Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

Eisteddfod y Porth, Cwm Rhondda,…

Geiriau Doethineb.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Geiriau Doethineb. XENOCRATES, yn parhau yn ddystaw tra yr oedd dadl frwd yn myned yn mlaen, gofyn- wyd iddo paham na byddai yn siarad ? Oherwydd," meddai, "yr wyf wedi edifar- hau rai gweithiau am siarad, ond anaml iawn am fod yn ddystaw." QUINTILLIAN, yr hwn oedd yn feirniad lied gywir o'r ddynoliaeth, a arferai lawenychu pan welai fechgyn yn wylo pan yn cael eu curo mewn dysgeidiaeth gan ou cyd-ieuenctyd yn yr ysgol, oblegyd byddai i'r teimlad o warth a chywilydd wneyd iddynt eu hefel- ychu, ac efelychiad a wnelai ysgolheigion ohonynt. SYR JOHN MASON, yr hwn oedd yn gynghor- ydd cyfrinachol i bedwar o dywysogion, ac a elwid i gymeryd rhan yn ngweithrediadau mwyaf pwysig y Wladwriaeth am ddeng mlynedd ar ugain yn olynol, a ddywedai fel y canlyn :—" Y mae fy holl brofiad a'm hym- chwiliad i mewn i bethau wedi fy nwyn uwch- ben y meddyliau sylweddol hyn, sef mai Difrifoldeb yw y doethineb mwyaf, Cymedr- oldeb yw y feddyginiaeth oreu, a Chydwybod Dda yw yr ystad dymunolaf." AUGUSTUS, yr hwn oedd yn dueddol iawn i dymher ddrwg, a gafodd y wers ganlynol oddiwrth Athenodorus, yr athronydd :—Cyn gynted ag y teimlai y cynhyrfiadau cyntaf o dymher ddrwg, y dylai adrodd o ddifrif holl lythyrenau y wyddor, oblegyd gellid yn rhwydd ffrwyno tymher ddrwg, ond nid mor rhwydd y gellid ei gorchfygu. SOCRATES, pan wedi cael ergyd ar ei ben, a sylwai y byddai yn dda pe b'ai dynion yn gwybod pa bryd yr oedd yn angenrheidiol iddynt wisgo helm ar eu peuau. Pan giciwyd ef, dro arall, gan ryw ddyhiryn trystfawr, a'i gyfeillion yn ryfeddu at ei amynedd, Beth meddai, os bydd i mi gael fy nghicio gan asyn, a oes rhaid i mi ei ddwyn o flaen y barnwr ?" Pan ymosodwyd arno gan rywun mewn iaith isel ac anweddaidd, dywedodd yn dawel nad oedd y dyn eto wedi ei addysgu i siarad yn foneddigaidd. A phan yr hysbys- wyd ef fod rhywun yn traddodi areithiau sar- haus a dirmygedig am dano yn ei gefn, ni wnaeth ond yn unig yr atebiad ysmala a gan- lyn :—" Gadewch iddo hefyd fy nghuro pan y byddwyf yn absenol. PLATO, yn clywed ei fod yn cael ei fyn- tumio gan ryw rai ei fod ef yn ddyn drwg, a ddywedodd, Bydd i mi geisio byw yn y fath fodd fel na chred neb mohonynt ac ychwan- egai, fod personau cenfigenllyd yn debyg i ddynion yn sefyll ar eu penau-yn gweled pob peth go chwith. Cyf. DOETHAWR.

[No title]