Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
Sylwadau Gwleidyddol.
Sylwadau Gwleidyddol. GAN SYLWEDYDD. CrWEESI ETHOLIADOL MEWN BRWYDRAU AREITHYDDOL. BELLACH, y mae y frwydr wleidyddol sydd yn cymeryd lie yn yr encyl Seneddol, rhwng prif arweinwyr pleidiau gwleidyddol y Llyw- odraeth, wedi dechreu o ddifrif. Gellir dar- luriio y ceidron fel y rhai sydd yn dal swyddi o dan y Llywodraeth, ac yn awyddus am eu cadw, a'r rhai hyny sydd bob amser yn barod i gymeryd eu seddau mor fuan ag y bydd yn bosibl iddynt wneuthar hyny. Aerwyr, ymbleidwyr, heblaw-rhyw ganoedd Drwy Gymru yn unaw; Eidiog alon digiliaw- Gofid a Ilid ar bob llaw. Y mae mwyafrif etholwyr Prydain Fawr yn gwylio symudiadau y dosbarth yma gyda dyddordeb mawr yn ystod y pump neu chwech wythnos y mae y frwydr areithyddol a ddygir yn mlaen ganddynt yn parhau. Y maent yn mhellach yn rhoddi canmoliaeth i'r ymrysonwyr am y syniadau gwladgarol a draethir ganddynt, a'u sel dros egwyddorion Rhyddfrydol. Ond nid yw y rhyfelawd flyn- yddol yma o areitheg namyn ymgais ar ran y naill blaid a'r llall i deimlo pulse y genedl, yn enwedig eiddo yr etholwyr perthynasol. Bydd un blaid hwyrach yn eyhuddo y Llyw- odraeth o fod yn euog o lusgo baner yr Ym- erodraeth Brydeinig drwy y llaid oherwydd eu bod wedi ymostwng i'r Boeriaid, ac en- cilio yn rhy fuan o Candahar, gan adael allwedd India yn meddiant Rwsia. Bydd- ant hefyd yn ffugio digllonedd, gyda chryn effaith chwareuyddol, gan ystyried eu hunain ic. y doethaf o ddynion." Atebir yr areithiau brwdfrydig hyn, sydd yn llwythog o gyhudd- iadau pwysig yn erbyn gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth, mewn rhyw gyfarfod cy- hoeddus perthynol i'r Coedwigwyr (Foresters), gan neb llai na Syr William Harcourt, yr hwn a ddarfu adgofio aelodau y Weinydd- iaeth ddiweddar o'r ffaith fod rhyfel newydd ganddynt mewn Haw o'r bron bob mis, er eu bod yn ceisio rhodresu gerbron y byd fel pen-lywodraethwyr Ewrop, pan yr oeddynt, mewn gwirionedd, yn gwneuthur cytundebau rhwymedigaethol er gochelyd rhyfel; ac nad oedd eu deddfwriaeth gartrefol wedi myned yn mhellach na rhoddi haner awr yn ych- waneg i dafarnwyr i werthu diodydd meddwol. Yna, aeth Syr William yn ei flaen gan gyf- eirio at leihad Treth y Brag, a'i ymgais Iwyddianus ef ei hunan i ddiwygio deddfau helwriaeth, a gorphenodd trwy gyfeirio yn gyfrinol, mewn ymadroddion arbenig, at Weinyddiaeth Iwyddianus Mr. Gladstone. Nid oes terfyn i fod ar y pethau da sydd i syrthio i ran yr Aelodau Seneddol a gyd- weithredant a'r Prif-weinidog! Wrth reswm, fe ataliwyd yr ymosodiadau angerddol yma ar y blaid Dorlaidd. A phwy oedd i wneuthur hyn ond Syr R. Cross, yr Ysgrif- enydd Oartrefol diweddar. Yr oedd ef yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arbenig arno i wrthbrofi yr holl bethau hyn yn y dull mwyaf dirmygus, a gellir bod yn sicr iddo gyflawni y cyfryw ddyledswydd yn y modd mwyaf eSeithiol Y mae y eyfryw ymosodiadau wedi cymeryd lie mor ami yn ystod yr encyl Seneddol presenol, fel y cynhyrfwyd yr Agamemnon Toriaidd, Syr Stafford North- cote, yn ei lechfod Ceidwadol, ac yr oedd ei manifesto ef yn gyfartal i eiddo deg-ar-ugain o Doriaid eyffredin. Thus groaning heavily he spake these words amongst the 'Greeks. Traddododd ef araeth, yr hon oedd yn amlygiad perffaith o syniadan gwleidyddol y blaid Doriaidd. Y mae Mr. Gladstone hefyd bob amser ar ei uchelfanau, fel cadfridog profiadol, yn edrych o hirbell sr y frwydr areithyddol, yn gwylio symud- iadau y brwydrwyr, ac yn gofidio na fuasai el sefyllfa iirddasol wedi rhoddi gwers iddo, gan ei ddysgu i fod yn llonydd, a boddloni ar ddefnyddio ei yabienddrych gwleidyddol; eithr y mae ei elynion wedi tanio arno o'r gwersyll Toriaidd, ac wele yntau yn sefyll i fyny yn gadarn, gan gymeryd ei safle yn Leeds, a manau ereill, a gollynga ergydion sydd yn disgyn fel cawodydd o dan neu dar- anfolltau ar ei elynion, ac y mae yn swyno yr holl wlad. Y mae wedi chwalu manifesto Syr Stafford Northcote fel masgl Wy o dan droed cawr. Y mae Syr R. Cross yn awr wedi dystewi, gan ymguddio drachefn yn Bghysgodion dinodedd, ond cui bono ? Yr ydwyf, yn fwriadol, wedi rhoddi y brasluniad yma o'r chwareuyddiaethau gwleidyddol sydd yn cymeryd lie yr adeg yma o'r flwyddyn, ac er fy mawr syndod, cymer rhai ohonynt le mewn capeli Ymneill- duol. Nid ydynt yn ateb unrhyw ddybenion da pan y cynelir hwynt mewn capeli namyn adgyweirio dyddordeb diffygiol y Rhyddfryd- wyr a'r Ceidwadwyr, er budd y sawl sydd yn dal swydd o dan y Llywodraeth. Pan fydd Hhyddfrydwyr yn gofyn cwestiynau an- oghyfleus i'r aelodau fyddant yn eu cynrych- ioli yn y Senedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus pecthynol i'r naill blaid neu'r llall, atelir hwynt gan haid o glebrwyr fyddant wedi eu 4eyflogi gan wifr-dynwyr lleol (pa rai a adna- byddir yn Lloegr wrth yr enw local wire- pullers), sydd yn ceisio cysylltu masnach a .gwleidyddiaeth, er y byddant yn ddieithriad yn gwadu nad yw yr anfadwaith hwnw yn foodoli eithr yn unig yn meddyliau y blaid Rhyddfrydol. Dylai y Rhyddfrydwyr ofalu am drefnu eu cynlluniau, fel ag i fod yn barod i ddynoethi y clebrwyr a'r gwifr- dynwyr y cyfeiriwyd atynt. Bydd digon o ddynion parchus wrth law bob amser fyddant yn barod i gynorthwyo i rhwygo y mwgwd oddiar wynebau y drwg-weithredwyr hyn Bydd ar eu goreu yn ceisio gwneuthur mas- nach o bleidleisiau yr etholwyr. Yn wir, y mae yn sarhad o'r mwyaf ar ein dealltwr- Saeth ein bod yn caniatau i'r hen ddrygeddau 4raddodiadol yma gymeryd lie mewn ethol- ladau gwleidyddol, ac ymrafaelion lleol ereill -0 gyffelyb natur. Sut y gellir dysgwyl i ddosbarth neillduol o Aelodau Seneddol i gynrychioli y bobl pan y gwyddant eu bod yn ddyledus am eu seddau i ddarllawyr a thaf- arnwyr, y rhai sydd, yn rhinweddol, yn rheoli barn y cyhoedd yn eu cyfansoddiadau perthynasol ? Ond y mae y bai yn sefyll wrth ddrws yr etholwyr eu hunain, a hyny yn unig oherwydd nad yw eu dyddordeb mewn gwleidyddiaeth bob amser yr un fath. Bydd llawer ohonynt yn cloffi rhwng dau feddwl, ae y mae ami i Geidwadwr wedi enill sedd yn yr etholiadau trefol eleni tra y mae yr etholwyr yn hepian cysgu. (Tw barhau.)
Oymdeithas Ddarbodol y Glowyr.…
Oymdeithas Ddarbodol y Glowyr. (Parhad). DYWED Mr. Morgan, yn ei lythyr, nad ydyw y dosbarth hwnw sydd yn ymuno a'r gym- deithas er mwyn y weddw a'r amddifaid yn edrych ar y pwnc yn y goleuni priodol-fod gwreiddyn y gymdeithas yn ddrwg, gan ei bod yn arwain i esgeulusdod o'n bywydau yn y glofeydd, ac fe gydnabydda pob dyn synwyr- ol fod mwy o Gristionogaeth mewn cadw dyn yn fyw i'r wraig nag mewn talu 5s. yr wythnos i'w chynal, ar ol ei ladd yn y lofa." Y mae rhan gyntaf y dyfyniad hwn yn cynwys haer- iad, heb fod un ymgais yn cael ei wneyd i'w brofi. Peth hawdd iawn yw gwneyd haeriad- au ond peth anhawdd iawn, lawer pryd, yw dwyn rhesymau teg i brofi y cyfryw. Felly yma. Nid yw fod hyd yn nod D. Morgan yn dweyd y peth yn brawf fod y peth hwnw yn Efengyl." Dylai y brawd ddangos yn mha fodd y mae y gymdeithas yn arwain i es- geulusdod o'n bywydau yn y glofeydd." A ydyw y gymdeithas yn rhyddhau y meistri oddiwrth unrhyw gyfrifoldeb o dan gyfraith Rheoleiddiad Mwngloddiau 1 Ai nid ellir eu cosbi am droseddu unrhyw adran yn y ddeddf hyna, er eu bod yn aelodau o'r gymdeithas 1 A ydyw y Gyfraith Iawnol yn gosod mwy o gyfrifoldeb arnynt (ond yn unig mewn ystyr arianol) na chyfraith y Mwngloddiau ? A oes prawf ar gael fod y meistri wedi bod (neu yn debyg o fod) yn fwy esgeulus o'n bywydau oddiar mae y gymdeithas hon mewn bodol- aeth nag oeddynt gynt ? Wrth ateb y gofyn- iadau hyn, dichon y bydd i Mr. Morgan roddi i ni ryw oleuni yn nghylch gwreiddyn y drwg." Fe gydnebydd pob dyn "synwyrol," yn ddiau, "fod mwy o Gristionogaeth mewn eadw dyn yn fyw i'r wraig nag mewn talu 5s. yr wythnos ar ol ei ladd yn y lofa." Ond, a ydyw damweiniau angeuol yn anocheladwy ? Ni feiddia Mr. Morgan ddweyd eu bod. Felly, os nad ydynt, fe gydnabydda pob dyn synwyr- ol fod mwy o Gristionogaeth mewn talu 5s. yr wythnos at gynal y wraig ar ei ol, na'i gadael yn amddifad o unrhyw ddarpariaeth. Dywed eto ei bod yn ddrwg ganddo weled yn y Wasg fod Mr. Evan Owen wedi dweyd, mewn cyfarfod yn Taylor's Town, wrth "ddyrnu" dros ei gymdeithas, "mai ofer fyddai i'r glowyr ddyagwyl ymwared oddiwrth y Ddeddf Iawnol, am y rheswm nad oes dim ynddi." Diolch yn fawr i Mr. Morgan am ei ddetholiad o'r fath air clasurol a dyrnu. Ni wyddwn o'r blaen fy mod yn alluog i ddyrnu. Os dyrnu y gelwir y peth hwn, tybiwyf nad oes neb wedi dyrnu lawer mwy yn y blynyddoedd diweddaf na Mr. Morgan. Er hyny, gwyddom am rai a gawsant eu galw i drefn, yn ddiweddar, gan ddynion lied urdd- asol, am eu bod yn methu dyrnu yn iawn. Llunier i gall haner gair." Defnyddia hefyd y rhagenw unigol-ei gymdeithas. Bydded hysbys i D. Morgan fod y gymdeithas mewn bodolaeth fisoedd lawer cyn i mi gael un cysylltiad swyddogol & hi. Felly, arwydd o anwybodaeth yw dweyd mai fy nghymdeith- as i ydyw. Rhyfedd mor ami mae y gym- deithas yn newid dwylaw. Tybiais, ar y cyntaf, mai cymdeithas y meistri ydoedd; ond wele hi yn awr, ar ol bod yn eiddo y meistri, y trethdalwyr, y cynffonwyr, &c., wedi dyfod yn eiddo i mi, gweithiwr cyffredin Cysondeb eto, onide 1 Dywedais, meddai ef, nad oedd dim ymwared i'w ddysgwyl oddi- wrth y Ddeddf Iawnol, &o. Do, dywedais hyny, a phrofais hyny i foddlonrwydd y gwyddfodolion. Dywedaf hyny eto, a rhoddaf brofion boddhaol o hyny i bob meddwl dirag- farn (D. Morgan excepted). Hysbysa Mr. Morgan, yn nesaf, y glowyr a Mr. Owen, fod y Ddeddf Iawnol wedi profi yn llwydd- ianus i'r gweithwyr mewn tri o bob pedwar o o achosion ag sydd wedi myned i'r ll^s. Very good. Dyn^ bercentage ragorol-75 o bob cant. Ond cyn y gallaf lyncu y "tamaid hwn, rhaid i mi ofyn i'r brawd am chapter and verse, with dates, o'r achosion hyn, gan nad wyf fi wedi bod mor ffortunus a'u gweled. Dysgwyliaf eu cael yn ddiffael. Sicr yw ei bod yn llawn bryd iddo bellach i nodi rhai ffeithiau neu resymau dros yr hyn y mae yn ei ddweyd, yn hytrach na byw yn myd y dychymygion ar haeriadau-noeth ac haerllug. Ond a chaniatau fod yr hyn a ddywed yn wirionedd, yr hyn a amheuwn yn fawr, pa sawl damwain sydd wedi, ac yn dygwydd, heb fod apel at y ltys yn cael ei wneyd ? Pa gyfartaledd (percentage) y mae y rhai hyn yn ei ddwyn i'r rhai sydd yn myned i'r llys A gadewch i mi ofyn yn mhellach i'r brawd, ac yr wyf am iddo ateb y gofyniad hwn yn onest a chydwybodol, set Pa sawl achos sydd wedi dyfod o dan ei sylw ef, yn ystod ei brofiad tanddaearol, ag y gallesid hawlio iawn am dano, a chaniatau fod y Gyfraith Iawnol mewn gweithrediad ? Yr wyf am iddo edrych ar y gofyniad hwn o wahanol safleoedd (stand- points), hyny yw, o safle y meistr a'r gweith- iwr, a rhoddi atebiad teg, gonest, a chydwyb- odol. Creda y bydd yn alluog i ddangos, ar ddiwedd y flwyddyn hon, fod y damweiniau wedi lleihau ugain y cant wrth eu cymharu a'r flwyddyn ddiweddaf. Ni fydd achos iddo drafferthu. Bydd i returns yr Inspectors ddangos hyny. Gobeithio, er mwyn pobpeth sydd, yn dda, yn ddynol, ac yn Gristionogol, y bydd iddo gael ei ddymuniad yn hyn o beth. Mi a garwn ei bod yn lleihau, old yn unig ugain y cant, ond cant y cant, a diamheu mai dyma hefyd yw dymuniad pob un sydd a'r gronyn lleiaf o deimlad yn ei galon ond byddai yn ofynol iddo brofi, wedi hyny, mai y Ddeddf Iawnol sydd wedi dwyn hyny oddi- amgylch. Mi af heibio ei nodiad yn nghylch "cawl coch y gymdeithas, &c. fel un an- nheilwng o sylw. Yr wyf yn awr wedi myned yn frysiog dros ei lythyr, ac wedi dangos nad oes ynddo ond haeriadau noeth. Gallaswn, pe byddai amser yn caniatau, ysgrifen llawer iawn yn helaethach. Fel y dywedais ar y dechreu, nid oes arnaf awydd, ac nid oes genyf hamdden ychwaith, i fyned i ryfel ar y pwnc. Mae D. Morgan a minau yn gyfeillion er's blynyddau, ac ni charwn, ar un cyfrif, fod yn foddion i gymylu y cyfeillgarwch a fodola rhyngom. Dywedaf eto, "Heddweh" yw fy arwyddair, a heddweh wyf am gael ond os rhaid cael rhyfel-jire away!—Yr eiddoch yn gywir, E. OWEN. Caerdydd, Taehwedd 18fed, 1881.
EBBW VALE.
EBBW VALE. DAMWAIN ANGEUOL.—Boreu dydd Mawrth, y 15fed cyfisol, lladdwyd peirianydd o'r enw Joseph yn ddamweiniol, yr hwn oedd yn gyru un o'r peir- ianau chwythol, trwy syrthio i'r pwll lie y gweith iai y shaft. Cafwyd y corff allan yn union, a chludwyd ef i Briery Hill i aros trengholiad.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Iau, Tach. 17eg, bu glowr o'r enw Alfred Lloyd, 33 oed, yr hwn oedd yn byw yn Georgetown, farw oddiwrth niweidiau a dderbyniasai pan yn gweithio yn Cwm Pit, Cyfarthfa. Syrthiodd tua phum' tunell arno gan ei ddryllio yn enbyd.
CWMGARW.
CWMGARW. MAE agwedd fasnachol y lie hwn yn bresenol yn foddhaus iawn. Gobeithiwyf y pery felly. AGORWYD capel yr Annibynwyr dyddiau SuI a Llun, y 6ed a'r 7fed cyfisol. Pregethwyd gan y Parchedigion Jones, Trefor; Jones, Trefnewydd, Thomas, Porthcawl; a Roberts, Nantymoel. Cafwyd cyrddau da yn mhob ystyr. YR ydym, yn ystod nosweithiau y gauaf yma, yn cael cyfres o ddarlithiau gan ein parchus wein- idog, G. Gurnos Jones. Yr elw yn myned at y capel newydd sydd gan y Bedyddwyr yn Mlaeny- cwm.—Garwfab.
ABERDAR. I
ABERDAR. Y GYMDEITHAS DDADLBUOL.—Cynaliodd y gym- deithas hon ei chyfarfod pythefnosol nos Iau, Tachwedd 17eg, yn assembly-room Coffi Tafarn Mr. Dance. Oherwydd ymadawiad y cadeirydd apwyntiedig o'r He, ac am fod ei olynydd (Darfab) yn rhoddi i fyny y swydd oblegyd amgylchiadau, dewisodd y gymdeithas yn unfrydol Mr. J. H. Jenkins (Gwyndaf) i lanw y swydd am y tymor, a gwnaeth ei ran gyda boddhad neillduol y noson dan 3ylw. Darllenwyd llythyr gan yr ysgrifenydd oddiwrth y cyn-lywydd, Didymus Wyn, yn datgan ei ofid am ei absenoldeb, ond yn dymuno yr elai y gymdeithas rhagddi yn llwyddianus hyd ddiwedd Y tymor. Testyn y ddadl y tro hwn ydoedd, Ai syfiawn cynal Eisteddfodau mewn capeli ?" pryd y iarllenwyd papyr dros eu cynal gan Mr. J. W. Moore (Darfab), ac un arall i'r gwrthwyneb gan Mr. E. W. Watkins (Cochlanc). Digon yw dy- wedyd i ni gael papyrau rhagorol o dda, gyda rhesymau cryfion bob ochr. Yna, dilynodd dadl !10m gryn amser, a chymerwyd rhan ynddi gan Mri. Hugh Thomas, H. W. Howells, T. Harrison, J. Prosser, J. D. Morgan, G. George, J. Barkly, Hugh Davies, a'r ysgrifenydd. Ond wedi gosod y pwnc i'r vote, yr oedd y mwyafrif yn erbyn cynal Eisteddfodau mewn capeli. Wedi i'r ddadl der- Eynu, darllenodd yr ysgrifenydd yn ychwanegol Lythyr a dderbyniodd oddiwrth Morien, yn cyf- Lwyno i'r gymdeithas yn wresog ei ddiolchgarwch am y penderfyniad unfrydol a basiwyd ganddi yn aglyn ag ymddygiad hynod un o heddynadon Aberdar, dro yn ol; ac yn wir, cafodd yr awgrym buddiol a gynwysai y cyfryw lythyr ei dderbyn gan aelodau y gymdeithas gyda banllefau o gymerad- wyaeth. Cynelir y cyfarfod nesaf nos Iau, Jthag. Laf, yn Seisnig, pryd y darllenir papyrau ar y testyn, Ai buddiol i'r werin fyddai Dadgysylltiad pr Eglwys Sefydledig ?" yn gadarnhaol gan Mr. George Thomas, ac yn nacaol gan Mr. Hugh rhomas, St. Fagan's Schools, Trecynon.-Gohebydd.
500 YN MARW YN DDYDDIOL.
500 YN MARW YN DDYDDIOL. Pellebryn o Gaercystenyn, yr wythnos ddi- weddaf, a fynegai fod 500 yn marw yn ddydd- iol o'r geri marwol yn Mecca, prif ddinas A.rabia.
TRAMWAY I GWM RHONDDA.
TRAMWAY I GWM RHONDDA. Deallwn fod cwmni wedi ei ffurfio er gwneyd tramway o Bontypridd i Dreherbert. Diau y bydd yr anturiaeth yn sicr o dalu yn y cwm poblog hwn.
GYFFESIAD LLOFRUDD.
GYFFESIAD LLOFRUDD. Hysbysir fod John Simpson, dan ddedfryd marwolaeth yn Manchester am lofruddio ei gariad yn Preston, wedi cyffesu. Dywedai iddo gyflawni y weithred dan gynhyrfiad o eiddigedd, a bwriadai gyflawni hunanladdiad.
MARWOLAETH MABONWYSON.
MARWOLAETH MABONWYSON. Mae Mabonwyson, o'r diwedd, druan, wedi tynu yr anadliad olaf. Bu farw yn Work- house Pontypridd, dydd Iau, wythnos i ddoe, yn ddisymwth mewn llewyg. Bydd genym ysgrif ar hanes ei fywyd mewn rhifyn dyfod- ol.
IA WN AM HUDOLIAETH.
IA WN AM HUDOLIAETH. Yn adran y Queen's Bench, yr wythnos ddiweddaf, dygwyd cynghaws yn erbyn dyn ieuanc am redeg ymaith gyda'i gyfnithder, ac yntau yn briod yn flaenorol. Wedi gwrando y tystiolaethau, dyfarnwyd ef i dalu 250p. o iawn.
MR. JUSTICE KAY AO ANNGHY-MEDROLDEB.
MR. JUSTICE KAY AO ANNGHY- MEDROLDEB. Tra yn cyfarch yr uchel-reithwyr yn Mrawdlys L'erpwl (dydd Llun), sylwai y Barnwr uchod y buasai nifer troseddau y deyrnas hon yn cael eu lleihau i'w haner pe gallesid gwneyd i ffwrdd ag arferion annghy- medrol. Adroddai fod ei brofiad yntau, fel ereill o farnwyr ei Mawrhydi, yn ei arwain i gredu mai meddwdod ydyw ffynonell fawr troseddau y deyrnas.
ULSLUU1JFVU UEMEULAETHVL DINBYCH.
ULSLUU1JFVU UEMEULAETHVL DINBYCH. Yn mhlith y testynau y penderfynwyd arnynt gan bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol 1882, yr hon a gynelir yn Ninbych, ymddeng- ys mai Dyn" fydd testyn y gadair. Testyn y bryddest fydd "Arlywydd Garfield." Bydd yno hir-a-thoddaid i Gwilym Caled- fryn," a chywydd i Gastell Dinbych."
RHODDI GENEDIGAETH I SAITH…
RHODDI GENEDIGAETH I SAITH 0 BLANT. Llythyr o Jamaica, a dderbyniwyd ddydd Sul diweddaf gyda'r llythyrlong o India, a hysbysa am wraig yn Jackson Town wedi rhoddi genedigaeth i saith o blant, yr oil yn wrywiaid. Dywed fod y fam, Mrs. Hallert, yn ddynes gref ac o faintioli mwy na'r cyffredin, ac fod ei gwr yn ddyn bychan a theneu. Pwysai y plant rhwng pedwar a phum' pwys. Rhoddwyd rhodd o bum' can' doler i'r rhieni gan y cyfundeb crefyddol y perthynent iddo.
PRAWFtGUITEAU.
PRAWFtGUITEAU. Y mae prawf yr adyn hwn yn parhau, ac y mae y creadur yn dra anhywaeth, ac yn siarad yn benuchel yn y llys. Pan gludid ef yn y van o'r llys i'r carchar, dydd Sadwrn, carlamodd dyn ieuanc ar farch i ymyl y cerbyd, a chan ymdrechu cael cipolwg ar y llofrudd, taniodd ato, a chyffyrddodd y belen a'i fys, ond ni wnaeth niwed iddo. Yna, gyrodd y dyn ieuainc ymaith, gan waeddi, "Mi a leddais y filen." Y mae y llofrudd mewn dychryn mawr am ei fywyd.
Y CONDEMNIEDIG LEFROY.
Y CONDEMNIEDIG LEFROY. Gwneir pob ymgais gan berthynasau Lefroy i wneyd y ddeiseb mor gyflawn ag sydd bosibl yn yr holl fanylion. Yr unig wagleoedd yn awr ydynt rai yn nglyn a'i dadcu a'i or- phwylledd honedig. Parheir i wneyd ym- chwiliadau yn y mater. Achwyna perthynas- au uniongyrehol y condemniedig nad yw wedi derbyn un fgefnogaeth yn ei achos oddiwrth deulu ei dad, y rhai sydd yn byw yn Ngogledd Lloegr, ac mewn amgylchiadau da.
YSBEILIAD BEIDDGAR 0 LYTHYR.…
YSBEILIAD BEIDDGAR 0 LYTHYR. DY YN LLUNDAIN. Prydnawn dydd Mercher, wythnos i'r di- weddaf, cyflawnwyd lladrad beiddgar iawn yn Llythyrdy Hatton Garden, Llundain. Fel yr oedd un o'r cynorthwywyr yn gwneyd i fyny y bag i'r wlad, aeth y nwy allan yn sydyn gan adael y lie mewn tywyllwch hollol. Yr oedd rhywun, yn ddiau, wedi troi y meter. Pan oedd y lie yn y tywyllwch hwnw, daeth lleidr neu ladron i mewn, a gwnaethant ffwrdd ft rhai o'r bags, y rhai a gynwysent werth tua 40,000p. Meddylir fod rhywua yn y swyddfa yn cydweithredu &'r lladron. aa
TORI AMOD PRIODAS.
TORI AMOD PRIODAS. Yn Llys y Queen's Bench, yr wythnos ddiweddaf, dygodd dynes o'r enw Swan gynghaws yn erbyn Ban, dyn ieuanc 26 oed, a'r erlynes yn wraig weddw a phlant wedi tyfu i fyny ganddi. Dan rith addewid ei phriodi, hudodd y diffynydd hi, a chafodd blentyn ohoni. Y diffyniad oedd fod yr erlynes yn meddu tymer ddychrynllyd, a dywedai y diffynydd, wedi iddo ddeall hyny, nad oedd efe am fyw yn druenus dros ei oes, na chael ei ben wedi ei friwio &'r poker. Dedfryd y rheithwyr oedd ei fod i dalu 200p. o iawn.
MARWOLAETH ARSWYDUS PRIODIFERGH.
MARWOLAETH ARSWYDUS PRIOD- FERGH. Dydd Mercher diweddaf, cynaliwyd treng- holiad yn Sheffield, ar gorff Amelia Turner, yr hon a briodwyd ddydd Llun. Ymddengys fod ei gwr wedi meddwi ddiwrnod y briodas, ac yn y prydnawn ei fod wedi myned ar y gwely, gan adael ei wraig i lawr y grisiau. Pan ddaeth efe i lawr yn yr hwyr, canfydd- odd hi yn gorwedd wrth droed y grisiau, ac yn anymwybodol, cododd hi ac a'i dododd ar y sofa, gan dybio ei bod yn cysgu, gadawodd hi yno, wedi iddo roddi dillad arni, ac aeth i dafarndy gerllaw. Pan ddychwelodd y gwr, cafodd hi yn ewynu, a thra y bu yn cyrchu cymhorth, bu y druanes farw. Dychwelwyd rheithfarn o "farwolaeth ddamweiniol."
MARWOLAETH SYR HUGH OWEN-
MARWOLAETH SYR HUGH OWEN- Derbyniwyd pellebryn, dydd Sul, gan Mr. Burt, A.S., o Mentone, yn hysbysu am farwolaeth Syr Hugh Owen. Y mae y newydd wedi creu cyffro mawr, gan ei fod yn hollol annysgwyliadwy. Yr oedd wedi cael anwyd ar y daith, yr hyn a ofynai am ofal meddygol. Yr oedd ei ferched yn gweini arno, a daeth y newydd, dydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, ei fod yn gwella. Foreu dydd Sul diweddaf, tynodd yr anadl- iad olaf. Yr oedd Syr Hugh yn ysgrifenydd anrhydeddus Prif-ysgol Cymru er ei sefydliad yn 1863, ac ar agoriad y Coleg yn 1872, fod y mudiad yn gofyn mwy o'i amser, felly, rhoddodd ei swydd dan y Llywodraeth i fyny, yr hon a ddaliodd am tua 40 mlynedd. Yr oedd Syr Hugh yn Gymro twymgalon a chenedlgarol iawn.
TERFYSG DIFRIFOL YN LLANTRISANT.
TERFYSG DIFRIFOL YN LLAN- TRISANT. Dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, dygwyd y rhai a gymerasant ran yn y terfysg yn Llantrisant, y dydd Llun blaenorol, o flaen Mr. Gwilym William Williams, ya Mhontypridd. Gwilym Williams, John Wylde, Evan Wylde, a Wm. Lay a gyhuddid o glwyfo William McCarthy, Llantrisant; yr un carcharorion, a Wm. Evans, a.Richard Mathias (oil o Lantrisant), Thomas Leyshon, Wm. Leyshon, James England (Edmunds- town), a Gomer John (Porth), a gyhuddid hefyd gan Supt. Mathews o ymosod ar P. C. 132 a 15 tra yn cyflawni eu dyledswyddau Gwilym Williams, John Wylde, Evan Wylde, William Lay, William Evans, a Richard Mathias, a gyhuddid yn mhellach o wneyd niwed i wisg y swyddogion i'r swm o lp. Yr oedd mwyafrif y carcharorion yn gymharol ieuainc. Gellir cael prif fanylion y terfygg oddiwrth dystiolaeth P. C. John Thomas Tua thri o'r gloch, prydnawn dydd Llun diweddaf, galwyd arnaf o orsaf heddgeidwaid Llantrisant i High-street, ger yr Horse and Groom. Aethum, a gwelwn Wm. McCarthy yn yard yr Horse and Groom yn gwaedu o'i °edd tyrfa gerllaw. Mewn canlyn- lad lr hyn a ddywed wyd wrthyf, aethum I chwilio am y carcharorion. Ger y Wheat Sheaf, cyfarfyddais a John Wylde. Ymaflais yn ei fraich, a dywedais fod yn rhaid iddo ddyfod gyda mi i orsaf yr heddgeidwaid ar y cyhuddiad o glwyfo Wm. McCarthy. Dy- wedodd yntau, Wei, gadewch fy mraich yn rhydd, a cherddaf gyda chwi fel boneddwr." Gadewais ei fraich, a cherddodd ychydig yn fy ochr- Galwodd Gwily £ Williams a Lay arno i redeg ymaith, a rhedeg wnaeth. Aethum ar ei ol, ac ymaflais ynddo -.L ow eto. Ymdrechasom a'n gilydd, a syrthiasom ein dau. Yna, daeth Williams a Lay yn mlaen, a chiciasant a churasant fi dros fy nghorff. Yr oedd torf o'n cwmpas tua 30 neu 40, a charient fi a'r carcharor amryw latheni lawr i'r heol. Galwodd y carcharor Evans allan, "Cioiwch y a daeth yn mlaen a tharawodd fi. Daeth Sergeant lamplin, Mr. Traherne a Morgan y cigydd, £ ? i>m cynorthwyo i gymeryd John TIT J r °rsa £ Yr oeddwn wedi dal gafael yn Wylde rwy nag haner awr cyn i gynorthwy x £ ir ,Ar y ffordd orsaf> rhwygodd John Wylde fy nghot. Clywais John Wylde yn dweyd wrth Traherne, y gwnai ei gofio eto pan fyddai yn myned i fyny i Donyrefail &'i a/rap. Cafwyd tystiolaeth i'r un perwyl gan Tamplin, a gohiriwyd yr achos hyd ddydd Gwener, pryd y trosglwyddwyd John Wylde a Evan Wylde i sefyll eu prawf yn y Brawdlysoedd Chwarterol, am glwyfo yn an- nghyfreithlon Wm. McCarthy, a rhyddhawyd Lane a Gwilym Williams. Trosglwyddwyd John Wylde i sefyll ei brawf am glwyfo yn annghyfreithlon y Cwnstabl John Thomas Gwilym Williams i ddau fis o garchar a chaledwaith, am ymosod ar y Cwnstabl Thomas, ac i ddau fis arall am ymosod ar Sergeant Tamplin. Dedfrydwyd Wm. Lay Richard Watkins, Wm. Leyshon, Thomas Leyshon, a Wm. Evans, bob un i fis o galed- waith am geisio gwaredu, a Gomer John i 5p. am yr un trosedd. Condemniai yr ynad yn yr iaith gryfaf ymddygiadau y troseddwyr.
OYHUDDIAD 0 DDYN-LADDIAD YN…
OYHUDDIAD 0 DDYN-LADDIAD YN ERBYN HEDDGEIDWAD. J Cya4iw7dtrengholiadyn Willington, Salop, ddydd Sadwrn, ar gorff un Robert Jones, 36 oed. Ymddengys fod y trancedig yn St. George ar y laf cyfisol, pryd y darfu i'r heddgeidwad Hayward ei gymeryd i'r ddalfa ar gyhuddiad a brofwyd wedi hyny yn ddisail. Gwrthododd y trancedig fyned gyda'rswyddog i'r orsaf, a churwyd ef gan y swyddog yn erbyn y mur, a chiciodd ef dair gwaith yn ei goluddion. Llefodd y trancedig wrth y swyddog-" Yr ydych wedi fy lladd," a bu farw yn mhen yehydig ddyddiau mewn poenau enbydus. Profwyd trwy archwiliad a wnawd ar y corff ddarfod i farwolaeth gymer- yd lie mewn canlyniad i gieidd-dra y swyddog. Dygwyd rheithfarn o ddynladdiad yn erbyn Hayward ar y tir ei fod wedi arfer creulon- deb dialw-am-dano.
LLWYDDIANT YR YSGRIF DIROL.
LLWYDDIANT YR YSGRIF DIROL. Pleser digymysg i bob heddgarwr ydyw deall fod y Mesur Tirol Gwyddelig yn parhau i enill ffafr a chymeradwyaeth. Dengys gweithrediadau y dyddiau diweddaf fod pwyll a tloethineb heb golli eu gafael ar feddyliau y dosbarth amaethyddol yn yr Ynys Werdd. Y mae tftn drain y Cynghrair yr hwn fu yn clecian yn nglustiau y deyrnas am beth amser, yn cyflym ddarfod, ac nid ydyw yn debyg y gellir cael tanwydd arno mwy. Dengys yr hysbysion diweddaraf fod ffermwyr o bob parth o'r Ynys yn dylifo i'r Llys Tirol i daenu eu cwynion gerbron y Dirprwywyr, ac i ad-drefnu eu rhenti. Y mae rhestr yr apeliadau erbyn hyn yn ddegau o filoedd, a gorfyddwyd y llys yn Nublin i eistedd drwy gydol ddydd Sadwrn diweddaf a'r rhan fwyaf o'r nos ddilynol. Gwneir gwaith dirfawr gan yr Is-ddirprwywyr, y rhai sydd amaethwyr profiadol eu hunain, ac yn ymweled yn bersonol a'r tir y byddant yn ei rentu o newydd, yn gadael argraff daionus ar feddyliau yr amaethwyr yn gyffredinol.
EISTEDDFOD DEHEUDIR OYMRU.
EISTEDDFOD DEHEUDIR OYMRU. Prydnawn dydd Iau, 17eg cyf., cynaliwyd cyfarfod yn Neuadd St. David's, Pontypridd dan lywyddiaeth y Parch. J. Pugh, i'r dyben o gymeryd i ystyriaeth y dymunoJdeb o gynal Eisteddfod Deheudir Cymru yn y dref hono y flwyddyn nesaf. Yn ei sylwadau agoriadol, awgrymai lilr. Rosser y byddai yn dda i gynal yr Eisteddfod yn Mhontypridd. Awgrymai y dylid gofyn i bwyllgor y farch- nad i roddi benthyg y neuadd i'r Eisteddfod am ddau ddiwrnod, ac y dylid cynyg iddynt lOOp. am hyny, ac mewn trefn i roddi lie i 4,000 o bobl, y dylid tynu'r mur rhwng y ddwy farchnad i lawr. Gellid gwneyd treul- iau yr Eisteddfod cyn lleied ag oedd bosibl- 600p. neu 700p., yn cynwys pob traul Y gweddill oddiwrth yr Eisteddfod i gael ei ddefnyddio at yr ysgoloriaeth gerddorol gynygir sefydlu yn y Dywysogaeth. Dewi Wyno Essylt a gynygiai fod cyfarfodydd yr Eisteddfod i gael eu cynal yn Mhonty- pridd y fl wyddyn nesaf, yr hyn, wedi ei eilio gan Teganwy, Dowlais, a gariwyd. Mr. Joseph Davies, Graig, a gynygiai fod Mr. D. Rosser i gael ei ethol yn gadeirydd parhaus yr Eisteddfod, ac eiliwvd hvnv can Mr