Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Antheman y Cymanfaoedd Canu, 1881. M. AE'R holl ANTHEMAU, the., ar gyfer y Cymanfaoedd uchod i'w cael gan— WALTER LLOYD, Swyddfa Y Gwladgarwr," I-1 Aberdar.
BWRDD Y GOLYGYDD. t
'in — -—:— BWRDD Y GOLYGYDD. t UN O'R BACWS.—Gan ein bod wedi ei gloi allan yr wythnos ddiweddaf, gwell i chwi beidio rhoi unrhyw achos i ni agor y drws iddo eto. AT MILFKANTDD. "—Gellwch gael y nawfed ar- °,. Alex Ingram's Concise System of Mathematics," yn cynwvs 520 tudalen a 342 woodcitts, am bris rhesymol, ond ysgrifenu at Mr. • Davies, Board School, Smarden, Kent. ROBl TAI CAWN.—Mae'r hyn a glywsoch yn annyddorol. DrsGTBL.— Annghymeradwy. Rhybrin ofonedd- igeiddrwydd. WBDI DYFOD I LAW, yr wythnos hon,- loan ap Rhys-G. C.—John Lewis- T. M. Evans (Tre- forest)—Miibonwyson—Alfred,
OYFRAITH FILWR4IDD NEU YSGRIF…
OYFRAITH FILWR4IDD NEU YSGRIF GORFODOGAETH I'R IWERDDON. NI fu yn amser mor boeth nemawr dro erioed o'r blaen yn Senedd Brydain Fawr ag ydyw hi yn bresenol. Y mae hi y tebyeaf peth yn y byd i'r peth ydyw yn ami iawn yn Senedd-dy Ffrainc—yn dwrf, broch, ac ymdaeru cyndyn a her- feiddgar, ac yn bob peth ond dyrnodio neu ornestu. Y mae y Gwyddel yn ar- ddangos cildynrwydd di-ildio, a'r Llyw- odraeth yr un fath yn arddangos pender- fyniad di-ildio. Dangosodd Mr. FORSTER bwyll, gwroldeb, a phenderfyniad mawr pan yn dadleu dros Ysgrif Gorfodogaeth i'r Iwerddon, a gwyddai ei fod yn rhwym o wneyd hyn yn ngwyneb ystorm o Wyddeligrwydd, os aid perygl i'w ein- ioea eto, nid ymgiliodd y rhithyn lleiaf oddiwrth y gwirionedd, ac nis ymarbed- odd y tipyn lleiaf rhag eyflawni ei ddyledswydd tuag at y wlad a'r Llywodr- aeth. Yr oedd ei ddesgrifiadau o dros- eddau ac ysgelerderau yr Iwerddon yn alaethus i feddwl am danynt, ac yn dangos yn eglur i bob dyn ag sydd yn berchen ychydigystyriaeth. rheswm, adynoliaeth, ei bod yn hen bryd gwneyd rhywbeth digon effeithiol er gosod pen ar weith- redoedd ac ymddygiadau mor annghyf- reithlawn, bwystfilaidd, a barbaraidd; ond meddianai rhai o'r aelodau Gwyddel- ig y digywilydd-dra a'r preswynebedd i honi nad oedd yr Iwerddon yn waeth, os cynddrwg, a Chymru a Lloegr mewn troseddau, a hyny yn ngwyneb ffeithiau ac ystadegau mor amlwg i'r gwrthwyneb! Cafodd Mr. FORSTER wrandawiad astud, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi enill barn a chydymdeimlad y rrý o'i ochr, a phan ymranwyd ar ypwiic, cafoddfwyafrif dym- chweliadol, ac ni phleidleisiodd neb gyda gwelliant Mr. PARNELL ond ychydig nifer o'r aelodau G-wyddelig mwyaf penrydd ac annheyrngarol, megys ef ei hun, a dan o'r aelodau Seisnig—yn y cwbl, oddeutu tri-ar-ddeg-ar-ugain. Y mae yr aelodau Gwyddelig yn colli ar bob ymraniad neu Sjfrifiad a gymer le, a hyny gyda mwy- afrif mawr i'w herbyn, a gallesid meddwl y buasai arddangosiad mor amlwg o farn a syniad gwrthwynebol yn ddigon i ddys- tewia darostwng unrhyw bobl a fuasent yn berchen llygad i weled a chalon i deimlo ond ofnwyf nad yw y Gwyddel yn berchen y naill na'r Ilall ohonynt, ac nad oes dim a'i dug ef i'w iawn bwyll ond goruchwyliaeth o natur a nodwedd fwy anianyddol, dim llai ei heffaith na Chyfraith Filwrol, neu weinyddiad Deddf yr Habeas Corpus, neu Ddeddf Gorfodog- aeth. Cyfraith Filwrol neu Ddeddf Gor- fodogaeth i'r Iwerddon yw y siarad bron yn mhob congl y dyddiau hyn, ac y mae pawb yn ymholi beth yw Cyfraith Filwr- ol neu Ddeddf Gorfodogaeth. Cyfraith Filwrol, fel ag yr ydym yn gael oddiar awdurdod y Due o Wellington, yw ymys- peidiad, neu y rhoddiad heibio o bob cyfraith arall dros amser penodedig. Y mae yn galluogi hedd-ynad y rhanbarth, neu gadben y milwyr yno, i ddal, carch- aru, neu gadw mewn carchar, pwy bynag a ewyllysio efe, heb unrhyw wys na rheswm dros wneuthur hyny. Mewn amseroedd a aethant heibio, yr oedd yn meddu digon o allu ac awdurdod i saethu neu grogi nid yn unig y gwrthryfelwyr a ddeilid a'u dwylaw yn gochion, ond y rhai hyny hefyd y coleddid unrhyw ddrwgdybiaeth yn eu herbyn ond yn yr amseroedd presenol, ymgyng'horir yn fwy a thybiaeth y cyhoedd. Cyfraith Filwr- ol, yn ol tyb amrai o'r Diwygwyr Seisnig, pa rai a bleidebasant gyda DILKE yn Chelsea, a chyda FAWCETT yn Hackney, y yn yr etholiad diweddaf, yw yr unig gyf- raith sydd yn gyfaddas i'r rhan oraf neu y rhan waethaf o'r Iwerddon ar y foment bresenol. Y rhai hyny a chwenychent wybod rhagor a ddylent droi yn ol at y ddadleuaeth yn Nh y yr Arglwyddi ar ymddygiad Arglwydd TOBBINGTON yn eyhoeddi Cyfraith Filwrol, yn ystod y gwrthryfel yn Ceylon, pryd y crogodd efe ddau offeiriad Bwdhiaidd. Darfu i'r hen Dduc wneuthur araeth ddifyfyr, ond danllyd iawn, ac mewn nwyd mawr ar y pryd. Bu i allu hyawdledd yr hwn, fel ymegnion ereill o eiddo athrylithsydd yn rhy dueddol o gael ei ddiystyru gan hurt- ynod y byd, gael ei amlygu i hynodrwydd mawr, pan y darfu i Lywodraeth Ar- glwydd GREY ddwyn i mewn Ysgrif Gorfodaeth (Coercion Bill) ar gyfer yr Iwerddon er's mwy na deugain mlynedd yn ol. Arglwydd ALTHORPE oedd yr hwn a'i dygodd i fewn—dyn doeth iawn, a dyn gonest iawn ond un o'r siaradwyr tlotaf ag a ddaliodd y swydd o arweinydd yn Nhp y Cyffredin erioed. Darfu i DAN O'CONNELL, un o'r areithwyr mwyaf, ei wrthwynebu, a chanlynwyd ef gan ei holl gynffon, ac ymddangosai yr Ysgrif fel wedi myned yn llongrwygiad arni; ond galwyd ar Arglwydd STANLEY ieuanc Rupert Dadleuaeth," ac wedi hyny, Arglwydd DERBY, a Phrif-weinidog Oeid- wadol, i gynorthwyo y gweinidogion. Gofynodd am awr i edrych dros y papyr a gynwysti gyfres yr ysgelerderau, ac aeth i lawr mewn amser prydlawn i Dy Y Cyffredin, a thrwy un araeth ardderchog, cariodd Ysgrif Gorfodogaeth gydag ef megys a nerth Uifeiriant anwrthsafadwy. Yr un fath oedd hi gyda Mr. FORSTER yn bresenol, er feallai nad oedd ei hyawdledd mor ddymchweliadol ag eiddo Arglwydd GREY, eto, yr oedd ei resymau, ei ffeith- iau, a'i ystadegau mor eglur, gysurus, ac argyhoeddiadol, fel nad oedd modd i un meddwl a gydnabyddai hawliau ac iawn- derau dyn, yn nghyd 4 chysegredigrwydd bywyd ac eiddo, i beidio cydweled a chyd- synio a'r hyn a ddywedai ac a geisiai. Y mae troseddau yr Iwerddon wedi myned yn eithafol ac annyoddefol o ddrwg—y maent yn parlysu celf a masnach, yn neillduol yr un amaethyddol—yn dyrysu ac annedwyddu cymdeithas drwyddi, ac yn peri fod dyn yn teimlo yn anniogel parth bywyd ac eiddo, a hyny yn mhob man, a phob pryd, drwy y rhan fwyaf o wlad gythreulig y Gwyddel. Y mae efe wedi myned i ddibrisio pob rhybudd, di- ystyru pob cynghor, dirmygu pob eared- igrwydd, ac i herio pob deddf. Y mae yn llawn bryd dwyn ystop ar bethau fel hyn; a chan fod cymhwysiad o reswm, cydymdeimlad, a chymwynasgarwch wedi methu, nid oes i'w wneyd ond dwyn i fewn fesurau gorfodogol. Gresyn yw hyn, ond nid yr un goruchwyliaeth arall a dycia gan hyny, nid oes dim arall i'w wneuthur
Family Notices
^encdipiethaii. EVANs.-Ion. 3ydd, priod Mr. Henry Evans, glowr, Crown Row, Cwmbach, Aberdar, ar ferch marw-anedig. HOLDING. Ion. Sydd, priod Mr. James Holding, glowr. Collier's Row, Cwmbach, A.ber- dar, ar ferch. HOG AN—WILLIAMS.—-Ion. 27ain, yn Eglwys Bedwellty, gan yr offeiriad, Mr. W. W. Hogan, â Miss Williams, merch Mr. John Williams, Ty Trist, agent, Tredegar-y ddau o'r un lIe. -Ap Noah. WILLIAMS—WILLIAMS. "Ion. 24ain, ynswydd- fa'r cofrestrydd, Merthyr Tydfil, Mr. William Williams, glowr, a Miss Sarah Williams, merch Mr. Edmund Williams, coedwr, Rose Row, Cwmbach, Aberdar—y ddau o'r lie hwn. — Un o'r Duffryn. f iirwolaetliaii. MORGANS.—Dydd Iau, Ion. 27ain, Mrs. Sarah Morgans, priod Mr. Llewelyn Morgans, peirianydd, Lucy-row, Cwmbach, Aberdar, yn 24 mlwydd oed. Hebryngwyd ei gweddillion marwol i Cemetry Aberdar y Llun canlynol gan nifer luosog o bobl.—Gwenffrwd. YATES.—Tachwedd 29ain, yn Mount Savage, Md., America, yn 65 mlwydd oed, o'r parlys, Mr. Thomas Yates. Ni bu yn glaf ond am wythnos. Ganwyd ef yn Clydach, ger Aber- tawe. Symudodd i Ddowlais, lie y bu yn gweithio fel puddler am amser bir. Yn 1850, aeth I America. Cafodd ei fedyddio yn Hebron, DowJais, yn 1843. Gadawodd weddw, mab, a merch yr oedd ganddo hefyd pump o blant yn eu beddau. r f RICHARDS.—-lonawr 17eg, bu farw yr hen batnarch duwiol John Richards, 12, Moss-row, Abernant, yn 86 mlwydd oed. Ni chafodd ond cystudd byr. Oddeutu pythefnos v bu yn gaeth yn ei wely. Genedigol oedd o'Gwynfe, plwyt Liangidog, air Gaerfyrddin. Bu yn gontractor dan Gwmni Abernant am dros 40 mlynedd, yn yr hon swydd mae ei fab, (Abraham Richards) yn bresenol. Dymunir ar bapyrau America godi yr uchod. ~-Galarwr. [ THOMAS.—Rhagfyr 7fed, yn Oskaloosa, Iowa, Unol Dalaethau, o'r ddarfodedigaeth, yn 27 mlwydd oed, Ann, priod Mr. James Thomas, teiliwr. Merch ydoedd i John ac Elizabeth Jones, Hill-street, Rhymni. Bu yn briod am bum' mlynedd, ac ar ol treulio peth amser yn Mhenybont-ar-Ogwy, ymfudodd i America yn mis Gorphenaf diweddaf. Aelod dichlynaidd ydoedd gyda'r Bedyddwyr. Claddwyd hi y dydd Ian canlynol, mewn modd Jiynod o barchus, yn yr Old Cemetery. JONEI.-Rhagfyr 9fed, yn Hyde Park, Pennsylvania, Mrs. Catheride R. Jones. Merch ydoedd i Mr. Rees Morgan, Francis-street, Dowlais. Ganwyd hi yn 1842; felly, yr oedd yn agos i 39 oed. Pan yn 21, priododd ft W. R. Jones. Aethant i America tua 5 wythnos ar ol y briodas. Bu hi yn fam i 9 o blant, pedwar o ba rai sydd yn fyw. Bedyddiwyd hi yn Moriah, Dowlais, gan y Parch. William Lewis. Claddwyd hi yn mynwent y Cymry yn Hyde Park, a gweinyddwyd gan y Parch. D. W. Morris. DAVIES.—Boreu dydd Mercher, Rhagfyr Meg, 1880, yn dra sydyn, Ebenezer Davies, Abercan- aid, ger Merthyr Tydfil, yn 71 mlwydd oed. Yr oedd yr hen frawd mewn cytarfod yn y capel y nos Lun blaeuorol. yn trefnu y gweithred- iadau, ac yn terfynu trwy weddi ei hun. Yr oedd yn hynod y Sul cyn ei farwolaeth yn ei gapel ei hun, sef Zion, Abercanaid yr oedd yn ei hen hwyliau crefyddol 40 mlynedd yn ol. Bu yn aelod a diacon yn yr eglwys hon oddiar ei sefydliad hyd ei angeu. Yr oedd yn bresenol, hefyd, pan adeiladwyd eglwys Saron, Troedy- rhiw. Derbyniwyd Ebenezer Davies yn aelod eglwysig yn Soar, Merthyr gan y diweddar Barch. Samuel Evans. Felly, bu yn gwasan- aethu ei Geidwad yn yr eglwys ar y ddaear am 51 o flynyddau, a hyny yn ddiwyd a ffyddlon yn mhob cylch, heb erioed un bwlch yn ei gymeriad crefyddol. Yr oedd ynddo fedr neill- duol i lywodraethu eglwys, a phresenolai ei hun yn mhob cyfarfod. Da fyddai ped ymgymerai y Parch. L. P. Humphreys, neu y Parch. D. Thomas, Cymer, neu R. Griffiths, Tabor, ag ysgrifenu cofiant iddo, oherwydd gellir dweyd llawer am dano, ac y mae yn deilwng o hyny. Daearwyd ei weddillion marwol yn mynwent Saron, y dydd Sadwrn canlynol.-T. T. WILLIAMS.-Ionawr 16eg, bu farw Mr. Wm. Williams, contractor, Penycae, ar ol cystudd maith a chaled. Yr oedd yn ddyn hynod mewn tynerwch a charedigrwydd, a phawb yn yr ardal yn ei hoffi, yn enwedig ei weithvryr ei hun. Yr oedd wedi bod yn wrandawr cyson o'r Efengyl, ond heb roddi ei hun i'r GwaredwF. Tair blynedd yn ol, teimlai bryder dwys am ei gyflwr, ac wrth wrando Dr. Owen Thomas, tor- wyd y ddadl yn ei feddwl, ac ymunodd i'r Methodistiaid Calfinaidd yn eglwys Ebenezer. Yr oedd yn ddeunaw mlwydd a deugain yn ymuno &'r achos, ac yn mhen dwy flyaedd yn marw ond er mai byr oedd ei yrfa grefyddol, gwnaeth ei oreu gyda'r achos. Yr oedd ei am- gylchiadau bydol yn dra chysurus, ac am fod yr eglwys yr oedd yn aelod ohoni yn ychydig o nifer, cymerodd at letya yr holl bregethwyr ar ei draul ei hun, a chyfranu yn helaeth at yr achos, ac y mae ei symudiad ymaith yn golled drom i'r eglwys wan uchod. Cafodd gystudd maith a blin, ond ymostyngai yn dawel i ewyllys Duw, a chafodd le i gredu fod y gwaethaf wedi myned heibio. Y peth oedd yn ei ofidio fwyaf oedd na fuasai wedi rhoddi ei hun yn gynt i'r Gwaredwr. Gweddiai yn ddwys am drugaredd, ac yr ydym yn hyderus i Dduw gymeryd tru- garedd arno. Ar y 24ain cynfisol, ymgasglodd tyrfa luosog a pharchus i wneyd y gymwynas olaf iddo. Claddwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr, rhwng Tredegar a Rhymni, pryd y gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. v D. Roberts, Aaron Davies, a George Phillips. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol, dau o ba rai sydd yn America, ac un yn Awstralia. Amddiffyn Duw fyddo drostynt oil. —CyfaiU.
|Y Senedd Ymerodrol
Y Senedd Ymerodrol TY Y CYFFREDIN.—MAWRTH A MERCHER. Cafwyd amser prysur a phoeth iawn yn Nhy y Cyffredin, ddyddiau Mawrth a Mercher, Ion. 25 a 26, pan yr eisteddodd y Ty trwy gydol nos Fawrth, o 4 o'r gloch y dydd blaenorol, hyd 2 o'r gloch prydnawn dydd Mercher. Cododd Mr. GLADSTONE i gynyg penderfyniad fod yr ysgrifau am ddiogeliad heddweh yn yr Iwerddon i gael y flaenoriaeth ar bob peth, yn gymaint a bod y Parliament wedi ei alw yn nghyd eleni fis yn gynt, gyda'r arncan proffesedig o ddelio a'r Iwerddon. Gwasgai ar y Ty y pwysigrwydd iddynt fyned yn mlaen a'r mesur- au hyn oeddynt yn dal cysylltiad a'r Iwerddoa yn hollol ddioediad. Siaradwyd yn ei erbyn gan Mr. T. 'P. O'CONNOR, a chododd Mr. VIVIAN, a dywedai ei fod yn gobeithio clywed oddiwrth y Prif-wein- idog, neu ryw aelod arall o lywodraeth ei Mawrhydi, na fyddai iddynt dreulio yr amser a roddid i fyny iddynt mewn siarad ofer. Yr oedd ef yn ddiweddar wedi bod yn mysg ei etholwyr, a dywedai fod ar bob tu, a phob plaid o bob gradd, yn sicrhau wrtho ef fod cyflwr presenol y Parliament yn un o'r pethau mwyaf brawychus a fu erioed. Dywedai ef wrth y Llywodraeth, os nad oeddynt yn barod i ddelio a'r mater gyda llaw gref, ddiysgog, a barnol, .byddai iddynt golli ymdcl; "riedaeth y wlad. Ar ol hyn, siaradwyd gan amryw o'r Home Rulers, a chododd yntau, Mr. BIGGAR, yr hwn sydd fel math o ddifyr-ddyn i'r Ty, a gorfu i'r Llefarydd ei alw i drefn, a dywedodd wrtho, o'r diwedd, jjfod yn rhaid iddo ei enwi fel un yn diystyru awdurdod y Gadair. Ar hyn, cododd Mr. FORSTER, a dywedodd:— Ar ol hyn a ddygwyddodd, Mr. Llefarydd, fy nyledswydd ydyw cynyg fod Mr. BIGGAR i gael ei atal rhag gwasanaethu yn y Ty am y gweddill o eisteddiad y dydd hwn." Rhoddwydy mater o flaen y Ty gyda'r canlyniad hwn :— Dros atal Mr. Biggar 160 Yn erbyn 30 Mwyafrif 130 Yna, dywedodd y Llefarydd fod yn rhaid iddo alw at yr aelod anrhydeddus dros Cavan, mewn ufudd-dod i bleidlais y Tý, i gilio yn ol oddiar y fainc. Yna, aeth Mr. BIGGAR allan yn nghanol chwertbin a llefau o "Shame" oddiwrth yr Home Rulers. Cynygiwyd gan Mr. HEALY, aelod Gwyddelig, i ohirio y ddadl, ond collwyd ef trwy fwyafrif o 135 o d y Llywodraeth ar y rhaniad cyntaf, a 104 ar yr ail raniad. Vna, rhoddwyd cynyg Mr. GLADSTONE ger- bron, a siaradwyd yn ei erbyn yn gyntaf gan Mr. PARNBLL, yr hwn oedd am ei ohirio hyd ddydd Iau. Yna, cododd Mr. GLADSTONE, ao ymdriniodd ar y pwysigrwydd iddynt fyned yn mlaen â. mesurau yn dal perthynaa a'r Iwerddon heb golli dim amser.. Dilynwyd ef i'r un cyfeiriad gan Syr STAFFORD NORTHCOTE, yr hwn a ddywedai eu bod yu meddwl ei fod yn ddyledswydd arnynt i gefnogi y Llywodraeth i gario yr hyn a gynygient, ac i wasgu arnynt i'w cario mor fuan ag sydd bosibl, a'u dwyn i weithrediad ar unwaith wedi eu cario. Siaradodd Mr. PARNELL, WHITBREAD, GORST, a chododd Mr. CAVEN, yr aelod dros New Castle, a thraddododd araeth, yr hyawdlaf (I ddigon yn ystod yr eisteddiad ac er y proffes-i fod yn Radical, beiai y Llywodraeth mewn hyawdledd llosgawl. Gwnaeth yr araeth hoD. yr hon oedd yn ei llifeiriant rheithegol, effaith mawr ar y Ty, ond y gwaethaf ydoedd, nad oedd yn sylfaenedig ar ffeithiau. Condemniai orfod- ogaeth, ac eto, ni chynygiai un cynllun gwell. Rhanwyd am 10 mynyd i ddau o'r gloch, dydd Mercher, gyda'r canlyniad hwn :— Dros gynyg Mr. Gladstone 251 Yn erbyn 33 Mwyafrif r 2 TY Y CYFFREDIN. -DYDD GWENER. Y mae yn debyg i Mr. GLADSTONE, tua chanol nos \7ener, draddodi un o'r areithiau mwyaf hapus a draddorlodd ya ei fywyd, nes gwef- reiddio y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr. Ni ran- wyd y Ty y noson hono, ac y mae peth beio am hyny. Pan eisteddodd Mr. GLADSTONE i lawr, mor orchtygol oedd effaith ei hyawdledd, fel y gwaeddai aelodau o bob ochr i'r Ty am rami, Buasai un awgrym oddiwrth Mr. GLADSTONE i basio darlleniad cyntaf yr Ysgrif Nawddogawl, ond gohiriwyd hyd ddydd Llun. TY Y CYFFREDIN-DYDD LLUN. Dechreuwyd am 4 o'r gloch. Ail-ddechreu wyd ar y ddadl ohiriedig ar Ysgrif Mr. Forster ar Nodded Personau a Pherchenogaeth yn yr Iwerddon. Cychwynwyd gan Mr. C. Lewis, a dilynwyd ef gan Mri. Newdegate, C. Russell, Hopwood, T. D. Sullivan, Broadhurst, A. M. Sullivan, ac ereill. Eisteddasaut trwy'r nos, ganfliarad ar ^welliaut Dr. Lyons, sef ei bod yn well pasio mesur meddyginiaethol cyn dyfod it mesur gorfodol i mewn. Ya awr, un o reolau y Ty yw nas gellir ymranu ar a therfyna it gwell- iant tra y mae un aelod yn awyddus am siarad arno. Gwyr yr aelodau Gwyddelig hyn yn dda, ac felly, er mwyn rhwystro pasiadjyr Ysgrif, maent yn cytuno i siarad, un ar ol y Ilall, mor hir ag y mae eu hanadl yn caniatau iddynt. I osgoi y rheol a'u hatalia i siarad ddwywaith ar yr un testyn, mae un yn cynyg fod y Ty yn awr i'w dori i fyny am y nos. Ar y cynygiad newydd gall oawb siarad, ac os bydd iddo gael ei golli ar yr ymraniad, y mae aelod arall yn ei osod o flaen y Ty eilwaith. Dyn-i, yn hr gynllun yr "Obstructionists." Penderfynodd dwy ochry Lyon, ac felly aethant yn mlaen nes cynal yr eis- teddiad hiraf ar gof. Pellebryn, hwyr nos Fawrth, a hysbysai fod y ddadl heb ei therfynu. Mae y Ceidwadwyr wedi cyduao a'r Rhyddfryd- wyr yn erbyn y Gwyddelod, a'r ddwy blaid wedi Ty na thorent i fyny cyn gorpnen gweiliant Dr. eu rhanu yn ddwy shift-un yn gweithio nos, a'r llall yn gweithio dydd (yn ot iaith y glowyr). Nid oes y gwybodaeth lleiaf pa bryd y terfyna eisteddiad dydd Llun. =====
[No title]
Y "Drych" ac Aneurin Fardd. Cosfa o'r iawn ryw roddodd Golygydd y Drych Americanaidd, ar Ionawr 6ed, i Aneurin Fardd, am ei ymosocliadau cyfeil- iornus ar Gymry America, yn y Faner. Er mwyn i'n darllenwyr ddeall pwy yw yr Aneurin hwn, efe yw'r un a yrodi at bwyllgor Eisteddfod Abertawe i drin Gumos a Dafydd Morganwg am iddynt atal y dog punt oddi arno am y rhigwm a yrodd i mewn iddynt ar "Iolo Morganwg." Er ymdrechion penaf Aneurrn dros yr ytngeisydd Democrataidd, dewisodd etholwyr yr Unol Dalaethau Arly- wydd Gwerinol. Cododd ei lid, a dechreu- odd blackguardio y Cymry Gwerinol. Gan i'r holl newyddiaduron gau y drws yn ei erbyn, ehedodd droa y Werydd i'r Faner, a thrwy gyfrwng y papyr hwnw, arllwyaodd ei lysnafedd ar eu penan. Cymerodd Gol. y Drych ef mewn llaw, ac mewn atebiad, dai r colofn o hyd, y mae yn gwrfchdroi celwyddau Aneurin mewn modd anarferoi o alluog.
Cyfarfod Misol Glowyr Aberdar.
Cyfarfod Misol Glowyr Aberdar. Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod misol o gynrychiolwyr glowyr cwm Aberdar ya y Bute Arms, Aberdar. Y cadeirydd oedd Mr. D. Morgan, Aberaman. Yr oedd y cynulliad yn bur lluosog. Pasiwyd y tri phenderfyniad a ganlyn 1. Fod y cyfarfod hwn yn annghymeradwyo ymddygiad meistri glofeydd y Deheudir am geisio gwthio y Gymdeithas Ddarbodol ar y glowyr yn afreolaidd, gan fod y mater i'w drefnu mewn cyfarfod cyffredinol. 2. Fod y cyfarfod hwn, bellach, yn dymuno ar holl lowyr y Deheudir i beidio gwneyd sylw o'r cyfryw Gymdeithas Ddarbodol hyd nes y cant gyfarfod cyffredinol i benderfynu y mater. 3. Pod y cyfarfod hwn, ar ol derbyn y cais am gyfranu tuag at weddwon ac amddifaid Tanchwa Penygraig, yn penderfynu na wnant gyfranu at unrhyw ochos o'r fath, cyn i'r arian a gyfranwyd tuag at gynorthwyo gweddwon ac amddifaid Abercarn gael ei drosglwyddo i'r cyfeiriad priodol; ac yna, y bydd iddynt gyfranu tuag at unrhyw achos teilwng.
[No title]
ToloDD lladron i mewn i Eglwys St. Elvan, Aberdar, yn ystod nos Lun, ond ymddengys na ddarfu iddynt fyned a dim yma.ith. Diau eu bod yn meddwl cael gafael mewn arian, neu ryw bethau gwerthfawr ereill, ond yn hyn fe'u siomwyd. DAEARGRYN YN BEltNE.-N ewyddion o Geneva, dydd Gwener, a'n hysbysant fod ysgydwad cryf o ddaergryn wedi ei deimlo yn Berne y dydd cyn hyny, nes peri i amryw simneuau syrthio. Rhuthrai y plant o'r ysgolion i'r heolydd, lie yr oedd y rhan fwyaf o'r trigolion yn barod. Nid oes son fod un bywyd wedi ei golli, ond niweidiwyd amryw adeiladau. f
Tystiolaethau Pwpsig
Tystiolaethau Pwpsig I QUININE BITTKR8 GWILYM EVANS. Brynhyfryd, ger Abertawe. « ^'n.w71 Syr- ~Yr ydv>ryf wedi bod yn gwerthu y Qmnme Bitters" am rai biynyd-sau bellach. X iJiaent wedi gwneyd liawe? o les yn yr ardal yma, c v mae dyfodiad dy^'laer iddynt. Yr ydwyf wedi sylwi yn fauol ar eu heffaith ar wahanol bersor.au, ao yr y-wyf Wd]i gweled rhai o'r dolur- lau gwaethaf a allai neb ddyehvmygu yn cael eu Uwyr welJhau trwy ddeftjy- riio y meddyglyn yma. Y mae plant o bob oedran, dyuiim ieuanc a hen, ^vragedd a merched, oil yn tystiolaethu i'w heffaith daionus. Y mae vn drueni na ellid eu darostwng ychydig yn eii pris, heb wanychu eu heffaith gan fod canoedd o bob! weinion yn sychedu am drei.) ei heffaith, ond eto heb fodd i wneyd hyny.— Yr eiddoch. yn serchog. ISAAC OWEN. From Gnjjyli Jf dkams, Llanerchymedd Angle- sea Sy", Da genyf gael y cyfleusdra i anfon gair o gainiioaaeth ich "Quinine Bitters." Y maent yn dderbyniol iawn ya y gymydogaetb hon. Gweixnais Jawer ohonynt yn ystod y blynyddau di wed dai. ac y mae y galwa<i arnynt yn i>arhau i gynyddu. IS id oes rneddyginiaeth yn deb-, g iddynt at iselder ysbryd, diffyg traul, dychlamiad- au y galon, a chur yn y pen. Yr eiddoch yn frvwir, Medi 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS. From Vr JoJPt floa*. Cynffig), Mynydd Cyn$ig m yn dyoddef 11awei' oddiwrth ddolur yn fy irrhea, isslder ysbryd, diifvg archvaeth at fwyd, ac ar o ei fwyta. blinder mawr. Prynais botelaid 4 s- 6d oddi wrth Mr. Richard Jenkins, Jveun^ Hill, ac ar ol i mi ei chymeryd, teirnlais fy hun wedi adferyd i'm iechyd arferol, ac yn alluog i ddilyn fy ngalwedigaeth Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i ereil!, a thvstiolaeth y rhai Lyny yw eu bod wedi derbyn lies annhraethol trwyddynt, ft byddaf yn tesimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. From th-i Rev J. n. Williams (Brunfardd), Head Master of the Do voids Grammar School. To Mr. Gwilvm Evans. Dear Sir,—The wonderful efficacy of vour Quinine Bitters" to restore health and vigour after lingering illness and debility, has been recent- ly and sufficiently proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J Ellis Edwards M.B '7.8. L.S A c'-c Saint Clears ■Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked by my patieiits as to the desirability of taking your "Quinine Bittoys, I have ior the last two years given it a fair trial, and find it. without exception the most pleasant, ar.d e&ctual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, 3I.R c.s. L.s A. Testimonials of the m'-st flattering nature have been recently received from Mr. JjSepli 'Vtr. Cardigan; Mr. Griffith Williams, Llanerchymedd- Mr. W. H. Thomas, Dowlai, Mr John Francis Wrexham Mr. Myrduin Davies, Swansea; Mr. Hugh G. Hughes, Holyhead; Mr. W. ShlS, Aberaman; E. P. "Wynne, Abtrv'i y Mr. Jones, St. Asaph Mr. ij. E'vans, C' Montgouiei-yshire Mr. J. P. Jones, A1 CJ. vi"l • all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of difreit nt pre- pa,ratiolls offered to the public by adve ti and other means. Mr. Watkin J. Thomas, Chemist, Al'erdp^e Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came nuder his immediate notice. To Mr. Gwilym Evans, F.C.S.. Manufactudno- and Analytical Chemist, Lianelly. ° Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.—I am happy to state that the sale of the" Quinire Bitter;. is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct end remai'Icablo cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believ- in. — Yours kre., E. D. GEOilGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Pcny- groes, North Wales J TV, + l- .August 26th, 1880. taken your Quinine Bitters for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom ihe benefits derived are great and permanent. From Dt. G. J4. Jones. T l-'f i ,1. SePt" 27fch' 188°- £ I 5fl fclfy tlla" the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from minerals, and that be ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to DeWitvtS SUCCeSS in °ases of Illdio^stion and (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Oifice, Tre. lech. V Sept. 15th, 1830. My dear Sir,-Although you must be overload- ed with testimonials in favour of your now e_d celebrated Quinine Bitters," jet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those of my customers who have truly proved its renovating properties alw-vs tnlro one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they deuve much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Hare kept it on sale for many years, and find the demand for it m this p«t confer ally increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24 th, 1880, Mr. 0: Isgoed Jones, Chemist, LJannv8t, has ■•Id grasses of the Quinine Bitters," and 'from el*» ebservatien their effects, can vouch f^ tkeir efficacy as a tonic in cases of extrema debility, &c., being particularly suitabV to patients r«c»ver»g froi* long illness.