Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

Hyn a'r Llall gan Oliver Jones,

COLEG Y GWEITHIWR.

Etifedd Ieuanc Llanarth.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MAE yn anmhosibl dweyd, gydag un math o gywirdeb, nifer y Cymry sy'n siarad a darllen y Gymraeg yn yr Unol Dalaethau. Rhydd rhai y rhif mor uchel a 500,000, ond tybiwn fod 300,000 yn agosach i'r nod. CREFYDD NEWYDD.—Darogana proffwydi mewn almanaciau y bydd i blaid crefyddol. newydd ddyfod i fodolaeth y flwyddyn hon. Y mae un eisoes wedi cychwyn yn Utica America, ond nid oes sicrwydd hyd yma pa. enw a roddir i'r mudiad. Cyferfydd y blaid bob boreu yn yr Opera House, o dan weinid- ogaeth un E. P. Powell (gobeithiwn nad Cymro ydyw). Cyhoeddasant yn ddiweddar lyfr emynau at eu gwasanaeth. A ganlyn. ydynt ddau benill o waith Powell :— Must I be saved by Jesus' blood ? Is there no other way ? Will God not help me when I strive, Nor hear me when I pray ? Is there no way to Mercy's Seat, No 'scape from sin and shame, Unless I boast another's deeds, And all my own disclaim 7 Mae'r awdwr a'r casglwr emynau wedi def- nyddio hen emynau anfarwol Cristianogol a'u trawsffurfio 1 ateb syniadau ei blaid.