Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

BWRDD Y GOLYGYDD.

AT EIN DOSBARTHWYR.

TALIADAU,—

[No title]

TREM I'R DYFODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREM I'R DYFODOL. Pa beth a fydd canlyniad yr etholiad eyffredinol sydd bellach gerllaw? A fydd iddo ddybenu mewn buddygoliaeth i'r Ceidwadwyr, neu a fydd i'r blaid Rhydd- frydig adenill ei gafael ar y wlad a dych- welyd ei chynrychiolwyr i St. Stephan ar frig y llanw mawr, fel y gwnaith y tro o'r blaen? Dyna y cwestiynau sydd yn cael eu gofyn ar bob llaw, ac amrywiog y ceir yr atebion iddynt. O'n rhan ein hunain, rhaid i ni addef yn onest nas gwyddom ni pa atebiad i'w roi. Ymddengys i ni fod teimlad y wlad mewn sefyllfa mor anmhen- derfynolac ansicr, fel anhawdd dros ben ydyw anturio ar ffurfio barn. Nis gall, feddyliem ni, nad yw y Ceidwadwyr yn y lIeiafrif mewn gwlad mor oleuedig a hon; ac nis gall, ymron, nad yw majority y Rhyddfrydwyr yn un dirfawr: ond, yn rhywfodd neu gilydd, y mae y fyddin Geidwadol, er yn llai o rif, yn fwy compact, yn fwy unol, ac yn cael ei ha r wain yn fwy deheuig, ac y mae good generalship yn haner y peth mewn brwydr. Diameuus ydyw fod gwell organization o lawer yn mhlith y Toriaid: y mae y blaid hon fel un peiriant dros yr holl deyrnas, holl olwynion a'i holl ranau yn cyd-droi ac yn cyd-weithio gyda chysondrefn berphaith. Nid ami y gwelir y blaid hon yn gosod dau Geidwadwr i fynu i ymladd am yr un eisteddle: nid yw hi fyth yn rhanu ei forces-, tra y mae y blaid Rhyddfrydig, yn ami iawn, yn gosod dan, tri, ac weithian rhagor, i ryfela a'u gilydd yn lie a'u gelyn- ion. Fe wna nant fach fwy o waith nag afon gref fo wedi ei rhanu i fynu mewn amryw o channels gwahanol. Fe ymddengys y bydd ymladd taer am lawer o eisteddleoedd Deheudir Cymra. Gallem ni feddwl nad yw y Rhyddfrydwyr yn ddigon doeth yn mhob rhan o'u pro- gramme. Onid gwell gadael Mr. Halliday lie y mae, na pheryglu eisteddle y naill neu y llall o'r Aelodau presenol? Dynion da, defnyddiol, affyddlawn, ywMr. Richard, a Mr. Fothergill, ac o'n rhan ni nid oes eisiau eu gwell. Y mae ffyddlondeb Mr. Richard i bob Rhyddfrydiaeth, yn nghyda'i enwogrwydd bydledol fel apostol Cyfla- fareddiad, yn ei wneud yn anrhydedd i unrhyw gynrychiolaeth gael y fath mron yn y Senedd. Fe ddylai Merthyr ac Aberdar ddal mewn cof mai nid peth bach ydyw cael boneddwr fel Mr. Fothergill i fyw a throi yn eu mysg-gwr ag y mae ei gyfoeth yn cylchredeg oddifewn i'w cylch hwy eu hunain, ac yn creu bywyd ac yn gwasgar digonolrwydd tymorol trwy eu hollystrydoedd poblog. Ni a ddywedwn fwy; ni a ddywedwn mai peth mawr yw cael gwr fel efe yn ein plith, ac i'n cyn- rychioli, yn enwedig pan gofidm ei fod, gyda llaw, yn Rhyddfrydwr. Y mae Mr. Fothergill yn gwneud llawer iawn drosom ni; a phe ddiffoddid ei ffwrneisi y fory, byddem yn sicr o deimlo hyny: ac a awn ni i ad-dalu iddo ei wasanaeth erom, trwy ei daflu o'i eisteddle ? Nis gall neb, cofier, barchu Mr. Halliday yn fwy na ni, ond yr ydym yn credu ei fod ef yn bresenol yn ei le ei hun-yn y lie y gall wneud fwyaf o les i'r dosparth gweithiol. Oredwn y gwna efe fwy o ddaioni wrth areithio i'r glowyr a'r mwnwyr, nag a wnelai wrth areithio i'r Senedd Brydeinig fel ag y mae yn gyf- ansoddedig yn bresenol. Fe wna pob etholwr, wrth gwrs, fel y gwelo yn addas; ond fe'n tueidir ni yn ddibetrus i adael well alone.

[No title]

EISTEDDFOD GADEIRIOL NEUADD…

ESGORODD,—~

PRIODWYD,-

BU FARW.—

[No title]