Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
MASNACH YR HAIARN A'R GLO,
MASNACH YR HAIARN A'R GLO, MAE adroddiadau y cyllidion am fis Hydref, eleni, yn dangos fod yr allforiadau o lo, golosg- lo, &c., yn 1,791,345 o dunelli yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1880, 1,659,866 o dunelli ac yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1879, 1,471,171 o dunelli. Allforiwyd yn y deg mis o'r flwyddyn hon yn diweddu Hydref Slain, 16,265,542 o dunelli; yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1880, 15,682,586 o dunelli; ac yn yrun cyfnod yn y flwyddyn 1879,13,732,010 o dunelli. Cyfanswm yr allforiad o haiarn a dur yn mis Hydref, eleni, oedd 386,658 o dunelli; yn yr un cyfnod yn y fiwyddyn 1880, 296,362 o dunelli; ac yn yr un cyfnod yn y flwyddyn 1879, 353,373 o dunelli. Yr oedd yr allforiadau o haiarn a dur am y deg mis o'r flwyddyn hon, yn diweddu Hydref 31ain, yn 3,209,079 o dunelli; yn yr un cyfnod yn 1880, 3,288,860 o dunelli; ac yn yr un cyfnod yn 1879, 2,333,493 o dunelli. Gwerth y glo a'r golosglo a allforiwyd yn y deg mis yn y flwyddyn 1879 oedd 6 020,801p.; yn yr un cyfnod yn 1880, 7,634,186p. ac yn yr un cyfnod yn 1881, 7,277,655p. Gwerth yr haiarn a'r dur a allforiwyd yn y deg mis o'r flwyddyn 1879 oedd 15,648,039p, yn 1880, yn yr un cyfnod, 24,384,050p.; ac yn 1881, yn yr un cyfnod, 22,870,358p. Yn SIR FYNWY, mae masnach yr haiarn a'r dur yn parhau i ddangos adfywied digamsyniol yn agos yn ei holl gangenau. Mae adranau y dur, feallai, yn fwy felly na'r haiarn. Bwriedir ymhel- aethu y Gweithfeydd Dur yn Rhymni, gyda'r bwriad i wneyd mwy ohono. Nis gellir dy- wedyd fod y codiad diweddar yn yr alcan yn beth parhaol, ond yn gymaint a bod yr hyn ydym yn glywed o America yn dra chysur- lawn, gobeithir am gyfnewidiad er gwell yn fuan. Mae perchenogion y gweithfeydd glo teuluol, yn gystal ag agerlo, & llonaid eu coflan o waith. Myned rhag blaen yw nodion yr amseroedd tua Thredegar. Oigonedd o arch- ebion ar y llyfrau. Mae y rhai sydd wedi eu gosod ar y llyfrau yn ddiogel, a'r pris a geir yn sicr o ddwyn ychydig o elw. Mae mas- nach y glo mor fywiog, fel y mae y cyflenwad cartrefol ar brydiau yn rhy fychan i ateb y cais. Yn adran MERTHYR TYDFIL, mae Dowlais yn gweithio yn mlaen yn hwylus gyda'r glo, yr haiarn, a'r dur, a phob cangen o'r cyfryw yn gweithio yn fywiog. Yn Nglo- feydd y Plymouth, mae y glo yn cael ei ddwyn i'r lan yn fywiog. Mae y ffeithiau mewn cysylltiad a'r Gyfarthfa wedi cael eu dwyn i'r amlwg. Ymddengys fod Mr. W. T. Lewis, yr hwn sydd yn gweithredu fel goruchwyliwr ar ran perchenogion y tir, wedi rhoddi trefniadau penodol i'r Meistri Crawshay i'w derbyn, ond nid yw eu cynghorydd, sef Mr. E. Williams, -0 Middlesbro', yn gweled ei ffordd i'w cyfar- arwyddo i'w derbyn. Fel hyn y saif pethau yn bresenol, ac er mwyn llesiant y lie, go- beithiwn y deuir i ddealltwriaeth buan a bodd- haol. Mae y Gyfarthfa yn gweithio yn fywiog gyda'r glo, a masnach dda yn cael ei dwyn yn mlaen. Yn adran ABERTAWE, mae digon o gontracts mewn llEiw, a'r cais am nwyddau dur a haiarn yn ddigon da i gadw y Inelinau a'r forges yn weddol fywiog. Allfor- iwyd oddiyma, yr wythnos ddiweddaf, 16,943 o dunelli o lo, 5,457 o dunelli o batent fuel, a 218 o dunelli o hen haiarn i Leghorn. Mor- ,droswyd i mewn luosawgrwydd o dunelli o gopr a mwo copr. Mae atalfa y gweithfeydd alcan yn Ynyspenllwch wedi tynu cryn sylw, ond hyderir na erys pethau yno yn faith yn y sefyllfa hon. Mae drwy yr adran swn iachus smewn masnach mewn modd cyffredinol, gydag arddrych obeithiol dros fisoedd y gauaf. Mae gwell cais nag a fu er's tro bellach am batent .fuel. Mae masnach yr alcan yo gwella yn raddol—gwell cais, a'r codiad diweddar yn dal ei dir. Cyflogau llongau yn dal yn dda. Yn adran helaethfawr CAERDYDD, mae mssnach y glo ager yn parhau yn fywiog. Mae y prisoedd presenol yn gadarn a sefydlog. Yr ansawdd agerol goreu (double-screened) yn cael ei brisio o 10s. 6c. i Us. y dunell (f. o. b.) Mae y codiad yn nghyflogau y torwyr glo wedi rhoddi boddhad cyffredinol. Allforiwyd, yr Wythnos ddiweddaf, 106,759 o dunelli o lo, 3,436 o dunelli o batent fuel, 625 o dunelli o haiarn a dur, a 500 o dunelli o olosglo. Ar- ,ddangosiadau gobeitbiol drwy yr holl adran am weithio cyson drwy fisoedd y gauaf. Yn MIDDLESBRO', yr oedd cynulliad lluosog ar y Gyfnewidfa yr "wythoos ddiweddaf, yn cynwys cryn lawer o ddyeithriaid o leoedd pel:enig. Wedi derbyn telegram Ysgotaidd, deallwyd fod Marchnad Glasgow yn fwy cadarn, ac mewn cydymdeim- lad & hyny, cododd prisoedd Middlesbro' o 2p. Is. i 2p. 2s. y dunell am Rif 3 o haiarn bwrw Cleveland. Mae y bywiogrwydd yn cynyddu yn masnach yr haiarn gorphen-weithiol. Yr holl weithfeydd yn gweithio mewn full swiiig yn Ngogledd Lloegr, ac y mae archebion mewn Haw a'u ceidw i weithio am fisoedd i ddyfod. Prisoedd yn well. Platiau yn cael eu prisio yn 6p. 10s. y dunell, a bariau a haiarn-onglau yn 6p. y dunell. Tra chyffelyb Yw y prisoedd drwy holl weithfeydd y deyrnas. GOHEBYDD MASNACHOL.
Nodiadau Nedi Norris.
Nodiadau Nedi Norris. WEL, y mae Lefroy, o'r diwedd, wedi ei gael yn euog o'r lofruddiaeth ar reilffordd Brighton, a bydd iddo esgyn ar lwyfan tra- gywyddoldeb tua'r 28ain neu y 29ain o'r mis presenol. Ar ol ei weled yn cychwyn ar ei hirfaith daith yn ddiogel, dywedir y bydd i Marwood, fel arfer, dalu ymweliad a'r Saving's Bank agosaf. Y mae yn cael croesawiad gwresog yno bob amser, fel y cyn-grogwr j Calcraft. i -:0:- CLYWAIS fod bell ringers Eglwys St. Elvan, Aberdar, wedi ymwrthod a phob math o ddiodydd meddwol yn ddiweddar. Da iawn. Gobeithiwyf y cant y fraint a'r hyfrydwch o gyd-dynu cloch angeu John Barleycorn cyn bo hir. -:0:- DRAMA" NEWYDD. ACT I.-GOLYGFA,- Ystajell yn Ngholeg y Bedyddwyr, Pontypwl. 17 o'r Myfyrwyr yn chwareu high-backs ar y cadeiriau. Y Prif-athraw (yn edrych arnynt drwy dwll y clo, ac yna yn myned i mewn).—Holo, -(conjusion)-fechgyn, beth yw hyn? Beth ydych yn geisio gwneyd 1 A ydych wedi troi yn mountebanks, a pherfformio eu campau yn uchel lys dysgeidiaeth eich enwad? Cywil- yddied pob un ohonoch Yn gosb am vr ymddygiad hwn o'ch eiddo, mi a'ch caethiwaf ddau ddiwrnod a dwy noson yn y ddirgel-gell heb fymryn o ymborth.-(Y Prif-athraw, gyda chynorthwy y naw myfyriwr ufudd, yn llawhualu y condemniedigion, a'u harwain yn fllwraidd i'r gell, ac yna sicrhau y drws arnynt a bariau haiarn trymion).—Yn awr, chwi weision ffyddlon, dyma ddimeu yr un i chwi i brynu lollypops, fel tal haeddianol am eich cynorthwy parod.-(Y llen yn disgyn.) ACT II. -GOLYGFA,- Y carcharion yn cael eu rhyddhau, a'u dwyn i'r gegin er diwallu eu 'stymogau gweigion. Pob un ohonynt wrth y bwrdd yn esgyrnog a gwelw eu gwedd. Myfyriwr l.—Oh dear! diolch ein bod ni, fechgyn, wedi dyfod allan o'r fath ddungeon. Pan yn ceisio cysgu neithiwr, teimlwn ryw- beth yn cripian o dan fy ngwasgod. Codais ar amrantiad llygad llo. Beth feddyliech chi oedd yno, boys ? Y Myfyrwyr—(gyda'u gilydd, gan geisio chwerthill)-Chwanen. Myfyriwr 1.—Nage yn wir. Dim amgen na chymanfa o dair o lygod Llygoden wen oedd un ohonynt Y Myfyrqvy-r-(gyda'u gilydd)—Ho, ho, ho, ho, ha, ha, ha, ha. Myfyriwr 2.—Ust! fechgyn, mae'r waitress yn d'od &'r ymborth. Waitress.-Good morning, gentlemen. I have brought you a nice breakfast. Help yourselves, and satiate your empty stomachs. -(Y waitress yn diflanu.) Myfyriwr 3.-Beth, galw dw'r a llaeth, a bun ddimea yn "nice breakfast"! Fy anwyl gyd-fyfyrwyr gormesedig, y mae hyn yn insult anoddefadwy ar ein hystymogau gweigion Dyma fy marn i am dano—(yn cydio yn ei lestri te, a'u Iluchio yn ddarnau aneirif ar y Haw, a'r oil o'i gymdeithion yn dilyn ei esiampl, gan ddymchwelyd y bwrdd a'r cadeiriau. Y Prif-athraw a'r myfyrwyr ufudd yn entro y gegiri, a'u hualu unwaith eto.) Prif-athraw.-O! chwi weision anufudd. Edrychwch ar y galanasdra ydych wedi gyf- lawni. Ai dyma'r ffordd ydych yn diolch am eich bara beunyddiol ? Ai dyma'r effaith mae fy nghariad a'm gofal wedi ei gael arnoch oddiar pan ydych dan fy nysgyblaeth 1 0 hyn allan, alltudiaf chwi am eich hoes i'r ynys hono a elwir Y Byd. "-(Yn cael eu dadhualu, a'u gyru allan o'r colegdy blith- draphlith. Y lien yn disgyn. Y diwedd.) -:0:- WEL 1 wel! mae palasdy henafol Morgan Davies, Ysw. (alias" Mocyn y Gwehydd "), High-street, Aberdar, wedi cael ei dynu i lawr gareg oddiar gareg. Bydd hyn yn golled anadferadwy i chwedl-garwyr ac ieuenctyd carwriaethol yr ardaL Llawer "John a Mari" gawsant eu introducio i'w gilydd yn y bwthyn bach t6 gwellt, a rhai ohonynt, er's blynyddau, bellach, wedi tyngu lift o ffydd- londeb y naill i'r llall hyd angeu. Nid an- naturiol fydd gan y cyfryw rai adgofio heb wen bleserus ar eu gwynebpryd am nosweith- iau hapus a dreuliasant o dan gronglwyd (trwy ba un, er's amryw fisoedd, y gallesid rhifo ser y ffurfafen am filltiroedd ysgwar) y "castell" adfeiliedig. Nid drwg fyddai i ffryndiau Morgan danysgriflo rhyw gymaint o arian tuag at gael cofgolofn (un 50 troed- fedd o uchder wnelai y tro) i'r anedd-d^ ■ bychan ar ddarn o'r tir lie y gwrthsafodd lawer ystorm ddinystriol er's yn agos i dri chant o flynyddoedd. Ni chostiai cofgolofn fechan o r fath yna ond 80,000p. neu 90,000p. Chwi frodorion Aberdaraidd, ffurfiwch yn bwyllgor ar unwaith, er dwyn hyn oddiam- gylch. Curwch yr haiarn tra fyddo yn boeth. Bob mil o bunau a deflir i'r drysor- fa, ychwanegaf fiaau gynifer mil o biuau atynt o'm heiddo fy hun. -:0:- YR AWENYDDES WYDDELIG. Chwaer i Mr. 0. S. Parnell, A.S., yr arch- gynhyrfwr Gwyddelig, yw yr awenyddes dan sylw, ac y mae hithau yn dilyn esiampl gwrthryfelgar ei brawd mewn cyfeiriad sydd yn perthyn yn neillduol iddi hi yn unig. Hynoda ei hunan yn ami trwy areithio yn gyhoeddus, ac y mae yr iaith flagardaidd a ddefnyddia yn gywilyddus. Ar brydiau ereill, y mae ei sel yn cynhyrfu ei hawen i'r fath raddau, fel yr ymffiamycha allan mewn barddoniaeth. Yn ei hawdl, pryddest, neu arwrgerdd (nis gwypwyf yn iawn beth i alw ei cherdd) diweddaf, sonia am y Llywodr- aeth Brydeinig fel "gwag-fostwyr o'u gwell- iantau twyllodrus," ac fel hyn y mae yn eu hanerch mewn cysylltiad a'r Ysgrif Dirol sydd yn awr yn dyfod i weithrediad :— Tear up the parchment lie You, Gladstone, sink supine to quivering slush You, Forster, with the seal of Cain in breast and eye; You, Bright, whose slopping tongue can gloss and gush; You puppet-brood, the lesser legislative fry- A people's might your bungled work shall crush- A people's wrath your grinning cozenage defy. We will not yield! We will not starve We will not fly! Tear up your parchment lie! This time we'll neither crouch nor die Ni chyfieithais yr uchod i'r Gymraeg, am mai gwell oedd ei chadw yn yr iaith fain, ac hefyd, nid oedd yn werth y drafferth. Llawer o son sydd am gael Ysgrif Dirol i Gymru ac os y cynhyrfir am dani yn yr un modd ag a wnawd yn yr Iworddon, bydd yn rhaid i ni gael rhyw Miss Parnell Gymreig. Efryded ein chwiorydd awengar yr esiampl uchod (gyda Haw, nid yw o un pwys i chwi astudio rheolau barddoniaeth, nac arfer synwyr yn yr hyn ag a gyfansoddwch,—unpeth gyda digon o a wna y tro) a phan ddelo yr amser—yn mhell y byddo-" bydd Cymru yn barod. -:0:- Y MAE wedi bod yn siarad brwd eto, yn mhwyllgor o'r Eisteddfod Genedlaethol, dydd Iau diweddaf, yn Merthyr, yn nghyleh beth i wneyd a'r 189p. elw deilliedig oddiwrth yr Eisteddfod ddiweddaf. Cyn y diwedd, awd i siarad parthed rhoddi dirty kick out," a rhyw hotch-potch felly-pobpeth oedd yn gas gan ysbryd tangnefeddus. Heb lol pellach, y mae yn d'od i hyn. Penderfynwyd, cyn cynaliad yr Eisteddfod, fod yr arian-elw i fyned tuag at sefydlu ysgoloriaeth i feibion a merched Cymru, ac yr oedd y cyhoedd Cym- reig a. hyny mewn golwg wrth fyned i'r Eis- teddfod. Peth cenedlaethol ydoedd. Y cy- hoedd bia yr 189p. sydd weddill. Nid oes hawl gan ryw fodau trachwantus i dori y penderfyniad sydd eisoes wedi ei basio. Y mae yn hen bryd i'r cyhoedd ddihuno o'i hir gwsg, a rhoddi llais ar y mater, yn lie bod rhyw unbenaethiaid bychain yn cweryla a'u gilydd am yr ysbail. Oh, how full of briars is this working day world
Nodion o Fro Morganwg.
Nodion o Fro Morganwg. GAN OENIN. ARWERTHIAD. Dyddiau Iau a Gwener diweddaf, cymerodd arwerthiad mawr a phwysig le yn mhlwyf Llan- trithyd. Yr arwerthwyr oeddynt R. Jones a'i Fa,b, o Benybont, ac eiddo Mr. Henry Thomas, Tydraw Farm, un o amaethwyr p'vysicaf Bro Morganwg, oedd yr hyn a werthid. Gwerthwyd yn agos i 300 tunell o wair, swm cyfatebol o lafur, 10 erw o swedes, 90 o anifeiliaid corniog, 30 o geffylau, 300 o ddefaid, 17 o foch, gwageni, certi, machines, ac implements, &c. Cafwyd ar- werthiad hwylus a phrisoedd da. Dywenydd genym ddweyd fod Mr. Thomas yn myned i ym- neillduo o fasnach, a byw yn annibynol; ond y gwaethaf ag ef yw, ei fod yn gadael y plwyf a wasanaethodd gyhyd ac mor alluog fel guardian, overseer, a churchwarden. Dymunwn iddo ef a'i gydmar anwyl hir oes eto i fwynhau y pethau da welodd ffawd yn dda eu bendithio â. hwynt. LLYTHYR 0 AMERICA. Cefais lythyr un o'r dyddiau diweddaf yma oddiwrth Mr. George Selway, gynt o Donyrefail, ond yn awr o Stark Co., Ohio, America, a da genyf allu hysbysu ei gyfeillion ar Donyrefail ei fod ef, a'i rieni, a'r holl deulu yn iach a chysur- us. Maent yn byw mewn pentref bychan, cyn- wysedig o chwech o dai, o'r enw Aberdare. Yn yr ardal hono hefyd y mae Wm. Richards a'i wraig, Llysowen; John Jones, John Morgan, yn nghyd ag amryw ereill o ardal Tony refail. Mae yr olaf yn bregethwr lleol yno, fel yr oedd ar Donyrefail. Wele gyfieithiad o ran o lythyr fy nghyfaill Tua haner fy amser wyf wedi weithio oddiar pan wyf yma, ond yr wyf wedi enill mwy o ar- ian na fuaswn wedi enill yn yr hen wlad a gweithio yn llawn. Nid eithriad ydyw gweithio haner amser yma, eithr y rheol. Ti weli, felly, nad oes gan ddyn lawer gwell mantais i ymgyf- oethogi yma rhagor nag yn Nghymru. Ond yn benddifaddeu, gall teulu lluosog fel ni fyw yn fwy cysurus yma nag yn Nghymru. Cofia, nid wyf yn dweyd rhagor. Barn llawer un yna yw, pe gallai ddyfod drosodd yma, y byddai yn wr boneddig, cyn belled ag y mae arian yn myned, ar unwaith. Hollol gamsyniol ydyw'r fath farn. Mae genym un capel (B.) yma, lie y pregetha John Morgan, Oellifelen, yn achlysurol. Mae pedair milltir oddiyma i'r Eglwys Esgobol nesaf. Mae perchenogion y Drych wedi bod yn anfon copiau o'u newyddiadur i ni, Gymry Ohio, yn rhad ac am ddi-n yn ystod y tri mis diweddaf (amser yr etholiadau). Maent wedi eu hatal bellach. Felly, paid dysgwyl y Drych am wyth- nos neu ddwy. Yr wyf ar anfon archeb tua'r swyddfa am rifyn i ti yn wythnosol, a chaiff ei anfon i ti o'r swyddfa. Yn y cyfamser, cei ryw newyddiadur arall. Ffarwel, gyfaill anwyl. Llawer awr ddifyr gyd-dreuliasom, ac a gyd- dreuliwn eto, gobeithiwyf. Oddieithr mai oes fer sydd i mi, gelli ddysgwyl gweled eto yn Nghymru dy hen gyfaill, G. SELWAY."
[No title]
Y mae gan y QUININE BITTERS un cymer- adwyaeth anarferol, sef bod meddygon o bob gradd yn cydnabod heffeithiau trwy eu rhoddi i'w cleif- Ion (patients), pan yn fynych v methant gyda'u cyfferi meddyginiaethol eu hunam. Gwelir man- ylion ar dudalen arall o'r papyr hwn. L. 163 DIFYRION lied ryfedd sydd yn cael eu harfer gan ddynion ieuainc Lower Bavaria. Mewn un pentref, y maent yn ymdrechu ar ba un sydd yn meddu y penglog caletaf, a phrofant hyny trwy guro eu penau yn erbyn muriau a drysau Y mae y prif gampwr yn alluog i dori trwy y drws cryfaf & nerth ei ben, ac y mae yn alluog hyd yn nod i ddinystrio clwydi mawrion. GWR ieuanc mewn siop draper oedd John ac un diwrnod, daeth boneddiges ieuanc i fewn i brynu rhywbeth, a John oedd yn gweini. Tra y syllai y ddynes ar y drych i weled sut yroedd y peth yn. ffitio, a dangos ei gwen oreu, ac yn edrych mor nice, dymunodd John, Oh na b'ai yn ddrych." "Pe baech chwi yn ddrych," ebai y ferch ieuanc, "edrychai y merched yn amlach arnoch nag y maent." Syrthiodd John i lawr mewn llewyg.
SABOTR-GAUAD Y TAFABNDAI.
SABOTR-GAUAD Y TAFABNDAI. Mae Mr. Forster wedi dweyd y bydd i'r Llywodraeth adnewyddu yr Act er Cau y Tafarndai ar y Saboth yn yr Iwerddon; ac oblegyd hyny, mae yn debyg y bydd yr ym- laddfa yn ffafr cael mesur cyffelyb i Loegr yn hynod boeth y Senedd ddyfodol. Nid oes dadl na bydd i Gynghrair y Deyrnas Gyfunol brofi yn drech na'r gwrthwynebwyr yn y pen draw. Mae eu bwriadau a'u cynlluniau yn gyfain a nerthol trwy y wlad ac mae llawer o'r aelodau wedi addaw yn bendant bleidleisio yn ffafr y mesur, a thrwy hyny wneyd aelod- au y Cynghrair yn sier yn eu meddwl y profant yn fuddugoliaethwyr, yn enwedig os dygir y mesur gerbron y Ty mewn adeg resymol. Gobeithiwn y llwyddant, ac na bydd amryfusedd ynddo cyffelyb i'r un a berthyn i eiddo Cymru.
CYMDEITHAS DDARBODOL Y GLOWYB.
CYMDEITHAS DDARBODOL Y GLOWYB. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan gangen Cyfarthfa o'r gymdeithas uchod, yn ysgoldy George Town, Merthyr Tydfil, nos Lun, Tachwedd 7fed, 1881. Yr oedd y cynulliad yn lluosog. Cymerwyd y gadair ar yr ach- lysur gan Mr. W. Roblin, yr hwn a wnaeth araeth bwrpasol wrth,agor y cyfarfod, ac a alw- odd ar Mr. W. Davies, yr ysgrifenydd lleol. Rhoddodd Mr. Davies fraslun o hanes y gymdeithas yn Nghyfarthfa oddiar ei chych- wyniad hyd yn awr, a dywedodd, er nad oeddent wedi cychwyn cyn Mehefia diweddaf, eu bod yn awr yn rhifo 250 o aelodau. Derbyniwyd y mynegiad hwn gyda chymer adwyaeth fawr. Cafwyd araeth rymus a galluog gan Mr. E. Owen, ysgrifenydd cyff- redinol y gymdeithas, yr hwn oedd yn bre- senol ar gais yr aelodau. Nododd yn fanwl amcanion ae egwyddorion y gymdeithas, y modd yr oedd ei rheolau yn gweithio, a'r daioni oedd yn debyg o ddeilliaw i'r dosbartb gweithiol drwy ymuno i hi. Gwnaeth gyf- eiriadau at y Gyfraith Iawnol, a phrofodd yn eglur drwy ystadegau mai ychydig o elw a fuasai yn deilliaw i'r dosbarth gweithiol oddi- wrth hono. Taflodd gipdrem dros weithred- iadau y gymdeithas, a dangosodd ei bod wedi gwneyd daioni mawr eisoes. Cafodd ei araeth dderbyniad gwresog. Terfynwyd y eyfarfod trwy dalu diolch i'r cadeirydd am lywyddu, ac i Mr. Owen am ei bresenoldeb. Ymunodd nifer fawr o bersonau £ t'r gym- deithas ar ddiwedd y cyfarfod.
'SAETHU YN Y MWNGLODDIAU.
SAETHU YN Y MWNGLODDIAU. Nos Wener diweddaf, ymwelodd dirprwy- aeth yn cynrychioli glowyr Deheudir Cymru a Mynwy, ac yn gynwysedig o Mri. W. Abraham, D. Morgan, Mountain Ash; a Swan, Castellnedd, a Syr W. Harcourt, yr Y sgrifenydd Cartrefol, er gosod o'i tlaen eu golygiadau o barthed i gylchlythyr diweddar y Swyddfa Gartrefol, yn delio a'r cwestiwn o dynu allan y dynion yn ystod gweithrediadaa saethawl; hefyd, i egluro iddo yr anhawsder yn mha un y gosodid hwy felly wrth gario allan weithrediadau mwnyddol, a nifer y dynion a deflid allan o waith. Trwy rag- drefniant, yr oedd Arglwydd Aberdar yn bresenol i gyflwyno y ddirprwyaeth i'r Ysgrifenydd Cartrefol, ac yr oedd hefyd yn bresenol Arglwydd Rosebery, Mr. Lushing- ton, Mr. Wales, arolygydd mwngloddiau Deheudir Cymru. Traddododd Arglwydd Aberdar araeth agoriadol i egluro amcan y ddirprwyaeth, sef gwrthdystio yn erbyn y cynyg o atal saethu yn y glofeydd hyd o fewn tri mis ar ol darganfod nwyon, neu yn hollol. Swm a sylwedd yr hyn ddywedodd yr Ysgrif- enydd Cartrefol ydoedd, ei fod yn meddwl y gallai eu gosod yn hollol dawel trwy ddweyd nad oedd y cylchlythyr yn cynwys dim i'r perwyl hwnw. Diolchodd Arglwydd Aberdar dros y ddirprwyaeth i'r Ysgrifenydd Cartrefol am ei dderbyniad caredig ohonynt.
Y DUO 0 EDINBUBGH YN ABEB-TAWE.
Y DUO 0 EDINBUBGH YN ABEB- TAWE. Y mae Abertawe, yn ddiweddar, wedi ei breintio yn neillduol gan y teulu Breninol. Ar y 18fed o Hydref, ymwelwyd a'r dref gan Dywysog a Thywysoges Cymru er agor y doc newydd, pan gymerodd y seremoni le gyda rhialtweh a gorfoledd mawr; a'r wythnos ddiweddaf, anrhydeddwyd y lie ag ymweliad oddiwrth ail fab ein Brenines, sef y Due o Edinburgh. Ei neges ef oedd dyfod yn ei gymeriad swyddogol fel Arolygydd Llyngesol. Chwyfid banerau ac arnynt y geiriau "Groesaw i Abertawe," "Due o Edinburgh," a "Ein Tywysog Morwrol." Am ddau o'r gloch, cyrhaeddodd y Due i'r Mumbles yn y bleser-long Lively. Yr oedd gydag ef Mr. Richards, ei ysgrifenydd preifat, a'r Lifftenant G. H. I. Godfrey, R.N., a derbyniwyd hwy gan yr Is-lifftenant 1. J. Jenkins, Llvwydd Corfflu Abertawe o Wirfoddolion y Magnel- wyr Llyngesol, a'r Cadben Gooch, Llywydd Corfflu Bryste. Wedi myned i'r cerbyd, gyrwyd ef trwy bentref Oystermouth, yn nghanol banllefau croesawol y torfeydd, ac oddiyno i'r Grange, preswylfod Mr. J. J. Jenkins, y cyn-faer, lie y eymerodd adloniant Ie, gyda Mrs. Jenkins. Gyrodd, wedi hyny, i Singleton, palas Mr. Vivian, ond nid oedd y boneddwr hwnw gartref felly, ni ddisgyn- odd y Due yno. Yna, gyrodd ei Uchelder Breninol trwy Sketty Road, yn cael ei lon- gyfarch gan dyrfaoedd lawer. ^Ar ben uchaf Walters Road, yr oedd tyrfa fawr wedi ym- gasglu, ac yno yr oedd Maer Abertawe (Alderman Davies), ac amryw o aelodau y Gorfforaeth yn ei ddysgwyl yn eu cerbydau. Cyflwynwyd anerchiad i'r Due oddiwrth y Gorfforaeth, ac atebodd yntau :—Yr wyf yn diolch yn fawr iawn i chwi, ac anfonaf ateb- iad. Am haner awr wedi tri, ymgasglodd y Gwirfoddolwyr Llyngesol o flaen Neuadd y Dref, yn rhifo yn agos i ddau gant. Yna, 0 aethant oddiyno i'r Music Hall, yr hon oedd wedi ei gorlanw gan y cyhoedd. Ar ol iddynt fyned trwy eu hymarferiadau, anerchodd y Due hwynt fel y canlyn Yr wyf yn eich llongyfarch ar eich ymddangosiad rhagorol, ac hefyd ar y radd fawr o effeithiolrwydd ydych. wedi gyrhaedd. Nid yw yn arferiad cyffredin genyf. pan yn arolygu y corffluoedd hyn, i'w hanerch, ond yr wyf yn gwneyd hyny ar yr achlysur hwn, am fod yr eiddoch yn gorfflu. sydd newydd ei ffurfio. Dim ond ddoe yr arolygais gorfflu a pha un yr ydych yn gysyllt- iedig, yn Bryste, y rhai a gefais yn y cyflwr mwyaf boddhaol o effeithioldeb. Hyd yn. hyn, nid ydych wedi bod yn alluog i dderbyn hyfforddiadau mewn ymarferyd ag arfau bychain. Yn y man, gobeithiwyf y bydd cyfleusdra i wneyd trefniadau, fel y galloch ddysgu magnel-ymarferiad." Yna, siaradodd ychydig yn mhellach gyda golwg ar ym- ddangosiad y Gwirfoddolwyr yn Windsor, yr hyn a ganmolai yn fawr, a therfynodd ei anerchiad yn nghanol cymeradwyaeth.
FFLANGELLU PLENTYN PAN AR…
FFLANGELLU PLENTYN PAN AR FAR W. Bu farw merch ieuanc, Ellen Thorpe, 12 mlwydd oed, yn Sheffield, dan amgylchiadau mwyaf cywilyddus. Tua mis yn ol, cymer- wyd hi yn glaf gan dwymyn, yr hwn a drodd yn ddarfodedigaeth. Ar ddydd Llun, wyth- nos i'r diweddaf, gorchymynodd ei thad iddi godi o'i gwely, ond yr oedd yn rhy wan i wneyd yr hyn a ddymunai. Yna, cymerodd yr adyn cane, a fflangellodd hi Bu farw y diwrnod canlynol. Cynaliwyd trengholiad, a dychwelwyd rheithfarn Bu farw oddiwrth ddarfodedigaeth frysiedig gan fflangelliad ei thad, esgeulusdra, a thriniaeth anmhriodol."
GWBTHBYFEL GOLEGAWL YN MBONTYPWL.
GWBTHBYFEL GOLEGAWL YN MBONTYPWL. Drwg genym ddeall fod rhyfel wedi tori allan yn ngholeg y Bedyddwyr, Pontypwl, yr hwn sydd o nodwedd tra difrifol. Y mae hyn yn beth gofidus pan ystyriom mai sefydliad yw y Coleg i godi ac addysgu bechgyn er bod yn "genadon hedd," yn hytrach na bod yn ryfelwyr a therfysgwyr. Yn ol yr hanes ydym wedi gael, yr ydym yn deall fod dosbarth o'r myfyrwyr er's cryn amser wedi bod yn dra aflywodraethus ac an- ymostyngol i orchymynion a threfniadau y prif athraw, sef Dr. Edwards; ac mewn canlyniad i hyny, g^lwyd cyfarfod ganddo ef o rai o brif ddynion yr enwad, er cymeryd y mater i ystyriaeth, a chynaliwyd y cyfryw gyfarfod dydd Gwener, yn y Coleg, dan lywodraeth y Parch. N. Thomas, Tabernacl, Caerdydd. Heb fyned i holl fanylion y cyfarfod, gellir dweyd mai y penderfyniad y daethpwyd iddo oedd trdl allan o'r Coleg 17 o'r myfyrwyr, ac felly, nid oes ar ol yn awr yn y sefydliad ond naw. Diau y bydd i'r amgylchiad beri llawer o gyffro yn onwad y Bedyddwyr, a thrwy y wlad yn gyffredinol.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MERTHYR. Er y Uwyddiant fu ar yr Eisteddfod uchod a r deucant punau sydd mewn llaw, yr ydym yn deall nad yw pethau yn rhyw lyfndeg iawn gyda'r pwyllgor, canys y maent yn methu yn lan a phenderfynu pa fodd i ddelio a r arian sydd mewn Haw. Cynaliwyd cyfar- fod o'r pwyllgor dydd Iau, wythnos i ddoe, yn y Temperance Hall, Merthyr dan lywyddiaeth Mr. D. Rosser. Dadl'enwyS llythyr oddiwrth yr Uwch Gwnstabl, Mr y mL ames' yn dweYd iddo weled Mr. John Thomas yn Llundain, ac os oeddynfc hwy yn chwyddo ei drysorfa trwy evfrana ati 200p., y byddai yn barod i gychwyn ei ysgoloriaeth yn mis Ionawr nesajF. Y cadeir- ydd a ddy wedai fod yr arian wedi eu tanys- grifio gan y wlad at amcan penodol, ac vr oedd yn rhaid cyrhaedd yr amcan hwnw, neu defnyddid yr arian yn anmhriodol. Yr oedd efe yn awr eto yn gwrthod yn bendant i osod y pwyllgor yn y sefyllfa chwythig o roddi yr arian l ysgoloriaeth John Thomas, a chilio oddiwrth y bwriad gwreiddiol. PE apwynt- iesld pwyllgor i gasglu at drychineb Ty- newydd, a hwy ar ol hyny yn ewyllyaio rhoddi yr arian i Abercarn, neu ryw drychineb arall. nis gallent wneyd hyny. Yr oedd pwyllgor yr Eisteddfod wedi myned at y wlad gydag amcan de&madol. Gwelsai adroddiad y cyfarfod cyntaf, a'r unig ysgoloriaeth grybwyllasid y pryd hwnw oedd ganddo ef ei hun. Dywedai mewn ychydig eiriau iddynt fyned at y wlad i sefydlu yr ysgoloriaeth hon cafwyd yr arian i'r perwyl hwn ac nid oedd ganddynt hawl i'w cyflwyno i John Thomas aa neb arall. Daeth y mater allan yn eglur iawn ac yr oedd yn ddrwg ganddo fod rhai o aelodau y pwyllgor, gyda pha rai y bu yn gweithio yn gydgordiol yn yr Eisteddfod, tra am ereill, yr oedd yn ddrwg ganddo ddweyd fod eu gwrthsahad wedi cyfodi allan o'r safla a gymerasai efe yn y pwyllgor. Yn y cyfar- fod cyhoeddus cyntaf, apwyntiwyd ef' yn gadeirydd y pwyllgor ond yr oedd eiddigedd gan nubyth oddiar hyny a meddylui rhai pobl, os byddai i'r ysgoloriaeth a gychwynasS efe yn Nghaerdydd,-Ysgoloriaeth David Rosser—lwyddo, yr ai ei enw i lawr yn y tl gJ a-WeC oanrMedd, a dywedenfc yn awr y dylai yr arian gael eu rhoddi i ysgoloriaeth John Thomas. Beth oedd John Thomas wedi wneyd drostynt ? Yr oedd efe (y cadeirydd) yn dymuno hawlio ddarfod iddo wneyd rhywbeth drostynt. Yr oX wedi cysegru mwy o amser nas gallent hwv ddweyd dros yr Eisteddfod; ac os oedd tinm o anrhydedd, paham, yn enw cydwvbod chawsal ef hyny ? Yr oedd efe yn ddVj Ferthyr, wedi ei em yn Merthyr, ac wedi gwneyd yr ol a allai yu Merthyr dros gerddonaeth a'r Efsteddfod. Heriai mT rhyw un a'i hadwaenai i ddweyd yn wahanoL Nid oedd efe wedi arbed poen na thrafferth er gwneyd yr Eisteddfod yn lwyddiant • ac yn awr, yr oeddent yn ei osod o'r neilidu,
Beirniadaeth Eisteddfod Merthyr.
mae yr awdl, ar y cyfan, yn un wych, a'i theilyngdod cymharol yn rhesu yn uchel ond gwelir oddiwrth y dyfyniadau blaen- orol fod ei chynllun yn un cymysglyd ae annosbarthus iawn, ac fod yr awdwr yn troi yn mlaen ac yn ol at yr un pynciau dracbefn a thrachefn. Teimlir hefyd fod rhai o'r episodau yn rhy hir gymaint felly, nes peri i ni yn mron i golli ein golwg yn llwyr ar y testyn. (Tw barhau.)