberdar), yr hwn a aeth allan gyda y fintai gyntaf wyth mlynedd i'r haf hwn. Y mae gan y Parch. Mr. Mathews gystal fferm ag un yn y Wladfa. Y mae wedi gweled llwydd ac afiwydd, ond yn awr wedi gorchfygu rhwystrau. IAGO GLANTAWE.