Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BANC CENEDLAETHOL CYMRU

[No title]

BANC CENEDLAETHOL CYMRU

ADRODDIAD Y CYFRIF-AROLYGWYR.

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

[No title]

COLEG Y GWEITHIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Chwefror Jfydd. Lewis Pilbo Jones. W el, mae Tomos Par- nell, Patrick Sullivan, a John Flannigan, a'r holl Bats wedi myn'd, rwan, yn flac pats o'r earn i'r coryn, ac raor ddu a mwrstwrllyd, fel nad oes un dim a fedr Cymro Gwyllt, nac un Cymro Dof, ysgrifenu am danynt yn rhy ddrwg am y gethern hopranllyd. Y bredych anwyl! y maent wedi gwneyd Parliament John Bull yn waeth nag un tap-room yn y deyrnas, nes y mae yn destyn gwawd i Ewr- op, America, a'r byd yn grwn. Y mae tap- room Pwll-y-broga Arms, ar ol ffair Pistill- moigan, yn sicr o fod yn mwy respectable lie na llawr Ty y Cyffredin yn y dyddie dwetha. ma. Ffor ma hi wedi bod yco'n ddiweddar ? Os rhai o chi'n gwbod ? Agrippa.-O, ma hi wedi bod yn ymfflam- ychu disprad iawn acw, ac yn randiboo gwyllt, rai prydiau, nes oedd yn ddigon i brofi tymher angel o ddyn, heb son am ddiafl-ddynion. Yn wir, y mae y dyrnaid Gwyddelod sydd yn y Senedd yn ymladd dan faner Parnell wedi myned mor annyoddefol o anhywaeth, nes y mae y Torïaid a'r Rhyddfrydwyr wedi ymuno- yn llewaidd lu i roddi taw ar eu braggadocia, ac i fynu rhywbeth yn debyg i ddrychiolaeth trefn yn Mharliament y wlad. Darfu i Lef- arydd y Ty (Mr. Brand), ar ol i'r Ty- eistedd. am un awr a deugain, sef o brydnawn dydd Llun diweddaf hyd foreu dydd Mercher, o'r diwedd, gyfryngu a rhoddi lock-jaw ar dafod- au byth-ysgydwol y Paddies! Yr oedd hyny mewn effaith, fel pe teflid bomb-shelly a dyma. y peth yn taro malldod a thrybini i'w rheng- au, fel y codasant, ac yr aethant allan yn un llinyn, un ar ol y llall, o'r Ty, i geisio dangos, wrth gwrs, eu hannghymeradwyaeth o ym- ddygiad y Llefarydd yn stopio eu baldordd. Eisieu gohirio'r 'ry oedd arnynt hwy o hyd, a gohirio ac oedi hyd y gallent basiad mesurau meddyginiaethol i afiechyd yr Iwerddon ond y mae wedi chwech arnynt bellach, ac y mae y Llywodraeth a'r wrth-blaid yn cydymuno i osod i lawr 4 llaw gref anstywallteiddiwehy j Gwyddel yn ac allan o Senedd Prydain. Ap Corwynt.—Oedd, yr oedd gan Mr. Gladstone benderfyniad neu ddau i'w gynyg ddoe yn delio a llywodraethiad dadleuaeth yn Nhy y Cyffredin, y rhai a ddarbodant fod yn rhaid i siaradwyr cegrwth dewi pan fydd tair rhan o bedair o'r Ty yn bleidiol i ryw fesur fyddo gerbron. Rhaid deddfu rhywbeth i'r cyfeiriad hwn, onide ni wneir dim gwaith yn Senedd y wlad. Y mae y Gwyddelod, yn y firi fawr hon, wedi estroneiddio y genedl Seis- nig, Ysgotig, a Chymreig, fel nad oes fawr cydymdeimlad at eu hachos yn un man, oddi- eithr gan ryw John Lewis yn y GWLADGARWK, yn ddiweddar. Chwareu teg i'r Cymro Gwyllt. Er nad yw efe yn uniongred ar bob pwnc, nid yw yn mhell o'i le yn ei sylwadau condemniol diweddar ar geubreneiddiwch y Gwyddel, a phan geidw efe ganol, ac nid eithafion y ffordd bob amser yn ei ysgrifen- iadau, fel y gwnaeth ar y Gwyddel, ni fydd gan neb achos digonol i estyn bonclust iddo. Shipriswyson.—'Rydach chi'n cofio, boys, i mi ddweyd gair yma pwy nos am glywedig- aethau "Clustfeinydd" -ei fod yn clywed gormod, ac yn 'sgothi gormod o'i glywedion ar hyd a lied y wlad. Wel, ta beth, ma'r gwr wedi codi ei wrychyn yn y GWLADGARWR diweddaf, ac y mae yn dweyd wrthyt ti, Ap Corwynt, ac yn dy gyfarch fel athraw ym- fflamychol," a ninau y myfyrwyr ysponc- iawg am gasglu at eu gilydd y man-gor- wyntoedd, cyn y dechreuont y rhyfelgyrch fawr, os ydynt am lawryf buddugoliaeth Dyna iaith Mr. Clustfeinydd yn y GV/LADGAR- WR diweddaf. Beth neir iddo, Ap Corwynt ? Ap Corwynt.—O, mi ddyweda i wrthyt ti. Gad ti rhyugwyf fi a'r athronydd pell-gyr- haeddol hwn, canys nid bychan o beth yw dyfod allan yn erbyn cawr o'i fath ef. Y mae efe yn hen warrior, ac yn un o metaphysicians blaenaf yr oes Y mae gweithiau y meddyl- egwyr blaenaf, megys Locke, Reid, Dugald, Stewart, Hamilton, Paley, a Butler, ar ben- au'i fysedd. Byddat yn anhawdd i ti son am un wyddor ar nad yw efe yn berffaith hyddysg ynddi. Yn Yr hyn a glywais sydd ganddo, nid yw efe byth yn ymostwng i gyffredinedd, ac i godi llaid a phil orange oddiar yr heol, pan y mae dysgleidiau o jewels ar y bwrdd o'i flaen. Ni ysgrifenodd efe air erioed i sarnu un dau fardd pan yn cydyfed yn y Blaina, nac un sillaffyn yn ddyled-ddanodol i fardd sydd yn awr yn byw yn America. Am ber- ffeithrwydd cystrawenol ac ehediadau uch- anianyddol, medda yr anrhydedd o eistedd yn nghadair uwchaf Lien a Barddas Cymreig t Felly, cofiwch chwi, nid chwareu plant a thynu mwyar yw myned i sefyll gornest â. chawr o fath hwn. Sonia am i ni gasglu man- gorwyntoedd i ddyfod allan i'r rhyfelgyrch ly fawr. Na, nid yw hi 0 un use yn y byd— beth yw man-gorwyntoedd Annigonol a diymadferth fyddai megin fawr ystorm y 18fed o Ionawr diweddaf, sef hono fu yn plastro eira ar hyd y wlad Cyn byth yr anturiwn i i ryfelgyrch a Mr. Clustfeinydd, fe fyddai yn rhaid i mi gael gwasanaeth yr enroclydon, y monsoon, y typhoon, neu y cyclone penaf ac aruthrolaf a chwythodd erioed dros ynysoedd Jamaica neu Japan Y mae ei gastell yn rhy gadarn a'i noddfa yn rhy ddiogel o gryn getyn i ddim llai allu cael cysgod o obaith liwyddiant mewn ymgyrch ag ef. Felly, nid oes dim i'w wneyd ond retreato o'r maes, a dywedwch wrth Mr. Clustfeinydd nad oes un tueddiad gan wyI' y Coleg yma i agor tan, na throi ffroenau ein meginau corwyntol at gas- f tell mor gadarn a'i eiddo. Ifan Shambrog J ones.-Mae D. Morganwg,. Ieuan Dyfed, a rhyw D. R. yn y GWLADGAR- WR yna wedi bod yn croesi rhyw ychydig eiriau gyda golwg ar Tuchangerdd, Duchan- gerdd, neu Tychangerdd. Yr wyf yn hollol o'r un gred a D. R. mai tarddiad y gair yn mhob ffurfwedd y oymerir ef yn bresenol, pa- J