Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

MASNACH YR HAIARN A'R GLO,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH YR HAIARN A'R GLO, MAE adroddiadau y cyllidion am fis Hydref, eleni, yn dangos fod yr allforiadau o lo, golosg- lo, &c., yn 1,791,345 o dunelli yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1880, 1,659,866 o dunelli ac yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1879, 1,471,171 o dunelli. Allforiwyd yn y deg mis o'r flwyddyn hon yn diweddu Hydref Slain, 16,265,542 o dunelli; yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1880, 15,682,586 o dunelli; ac yn yrun cyfnod yn y flwyddyn 1879,13,732,010 o dunelli. Cyfanswm yr allforiad o haiarn a dur yn mis Hydref, eleni, oedd 386,658 o dunelli; yn yr un cyfnod yn y fiwyddyn 1880, 296,362 o dunelli; ac yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1879, 353,373 o dunelli. Yr oedd yr allforiadau o haiarn a dur am y deg mis o'r flwyddyn hon, yn diweddu Hydref 31ain, yn 3,209,079 o dunelli; yn yr un cyfnod yn 1880, 3,288,860 o dunelli; ac yn yr un cyfnod yn 1879, 2,333,493 o dunelli. Gwerth y glo a'r golosglo a allforiwyd yn y deg mis yn y flwyddyn 1879 oedd 6 020,801p.; yn yr un cyfnod yn 1880, 7,634,186p. ac yn yr un cyfnod yn 1881, 7,277,655p. Gwerth yr haiarn a'r dur a allforiwyd yn y deg mis o'r flwyddyn 1879 oedd 15,648,039p, yn 1880, yn yr un cyfnod, 24,384,050p.; ac yn 1881, yn yr un cyfnod, 22,870,358p. Yn SIR FYNWY, mae masnach yr haiarn a'r dur yn parhau i ddangos adfywied digamsyniol yn agos yn ei holl gangenau. Mae adranau y dur, feallai, yn fwy felly na'r haiarn. Bwriedir ymhel- aethu y Gweithfeydd Dur yn Rhymni, gyda'r bwriad i wneyd mwy ohono. Nis gellir dy- wedyd fod y codiad diweddar yn yr alcan yn beth parhaol, ond yn gymaint a bod yr hyn ydym yn glywed o America yn dra chysur- lawn, gobeithir am gyfnewidiad er gwell yn fuan. Mae perchenogion y gweithfeydd glo teuluol, yn gystal ag agerlo, & llonaid eu coflan o waith. Myned rhag blaen yw nodion yr amseroedd tua Thredegar. Oigonedd o arch- ebion ar y llyfrau. Mae y rhai sydd wedi eu gosod ar y llyfrau yn ddiogel, a'r pris a geir yn sicr o ddwyn ychydig o elw. Mae mas- nach y glo mor fywiog, fel y mae y cyflenwad cartrefol ar brydiau yn rhy fychan i ateb y cais. Yn adran MERTHYR TYDFIL, mae Dowlais yn gweithio yn mlaen yn hwylus gyda'r glo, yr haiarn, a'r dur, a phob cangen o'r cyfryw yn gweithio yn fywiog. Yn Nglo- feydd y Plymouth, mae y glo yn cael ei ddwyn i'r lan yn fywiog. Mae y ffeithiau mewn cysylltiad a'r Gyfarthfa wedi cael eu dwyn i'r amlwg. Ymddengys fod Mr. W. T. Lewis, yr hwn sydd yn gweithredu fel goruchwyliwr ar ran perchenogion y tir, wedi rhoddi trefniadau penodol i'r Meistri Crawshay i'w derbyn, ond nid yw eu cynghorydd, sef Mr. E. Williams, -0 Middlesbro', yn gweled ei ffordd i'w cyfar- arwyddo i'w derbyn. Fel hyn y saif pethau yn bresenol, ac er mwyn llesiant y lie, go- beithiwn y deuir i ddealltwriaeth buan a bodd- haol. Mae y Gyfarthfa yn gweithio yn fywiog gyda'r glo, a masnach dda yn cael ei dwyn yn mlaen. Yn adran ABERTAWE, mae digon o gontracts mewn llEiw, a'r cais am nwyddau dur a haiarn yn ddigon da i gadw y Inelinau a'r forges yn weddol fywiog. Allfor- iwyd oddiyma, yr wythnos ddiweddaf, 16,943 o dunelli o lo, 5,457 o dunelli o batent fuel, a 218 o dunelli o hen haiarn i Leghorn. Mor- ,droswyd i mewn luosawgrwydd o dunelli o gopr a mwo copr. Mae atalfa y gweithfeydd alcan yn Ynyspenllwch wedi tynu cryn sylw, ond hyderir na erys pethau yno yn faith yn y sefyllfa hon. Mae drwy yr adran swn iachus smewn masnach mewn modd cyffredinol, gydag arddrych obeithiol dros fisoedd y gauaf. Mae gwell cais nag a fu er's tro bellach am batent .fuel. Mae masnach yr alcan yo gwella yn raddol—gwell cais, a'r codiad diweddar yn dal ei dir. Cyflogau llongau yn dal yn dda. Yn adran helaethfawr CAERDYDD, mae mssnach y glo ager yn parhau yn fywiog. Mae y prisoedd presenol yn gadarn a sefydlog. Yr ansawdd agerol goreu (double-screened) yn cael ei brisio o 10s. 6c. i Us. y dunell (f. o. b.) Mae y codiad yn nghyflogau y torwyr glo wedi rhoddi boddhad cyffredinol. Allforiwyd, yr Wythnos ddiweddaf, 106,759 o dunelli o lo, 3,436 o dunelli o batent fuel, 625 o dunelli o haiarn a dur, a 500 o dunelli o olosglo. Ar- ,ddangosiadau gobeitbiol drwy yr holl adran am weithio cyson drwy fisoedd y gauaf. Yn MIDDLESBRO', yr oedd cynulliad lluosog ar y Gyfnewidfa yr "wythoos ddiweddaf, yn cynwys cryn lawer o ddyeithriaid o leoedd pel:enig. Wedi derbyn telegram Ysgotaidd, deallwyd fod Marchnad Glasgow yn fwy cadarn, ac mewn cydymdeim- lad & hyny, cododd prisoedd Middlesbro' o 2p. Is. i 2p. 2s. y dunell am Rif 3 o haiarn bwrw Cleveland. Mae y bywiogrwydd yn cynyddu yn masnach yr haiarn gorphen-weithiol. Yr holl weithfeydd yn gweithio mewn full swiiig yn Ngogledd Lloegr, ac y mae archebion mewn Haw a'u ceidw i weithio am fisoedd i ddyfod. Prisoedd yn well. Platiau yn cael eu prisio yn 6p. 10s. y dunell, a bariau a haiarn-onglau yn 6p. y dunell. Tra chyffelyb Yw y prisoedd drwy holl weithfeydd y deyrnas. GOHEBYDD MASNACHOL.

Nodiadau Nedi Norris.

Nodion o Fro Morganwg.

[No title]

SABOTR-GAUAD Y TAFABNDAI.

CYMDEITHAS DDARBODOL Y GLOWYB.

'SAETHU YN Y MWNGLODDIAU.

Y DUO 0 EDINBUBGH YN ABEB-TAWE.

FFLANGELLU PLENTYN PAN AR…

GWBTHBYFEL GOLEGAWL YN MBONTYPWL.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR.

Beirniadaeth Eisteddfod Merthyr.