Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BWRDD Y GOLYGYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD Y GOLYGYDD. AT Y PAECH. E. GURNOS JoNES. —Y mae Cys- tadleuydd" artl weled yn y GWLADGABWH eich beirniadaeth ar destynau rhyddieithol a bardd- onol Eisteddfod Ca>llw<hwr, neu ei hysbysu yn mha wythnosolyn y geill ei gweled. AT EIN DARLLENWYE.—Carai "Cymro" wybod gan un o'n darllenwyr a fu rhywun farw trwy newyn yn amser y tlodi yn Merthyr a Dowlais? Os do, pa faint ? Ac,a basiwyd rheithfarn mewn trengholiad i'r cyfeiriad hwnw ? AT Y PARCH. E. JONES (Iorwerth Ddu).— Gofyna Un nad oedd yno" a fyddwch chwi gystal a chyhoeddi yn y GWLADGAEWR eich beirr.iadaetji ar gyfansoddiadau yr Eisteddfod a gynaliwyd yn Jerusalem, .Rhymni, y Nadolig. J. H -Dymuna y cyfaill hwn wybod am ba fath o ysgrifau a altfonir i'r Wasg y mae gohebwyr yn cael eu talu. Nid oes rheol pendant i hyny, cyn belled ag y gwyddom ni. Ond gwyddom fod rhyw gyonabyddiaeth yn cael ei roddi i rai am draethodau, ffug-chwedlau, ac erthyglau, ac ni wneir hyny. oni byddant yn wir deilwng. GWILIEDIDD.—Ni feiddiwn gyhoeddi eich eiddo, am mai rhyw rwgnachiad Eisteddfodol ydyw. DYMUNA "Milfranydd" gael gwybod gan rywun on darllenwyr pa le gellir cael y ilyfr canlynol: —" A concise system of Mathematics, by Alex Ingram, author of Elements of Euclid, &c. Containing 432 pages, and illustrated. By up- wards of 300 woodcuts. 12mo. 7s. 6d. bound." LLITH HEN DOMOS.- Y fasged yw ei dynged, am ei fod yn rhy bersonol. DTFODWG.—Mae eich llith yn annghymeradwy. Gormod o'r personol a rhy fach o'r rhesymiadol yw ei ffaeleddau. LLEF O'R PWLL GLO.—Mae digon ar yr un testyn yn ein pa,pyr eisoes. WEDI DYFOD I LAw,-Sylw neu ddau gan "(,J';ust- feinydd" at "Shipriswyson"—-Llith gan Hen Lampman ar Ddiogelwch y Lofa "—Beirniad- aeth Eisteddfod Penderyn, Rbagfyr 20fed, 1880 -Hanes taith T. Puntan, gynt o Glyn Ebwy, i America-" Dychan v. Tuchangerdd," gan D. R. Hyn a'r Hall" (politicawl). gan Oliver Jones—"Y Cymro Gwyllt a'r Gwyddelod" (gwrthddywediadau i haeriadau John Lewis), gan Lewis John-Alarch Ogwy (Glyncorwg)— "Yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwenllian Cydweli' gan Rhys T. Williams-" Llith o'r Bacws "-G. E. Davies-Thos. Thomas-Un o fechgyn y gan.

YR YSGRIF DIROL WYDDELIG.,,

BYR EBION 0 L'ERPWL.

Family Notices

[No title]

Advertising

ITy s tlol if e I h au Pwysig…