Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
--MASNACH YR HAIARN A'R GLO.…
MASNACH YR HAIARN A'R GLO. | En yr bin niweidiol ydym wedi gael yn ystod 1 yr wythoosau sydd wedi myned heibio, yr byn a ddarfu lyffetheirio y gwaith yn y gweithfeydd am rai diwrn^dau, ymfywiogi v mae masnacb ein gwlad, a gobeithion, ar seiliau cryfion, yn cael eu mynwesu gan feistri a gweithwyr fod y flwyddyn hon yn un o lwyddiant masnachol Mae Cwmni Gweithfeydd Haiarn RHYMNI, yr wythncs ddiweddaf, wedi troi allan gylch- lytbyr pwysig i'r perchenogion gyda golwg ar ddyfodol masnach yr haiarn a'r dur yn ein gwlad ni. Dywed cyfarwyddwyr y cwmni dan sylw eu bod yn ystvried fod dyfodol y fasnach yn dibynu yn benaf ar wneutburiad rheilffyrdd mewo gwledydd tramor. Er eu bod yn credu nad yw y tueddrwydd sydd mewn tey rn asüedd tramor i arosod dyliau rbwystrol ar gynyrchion Prydeinig wedi di- fianu, eto meddvliaot fod yr arddrych fas nachol yn y dyfodol buan yn edrych yn fwy clir nag y mae wedi bod er's blynyddoedd bell ch. Nid yw yr Unol Dalaethau, yr hon oedd ein prif gwsmer am re!liau haiarn mewn blynyddoedd blaenorol, yn awr yn alluog, er ei Uwyddiant cvnyddol, i gyflenwi ei hangenion âg baiarn o wrseuthuriad cartrefol, na rheiliau dur ychwaith, er eu bod wedi gosod dyliau cyllidol uchel ar yr haiarn tramor a fordr sid yno, grda yr unig amcan o gadw haiarn a dur tramor o'r farchnad America? a'dd. Mae Cyf- arwyddwyr Cwmni Rhymni o'r farn -y bydd rhaid i'r wasgfa barhaus ar boblogaeth Ewrop fod vn foddion tueddol i gynyddu ymfudiad ac ymsefydliad mewn gwledydd priodol a ch fleus, ac i'r dyben hwnw fod rheilffyrdd yn betbau anbebgorol ac argenrheidiol. Y mae befyd yn aros lawer o reilffyrdd i gael eu gwneyd yn y rhan ddwvreiniol o Rwsia, Dwyreinbarth Ewrop, Asia Leiaf, Trefedigeth y Penrhyn a'r tiriogaethau ciylchynol, ac mewn rhanau ereill o'r byd, a rbaid i wneutburiad y rhai byn, yn ol barn y cyfarwyddwyr, yn gynar neu ddi- weddaracb, ychwanegu y cais am reiliau. Ar y cyfan, gan byny, y maent o'r farn, ac yr ydym yn cydweled a hwynt, fod byn yn calon- ogi y dvsgwyliad y bydd yn y dyfodol buan fwy o reoleiddiwch a bywiogrwydd yn masnach y rheiliau haiarn nag sydd wedi bod am gryn amser. Yr oedd y farchnad yn MIDDLESBRO', dydd Mawrtb, yn dra lluosog, a'r pris am haiarn bwrw (Rhif 3) ydoedd 2p. 2s. 6c. y dunell. Y glo at wasanaeth y gweithfeydd, yn ol ei ansawdd, yn 4s. 3c., 5s., 5s. 3c., a 6s. y dunell, ar lan y pyllau. Golosglo yn gwertbu am o 9s. i 10s. 6c. y dunell, wrth y ffwrtesi. Drwy wahanol ranau gweithfaol ereill Lloegr, tra chyffelyb yw y prisoedd. Haiarn gorphen-weithiol yn dal i fyny yn ei bris. Y n adran ABERTAWE, mae gwedd obeithiol ar fasnach yn gyffredinol, namyn yr alcan. Galw byood o dda am ddef- nyddiau a rheiliau dur yn Mhontardulais a Glandwr. Yn ol pob argcelion presenol, y mae yni adnewyddol wedi dyfod i mewn i'r gweitbfeydd baiarn drwy wahanol ranau yr adran. Gweithfeydd y patent fuel wedi ym- fvwiogi, a chynydd mawr yn yr allforiad obeno. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, yn ol cyfrifon y Cyllid-d^, 17,975 dunelli o lo, 3,484 o dunelli o batent fuel, heblaw hefyd briddfeini, copr dur, haiarn, ac alcan. Yo adran MERTHYR A DOWLAIS, er fod rhwystrau mawrion wedi bod ar ffordd olwynion masr ach gan erwindeb a cbaledwch yr bin, y mae pethau yn ymfywiogi. Cefais ar ddeall yma, dydd Sadwrn, fod archebion da mewn llaw am reiliau a hcematite pig. Dys- gwylir y bydd i godiad gymeryd lie yn mhris oedd y "glo yn fuan. Mae masnach y glo drwy yr boll adran yn bynod gadarn. Mae yr ar- ddrych am y dyfodol yn hynod galonogus. Darfu i'r tywydd caled gyda ni yma, yn NGHAERDYDD, beri fod yr allforiad o lo yn Uai yr wythnos ddiweddaf. Fodd byneg, oherwydd prinder y cyflenwad, cafodd rhai percbenogion glofeydd lis. 9c. a 12s. y dunell am eu glo. Nid oes yma yr un ambeuaeth nad llwyddiant mas- nachol a ordoa y flwyddyn hon. AUforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, 83,381 o dunelli o lo, 200 o dunelli o ddur, a 420 o dunelli o haiarn. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Chwef. 1, 1881.
[No title]
Y DDAWALA (y Mynydd Gwyn), un o'r rhes Himalayaidd yn Asia, yw y mynydd uwchaf yn y byd. Ei uchder yw 26,462 troedfedd, neu dros bum' milltir unionsyth. RHAID i'r llythyrgludwyr mewn amryw fanau yn yr Unol Dalaethau fod yn Gymry, am fod cymaint o siarad ac ysgrifenu yr hen Omeraeg yno. Y MAE China wedi rhoddi caniatad i wneyd llinell bellebrol 1,200 o filltiroedd o hyd tufewn i'w therfynau. Gellir dysgwyl y bydd rheilffyrdd yn bethau cyffredin yno cyn hir. PUM' mlynedd ar ugain yn ol," meddai y Parch. W. Williams, Abertawe, nid oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn llawn dri-ugain mil mewn rhifedi ond yr ydym yn awr yn fwy na chant a phymtheg o filoedd." GOFYNWYD i Milton a oedd yn bwriadu addysgu ei ferch yn y gwahanol dafod-ieith- oedd i'r hyn atebodd yntau, "Nac ydwyf, syr y mae' un tafod yn llawn ddigon i ferch." ABERDAR.—Dymunir tynu sylw ein dar Uenwyr at ymweliad y deintyddion galluog ac enwog Mri. J. Sherrard Smart a'i Cwmni Ag Aberdar. Byddant yma ddydd Gwener, Chwef. 11 eg, a chyfarfyddant &'u cleifion yn siop Mr. T. Whitty Evans, fferyllydd, Com- mercial-street, Aberdar. Pawb a flinir 4 danedd drwg, nis gellwch wneyd yn well na myned at y meddygon profiadol hyn.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. GLOFEYDD CAERHIRFRYN. Mae cyflwr y trigolion yn mharthau y glo- feydd yn gwbl annymunol, am fod degau, os nad canoedd, o deuluoedd mewn angen bara, ac heb wybod pa le i droi i'w geisio. Cych- wyniad yr annhrefn ydoedd ymgais y meistri, mewn agwedd ormesol, yn ceisio gorfodi y gweithwyr i lawnodi cytundeb yn erbyn Deddf y Cyfrifoldeb, ond wedi methu yn yr amcan hwn, ac weithian wele y glowyr wedi troi ar eu sodlau, gan ymofyn codiad yn eu cyflogau. Bellach y mae y wlad o gwr bwy gilydd yn y trydar mwyaf, fel nas gall un dewin frudio pa bryd y terfyna. Daw y meistri yn mlaenaf dan y cyfrifoldeb o'r drygedd presenol, ond digon tebyg mai ar gefn y gwan y tadogir y bai. Ffynonell y drwg ydyw annghydwelediad ar deilyngdod a gwerth y gweithiwr. Yr unig fai ellir osod ar y gweithwyr ydyw eu bod yn tori y gyf- raith trwy gyflawfii drygau annheilwng, a'r canlyniad o hyny ydyw colli cydymdeimlad y cyhoedd mewn adeg o gyfyngder. Mae y bobl fawr yn cymeryd mantais ar gyfnodau cyfyng neu amser caled i ysgwyd y wialen, a than y cyfryw amgylchiadau fe ddylai y gweithwyr ddysgu gwers, gan wneyd defnydd o gyfleusderau i adgyfnerthu, er mwyn bod yn barod i sefyll ar y diffynol pan ddelo ym- osodiad. Mae pris y glo yn y farchnad yn hawlio codiad yn y cyflogau, ac nid oes dim ond ystyfnigrwydd annghyfiawn a thraha gormesol yn eadw iawnderau y gweithiwr oddiwrtho. Byddai darlnnio sefyllfa y gweithwyr yn ormod gorchwyl i mi, ond gallaf gydymdeimlo a'r gorthrymedig, a theimlwyf yn hapus fy mod yn alluog i gyd- ymdeimlo mewn ffordd sylweddol. Ni chawn byth derfyn ar ymrysonau rhwng cyfalaf a llafur hyd nes y ceir safon weithredol, a phob annghydwelediad i gael ei benderfynu wrth y cyfryw safon, yr hyn fyddai yn heddwch meddyliol i'r meistri, ac yn ddedwyddwch teuluol i'r gweithwyr. Barned a farno, nid cyfiawn i'r un bonwr arianol i gymeryd man- tais, am ei fod yn uchelwr, i ymddwyn yn annheilwng o ddyn a ddylai, o ran ei sefyllfa, fod wedi dysgu boneddigeiddrwydd. I ddwyn trefn ar y byd gweithfaol, rhaid di- ddymu yr hen syniad fod y llafurwr yn greadur darostyngol, i fod o dan draed y ben- defigaeth. Mae yr ysbryd traws i'w weled yn amlwg yn y glofeydd, a mynant, os medrant, ychwanegu pwy3 y baich, trwy orfodi y gweithwyr i gymeryd rhywfath o gyflog am y gwaith a gyflawnant. Cyfartal- edd cyflogau y glowyr cyn yr ymgyrch bre- senol ydoedd tri neu bedwar swllt y dydd, a lied anaml y cyrhaeddid y nod olaf. Barned y meddylgar sefyllfa teulu o chwech mewn nifer yn gorfod byw ar dri swllt y dydd. Sier y cytuna y darllenydd a mi nad oes llawer o foethau ar y bwrdd, ac y mae yn amheus a fydd y teulu yn cael eu digoni o ymborth cyffredin, heb son am gael yr hyn a ddylent gael i'w gwneyd yn ddedwydd a chysurus. Nid oes eymaint a brawddeg yn weledig yn nyddlyfr y gorthrymwr ag sydd yn eyfeirio dim at gyfiawnder rhwng dyn a dyn, nac ychwaith ddim cymaint a sill yn dynodi fod yn deilwng i'r gweithiwr ei fwyd. Ni a gan- iatawn fod y gweithiwr yn gwneyd llawer tro ffol, ond nid yw hyny yn cyfiawnhau y meistr i orthrymu yn eithafol, fel y gwna yn ami. Daw yr ysbryd cul a dialgar i'r golwg mewn cylchoedd byclfain, a thybia ambell i "syr," os bydd tipyn dan ei law, fod 6i babell fach symudol yn gyfansoddedig o well clai na'i gymydog. Cyfarfyddwn yn ami a'r dyn- sodion hyn, ond, yn wir, y mae y pethau bach crebachlyd yn fwy o wrthddrychau i dosturio wrthynt, yn hytrach na'u ceryddu. Pa le mae dosbarth o bobl, gydag eithrio y morwyr, mewn cymaint o beryglon a'r glowyr ? Dylai gwerth gwasanaeth y cyfryw i'r byd masnachol gael y sylw blaenaf gan bob gwladwr,- beth bynag ydyw ei syniadau gwleidyddol. Teilyngdod a gwerth llafur y glowr i'r byd sydd yn rhoddi iddo yr hawl flaenilaw ar gydymdeimlad y cyhoedd, oblegyd heb y glo byddai y wlad mewn sef- yllfa druenus. Mae pob gobaith bellach y bydd i'r Prif-weinidog, gyda gwleidiadwyr ereill sydd yn teimlo tipyn dros y glowr, wyntyllu y pwnc, a chael y deddfau amddi- ffynol yn fwy dealladwy ac uniongyrchol, fel y delo y meistri, fel y gweithwyr, i ddeall pethau yn eglurach, ac i well adnabyddiaeth o'u gilydd yn eu cysylltiad a'r byd allanol. Ofer ydyw apelio at deimladau dynol a Christionogol llawer o'r bobl fawr, am fod y rhari amlaf ohonynt yn gosod masnach i lawr fel trafnidaeth fydol, fel nad oes achos i'r bydol-ddyn masnachol feddwl am ddim ond ymgyfoethogi, trwy wneyd arian goreu y gallo, heb gymeryd i ystyriaeth uniondeb barn a gonestrwydd. Sylfaenir y cyfryw syn- iadau ar yr ucheldybiaeth nad oes gan y llafurwr unrhyw hawl i ofyn am gyfiawnder, am ei fod, yn anffodus, wedi ei ddwyn i fod- olaeth yn y cylch lie mae y tlawd yn gorfod llafurio am ei gynaliaeth, heb feiddio gofyn yn ami am ddigon o gyflog i gael bwyd a dillad. I ddwyn diwygiad trwyadl oddiam- gylch, rhaid i'r gweithwyr ofalu, yn yr ethol- iadau Seneddol nesaf, pwy a etholir i Ddeddf- wneuthurfa Sant Stephan. Ofer i lowyr un wlad feddwl y deuant byth i gael eu cydnabod fel y dylent heb iddynt gyd-ymuno, a chael trysorfeydd amddiffynol i gyfarfod ag ymosod- iadau y wialen haiarn, ac unwaith y delont mewn sefyllfa i sefyll yn erbyn rhuthriadau gormesol, daw y gwr mawr i ddeall y bydd yn rhaid iddo yntau ymddwyn yn fwy lled- nais a dynol, am y bydd yn deall fod y gweithiwr mewn ffordd amddiffynol, fel na raid iddo ymostwng i gael ei sathru dan garnau y march gormesol. Yna, fe gydna- byddir ei le i bob peth, a phob peth yn ei Ie. Mae y cynygiad a wneir i ffurfio trysorfa orfodol i gyfarfod a damweiniau yn wers addysgiadol i'r glowyr, fel y dylent ddal y cyfleustra o ffurfio trysorfa wirfoddol i amddi- ffyn hawliau y bobl. Onid ydym wedi ein dysgu gan oreugwyr gwlad am ragoroldeb cyfundrefn wirfoddol, a rhagoriaeth y cyfryw ar y gorfodol ? Beth bynag a wneir, y mae sefyllfa glowyr Prydain heddyw yn galw am gyd-ymuniad cydweithredol a chyffredinol, os mynir ymgyrhaedd at welliantau diwyg- iadol. Gwell hwyr na hwyrach yn y mater hwn fel materion ereill, fel nad yw yn rhy hwyr i filoedd ein gwlad ymysgwyd o'r llwch, I gan wneyd pob ymdrech gyfreithlon i enill iddynt eu hunain y safle a deilyngant yn y byd masnachol. Mae yn ymddangos nad yw cwmnÏau mawrion rheilffyrdd a gweithfeydd i gael eu ffordd i orfodi y gweithwyr i wneyd cytundebau annghyfreithlon. Darfu i Mr. Broadhurst, yn absenoldeb Mr. Macdonald, ofyn y gofyniad, yn Nhy y Cyffredin, am gywirdeb adroddiadau a wneir fod ewmnÏau rheilffyrdd yn ymwneyd a'r gorfodol er cael y gweithwyr i wneyd ymrwyrcyadau tuallan i afaelion Deddf y Cyfrifoldeb. Ceisiodd Mr. Dodson osgoi ateb y gofyniad yn bender- fynol, gan wneyd esgusodion diwerth yn He rhoddi atebiad cadarnhaol. Cawn amlygiadau pellach yn fuan, oblegyd fe ellir profi fod amryw wedi cael eu hatal i weithio yn y ddinas hon am wrthod llawnodi y cytundeb. Mae y gyfraith yn dyfod i gyffyrddiad agos a phawb gweithwyr, fel nad yw ein glowyr yn ymladd y frwydr eu hunain, ac felly ni raid iddynt ddigaloni yn yr ymdrech. Rhaid i etholwyr ardaloedd y gweithfeydd wasgu ar wynt yr Aelodau Seneddol a'u cynrychiolant i sefyll dros hawlfreintiau y gweithiwr, ac os y gwrthodant wneyd pob ymdrech i gario barn i fuddugoliaeth wrth reol barn a chyf- iawnder, bydded iddynt gael ar ddeall yn eglur nad oes iddynt oes o barhad fel Senedd- wyr. Mae cysylltiadau llawer o'r Aelodau Seneddol gyda rheilffyrdd, glofeydd, a gweithfeydd, y fath fel na wnant ddim i ysgafnhau baich y gorthrymedig. Cawn ereill, heb unrhyw gysylltiad a gweithfeydd, yn gyfeillion mynwesol i berchenogion glo- feydd, fel mai llesg iawn y gwnant ddim o blaid y gweithiwr. Llithrant ymaith i ddys- tawrwydd o dan y ffug-esgusawd nad ydynt yn deall y cwestiynau, a byddai dweyd dim ar y mater yn taro yn erbyn buddianau per- sonol. Os ydyw y cyfaddefiad yn gywir, y maent yn cydnabod ar unwaith nad oes gan- ddynt y cysgod lleiaf o hawl i eisteddle yn y Senedd. Lie byddo cyfangorff yr etholwyr yn lowyr, amddiffyniad y cyfryw ddylai fod yr adnod gyntaf yn nyddlyfr y cynrychiol- ydd. Meddylied y tanddaearolion am hyn, a dangosent i'r byd nad ydynt ddeillion ar faterion gwleidyddol. Yna, fe ddysgid gwers, nid yn unig yn swydd Caerhirfryn, ond hefyd yn Morganwg, Mynwy, a Gwlad Myrddin. MASNACH Y PORTHLADD. Allforiadau dur-dalpiau yn fywiog, a galw- adau cyson o'r Amerig yn cadw y fasnach yn fywiog. Achosir y galwadau o'r wlad hono yn benaf am nas gellir cyflawni yr archebion gan y llaw-weithfeydd cartrefol. Gwel y darllenydd nad oes achos diolch i Jonathan am ei archebion, yn gymaint ag nad yw yn alluog i gyfarfod a gofynion ei wlad. Gweith- feydd peirianol trwy y gwahanol dalaethau yn llawn o archebion dros haner y flwyddyn bresenol, a melinau oeddynt wedi sefyll yn segur am flynyddoedd wedi ail-gychwyn, a bywyd newydd o adfywiad wedi ei gynyrchu yn mhob cwr o'r wlad fawr. Diffyg cyflenwad sydd yn eu dwyn dros y Werydd, fel nad oes diolch iddynt am a geisiant, oblegyd pe gall- ent ei gael gartref, nid yw yn debyg yr achlesent ddim ar farchnadoedd Prydain. Allforiadau alcan yn fywiog, fel nad oes cy- maint ag un o'r agerlongau trosforawl yn myned allan heb gymeryd gyda hi rai mil- oedd o flychau, er cyflawni gnfynion yr Americanwr. Tebyg fod y cyflenwad yn fawr, gan amlder y gweithfeydd alcan, ac fod hyny yn achos, i raddau mwy neu lai, fod y pris yn isel yn y farchnad, a chyflogau yr alcanwyr yn yr un modd mewn canlyniad. Mae y farchnad yn rheolaidd a sefydlog i wahanol wledydd heblaw y Talaethau, ond tebyg fod y cyflenwad mawr a ddanfonir yma ac i borthladdoedd ereill yn effeithio ar bris y farchnad. Os am ychwaneg o bris, rhaid lleihau y cyflenwad. Yna, gyda chodiad yn mhris y gwerthiant, fe all yr alcanwr edrych am well cyflog am ei waith. Masnach y cotwm a'r gwlan yn llyfn a rheolaidd, a marchnad dda, a phris cyson yn dal ar wa- hanol nwyddau o wledydd ereill heblaw y cotwm a'r gwlan. Gyfiawnder o gig o bob math yn dyfod i mewn yn wythnosol. Ymen- yn a chaws wrth y canoedd o dunelli yn cyrhaedd agos bob dydd. Y gwenith a'r grawn Indiaidd yn llenwi yr ystordai, a phris y gwerthiant yn dal yn lied gyson a rheol- aidd. Nid cymaint cyflenwad anifeiliaid byw er's rhai wythnosau; ond dal i ddyfod y maent yn barhaus, yn ddefaid, moch, ac eidionau, a llawer o gig yr olaf yn dyfod i mewn, wedi en lladd yn yr Amerig. JN id oes terfyn ar y cyflenwadau uchod o'r gwahanol Dalaethau, a da iawn hyny er lies y werin or- boblog yn Mhrydain. Mae yn dda i bob Prydeiniwr fod y fath gyfiawnder o bob ben- dithion i'w cael yn Ngwlad y Gorllewin, a'r cyfleusderau trosglwyddiadol mor hwylus. Gwelais nodiad ar lyfrau un o'r cwmniau mawrion a redant agerlongau i Efrog Newydd, am swm anferth o ddefnyddiau cotwm o weithdai yn Manceinion, wedi eu cychwyn yn y boreu o'r ddinas hono, eu gosod ar fwrdd yr agerlong yr un dydd, a'u trosglwyddo dros y Werydd a thros y tir, i ddwylaw y masnachwr yn nghanol y wlad, mewn ychydig oriau o dan y deuddeg niwr- nod. Prawf hyn hwylusdod masnachol, fel y gellir cludo cotwm o'r Amerig, a'i ddych- welyd yn barod i wneyd dilladau ohono mewn ychydig fisoedd. Teulu yn y Gorllewin yn codi cotwn, ei gasglu, a'i anfon i Loegr i un o'r gweithdai, a'i gael yn ol a'i wneyd yn ddillad mewn llai na chwe' mis o'r diwrnod y casglwyd ef oddiar y goeden gartref. Dengys hyn fawredd celfyddyd yn ei chysylltiad a masnach, pa un bynag ai ar dir neu ar for, oblegyd cyplysir mor a thir yn y fan yma. Y TYWYDD CALED. Er fod y rhew a'r eira wedi dadlaith a myned i'w le ei hun, y mae pris y tanwydd yn dal o hyd yn uchel, fel na cheir un math ohono o dan tua phunt y dunell, a'r glowr yn cael rhywbeth tua'r ugeinfed ran o hyny am ei dori. Hawdd dirnad pwy sydd yn llogellu y gyfran helaethaf o'r elw. Tlodi yn teyrnasu ar y miloedd, a llawer yn yr amser caled wedi rhewi i farwolaeth. Ystordai Ilawnion, a'r bobl yn newynu o eisieu bara mewn dinas lie y ceir ynddi dywysogion mewn masnach- aeth. Prydeinwyr cyfoethog, Cristionogol, gwladgar, a chalon dyner, meddir, yn nghanol moethau, yn gallu edrych ar dlodion, o dan weinidogaeth newyn, yn cael eu cipio o fyd o amser i'r byd trag'wyddol. Ceir degau o engreifftiau yn cadarnhau yr uchod o fewn terfynau dinas L'erpwl. Gall fod y bobl i'w beio am wastraff, ond nid digon y cyfryw esgusawd mewn dinas o lawnder, lie nad oes un math o brinder mewn dim at gynaliaeth dyn ac anifail. Mae y gwahanol olygfeydd yn rhy hagr i neb allu dal i edrych arnynt, ac o ganlyniad, rhaid tynu y lien i lawr, gan dynu at y terfyn, rhag blino amynedd y crach-feirniad sydd yn mesur llathen pawb gyda'i linyn dwy-droedfedd.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Cyfarfod Cynrychiolwyr y Meistri…
Cyfarfod Cynrychiolwyr y Meistri a'r Gweithwyr yn Abertawe. Dydd Mercher, y 26ain eyfisol, oedd ddydd hir-ddysgwyliedig, pryd yr oedd cynrychiol- wyr y gweithwyr a'u meistri yn cyfarfod yn y Cambrian Arms Hotel, Abertawe. Yr oedd yn bresenol bedwar o'r meistri, a saith o gynrychiolwyr dros y gweithwyr. Dadl y meistri oedd fod meistri y gweithfeydd haiarn yn gwneyd y dunell haiarn ar lai o dreuliau na hwy yn y gweithfeydd alcan, pryd y dangoswyd gan gynrychiolwyr y gweithwyr mewn ffigyrau fod mwy o dreuliau i wneyd tun ell o haiarn yn y gweithfeydd haiarn nag sydd yn y gweithfeydd alcan. Wedi i'r cynrychiolwyr a'r meistri roddi eu rhesymau y naill i'r Hall dros ac yn erbyn gostyngiad, daeth y cyfarfod i derfyniad, a'r teimladau goreu yn ymddangos rhwng y ddwy blaid. Penderfynwyd fod eyfarfod i fod yn yr un lie, y dydd Sadwrn canlynol (29ain), am dri o'r gloch. Daeth pump o'r meistri i'r cyfar- fod, a chynrychiolaeth gyflawn o'r gweith- wyr ac wedi ychydig siarad rhwng y meistri a'r cynrychiolwyr, gwelwyd nas gallesid gwneyd dim, am fod absenoldeb y meistri o'r eyfarfodydd yn ymddangos eu bod yn ben- derfynol o sefyll dros gael y gostyngiad. Yna, daeth y cyfarfod i derfyniad, ac aeth cynrychiolwyr yn ol i gyfarfod y gweithwyr yn y Bird in Hand, a phenderfynwyd nad Î oedd dim gweithio i fod ar y gostyngiad.
Yr Hyn a Glywais.
Yr Hyn a Glywais. CLYWED fod yr hybarch wladwr John Bright, Ysw., wedi dangos i deulu y Senedd nad oes ganddo un math o gydymdeimlad â'r cynhyrfwyr Gwyddelig, am fod y rhwystrau a osodant ar ffordd gweithrediadau y Senedd yn annghyfansoddiadol, a chwbl annheilwng o wleidiadwyr goleuedig Prydain. Nid Wrth sathru deddfau y wlad y dygir gwelliantau yn yr Iwerddon mwy na rhyw wlad arall ac ymddengys pethau yn ol y gwladwr profiadol fod yn llawn bryd i'r Weinyddiaeth gyhoeddi yn hyglyw wrth y Parneliaid mewn ffurf ben- derfynol, "Hyd yma, a dim yn mhellach." Gwell i Bright edrych ati, rhag iddo fyned o dan morthwyl pren John Lewis y GWLAD- GARWR; ond dyna, odid nad all yr athraw clasurol o 'Berdar—neu lie bynag y triga- feddwl yaddo ei hun y gall ddysgu gwersi i Seneddwyr o enwogrwydd Bright ac ereill, chwaethach rhoi gwersi i ohebwyr anwyb- odus a diddeall y GWLADGARWR. CLYWED fod yr arch-gynhyrfwr Parnell am honi ei fod yn hanu o gyff Cymreig, sef teulu y Tudur o Benmynydd, Mon. Pell wyf o gredu fod dim yn y gwr penrhydd yn deilwng o edmygedd yr un Cymro sydd yn caru ei wlad a'i genedl. Mae dyoddef cam yn well na bod yn euog o fradwriaeth a llofruddiaeth- au, yr hyn sydd yn nodwedd amlwg yn mhlith aelodau Cyngrhair Tirol yr Iwerddon. CLYWED fod Shipryswysion, myfyriwr yn Ngholeg Ap Corwynt, yn parotoi crochenaid o ryw hylif eiriasboeth i arllwys ar ben Clustfeinydd, er mwyn ei ddifodi fel na byddo mwy. Yinwregysed yr athraw ymfflamychol a'r myfyrwyr yspongciawg, gan gasglu at eu gilydd y man-gorwyntoedd cyn y dechreuont y rhyfelgyrch fawr, os ydynt am lawryf buddugoliaeth. Nid oes: yma y mymryn lleiaf o ddychryn am ganlyniadau yr ymar- llwysiad; ac yn gymaint mai teulu y Coleg sydd yn herio bydd yn rhaid iddynt gymeryd canlyniadau yr ymosodiad. Gwell genym fod ar y tir diffynol na chymeryd yr ymosodol am nad yw yr olaf, fel rheol, yn diane heb ei anafu. Arllwysed Ap Corwynt ei gwd, ac na fydded iddo guddio dim sydd yn y gronfa yn aros yn guddiedig. Tipyn o beth ydyw ad- nabod gwrthwynebydd pan yn ymdaflu i ymrysonfa, am fod hyny yn rhoddi mantais i'r diffynydd i fod ar dir cadarnach. Wedi cael tipyn o brofiad ar fan-ryfeloedd, mae rhyw hapusrwydd dymunol yn llanw y teim- lad wrth wynebu y cadgyrch corwyntawl, oblegyd os nad oes ynddo fwy na gwynt, ni bydd yn beryglus iawn. Ewch rhagoch yn eich grymusder, a Cheir gwybod cyn darfod dydd Hap erfawr pwy a orfydd. CLYWED fod yr hen athraw Cymroawl Nathan Dyfed wedi bod yn glaf ar ei wely. Nawdd y nef iddo, ac adferiad buan, gyda blynyddoedd o iechyd, fel y caffo y mwynhad o weled y byd yn gwella, a meibion gwragedd' yn ymgodi mewn urddas gymdeithasol yn y byd sydd yr awrhon. Diolch am y cynghoJf da o lynu wrth wirionedd- mae mor dder- byniol ag aur coeth wedi ei buro seithwaith. Fel hyn y dywed y patriarch-fardd ei hun— "Dos yn dy flaen, a gwirionedd a ffyna yn y diwedd." Seln6d gwiw hanfod Gwynfa, -Gwirionedd Geir yno'n Orseddfa, A thrwy Wir, deillir pob da Ddamwain, dry'n ddedwydd yma, Mae un gair o gymeradwyaeth oddiwrth fardd a Ilenor o safle Nathan Dyfed yn fwy o werth na phe byddai Ileng o gorachod llenyddol yn taranu cabledd ac annghymeradwyaeth ac greadur, am fod yn ddigon gwyneb-agored i draethu gwirionedd ar bynciau cyhoeddus. Fe ddiflana melldithion mil-myrddiwi) lo'r- gwybed llenyddol o flaen un llinell gymerad- wyol fel yr uchod oddiwrth fardd bydg10dus Merthyr Tydfil. Ddarllenydd, cymer fedd- iant o'r gwenith, a gad lonydd i'r lis i fyned, ac os nad yn cael hyd i wenith o gwbl, bydded i ti daflu y cyfan ar y tan, er difodiant bythol. CLYWED fod aelodau cynghrair y buddianau personol yn teimlo braidd yn ddig wrth bawb y tuallan i'r cylch cysegredio am yrnyryd dim a phethau perthynol i'r blaid arweiniol. Dynoder un engraifft lwyddianus a wnawd yn ystod y deuddeg mlynedd o fodolaeth y Cyngrhair—dim ond un a geisiwn, gyda byr grybwylliad am y treuliau mawr a achoswyd gan benderfyniadau y Cyngrhair. Mae effeithiau y felldith a ddygwyd ar ein gwlad yn aros hyd heddyw, ac aros wna cyhyd ag y bydd y werin yn ddigon dall i gymeryd eu harwain gan ffug-garedigion sydd trwy fympwy wedi gwneyd y tlawd yn dlotach ar hyd y blynyddoedd. Os teimla rhywun ar ei galon i wrthwynebu yr hyn a glywir yn awr a phryd arall, gwnaed hyny fel dyn, a pheid- ied a bod yn wasaidd oblegyd gwaseiddiwch sydd wedi niweidio ein gwlad, yn gymdeith- asol a mainachol. Nid yw gwaseiddiwch yn ysgrifenedig ar lyfrau y genedl o ganlyniad, na fydded neb yn euog o ddirmygu ei wlad. a'i genedl trwy fod yn wasaidd. Rhaid ym- gadw oddiwrth yr.eithafol rhag dyfod o dan farn condemn iad y doethion am adrodd pob peth fyddwn yn ei glywed. Ni fynegwyd yr haner, ac ni fynegir hyny ychwaith, ond gall fod y dydd yn dyfod pan gyhoeddir y gwir- ionedd ar benau y tai yn y ddinas a'r dref. CLYWED fod yn rhaid i bob un sydd am gael ei gydnabod yn Ilenor cymeradwy, i ymofyn am drwydded yn Sanheidrim y NHW —lie nad oes dim ond purdeb ac anffaeledig- rwydd yn croesi y trothwy ond cofia, ddar- llenydd, na fydd y drwydded yn namyn gwell na theitl o'r Amerig, y rhai a gyfrenir gan y ffug-golegau am ychydig ddoleri. Gresyn fod neb Cymry mor ddall fel na welant trwy y dichellion.a mawrfrydigrwydd y bobl sydd yn sefyll ar gonglau yr heolydd fel myneg- fysedd sydd yn dweyd bob amser, neu yn hytrach yn gofyn, A welwch chwi V ?" CLYWED fod y bibell a'r myglys yn cael cyfran helaeth o'r bai am y ffrwydriadau tanddaearol. Druan o'r myglys. Nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan y llosgid ef mewn lleoedd tanllyd i ddifa y nwy. Rhyfedd fel mae y byd yn cyfnewid mewn llai na thri deg o flynyddoedd! Wyddost ti beth, ddar- llenydd, dirgelwch y damweiniau tanddaearol ydyw diffyg awyr, a threfniant ar y cyfryw trwy wahanol adranau y glofeydd. Lie byddo cronfa o nwyon tanllyd mae yn sicr nad yw y gwyntylliad yn rheolaidd, ond ni wneir sylw ohono nes dygwydd damwain a dyfarniad y rheithwyr fydd fod y bai yn rhywle heblaw ar y meistri, a thwy hyny wneyd bwch di- angol o'r gweithiwr i gario pob pechod. CLYWED fod anwladgarwch y papyr llwyd," fel y gelwir y GWLADGARWR, o dan farn condemniad gan breswylwyr y gors-gefn -ond ni waeth am yr honiadau, am nad ydynt yn ddim amgen na'r drefn anarferol o herfeiddio pawb a phopeth, yr hyn sydd yn nodwedd amlwg yn y dyn ac am y gwyddom nad yw yn reddf anmhlygedig ynddo, fel y mae yn ffurfio rhan o'i gymeriad llenyddol. Cyfarfyddwn ar daith bywyd a chymeriadau unplyg, ond mae yn ymddangos fod hyn yn un o hynodion yr oes, yn gymaint a'i fod yn greadur seithplyg—neu ychwaneg ar rai ad- egau o dan wahanol amgylchiadau. Aed yn ei flaen, fe ddaw y tipyn clai lie preswylia y tamaid enaid sydd ganddo yn ddefnydtiiol ryw dro i wneyd gwenwyn er lladd llygod mawr. O'r hyn lleiaf, dyna farn llawer heblaw CLUSTFEINYDD.
GAL WAD.
GAL WAD. Da genym hysbysu fod Mr. W. James, myfyriwr yn y Trecynon Seminary, Aberdar, wedi derbyn galwad daer ac unfrydol oddi- wrth eglwys ieuanc Gynulleidfaol y Porth, Cwm Rhondda, ac y mae yntau wedi ei hateb yn gadarnaol. Mae Mr. James yn ddyn ieuanc gwir obeithiol, ac yn bregethwr pobl- ogaidd. Mae yn myned i eglwys addawol iawn hefyd, er nad yw ond ieuanc. Dymun- wn o galon ei lwyddiant yn mhob ystyr.
[No title]
Y MAE Gladstone yn 71 mlwydd oed, a Beaconsfield yn 75. YN ol pob tebygolrwydd, bydd Mr. Herbert Reeves yn gystal datganwr a'i dad —Mr. Sims Reeves, PA reswm sydd gan rai pobl dros ychwanegu y sill er at "druggist" 1 Dim. Peidiwch a gwneyd, ynte. YSWIRIODD John Fischer, Findley, Ohio, ei fywyd, ac erbyn hyn y mae wedi myned yn wallgof drwy ofni y byddai iddo farw, gan adael i rywun arall fwynhau arian ei yswiriaeth trwy ymbriodi a'i weddw. DYWEDODD person gwledig wrth weddw ofidus 1 feddyg yn swydd New York, "Nis gallaf ddyweyd pa mor drist oeddwn pan glywais fod eich gwr wedi myned i'r nefoedd. Yr oeddem yn gyfeillion mynwesol yma, ond yn awr ni chawn byth gyfarfod eto."