Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. MAE y flwyddyn un fil wyth cant a phedwar ugain wedi ei rhifo yn mysg y pethau a fu oddiar nos Wener diweddaf, a chofir am dani yn hanes- iaeth fasnachol v byd fel un y gweiwydynddi ddechreuad o adfywiad sylwpddol yn ngweitb- garwch y wlad. Oechreuodd y flwyddyn 1880 mewn petrusder a re-action, ond ymddangos- odd yn fuan, er y cynauafau drwg- a welwyd, fod masnach, mewn modd gwirioneddol, yn adfywio, ac mai yr uoig achos o'r bangfa newydd o farweidd-dra oedd yr adlamiad yn y damcaciaetbau olynol oeddynt wedi cael eu cynhyrfu gan vr arwyddion peoaethol o ad- fywiad. Fel yr oedd y flwyddyn yn dirwyn yn mlaen, yr oedd yr arwyddion o adfywiad sylweddol yn amlhau, ac yn dyfod yn fwy hynodol, ac ar y cyfan wedi bod yu drmor boddhaol ac euillol, ac wedi diweddu yn Hawn gobeith'on o welliant masnachol i barhau. Yr oedd pawb yn ymddangos yn well ar ddiwedd y flwyddyn nag oeddynt ar ei dechreu. Mae y lleihad sydd wedi cymeryd lie ar dlodi ar ymgryfhad, ac, yn wir, yr ychwaaegiad sydd wedi cymeryd lie mewn cyflogau svdd yn ffeithiau fod y dosbarth gwaithgar wedi dechreu y flwyddyn newydd o dan amgylchia iau" sydd yn stampio eu safyllfa fel peth sydd yn gwella mewn modd sylweddol. Ymddengys fod y gwelliant, mewn modd helaeth, wedi disgyn i ran llof-weithwyr, pan gofiom, gyda golwg ar ein masnach allforawl. Yr ydym yn aofon allaa yn flynyddol gwerth un cant a phedwar- ar-ddeg o filiynau o bunau yn llai nag yr ydym yn dderbyn i mewn. 0 dan y fath sef- yllfa ar bethau nis gallwn lai, fel gwlad, na chynyddu mewn cyfoeth. Yn mherthynas a'r fath gyfoetb, gallwn weled ei sefyllia yn Llyfr Coch Sheffield am y flwyddyn 1881—fod gwerth marchnadol ymdrafodaethau masnachol dwy btif gangen lof-weithiol ein gwlad yn sefyll yn niwedd Awst, 1879, yn bedair miliwn pum' mil saith cant ac un a deugain o bunau, wedi codi erbyn Rhag. laf, o'r un flwyddyn, i chwe' miliwn tri chant ac un o filoedd pedwar cant a thair o bunau, ac yn parbau i gvnyddu, nes ceddynt yn nechreu Mawrth, 1880, wedi cyrhaedd i saith miliwn pedwar cant a saith o filoedd naw cant a phump o bunau. O'r fan hon daeth i fewn re-action cryf, ac ar ddiwedd yr wyth mis nesaf (dechreu Rhagfyr diweddaf), yr oedd v cyfanswm wedi syrthio lawr i chwe* miliwn pump cant a phedwar o filoedd un caot a phedair-ar-bymtheg o bunau. Wrth y ffigwr hwn y mae y farchoad yn sefydlog. Wrth hyn yr ydym yn gweled y gwna y gwerthiadau roddi llawer yn fwy na dwy filiwn a haner o bunau yn ychwaneg na phan y dechreuodd masuachau neillduol, bymtheg neu un mis ar bymtheg yn ol. Wrth daflu golwg ar ddechreu y flwyddyn, yr ydym yn gweled mai lied dawel oedd masnach y glo yn LLUNDAIN, yr wythnos ddiweddaf, a Hai o bris yn cael ei dderbyn am dano, ond y mae hyn, i raddau, os nid yn hollol, i'w briodoli i fwynder y tymor, yn hytrach nag i ddim arall. Yn ngwahanol weithfeydd GOGLEDD LLOEGR, yr oedd masnach yr haiarn bwrw hytrach yn farwaidd, masnach yr haiarn gorphen-weithiol yn fywiog, a busnes weddol o dda yn myned yn mlaen yn y rhan fwyaf o'r glofeydd. Yn marchnad MIDDLESBRO, yr oedd cynulliad da dydd Mawrtb-gwell nag arferol, a'r haiaro bwrw, Rhif 3, Cleveland, yn gwerthu am lp. 19s. 6e. y dunell. Yma ac yn Newcastle, a gweithfeydd ereill Lloegr, nid oes yr un eyfnewidiad wedi cymeryd He yn mhris yr haiarn gorphen-weithiol oddiwrth yr hyn a adrodda;s ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf. Wrth daflu. golwg dros fasnach glo a haiarn Deheudir Cymru, nis gallwn lai na dywedyd fod gwyliaa y Nadolig wedi effeithio ychydig ar y gwaith a wnaethpwyd, ond eto ymfywhau y mae masnach. Yn SIR FYNWY, mae y gweithfeydd glo a haiarn yn gweithio yn rheolaidd, a thebyg y cedwir bwy felly am dymor i ddyfod heb yr un archeb ychwanegol. Nid oes dim yn neillduol i'w gofnodi mewn cysylltiad a masnach alcan y- sir. Mae perchenogion glo ager yn Hawn o archebion, a bywiogrwydd arbenigol yn ganfyddadwy yn y gwahanol weitbfeydd. Yr un modd y mae yn nglofeydd glo teuluol. Yn adran ABERTAWE, wrth gymharu y prisoedd a gafwyd yn nechreu y flwyddyn ddiweddaf a'r rhai a gafwyd ar ei diwedd, yr ydym yn gweled fod rhai cangenau masnachol a'u prisoedd wedi lleihau. Eto, y mae y gwelliant ag sydd wedi cymeryd lie wedi bad mewn modd graddol, ac er nas gellir dywedyd fod y prisoedd yr hyn y dysgwylid eu bod, y mae genym, yn ddiamheu, sylfaen sicr a safadwy i ddweyd fod masnaeh mwy iachus yn bodoli. Yn Ngweithfeydd Dur Glandwr, yn ogystal ag eiddo Poatarddulais, y mae bywiawgrwydd cymeJrol yn bodoli, gyda chais cynyddol am nwyddau amrywiaethol, ond y maent yn mhell o fod yn gweithio a throi allan yr hyn allasent wneyd. Y mae gwelliant graddol yn ngweithfeydd haiarn yr adran, ond nid cymaint ag y dymuna rhai ddywedyd ei fod. Y gweithfeydd alcan mewn sefvllfa masnachol mwy sefydlog, ond y mae y cyflenwad yn llawn cymaint a'r cais. Allfor- iwyd o borthladd Abertawe, yr wythnos ddi- weddaf, 13,893 o duaelli o lo 3,570 o duaelli o batentfuel, a 15 o dunelli o baiarn i Benrhyn Gobaith Da. Gvda ni vma, yn adran CAERDYDD, oddiar fy adroddiad diweddaf, y mae adfywiad wedi cymeryd lie yn masnach y glo-ager. Mae y gwasgial am ddeliveries wedi bod mor fawr, fel y mae cymaint a 9s. 9c. a 10s. v dunell wedi cael ei dalu, f. o. b., am lo wed; ei .screeno. Allforiwyd oddiyma, yr wythnos ddiweddaf, 84.997 o dunelli o lo, 2,759 o dunelli o batentfuel, a 1,804 o dunelli o haiirn a dur. Rhaid diweddu gyda dymuno Blwydd- 1 yn newydd dda" i holl ddarlienwyr y GWLAD- CARWK. GCHEBYDD MASNACHOL. ]

Eisteddfod Abertawe.'

Eisteddfod Capel Seion, Ystalyfera.

Gweithfeydd y Bwllfa.

[No title]

BYR EBION 0 L'ERPWL.

Dyfais Newydd Bwysig.

[No title]

Yr Anesmwytiider yn Transvaal.

Helynt yr Iwerddon.

Tanchwa Penygraig*..'

[No title]