Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Llofruddiaeth " Howey," o…
Llofruddiaeth Howey," o Blwyf Defynog. Agorwyd Brawdlys Brycheiniog, dydd Llun, wythnos i'r diweddaf, o flaen y dir- prwywr Mr. Brown. Yn mysg achosion ereill, cyhuddid Herbert Williams (14). a Daniel Phillips (15), o ladd un Howell Jones, o blwyf Defynog, ar yr 2il o Ragfyr diweddaf. Pleidiai y ddau garchar- 6r eu bod yn ddi-euog. Erlynid gan Mr. B. T. Williams, Q.C., A.S., a Mr. Jenreys ac amddiffynid Herbert Williams gan Mr. B. F. Williams, a Daniel Phillips gan Mr. Bowen Rowlands. Mr. B. T. Williams, wedi nodi yr amgylchiadau dan ba rai y cymerodd y dygwyddiad adfydus Ie, a alwodd ar y tyst cyntaf, Ann Jones, gweddw y trancedig. Dywedodd i'w gwr, ar ddydd Iau, Rhagfyr yr 2il, adael ei gartref am Aberdar, ac yr ydoedd i ddychwelyd y noson hono. Yr het oedd gerbron oedd yr un a wisgai ar yr achlysur. Daniel Bowen, landlord y New Inn, Yatrad- fellte, a ddywedai ei fod yn adnabod y trancedig. Yr oedd yn ei dy ef ar yr 2il o Ragfyr. Marchogai ar geffyl, yr hwn a roddodd yn yr ystabl, ac yna daeth i'r gegin. Yr oedd nifer fawr o bersonau yno. Nid oedd yn sicr pa un a ydoedd y carcharor Herbert Williams yno pan ddaeth y trancedig i fewn, ond yr oedd yno yr un prydnawn yn nghwmni y trancedig. Aeth allan, ac yna dychwelodd, ac arosodd wedi hyny am tua chwarter awr. Yr oedd Herbert Williams yno pan aeth y trancedig allan, ac aeth yntau hefyd allan a dychwelodd yn mhen tua 10 mynyd, a dywedodd fod Howey," gan olygu y trancedig, yn gorwedd ar yr heol. Dywedodd y tyst nad oedd y trancedig yn feddw, ac y gallasai gyfodi. Yna, rhanodd gwrw o gyl-h, ac aeth allan a dychwelodd yn fuan, gan ddweyd fod Jones ar yr heol yn farw. Aeth y tyst ac ereill allan, a chawsant y trancedig yn gorwedd yn farw. Dygwyd y trancedig i'r ty, a chwiliodd y tyst ei logellau, a chafodd arian ynddynt. Wrth gael ei groesholi dywedai y tyst, pan ddaeth Williams i mewn a dweyd fod y trancedig yn gorwedd yn farw aryr heol, nad oedd dim yn anarferol ar ei ddull, na phan yr arllwysai allan y cwrw. Ni chlywsai y tyst un stwr na chynhwrf tuallan i'w d £ William Thomas a ddywedai ei fod yn fugail ac yn gymydog i'r trancedig. Gwelsai ef yn y New Inn, Ystradfellte, ar y noson grybwylledig. Yr oedd yno lawer iawn o bobl yn yfed ar y pryd. Nid oedd efe yn sicr fod Herbert Williams yno y pryd hwnw. Gwelodd ef ar ol hyny, a gwelodd ef yn myned allan. Yn mhen ychydig amser, dychwelodd, a dywedai fod y trancedig ar y llawr; a phan ddychwelodd yr ail waith, dywedodd fod y trancedig wedi marw. Ym- ddangosai yn dra gwelw y pryd hwnw. Aeth y tyst allan, ac efe oedd y cyntaf i fyned at y trancedig. Yr oedd yn gorwedd ar ei ochr ger yr horse-block yn hollol farw. Pan groesholwyd ef, dywedodd y tyst na chlywsai un croeseiriau rhwng y trancedig a Herbert Williams. Mary Williams, merch fechan, a dystiai ei bod yn forwyn gyda David Jenkins, Ystrad- fellte. Cofiai y trancedig yn dyfod i d' Jno. Jones i weled Jenkins ar y noson a enwyd. Yr oedd oddeutu chwech o'r gloch. Yr oedd dyn o'r enw Price yno, a gwelsai y trancedig yn rhoddi penadur iddo, ac yn mhen ychydig amser ymadawodd, a gwelodd y tyst ef yn myned tua'r Blue Bell, a'r carcharor Herbert Williams yn rhedeg ar ei ol. Dywedodd ef rywbeth yr hyn na ddeallodd hi. Yna, trodd hi yn ei hoi, gan ei bod yn ei ofni. Yr oedd David Phillips, y pryd hwnw, yn nhy Jones, He yr aeth hi, a dywedodd wrtho fod y trancedig a Williams allan ar yr heol, ac aeth yntau allan atynt. Aeth hi allan eilwaith yn mhen tua chwarter awr, ond ni welsai neb yno ond ar ol hyn, gwelodd y trancedig yn farw yn mharlwr y New Inn. Thomas Havard, llanc 11 oed, a dystiai ei fod yn y New Inn ar y noson grybwylledig, ac wedi ei anfon allan ar neges, gwelodd y trancedig yn ymyl ffenestr parlwr y New Ion. Yr oedd, y pryd hwnw, yn sefyll, a Herbert Williams a'r carcharor arall ar yr heol tua thair neu bedair Hath oddiwrtho. Yr oeddynt yn taro eu traed wrth y llawr. Yr oedd yn dywyll, ond yr oedd yn sier mai y carcharorion a welsai. Cododd Herbert Williams gareg, gan ei thaflu yn y cyfeiriad lie yr oedd y trancedig. Yna, aeth y tyst tua thy Jones a phan yn dychwelyd, gwelai y trancedig yn gorwedd ar lawr. Yr oedd dynion yn ei gario i'r New Inn. Gwelodd y carcharorion ar ol hyny y noswaith hono, a gofynasant am iddo feddwl am beidio dweyd eu bod ar y ffordd. Terfynwyd y prawf dydd Mercher, pan yr holwyd tystion ereill, ac yn eu plith Mr. John North, meddyg, yr hwn a ddywedai ei frod yn credu nas gallai y niwed ar ben y trancedig gael ei achosi gan godwm. wife gwrando a holi yr holl dystion, aymiodd y dirprwywr ityny, a dywedodd y rhpithwyr eu bod wedi penderfynu dychwelyd y ddedfryd o ddi-euog yn achoa y ddau felly, rhyddhawyd hwy.
Hanesion Dosbarthawl.I
Hanesion Dosbarthawl. I CAERDYDD. COLLIERY MANAGER CERTIFICATE. — Dyddiau Mawrth a Mercher, Ionawr 25 a'r 26ain, oedd yr amser apwyntiedig i'r arholiad am y Colliery Manager Certificate gymeryd lie, yr hwn a gynal- iwyd yn y lie uchod. Yr arholwyr oeddynt T. Foster Brown, Ysw., C.M. K. W. Adams, Ysw., C. M. E. ac E. Daniels, Ysw., C.M.E. Yr oedd rhyw haner cant yn myned dan arholiad, ac mae'n dda genyf gael ar ddeall fod Mr. Thomas Williams, overman glofa y Great Western, ger Pontypridd, yn un o'r rhai llwyddianus am y Colliery Manager Certificate." Gwyr pawb sydd yn gyf- arwydd a gweithfeydd glo nas gall neb fod yn manager gwaith glo heb y certificate uchod. Credaf y bydd yn dda gan ganoedd glywed fod y cyfaill a'r brawd parchus Mr. Williams wedi myned trwy yr arholiad yn llwyddianus. Ychydig wythnosau yn ol, cyflwynwyd tysteb anrhydeddus gan yr Undeb Iforaidd iddo. Gwelir fod Mr. Williams yn bt ysur esgyn i sefyllfa o anrhydedd. Yn mlaen yr elo, fel y gallo fod yn fwy fyth o les i'w genedl yw dymuniad-R. Gwyngyll Hughes. BRITON FERRY. TERFYNIAD Y RHYBUDD.—Dydd Sadwrn, Ion. 29ain, daeth rliybudd y gweithwyr haiarn yn y gwaith alcan yma i ben. Bu cyfarfod mawr o gynrychiolwyr meistri a gweithwyr yn Abertawe, dydd Sadwrn, yn ceisio penderfynu yr annealltwr iaeth ond yn anffodus iawn, methwyd dyfod i un math o benderfyniad, ac ofnir y bydd llawer allan o waith oherwydd hyny. Byddai yn fendith mawr, pe gellid cael yr hen drefn yn ol, sef y prisoedd sefydlog (standard prices). CYFARFOD DIRWESTOL UNDEBOL.— Nos Fercher, yn Rehoboth, ymgyfarfyddodd y Band of Hope Union, a rhoddtsant anerchiadau a chaneuon, a'r oil yn canu yn undebol dan arweiniad Mr. J. Parker. Llywyddwyd gan Mr. Polgloss. Y mae yma yn awr naw gobeithlu yn y lie. Llwydd iddynt i fyned yn mlaen SALEM.—Nos Iau, Ionawr 27ain, traddodwyd darlith ar Gwacyddiaeth," yn y capel uchod, gan y Parch. O. Waldo James. Yr oodd yr elw tuag at leihau dyled Salem.—Llanydd. ABERTAWE. DAMWAIN ANGEUOL.—Yn mhwll y Saint, pryd nawn dydd Mercher diweddaf, cyfarfyddodd tanwr o'r enw David Stephen 4 damwain fu yn angeu iddo yn mhen ychydig oriau. Ymddengys fod y trancedig wedi gorphen ei ddiwrnod gwaith, ac yn sefyll ar ochr y drift, ac iddo roddi naid ar y chain. er myned i'r lan ond yn anffodus, collodd ei oleu, pan oedd ceryg o gryn faintioli yn ewympo ar y cledrau. Yn y fan hon, anafwyd ef i'r fath raddau, fel y bu farw tuag 11 o'r gloch yr un noson. Yr oedd Stephen yn byw ar y Cockett, ac yn un a berchid gan ei holl gymydogion. Yr oedd tua 40 mlwydd ced, ac yn aelod da a gweithgar yn eglwys yr Annibynwyr yn Sketty. Gadawodd wraig a chwech o blant i alaru ar ei ol. Y dydd Sadwi n canlynol, daeth torf fawr yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i gladdfa henafol y Sketty. Huna bellach, gyfaill anwyl Hyd nes gelwir di o'r bedd Gan aruchel floedd yr Udgorn A ddaeth fry o wlad yr hedd Minau 'nawr sydd yn dy ganlyn, Bron a gadael Bozra'n lan, Gan ddymuno cawn ail gwrddyd Holl mewn hedd yn ngwlad y gan. -Serenog, Raven Hill. CAERFFILI. DAMWAIN DDlFRiFOL. —Prydnawn dydd Gwener, Ionawr 28ain, cymerodd damwain ddifrifol le yn un o byllau suddo (sinking pits) perthynol i gwmni y Llantwit & Blackvein, trwy ba un y cafodd pump o ddynion eu hanafu yn ddrwg. Ymdden- gys fod yr anffodusion yn sefyll ar esgynlawr yn y pwll o fewn tua deg troedfedd ar ugain i'r gwaelod, ac wrth y gorchwyl o walo y priddfeini, pan dor- odd y cydiadau oedd yn dal i fyny yr esgynlawr, a syrthiasant yn bendramwnwgl i'r gwaelod. Cod- wyd hwy i fyny yn union, a chludwyd hwy i'w cartrefleoedd mewn cerbydau, a gweinyddwyd arnynt yn ol eu hangenion gan Dr. Llewelyn a'i gynorthwywr, Dr. Evans. Deallwn fod tri ohon- ynt wedi tori eu coesau, ac un o'r tri ei ddwy goes, heblaw derbyn niweidiau ereilL Trugaredd ydyw na chawsont oil eu lladd. Mae'n dda genym hys- bysu eu bod oil mor gysurus ag y gellir dysgwyl iddynt fod. CERDDORIAETH.—Cafwyd cyngherdd ardderchog yma yn ddiweddar, yn nghapel newydd prydferth y Methodistiaid Calfinaidd, pan y cymerwyd rhan ynddi gan y personau canlynol :-Miss Clara Novello Davies, Canton; Mrs. Edwards (neeHattie Davies); D. Rosser, Ysw., Pontypridd; Miss Cosslett a Mr. Gwilym Thomas, Caerffili, yn nghyd & Master Tom Barker, X. A. M. Diolchwn o galon i'r Parch. T. Davies, y gweinidog, a Mr. John Williams, Siop y Bout, am gyflogi y fath gewri ar y maes cerddorol. Hon ydoedd y gyngherdd oreu a gawsom yma er's ugain mlynedd. Yr oedd yma wersi da i lawer o sprats cerddorol y lie, a gwnaeth- ant ddefnydd priodol ohonynt. Hyderwn y cawn dreat o'r fath yn fuan eto. Canodd cor undebol y lie ddau gorawd yn dra effeithiol, a chawsant gymeradwyaeth ucheL-Castellydi. CWM CLYDACH. Y mae yn dda genym hysbysu fod pob ymdrech yn cael ei wneyd at gymhwyso dynion ieuainc y lie hwn i fod yn addas i gymeryd rhan mewn cym- deithas, ac i gyrhaedd gwybodaeth, er lies iddynt yn dymorol ac yn ysbrydol. Mae yma ddau gapel tlws-un gan y Bedyddwyr, a'r llall gan yr An- nibynwyr, a dau weinidog diwyd a da yn eu bugeil- io, sef y Parch. W. Davies, gynt o Ferthyr, gan y blaenaf, a'r Parch. Thomas Williams, gynt o Llan- ön, Sir Gaer, gyda'r olaf, ac y mae llwyddiant an- arferol ar y genadwri, fel ag y mae llawer yn dyfod i ddilyn yr Oen trwy glod ac annghlod, hyd nes gwneuthur lleoedd y ddau enwad yn brin i ddal eu cynulleidfaoedd. Felly, y mae y brodyr Annibyn- ol wrth y gwaith o ddarparu ar gyfer adeiladu capel ardderchog, gwerth tua l,600p. Yr un modd hefyd, bydd y Bedyddwyr o dan angenrheidrwydd i ddilyn eu hesiampl, ac yna, bydd ganddynt le- oedd cysurus i addoli yr Emanuel Y mae yn y lie hefyd ysgold^ ddyddiol bryd- ferth, wedi ei hadeiladu dan nawdd Bwrdd Ysgol Plwyf Yatradyfodwg. Yr ysgolfeistr ydyw Mr. Thomas Jones, genedigol o Aberdar. Bachgen gweithgar ac ymdrechgar ydyw Mr. Jones, gyda phob mudiad da, ac y mae y grants a dderbyniodd yr ysgol hon y flwyddyn ddiweddaf yn profi nad yw yn esgeuluso ei waith ei hun ar draul cymeryd rhan mewn achosion da ereill Y mae yma gyfrinfaoedd dyngarol o Urdd Gwir Iforiaid, ac Urdd y Coedwigwyr (Foresters), &c., ac elfenau cynydd yn mhob un ohonynt, mewn ystyr arianol a dyngaroL Cerddoriaeth eto yn cael «ylw dyladwy yn y lie. Mae y sol-ffa a'r hen nodiant yn cael eu dysgu gan ddynion ieuainc a hen. Mae yma ddau gOr ar- dderchog-un o dan arweinyddiaeth Mr. Thomas Phillips, gynt o Dreorci, a'r llall o dan ddyagybl- aeth Mr. David Brazle, gynt o Maesteg, ac J mae y ddau g6r yn cipio gwobrwyon yn ami rn ein m&a Eisteddfodau. Credwn, hefyd, pe brdaaS i'r ddaa g6r i ffurfio yn tin Undeb Corawl, y byddai iddynt gipio y prds o'n prif Eisteddfodau. x maent ya Eoaiaid, Alawod, ac ju LUwod yma ya ddirif, p safle uchel i fod i ami un ohonynt yn y byd cerdd- orol Llew Clydach—dyma fachgen sydd yn deilwng o sylw am ei wasanaeth i gorau y Rhon- dda, Merthyr, ac Aberdar. Y canwr da hwn oedd yn un o brif golofnau mudiad Cdr Undebol Mer- thyr a'r Rhondda, dan arweiniad Eos Cynlais, yr hwn a fu yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedl- aethol yn Birkenhead. Mae yma hefyd ddarllenfa (reading room) rhag- orol-pob math o lyfrau a newyddiaduron yn caej eu derbyn, a'r amcan mewn golwg ydyw ceisio ychwanegu gwybodaeth gweithwyr y lie, ac y mae yn deilwng o sylw. Y mae darllenfa ardderchog arall ar gael ei hadeiladu, traul pa un a fydd tua l,500p., a gosodir hi allan ar y radd flaenaf, a bydd llawer math o r hwareu-fyrddau ynddi er mwynhad a difyrwch gweithwyr y lie. Y mae yn deg nodi y bydd y draul o'i hadeiladu, ei gosod allan, a'i chynal yn cael ei roddi yn rhad gan y foneddiges haelionus a rhinweddol, Mrs. Thomas, Ysgubor wen, Aberdar. Credwyf y cydunwch a mi, Mr. Gol., i ddweyd well done, Mrs. Thomas, ac hyder- wn y bydd y weithred dda hon yn esiampl ag y bydd i lawer i'w hefelychu. -Gwtlym Meurig. PONTARDULAIS. YMWELIAD AG AMERICA.—Traddodwyd darlith ar y testyn uchod yn nghapel y Gopa, yn y lie uchod, nos Iau wythnos i'r diweddaf, gan y Parch. E. Edmunds, Abertawe. Y mae yn wybyddus i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y GWLADGARWR fod Mr. Edwards wedi bod ar daith bregethwrol yn ngwiad y gorllewin, a chynwys ei ddarlith yw darluniad o hanes y daith, a hyny yn y modd mwyaf doniol a theilwng o Edmunds. Gwyr pawb ag sydd yn adnabod y darlithydd-a phwy sydd heb ei adna- bod ?—ei fod yn ddarlithydd diail. Llawer dar- nodiad sydd wedi ei roddi o ddarlithydd (orator)- un yn dweyd hyn, a'r llall y peth arall; ond yn ol ein barn ostyngedig ni, ys dywed y pregethwyr, yr hyn sydd yn gwneyd orator ydyw gallu i fyned i mewn i deimladau'r holl gynulleidfa—enill ei serch, ac hoelio eu meddyliau i'r fath raddau, nes peri iddynt annghofio pob peth ond yr hyn sydd yn cael ei siarad. Dangoswch i mi y dyn a wna y pethau uchod, a minau a ddangosaf i chwithau areithiwr teilwng o'r enw ac os ydyw y pethau uchod yn ddarnodiad o areithiwr, y mae Mr. Edmunds yn un ohonynt, ac yn deilwng o'i restru yn mhlith areithwyr goreu ein gwlad. Cadwodd y gynulleidfa fawr yn grogedig wrth ei wefusau am dros ddwy awr, a thystiolaeth pawb oedd ei fod wedi dybenu llawer iawn rhy gynar. Cafwyd llawer iawn o awgrymiadau buddiol ganddo, yn enwedig i ymfudwyr, ac fel UD ohonynt, gellir nodi y ffaith iddo golli tair neu bedair punt trwy beidio rhoddi ei ofal i'r Cymro Gwyllt; ond gwnaeth y Cymro bob peth a allasai iddo, er ei fod wedi codi tocyn mewn lie arall. Felly, gofalcd yr ymfudwyr am godi tocynau gyda'r Cymro Gwyllt. Cadeir- iwyd yn y cyfarfod gan y Parch. J. Morris, gynt o Trevecca College, yr hwn sydd newydd ymsefydlu yn y lie. Eiliwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan y Parch. D. Thomas yn ei ddull gwreiddiol ei hun, ac wedi talu y diolchgarwch arferol i'r cadeirydd, a chanu penill, ymwahanwyd wedi cael llwyr fodd- lonrwydd. Dylaswn ddweyd fod gan Mr. Edmunds ddarlith arall ar America, ac yn bur debyg y bydd hono eto yn cael ei thraddodi yn y Gopa yn lied fuan. Un oedd yno. GLYNCORWG. DARLITH.-Nos Lun, Ioaawr 17eg, yn Bethel (B.). traddodwyd darlith gan y Parch. F. Evans, D.D., Maesteg, ar Y Cyuaro yn America." Cymerwyd y gadair gan E. Plummer, Ysw. Dyma un o'r darlithiau mwyaf dyddorol ac addysgiadol a wrandawsom erioed. Cawsom hanes y Cymro yn America o'r dechreu hyd yn awr-ei sefyllfa yno yn awr—yr hyn sydd ddiffygiol, a'r hyn sydd dda ynddo, ac yr oedd pob peth wedi eu gwisgo mewn gwisg ddifyrus. Nia gallwn ymatal rhag dyfynu un o'i ffraeth-ddywediadau, yr hwn sydd yn ddoniol dros ben. Tarawyd buwch un hen wreigen yn glaf iawn, a rhoddodd y meddygon anifeilaidd hi i fyny oIL Yr oedd yr hen wreigen yn gweled, os byddai y fuwch yn marw, y buasai yn dywyll ami am fywioliaeth, ac yr oedd yn ben- derfynol o fyned at yr Esgob i ddymuno arno i weddio ar Dduw i estyn bywyd y fuwch. Eglur- odd ei hachos iddo-cydsyniodd yntau a'i chais, ac yna, aeth tua chartref yr hen wraig. Cafodd yr hen fuwch yn gorwedd yn y beudy, ac aeth oddi- amgylch iddi, a dechreuodd gan bwysleisio yn ddi- frifol iawn,- Os hi fydd byw—hi fydd byw, a dyna ben am dani; Os hi fydd marw—hi fy«ld marw, a dyna ben am dani." Wedi myned oddiamgylch i'r hen fuwch dair gwaith, gan adrodd yr un geiriau, dychwelodd yr Esgob i'w gartref. Gwellhaodd yr hen greadur ond, bid siwr, gweddi yr Esgob ydoedd yr achos. Yn mhen ychydig amser, tarawyd yr Eegob yn glaf iawn gan y quinsy, ac yr oedd yn rhaid i'r hen wraig i fyned i dalu ymweliad ag ef. Ymaith yr aeth, a chafodd yr Esgob yn gorwedd ar wely yn nghanol ystafell eang-y meddygon wedi ei roddi i fyny, a phawb yn meddwl ei fod yn marw bob mynyd. Dechreuodd yr hen wraig rhodio oddi- amgylch i'r gwely, a llefaru yn brudd iawn,- Os ef fydd byw-ef fydd byw, a dyna ben am dano; Os ef fydd marw—ef fydd marw, a dyna ben am dano. Pan yr oedd yr hen wraig yn myned oddiamgylch y drydedd waith, canfyddodd yr Esgob hi, ac yn nghanol ei boenau, wrth feddwl am yr hen^fuwch, torodd allan i chwerthin, ac wrth chwerthin, tor odd y quinsy yn ei wddf, a gwellhaodd. Felly, effaith gweddi yr hen fuwch a'i wellhaodd y tro yma, bid Biwr.—Alarch Ogwy.
[No title]
Y mae gan y QUININE BITTERS un cymer- adwyaeth anarferol, sef bod meddygon o bob gradd yn eydnabod heffeithian trwy eu rhoddi i'w cleif ion (patients), pan yn fynych j mathant gyda'u cyfferi meddyginiaethol en huuain. Gwelir man- ylion ar dudalea arall o'r papyr hwa. L. 163 WARNING 1 RBOKITT'S PABIB BLUJL —Th« marked superiority of this Laundry Slue OTey all others, and quick appreciation of its merits by the public, haTe been attended by the utual result, viz., a flood ef imitations, the merit of the latter mainly consists in the ingenuity exerted, not •imply in imitating the square shape, but imalring the general appearance of the wrappers resemble that of the genuine article. The manufacturers bef therefore to caution ail buyers to see Reck- tt's Paris Blue en each packet. 21&3
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. BroDaD i'n cyfeillion y Beirdd, o hyn allan gy- feirio eu holl Gynyrchion Barddonol yn y modd as i'r cyfeiriad canlynol MB. T. DAVIES (Dewi Wyn o Essyllt), Pontypridd. ( Gwladgarwr.)
[No title]
T. H. I.— Y Bywyd fad.—Dechreu wch drwy ddywedyd am y bywydfad :— Dinam achubydd dynion-o adfail." Gair ansoddol tlawd a di-ddesgrifiad iawn yw dinam yn ei gysylltiad ag achubydd o un math ac nid yw adfail" yn ddesgrif- iadol o sefyllfa y morwr mewn llongddrylliad neu ystorm enbyd. Dig hwy i dir o safn y don." Ai nid dyg ac nid "dig" a ddylasai y gair dechreuol fod ? "Eu dwynt hwynt hefyd a'i hoewedd. Beth yw ystyr hoewedd yna? T. H. I. eto.-Y Gwres.- Gwen haul araul eirian." Y rhagwant ar y pedwerydd sill yn lie ar y pumed. Yn ei bryd holl fyd oer fan Osodo mewn gwyrdd sidan." Ai nid osoda ne'l osodai ddylasai y ferf fod ? T. H. 1. eto. -Ochenaid. Y rail linell yn cy. nwys saith sill yn lie chwech. T. H. I. eto.—Ffynon Llamortyd.—Nis gwy- ddom beth yw ystyr difyngell natur," nac ychwaith ystyr "a 'r ddelw oedd ddolur." Y mae rhai meddylddrychau da ynddynt, ond y maent yn rhy anmherffaith i ymddangos mewn argraff, er ein bod wedi gweled llawer gwaeth. I. L.-Y Dafarn.-Y mae rhywbeth ag sydd darawiadol yn yr englyn hwn, er nad yw yn hollol reolaidd Ancdd lan ei chan a'i cheinion—ddena Yn ddoniol y gwirion I'r rhwyd; ac ar aelwyd hon, Ei chwrw yw ei choron." Y mae yr ail englyn rhywbeth yn gymysglyd ei syniadaeth, a thipyn yn egwan ei gynghan- edd. Chwi ddeuwch. G.-Englyn Byrfyfyr. -Ni wna rhai "byrfyfyr" y tro. G. eto.— Yr Helgorn.-Nid ydyui yn hoffi"ac yn ayn pob ci nesha." Paham syn ? G. eto.- Y Mwg. -Cyweddol iawn,- 0 enynu, gronynau anian-ant Yn heintus fwg allan, Dorchog wedd yn dyrchu, gan Lwydo yr awyr lydan." G. eto.-Y Wraig Gleciog.- Un o ach yr hen wrachod,—ac o glic Y wraig gleciog tafod Yr wydd sy'n fwy rhwydd na rhod Yn dyrnu bob diwrnod." Homo DDU.-Y Dyn Dall.—Marwolaeth Mrs. Glanffrvod Thomas. Y mae rhyw wreiddiol. der, ffresni, a thlysni yn ngweithiau melusber Homo bob amser. IORWERTH.—Gwenhwyfar.—Telyneg fach fardd- onol a thlos dros ben. Y mae yr awdwr yn un o feibion yr awen wir. Gobeithio y cawn glywed oddiwrth eto. LEYSHON MORGANWG.—Yr Hen Fwthyn To Gwellt.—Penillion syml A phrydferth.
"GWENWYFAR."
"GWENWYFAR." I've heard of the beautiful Scottish rose, And the shamrock of Ireland so fair; But though I admit the rare beauty of those, They can't with Gwenwyfar compare. The one that I sing, is as fair as the queen That once ruled old Gwalia's proud lands; 'Round her fair shoulders the dark tresses gleam, A model, a picture, she stands. Her cheeks like the roses just washed in the dew, And dried by the morning sun And eyes like stars from Heav'n sea of blue, Oh would they could ever be young. Her sweet cherry lips never carry a sneer Upon her fair brow rests no frown For all is so beautiful, bright and so clear, And smooth as the new marble stone. Her voice is the sound of the sweet fairy bells, When heard on a calm starry night; Her brown eyes beam from their beautiful cells, And dance in a full blaze of light. She possesses a jewel a gold cannot buy Without which, the queen on her throne, Would soon crumble down fromherpedestal high, Sweet modesty's fully her own. The one that I love has such beauties so rare, All her charms I can never discover 1 No flow'r in the.garden can with her compare, Old Gwalia's sweet bonny Gwenwyfar. Swansea. IORWERTH.
YR HEN FWTHYN TO GWELLT.
YR HEN FWTHYN TO GWELLT. Mi welaf hen fwthyn ac arno do gwellt, I'r olwg mae'n sal oddiallan, Henafol yw'r muriau-ffenestri o ddellt, A'i ddrws yn adfeilio gan oedran O'i fewn yn trigfanu mae gweddw dylawd, Yn treulio ei bywyd mewn llafur, Ni chafodd ei geni i dderbyn rhyw ffawd Ddaearol, mae hyny yn eglur. Mae'n cael ei chynaliaeth fel tlodion y wlad, A. hyny yn dod yn wythnosol, Nid yw wrth ei dderbyn yn cael un sarhad, 0 herwydd ei bod yn wir dduwiol; [gwedd, j Mae gwir ostyngeiddrwydd i'w wel'd yn ei A'i mynwes yn llawn o foddlonrwydd, Mae'n treulio ei amser mewn cysur a be Id Mewn bwthyn heb fawr o enwogrwydd. Mae'n eistedd mewn cadair yn ymyl y drws, A'r hen Feibl mawr yn ei dwylo, Yn troi'i dudalenau a'i bysedd mor dlws, Er cael ei chysuron o hono. Mae'n dilyn ei rheol ar ganol ei grwn, 0 fewn yr hen fwthyn lie triga, A meddwl cael bywyd anfarwoi trwy hwn,- I'w henaid dragwyddol ddiangfa. Mae man cysegredig rhwng muriau'r hen d, I'w gael gan y weddw oedranus, Ac yno ar ddeulin gwna anfon ei chri, I erfyn am wlad ogoneddus Mae llawer un heddyw, i'r olwg sy'n wael, Yn deilwng ei bywyd i'w dilyn Mae perlau y Nefoedd yn ami i'w cael Yn trigo mewn llawer hen fwthyn. LEYSHON MoRGANWCt
Adolygiad Llenyddol.
Adolygiad Llenyddol. THE LAND QUESTION-IRELAND, CONFISCATION OR CONTRACT. Y mae pwyllgor "Cwestiwn y Tir" yn yr Iwerddon yn rhifo oddeutu 500 o aelodau, a'r rhai hyny yn cael eu gwneuthur i fynulo ddosbeirth anrhydedduaaf cymdeithas ynw wlad hono. Pamphled yn gosod allan olyg- iadau y pwyllgor hwnw ar Cwestiwn y Tir ydyw yr un sydd ger ein bron, ac yn dwyn y teitl uchod. Ceir yn y pamphled hwn olwg lied gyflawn a chryno ar y ddwy ochr i'r "Cwestiwn," ac ar sefyllfaoedd ac agweddau y pleidiau hyny sydd yn dal perth- ynas uniongyrchol ag ef. Trinir y pwnc yn hynod o ddiduedd, achollfernir ymddygiadau y naill blaid lei y Hall, lie y bernir fod am- ryfusedd yn bodoli. Wrth ddarllen §jy pamphled hwn, yr ydym yn cael ein cadarn- hau yn y farn a arferem ei choleddu amyr achosion i'r anffodion a'r trueni sydd fyn anrheithio yr Iwerddon-dyagir ni fod y dtwg yn gorwedd bron yn gyfangwbl wrth ddrway llafurwr a'r tyddynwr Gwyddelig ei hun ac nad oes un deddfwriaeth all symud yn llwyr amryw o'r anhawsderau hyny ag sydd yn sefyll ar ffordd llwyddiant a chysur y Gwyddel; nid yw sefyllfa anianyddol y Gwyddel ond creadigaeth wedi ei dwyn i fodolaeth drwy ymyriad personol ei hun ao ohono ef ei hun y bydd yn rhaid cael y defnyddiau tuag atei chyfnewidiad a'i diwyg- io. Gwelsom yn sylwadau "Finlay Dun" ar amaethyddiaeth yr Iwerddon, frawddeg fach senus, lie y sonid am "Celtic idleness," ond dylasai ddweyd Irish idleness, os yw y paragraph canlynol o'r pamphled yn gywir. The true Irish People is the population of 5,315,224 human beings, who now exist upon Irish soil. That population is Irish, but it is not Celtic. For upwards of a thousand years the most energetic race in Europe have fought for the soils of Ireland with the Celt, Danes, Normans, and Saxons have invaded it; Huguenots and Palatines and Dutch have settled on it. In the fierce struggle for existence none but the strongest have sur- vived, and the survivors have intermarried and intermixed and fused. The Irish people, like the English people, is a mixed race. If we may believe Professor Huxley, there ia more English blood in Ireland than there is in many an English county. But in Ireland the English blood has been improved. The Celtic fire has given a splendid animation to the Saxon mass." Ai am fod y Saxon wedi ysbeilio ein gwaed yn gystal a'n tiroedd, y mae yn dal digofaint atom, a byth a hefyd a'i ergyd arnom 1 Pwy bynag a garo gael golwg glir, deg, a diduedd ar "Cwestiwn y Tir" yn yr Iwerddon, neu ar yr achosion a'r effeithiau hyny sydd yn cyfansoddi ei thlodi, ei thrallod, a'i thrueni presenol, a phob amser, o ran hyny, pryner a darllener y pamphled dan sylw. Ceir ef gan William Ridgway, 169, Piccadilly, Llundain.
[No title]
ALMANAC Y CYMRY, neu GYDYMAITH Y CVMRO. Hefyd, "The Welsli Historical Almanack." I'w cael heb dal gan unrhyw fferyllydd cyfrifol yn mhob tref. Gofynwch am danynt. Cyhoedd- edig gan Mr. Gwilym Evans, Llauelly. [2431J III I-==
Siloh, Maesteg.
Siloh, Maesteg. CYNELIll EISTEDDFOD yn y capel uchod, VY DYDD LLUN, MAWRTH yr 28ain, 1881. Beirniad :—LLEW LLWYFO. CANIADAETH. rf, (ddim dan 60 mewn rhif) a vn •reu We never will bow down" (o Judas Maccabea8, Handel); gwobr, lOp. 2. I'r cdr (ddim dan 30 mewn rhif) a gano yn ereu "Yr Alarch" (Cerddor Cymreig) gwobr, 3p. BARDDONIAETH. 1. Am y g&n goffadwriaethol oreu i'r diweddar Thomas Lloyd, overman, Tychwith gwobr In 2. Am Y beddargraff goreu i'r diweddar Ann Davies, Treharne Row, Maesteg gwobr, 10s. Ara bob manylion pellach gwel y programme, i w gael gan yr Ysgnfenydd am y pris arferol. M. JSBVIS, Ysg., *■' 41> High-street, Maesteg.
Arian! Arian!! Arian ! ! !
f Arian! Arian!! Arian YR IMPERIAL ADVANCE BANK, A SEFYDLWYD TN SOUTH JOHN STREET YN 1875. Yr Imperial Advance Bank sydd vn awr VM sefydledig yn 70 a 72, Victoria Street, Liverpool. Yr IMPERIAL ADVANCE BANK—Yr adeiladan masnachol harddaf yu Liverpool. V MAE yr IMPERIAL ADVANCE BANK yn rhoddi -1. benthyg arian i'r personau canlynol— Amaethwyr, Siopwyr Tai-ddalwyr (boneddigesau neu foneddigion), Perchenogion Cerbydau Tafarn- wyr, Perchenogion Gwartheg, Masnachw^r Ystrol Berchenogion, Offeiriaid, Adeiladwvr Ystorww Boneddipion Proffeswrol Cierood yn dal sefytffa- oedd parhaol, Personau oddeutu dechrcu ar f^nes a phob person cyfrifol arall Y mae gan yr IMPERIAL ADVANCE BANK V avm- -nSkTwm o &Sdai aUa" £ P8™0" Ugain swm o /00p. yr un, deg swm ar-u^ain a 15f un> deugain swm o £ 0p, yr un, deg swm swm o yr un, deg swrn-ar-ugain o 100d SOOn11 w °r Ca"' ewra 0 50p' yr ua> swm • n UU' 0311 S.Wm 0 l5p- yr n> deugain swm n ?LUQ' Ugain 8v^m 0 250p' yr ua' deugaha swm o 70p. yr un, ugain swm o 300p. yr un, dejr swm o 500p. yr un, haner can' swm o 40p. yr u* can' swm 0 20p. yr un, a symiau amrywiol lOp. i X9vXX)p. Nid yw yr IMPERIAL ADVANCE BANK yn gofvn meichiau, ond rhydd arian i fenthyewyr at on diogeiiadau eu hunaiu. Dull hawd-1 8 ad-daliadau Gwys-wasgfa am rent a benthyciadau yn cael eu talu ffwrdd yn unrhyw barth o Loegr a ChrtfmL Nid oes wahaniaeth am y pellder. Rhybuddir apelwyr i beidio cael eu hudo gan hysbvsiada* wedi eu geino yn gyfrwys, yu dyfod alien • swyddfa anenwog, pan y gallant gael yr hyn vrdd angen arnynt ar delerau rhyddfrrdi* m w Imperial Advance Bank. Galwch yn rBank. Hew apeliwch drwy lythjr (yn hysbysu y swm"gofyn- OL) »t I« SIMMONS (Principal), 70 A 72, Victoria-Street,