Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Trecynon Seminary, Aberdare. R. J. JONES, M. A,, HEAD MASTER. PUPILS prepared for the University Local, and JL other Examinations. Duties will be re sumed on JANUARY 11th, 1881. Vacancies for Boarders. r BWRDD Y GOLYGYDD. AT DEWI WYN 0 ESSYLLT.— Dymuna un o'r eni Joshua, Merthyr, arnoch hyshysu trwy gyfrwng ein papyr pa un ai y sain wreiddiol y ynte y sain fenthyciol u ddylid rhoddi i'r llythyren y yn y gair gwyneb (face). I AT Y PARCH. J. JONES, Glyncorwg.—Ysgrifena Cystadleuwr atoch, yn gofyn a fyddwch chwi mor garedig a danfon eich beirniadaeth ar gyf- ansoddiadau Eisteddfod Resolven, Nadolig, 1880, lr GWLADQARWH. ALAW DDIJ.—Drwg genym nas gallwn wneyd eich cais. Ein gofod yn rhy brin. CASTELLYDB.—Adroddiad un arall wedi ei gysodi cyn i'ch eiddo chwi ddyfod i law. CLUST YR AWEL.-Rhaid i ni gael enw priodol gyda phob ysgrif a ddanfonir atom. ElSTEDDFODWR. —Ni wna cyhoeddi eich llith ddim ond creu cynen. Gan hyny, gwell fydd tewi. DEWI BACH.-Methasom yn lan gael gofod i'ch adroddiad. Bydd yn rhy hen bellach. UN A RYDD DERFYN AR EI AWENDRWST. -Gadewch 1 y Ffwlfflachad y soniwch am dano fflachio faint a fyno o'i ffolineb. Doethach o lawer fydd ei adael yp ddisylw. WEDI DYFOD I LAw,Detecter-Ateb Gwynlais i Myfyr Glan Ogwy-Beirniadaeth Eisteddfod Carmel, Treherbert, Rhagfyr 27ain, 1880-3-0- hebydd (Rhymni). I TI ABWYDDAIK FO EHYDDID POB
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR. Y MAE prwygraifft yr Eisteddfod hon yn awr allan o'r 'wasg, ac yn dal o'n "blaen gyfres o destynau cyfoethog mewn ad- noddau i fardd a lienor. Y maent yn perthyn, yn mron, i bob canghen o wyb- odaeth, yn wyddonol ac ymarferol. Nid yw y llaw-gelfyddydau, na'r celfau cain, na'r brein-gelfau-y crefftwr, y celfydd- ydwr, y bardd, y cerddor, y gwyddon, y lienor, na'r dadgeiniaid wedi eu han- nghofio. Y mae yma le i chwaeth o bob natur i ddewis ei hoffbeth, ac i athrylith o bob agwedd a thuedd i ymddadblygu gyda mantais. Y mae testyn y Gadair, sef Cariad," yn destyn eang a chwm- pasog, ac yn llawn o'r farddoniaeth oraf. Gall yr awen ganu ar hwn gyda hyfryd- weh a mwynhad. Y mae testvn v Bryddest, sef "Bywyd," yn un o natur gyffelyb. Y mae ei gysylltiadau yn eang ac amrywiog, a'i fodolaeth yn gwisgo agweddau gwahanol ac amryfal. Rhaid wrth athrylith gynyrchus a meddwl cwm- pasog iawn i drin y testyn hwn gyda dim priodoldeb. Pryddest ar Iolo Morgan- wg "-testyn o natur fywgraffiadol, debygid, yw hwn, gan nad yw yn son am alareb na marwnad, nac un dosparth neillduol arall o farddoniaeth. Bydd yn rhaid i'r cyfansoddiad hwn gyfranogi o wahanol ddosparthiadau neu ddull- weddau o farddoniaeth. Y mae yn destyn teilwng o'r awen Gymreig oraf. "Arwrgerdd Wellington."—Owyna rhyw rai nad yw hwn yn destyn cenedlaethol. Dywedwn ninau ei fod, ac yn fwy na hyny-y mae yn un ymerodraethol. Y mae yr arwr a ninau yn ddeiliaid yr un deyrnas a'r un Llywodraeth; ac feallai iddo efy mae Prydain Fawr i ddiolch am ei sefyllfa wleidyddol, a'i safle uchel, uylanwadol, a buddugoliaethus yn mhlith teyrnasoedd y byd y dydd heddyw. Nid a arwr mawr Waterloo yn annghof fyth, ac fel arwr y mae yn anha",dd dyfod o hyd 1 W gyffelyb Nid yw ei frwydrau, o'r un gyntaf hyd y ddiweddaf, ond un rhes o fuddugohaethau. Gwyr pob un ag a wyr beth yw anhepcorion arwrgerdd eu bod i'w cael i'r cyflawnder mwyaf yn nghymeriad WELLINGTON. Y niae yn arwr cyflawn, trwyadl, a pherffaith. Y mae digon o ddefnyddiau yn hanes WEL- LINGTON i wneyd cerdd o hyd yr Iliad, ond y mae y woby yn llawer rhy fechan i atteb y fath lafur; gan hyny, bydded i'r cyfansoddwyr gyfyngu eu desgrifiadau hyd at y frwydr neu ddwy olaf, gan gy- meryd ond brasolwg yn unig ar weithred- iadau a gwrhydri blaenorol yr arwr. "Awdl ar Gadeiriad y Bardd."—Testyn newydd a lied ddyddorol. "Awdl- Bryddest er Coffadwriaeth I. EMLYN. Testyn teilwng iawn etto. Y mae yn y ddosparthran farddonol chwech o destyn- au eraill, a gwobrwyon gwych yn nglyn a hwy. Y maent yn gyfryw ag sydd yn cyfatteb y beirdd o bob gradd, lliw, a llun. Y mae y ddosparthran draethodol yn cynwys amrywiaeth chwaethus, dyddorol, ac uchelryw o destynau, a'r gwobrwyon arnynt yn gyfattebol i'w pwysigrwydd, oddieithr testyn 8fed. Y mae 5p. 5s. yn llawer rhy fach ar destyn ag sydd yn gofyn cymaint o ymchwil ac olrheiniad. "[Hanes Llenyddi'aeth Gwent a Morgan- wg sydd destyn lied anneffiniol ac an- wahanrhedol. Pwy all dynu y llinell wahaniaethol rhwng llenyddiaeth y ddwy sir nesaf i'w gilydd, neu os myner, rhwng y ddwy sir hon a rhyw ddwy sir arall yn Neheudir Cymru ? Ai nid llenyddiaeth o'r un natur a nodwedd sydd yn ffynu, yn mron, drwy bob rhan o'r un wlad ? Mae yn ddiau fod i lenyddiaeth ei nodweddion cenedlaethol, ond nis gallasom ddeall erioed fod iddi ei nodweddion neu ei gwa- hanredolrwydd parthleol. Ond dichon nad ydym yn deall meddwl y testyn. Testyn 2.—Traethawd ar "Lythyreniaeth y Gymraeg." Testyn dyddorol a gwobr rhagorol. Testyn 3 a 4 ydynt o natur leol, ond y maent yn destynau o werth a phwysigrwydd i fasnach, ffyniant, a lles- oldeb cyffredinol Merthyr, ac mae y gwobrwyon yn rai gwir deilwng. Tes- tyn 5ed-dyddorol iawn. Testyn 6ed- gwerth ei chwilio allan. Testyn 7fed sydd un teilwng iawn, a'r wobr yn gyffelyb. 1 Testyn 8fed yn un o ddyddordeb cenedl- aethol, ac yn gofyn ysgolor amryieithog i'w drafod yn briodol. Y mae y defn- yddiau yn brin, ac yn gofyn ymchwil mawr cyn y ceir gafael arnynt. Y mae y wobr yn dra annghyfartal & phwysig- rwydd y gwaith a maint y llafur. Tes- tyn 9fed.—Gall y testyn hwn dynu allan lenyddiaeth ddifyrus ddigon ond o ran y daioni a'r budd ymarferol a ddeillia o hono, ni fydd ond ychydig. Mae yn ddiau y dadlena lawer o ynfydrwydd, ofergoeledd, a gwegi. Testyn lOfed.— Dyddorol i ryw ddosparth o ddynion. Testyn lleg.—Un o ddyddordeb cenedl- aethol mawr, ac yn un na phechid pe teimlid yn falch wrth .ei drafod. Testyn 12fed.-Testyn nas gallwn ni deimlo fawr dyddordeb ynddo yw hwn. Y mae gor- mod o'r lenyddiaeth trashy hyn yn an- urddo ein cyhoeddiadau o lawer. Byddai yn llawer mwy buddiol pe byddai i'n cenedl ymgymeryd a chwilio i mewn i wirioneddau athroniaeth a gwyddor; deilliai rhyw les ymarferol o hyny. Mae y trydydd dosparthran yn cynwys testynau cyfieithyddol. Y pedwerydd dosparthran yn cynwys pump o destynau cerdd-gyfansoddiadol, ac y maent oil yn dda, a'r gwobrwyon hefyd. Y pumed dosparthran a gynwysa gy- nifer ag un-ar-ddeg o destynau cerdd- offerynol. Y mae y rhai hyn yn dangos chwaeth ddestlus ac uchelryw yn y deth- oliad o honynt. Y mae y cydbwysedd hefyd rhwng gwobr a thestyn yn un digon teg ac agos. Y chweched dosparthran a gynwysa destynau mewn cerddoriaeth leisiol. Y mae hwn yn ddosparthran amrywiog a chyfoethog iawn mewn defnyddiau cys- tadleuol, a'r gwobrwyon am danynt yn dra-rhagorol. Mae yn ddiau y bydd i'r dosparthran hwn dynu allan gystadleu- aeth liosog ac egniol. Cynwysa gynifer a 18 o destynau. Y seithfed dosparthran a gynwys bump o destynau cysylltiedig 4 chelfyddyd. Y mae hyn yn dangos fod yr Eisteddfod yn eangu cylch ei defnyddioldeb bob blwydd- yn. Y mae ei thestynau yn gwisgo gwedd fwy ymarferol yn barhaus. Y mae hyn yn arwydd da, ac yn wyneb- wedd ynddi ag a fydd yn sier o enill nawddogaeth y genedl yn gyffredinol. Yr ydym yn canfod, wrth fyned dros y prwygraifft, fod y cerddorion, y cantor- ion, a'r cantoresau yn dyfod allan yn odidog mewn rhoddi gwobrwyon ond pa le mae y beirdd ? Druain o honynt hwy, y maent yn rhy dlodion. Nid yw y fas- nach farddonol yn talu gystal a'r un gerddorol o lawer. Yr ydym yn canfod fod ar y prwygraifft nifer liosog o feirniaid yn mhob dosparth- ran o'r gystadleuaeth; ond ofnwyfy bydd gwyr y gynghanedd dlos a'r meddyliau gwagsaw yn cwyno nad oes yn mhlith y bardd-feirniaid ddigon o'r nwydd man- teisiol hwnw a elwir yn waed newydd." Na, gwaethaf y modd i rywrai, ni enilla Jim ond meddyliau gwir sylweddol gy- meradwyaeth y bardd-feirniaid apwynt- iedig; gan hyny, gyfeillion, bydded i chwi oil ofalu mewn pryd, fel na'ch siomer. Y mae pob peth sydd wedi e wneyd hyd yma yn nglyn â. rhagweith- rediadau yr Eisteddfod yn wir foddhaol, ac yn adlewyrchu credyd mawr ar chwaeth, barn, ac athrylith ymarferol y pwyllgor. Nid oes dim genym bellach i'w wneuthur ond dymuno iddi bob llwyddiant mewn ystyr gynulleidfaol, gystadleuol, ac arianol. Wel, felly y byddo.
[No title]
Y MAE Amerieanwr (yn ol barn papyr o'r wlad hono) yn rhy falch i ofyn elusengarwch, ac yn rhy onest i ladrata felly, y mae efe yn arfer byw ar "hen gount." Y fath anrhydeddusrwydd Y MAE y Glasgow Parkhead Forge Works yn rhoddi gwaith i 2,000 o ddynion, wedi rhoddi 7-1 yn y cant o ychwanegiad yn nghyflogau eu gweithwyr a 5 yn y cant i'r llafurwyr. v
TROI DALEN.
TROI DALEN. Y MAE dechreu blwyddyn newydd yn cael ei chymharu yn fynych iawn i "droi[dros- odd ddalen newydd." Y mae y flwyddyn newydd yn dechreu yn brydferth a dy- munol yr olwg. Nid oes tystiolaethau o ddaioni na drygioni i'w canfod ar ei gwynebpryd gwyn a theg. Y mae fel ) dalen o bapyr gwyn, glan, ar yr hon, fel y dywedai celfyddydwr mawr ac enwog unwaith, y mae yn bosibl tynu darlun o waith ardderchog oes gyfan, neu ar yr hon y gellir arlunio yn niwlog ffolineb a'r ysgafnder olaf, mwyaf isel ac anny- munol y dydd, neu y cyfnod hwn yn ein hoes. Yr ydym megys wedi croesi trothwy blwyddyn newydd, yr hon fydd yn gyf- lawn, ond odid, o ddygwyddiadau a chyflawniadau nad oes neb hyd yma, efallai, ddim wedi breuddwydio dim am danynt. Beth ydym ni, ddarllenwyr, yn bwrpasu argraffu ar ei thudalenau glan a dysglaer yn bresenol ? A fydd i ni, ar derfyn y flwyddyn, guddio ein gwynebau a throi ymaith ein llygaid oddiwrth ei thudalenau andwyol ac afler ? A fydd i ni wylo dros gyfnod o amser wedi ei dreulio yn ofer, neu yn waeth nag wedi ei wastraffu a'i dreulio yn ofer ? Blwydd- yn fyddo wedi gadael ar ei hoi ychydig, os dim yn wir, o adgofion melus a dy- munol, swynol a nefol, at y rhai y gallwn droi a myfyrio arnynt gydag hyfrydweh a boddhad ? Os ydyw wedi bod felly yn y gorphenol, bydded i ni ddyfod i ben- derfyniad cadarn ac ansigledig nad felly y bydd yn y dyfodol. Y mae y flwyddyn gyda'i holl gyfleusderau o'n blaen,—beth a gawn, a pha beth a wnawn ohoni ? Gwir yw na allwn ni ddim dewis ein llwybr ein hunain. Yn wir, ymddengys ein ffordd yn fynych iawn wedi ei thy- wyllu, ac hyd yn nod yn anobe;thiol, ac ymddengys fod y gwaith sydd yn gor- wedd o'n blaen braidd yn ormod i ni i'w gyflawni; ond eto i gyd, y mae yn bosibl i ni esgeuluso ein cyfleusderau mawrion a gwerthfawr er gwneyd daioni, a myned rhagom i'r graddau pellaf dichonadwy ar gynydd yn mhob rhinwedd a daioni, ac ar ddelw yr Hwn a'n gwnaeth, ac yn ol esiampl yr Hwn ni chaed twyll yn ei enau na dichell yn ei galon, a'r Hwn sydd wedi dangos i bawb marwolion daear y posiblrwydd o gyrhaedd y rhagoroldeb moesol neu ysbrydol hyny sydd yn llefaru tangnefedd wrth y gydwybod, ac yn awdurdodi ein cydgreaduriaid i ddweyd am danom, "Wele Israeliaid yn wir" Diau, os y cawn fywyd ac iechyd, fod digon, 10, a mwy na digon, o gyfleusder- au euraidd megys yn ein haros, ond gwneyd defnydd priodol ohonynt, i ddi wyllio ein talentau, i ysbrydoli ein hen- eidiau ein hunain, ac i sirioli, lloni, goleuo, a nefoleiddio eneidiau ein cyd greaduriaid o'n hamgylch, yn gystal a'r sawl sydd yn dal y cysylltiadau agosaf a mwyaf anwyl i ni yn y cnawd. Y mae yn weddus ddigon i ni srymervd dan ein hystyriaeth y dyledswyddau agosaf at ein drysau ni ein hunain, a bod dylanwadau da a bendigedig yn cael eu trosglwyddo oddiar yr aelwyd i faes helaeth y byd. Wele," medd un, faint o ddefnydd y mae ychydig dan yn ei enyn." Y mae y pethau lleiaf eu hymddangosiad, a mwyaf cyffredin braidd, wedi ac yn parhau i ar- wain i'r canlyniadau mwyaf dymunol neu annymunol—i golledigaeth neu gadwed- igaeth. Y mae ein dyledswydd ni yn agos wrth ein drysau yn y cyffredin, ac nid yw o un dyben da i ni gwyno a chein- tachu oblegyd nifer y pethau bychain sydd yn orphwysedig arnom i'w cyflawni; ac y mae o bwys annhraethol fawr i ti a ninau, ddarllenydd, i gymeryd o dan ein hystyriaeth y cysylltiad annatodadwy sydd yn bodoli rhwng pethau bychain a phethau mawrion, a bod un yn arwain i'r llall, ac yn esgor, yn gynar neu yn ddi- weddar, ar y canlyniadau mwyaf anny- munol ar un llaw, neu ddymunol ar y llaw arall. Na fyddwn, gan hyny, yn gysglyd, difater, a diymdrech; ond, yn hytrach, yn fyw, yn weithgar, ac yn egniol i ymgyrhaedd at nod uwch o ber- ffeithrwydd moesol o hyd. Na fydded i'r un gair anngharedig wenwyno ein gwefusau, na'r un meddwl anngharedig chwerwi neu suro ein calonau; yna, gall- wn fod yn sier y bydd rhai tudalenau prydweddol a dymunol yn hanes ein bywyd pan y bydd y flwyddyn drosodd, ae wrth ddarllen y cyfryw, ni fydd i ni wneyd felly heb deimlo yn lion ac yn ddiolchgar am gael ein galluogi i ddewis y rhan dda. Bydded i'r flwyddyn hon ein cael yn gadarnach yn nerth yr Hwn sydd yn gadarnach na ni ein hunain, a bydded iddi ein gadael ni, os gwel y Tad mawr yn dda i arbed ein bywydau, yn mha Ie bynag y byddom, yn gorphwys yn ddiogel ar ei fraich gadarn Ef. Bydd i dreialon, a phrofedigaethau, a phoen: ddyfod; ond nid galar, na phoen, na llawenydd, na phleser ydynt wir ddyben- ion bodolaeth. Na, gwnawd dyn er ym- bwffeithio a chynyddn, ac nid yw yr holl bethau yma ond moddion i wella dyn, er ei alluogi i ymgyrhaedd at berffeith- rwydd. Caffed y flwyddyn allan ein bod ni yn tramwyo ar hyd lwybr gwelliant Cofiwn na allwn ni ddim sefyll yn llonydd, -y mae y flwyddyn yn sicr o'n gadael yn well neu yn waeth nag y cafodd ni. Bydded i ni benderfynu, os ydyw tudal- | enau y gorphenol wedi cael eu handwyo gan lawer o ffaeleddau, y bydd i'r flwyddyn hon ddangos tystiolaeth well a mwy dymunol, fel y byddom, mewn gweithred a gwirionedd, gyda chymhorth a bendith ein Duw tirion, wedi "troi drosodd dalon newydd." Y mae marw- olaeth yn galw wrth ddrysau pob gradd, sefyllfa, ac oedran-y gwar fel yr anwar; a chyn v bvddo blwyddyn arall wedi rhedeg ei chwrs, bydd i'r alwad olaf gael ei chlywed mewn llawer man annysgwyl- iadwy, ac yn mhlith llaweroedd o deulu- oedd dedwydd y fynyd hon. Fel yr ydym, gan hyny, yn croesi troth wy y flwyddyn newydd, bydded i ni bender- fynu ar iddi gael ei threulio mewn ysbryd parchus ac ymddiriedol, mewn duwioldeb a chariad. Bydded i ni gadw ein lampau yn llawn o olew yn barod i ufuddhau i'r llais all, ar unrhyw adeg, ein galw ymaith oddiar chwareufwrdd amser, ac oddiwrth ddyledswyddau pwysig a chysegredig, i gwmniaeth y sawl ydym yn awr yn galaru oblegyd eu colli, a rhinweddau y rhai yr ydym wedi eu hefelychu Y ddarpar- iaeth oreu mewn bywyd ar gyfer marw yw rhodio yn llwybrau neu yn nghamrau y rhinweddol a'r gwir dda, a chyrchu at amcanion teilwng a goruchel. Os ydym yn gweithredu felly, y mae pob diwrnod yn ein parotoi ar gyfer y nesaf, a phob blwyddyn yn ein parotoi ar gyfer byd o flynyddoedd diderfyn o wynfyd pur. 0. L.
Family Notices
Cfeaedigraetii. JENKINS.—Rhagfyr 31ain, 1880, priod Mr. D. W. Jenkins, tailor a draper, Frederick-place, Llansamlet, ar fab. Manvolaetls, EDWARDS.—Hydref 30, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Sarah Edwards, priod i'r hen frawd par- chus John Edwards, Brookfield, Trumbull Co., Ohio, ar ol cystudd hir am ddwy flynedd. Aeth i'r America yn Hydref, 1869, a phnmp o blant amddifaid dan ei gofal. Ba farw tad y plant (Elias Jones) yn America, a'u mam (Mary Jones, yr hon oedd yn chwaer i'r hen wraig garedig), yn fuan ar ol efe yn Nghymru. Oychwynodd y teulu am Wlad y (oJorllewin o Hafod, Cwm Rhondda. Bu hi yn aelod ffyddlon gyda'r Bed- yddwyr am ddeng mlynedd ar ugain
Yr "Echo" a Mr. Cavendish…
Yr "Echo" a Mr. Cavendish Bentinck. us o anwybodus." Fodd bynag, gan dybio yn foneddigaidd mai yr olaf sydd wir. Vm- ddengys, er fod Mr. Cavendish Bentinck wedi eistedd yn y Senedd am ugain mlynedd, nid yw yn gwybod fod y woithred a elwir y Ddeddf Addyag wedi ei rhoddi mewn grym yn Nghymru yn fwy cyflym nag yn unrhyw ran arall o'r deyrnas nac ychwaith am y cwestiwn ag y mae y Cymry yn cymeryd y dyddordeb dyfnaf ynddo, sef Uwch-addysg- iaeth, a bod y Cymry wedi gwneyd cyflawn iawn am esgeulusderau yr Eglwys Sefydledig, drwy orchuddio eu gwlad âg addoldai o'u tlodi, a bod ei gydweinwyr wedi cael ym- adawiad ag amryw o garcharau Cymru, oherwydd eu bod yn w&g, a bod y barnwyr yn fynych yn tramwy trwy eu cylchdeithiau yn Nghymru, heb ddim o'r bron o waith i'w gyflawni. Diolch i'r jEcho.
Y "LONDON WELSH CHOIR."
Y "LONDON WELSH CHOIR." Y Libretto fuddugol yn nghystadleuaeth y London Welsh Choir" yw Gorlifiad," gan Madog Llwyd. Anfoned ei eaw priodol I i ysgrifenyddion y c6r, a chaiff ei wobrwyo. Hysbysir eto pryd a pha le y gellir gweled y Libretto a'r feirniadaeth. E. JENKINS.
rB-).. Tystiolaethau Pwysig…
rB-).. Tystiolaethau Pwysig I QUININE BITTERS GWILTM EVANS. Brynhyfryd, ger Abertawe. ;t Anwyl Syr. -Yr ydwyf wedi bod yn gwerchu v Quinine Bitters am rai blynyddau bellach. Y maent wedi gwneyd liawet o les yn yr ardal yma, c y mae oyfodittd dysglaer iddynt. Yr ydwyf wedi sylwi yn fanol ar eu heffaith ai- wahanol bersonau, ac yr y. wyf wedi gweled rhai o'r dolur- imu gwtathvi a aliai neb ddychvmygu yn cael eu llwyr wellhau trwy ddeftiyndio y riK-ddygiyn yma. Y mae plant o bob oedran, dynion ieuanc a lien gwragedd a merched, oil yn tystiolaethu i'w heffaith daionus. Y mae yn drueui na, ellid eu darostwng ychydig yn eu pris, heb wanychu eu heffaith gan fo;i canoedd o bobl weinion yn sychedu am dreio ei h^tL^it.ii, ond f-to heb fodd i wneyd hyny.—Yr eiddoch yn serchog, ISAAC OWEN. From Griffith Williams, Llaner chyme eld Angle- sea. Syr,Da gv nyf gael y cyfleusdra i anfon unix o ganmo.i iein i cii Quinine Hittor-s.?5 Y ma.ent yn dderbyniol iawn ya y gvmvdogaetb hon. G-werthais lawer ohonynt 'yn vstJd v blravddau diweddaf. ac y mae y gal wad arnynt yn parhau i gynyddu. Nid oes medrlygiuiaet,h yn debT g iddynt at iselder ysbryd, diffyg tranl, dycbla.inia(f au y galon, a chur yn y pen. Yr eiddoch yn gywir, Medi 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS. From 1I.rr. John Llwyd (loan Cyv^g), Mynydd Cynffig. Syr, Bu m yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg arch*aeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blinder Kawr. Prvnais botelaid 4s 6d. oddiwrth Mr. Richard Jenkins, Kenfig Hill, ac ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi adferyd i'm iechyd arferol, ac yn ailuoe l ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr vdwvf eu cymeradwyo i ereill, a th vstiolaeth"y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies annhraethol trwyddynt a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. From the Rev J. H. Williams (Brynfardd), Head Master of the Dowlais Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. ,.Pe.ar. Ti16 wonderful efncacy of your Quinine Bitters to restore health aad vigour after lingering illness and debility, has been recent- ?• sufficiently proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J. Ellis Edwards. M.R.C.S. L.S A., Scc.t Saint Clears, Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked by my patients as to the desirability of taking your "Quinine Bitters," I have for the last two years given it a fair trial, and find it, without exception the TDost pleasant and effectual means of admin.- istenng that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S. L.S.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph Rees Cardigan Mr Griffith Williams, Llanerchymedd Mr. W. H. Ihomas, Dowlaie Mr..John Francis, Wrexham Mr Myrddm Davies, Swansea Mx, Hugh G. Hughes, Holyhead; Mr. W. Sims Aberaman; Mr E P. Wynne, Aberystwyth; Mr. Jones, St Asaph; Mr D. Evans, Oemmaes Montgomerysliire Mr. J. P. Jones, Aberayron all chemists and gentlemen who have evary facility for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr Watkin J. Thomas, Che-ni.t. Absrdare, Aug 17th, certifies to its extensive sale and good results produced m several cases obat came under his immediate notice. To Mr. Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Llanelly. Llangadock, August 15, 1880. De.,ir Sir.-I.,ina happy to state that the sale of the Quinine Bitter, "is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects and very lately two very distinct and remarkable cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believe in. -Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Perni- groes, North Wales. T August 26th, 1880. I have taken your Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising peSSS. r"* be°e'U8 deriTOd ™ From Dr. G. A. Jones. T „ <f II. J Sept. 27th, 1880. n M TTI A Preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from minerals and that the ingredients contained m it are mixed in the most suitable proportions t £ Debility SUCCeSS m CaS6S °f Indi^^tion and (Signed) G. A JONES, M.D. Froin Mr. John David Evans, Post Office, Tre. lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir,-Although ycu must be overload- ed1 testimonials in favour of your ^w celebrated Quinine Bitters," jet I coMidSwl it. my duty to inform you that many who Se obtained it from me have taken it with trrlimn lri' -afn those ?f my customers who hare truly proved its renovating properties always take one, tyro, or three bottles thereof (as the case may ^q^0)' SPni1? and Autumn, testifSJ that they denre much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at theiiMade. Have kept it on sale for mLy ySra and find til# demand for it in this part contiSS- mereaamg. The last supply arrired safely. T Sept. 24th, Mr. IsgoedJones Chemist, Llanrwst, has s#ld grosses of the Quinine Bitters," and fem clow observation of their effects, cak vouch^^ thwr eflSwcy as a tonic in cases of extktoa i*hiAc., being patricularly suitaW i*hiAc., being particularly suitaW f atio*ts ree«ren»g from l»og iiine^ Y mae un o newyddiaduron poblogaidd y Brif-ddinas, sef yr Echo, wedi cymeryd i fyny yn eiddigus ymadrodd cyfeiriedig gan Mr. Cavendish Bentinck atom ni, fel y canlynol Plaid o Gymry barbaraidd ac anwybod- us." Sylwa y newyddiadtir teilwng hwn fod y cyfryw eirian ffroenochlyd, yn erbyn cenedl am eu bod yn Ryddfrydwyr ac Annghydffurf- wyr, yn bur annheilvvng oddiwrth blaid a rwystrent Annghydffurfwyr i'w prif athro- feydd cyhyd ag y gailasent, a hwy tra yn afradu miloedd o bunau mewn rhyfeloedd yn agwledydd Asia ac Affrica. Gofyna, mewn modd pert a miniog Pwy yw yr ysgogyn hwn a ddisgyna o ach Dutchman bariaethus, toulu yr hwn nid adtveinidyfi Lloegr ddau can' mlynedd yn ol, ag sydd yn awr yn beiddio sarhau yr hiliogaeth hynaf sydd o fewn ter- fynau Prydain Fawr ?" Yiia a yn mlaen i egluro ei fod ef wedi cynrychioli Whitehaven am 15 mlynedd, a hyny yn unig am fod ei fam yn un o deulll Lowther. Cafodd is- swyddogaeth yn y Weinyddiaeth ddiweddar yn unig am ei fod yn ddefnyddiol i'w blaid drwy weithredu fel Biggar ac O'Donnell y Toriaid pan yr oeddynt mewn gwrthebiaeth. Cafodd ei benodi yn Ddadleuydd Barnol Cyffredinol, pan nad oedd ganddo ond ychydig i'w wneyd heblaw amddiffyn y weithred far- baraidd o fflangellu y milwyr, am y gwyddai ei uwchraddwyr yn dda ddigon y fath ddyn- sawd corachaidd ydoedd. Yna, gesyd Echo Llundain ddau bwnc gerbron Mr. Cavendish Bentinck-naill ai o haeru yr hyn y gwyddai ei fod yn anwireddus, neu o fod yn druen-