Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Llawer mewn Ychydig.
Llawer mewn Ychydig. CAIFF y Czar newydd ei goroni yn mis Ebrill nesaf. Y MAE y milwyr Prydeinig yn brysur yn ymadael a'r Transvaal. GWRTHODA deiliaid Arglwydd Clonmel dalu eu rhenti, am na roddai yr un gostyngiad iddynt. DYLED TwRd.—Mae dyled Twrci i'r rhai sydd yn dal ei bonds mewn gwledydd Tramor, yn 47,750, 000p ac nid yw y swm ar law i'w talu ond 540,000p. "I TALODD Ardalydd Lorne a'i DywysogeS Lowise ymweliad & Chastell Hawarden, dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, a buont yn mwynhau rhagbryd (luncheon) gyda Mr. a Mrs. Gladstone. YR wythnos ddiweddaf, yn Middlesex, fe foddodd mam ei dwy ferch fechan, un yn dair a'r llall yn saith mlwydd oed, pan yn ei meddwdod. Boddodd y fam ei hun gyda'r plentyn ieuengaf. DYDDIAU Sul a Llun diweddaf oedd adeg cynaliad cyfarfodydd blynyddol eglwys y Wesleyaid yn Calfaria, Treorci. Pregeth- wyd gan y Parch. 0. Owen, Pontypridd J. E. Roberts, Penygraig; a T. Morgan, Treorci. LLWYDDODD un o athronwyr Ffrainc i dynu digon o wres o'r haul i ferwi dwfr, a chodi digon o ager i redeg peiriant nerthol. Addawa dynu digon o dan o'r haul trwy gyfrwng gwydrau, at wasananaeth pob teulu yn Paris YN nghapel Bethania, Treorci, ar y 17eg cyfisol, cynaliwyd budd-gyngherdd i Mr. John Davies, teiliwr. Cymerwyd rhan gan Mrs. Rees (Llinos Rhondda), Misses M. A. Davies, a M. J. Jenkins; Mri. D. Davies, T. Felix, a E. Thomas (Llew Rhondda). Y GOLEUNI TRYDANOL versus Nwy.-Yn bresenol, y mae Mr. Edison yn cyflenwi 1,100 o dai yn New York a'r goleuni trydanol. Cyfrifir y swm trwy meters, a thelir am dano yr un pris ag yr arferid dalu am nwy. Y mae Mr. Edison yn gwneyd arian da trwy hyny. YN Three Crosses, nos Iau, wythnos i'r diweddaf, traddododd y Parch. J. H. Row- land, Pontlliw, ddarlith ragorol ar "Ddarbod- aeth." I ddynion ieuainc, y mae y ddarlith hon fel aur puredig ac ond ei chofio, a dilyn ei chynghorion, y mae yn sicr o arwain llawer i feddiant o'r cyfryw. DYGWYD Ann Daniel, yr hon a gyhuddid o gynyg eymeryd ymaith fywyd ei phlentyn yn Nglyn Nedd, o flaen ynadon Castellnedd, dydd Sadwrn diweddaf. Nid yw y garchares wedi rhoddi un esgus dros y weithred ond dywed, pan yn ei phwyll, na wyr ddim am y mater y cyhuddir hi o'i blegyd. DEBBYNIWYD pedwar llythyr oddiwrth Mrs. Garfield yn y Genadwraeth Americanaidd yn Lloegr, yn dychwelyd diolch am y cydym- deimlad a ddangoswyd iddi a'i theulu. Yr oedd un yn gyfeiriedig i'r Frenines, a'r lleill i Mr. Gladstone, Mr. Tom Hughes, a'r gweinidog Americanaidd, Mr. J. Russell Lowell. YSGRIFENA Eos Hafod atom Yn yr awgrym caredig a wnawd am danom yn eich rhifyn diweddaf, gwnawd camsyniad, sef dweyd ein bod i feirniadu yn Bonvilstone, ger Caerdydd, dydd Nadolig. Cefais gymhell- iad i wneyd hyny; ond gan fy mod yn Mlaenau Gwent yr un dydd, gorfu arnaf wrthod cydsynio a r cais. TALODD Mr. H. J. Williams (Plenydd), Fourcrosses, ymweliad a Dyffryn Rhondda ddechreu yr wythnos ddiweddaf, ac anerch- odd gynulleidfaoedd lluosog ar "Ddirwest" yn Heolfach, nos Sadwrn, y 12fed cyfisol; Jerusalem, Ton Ystrad, prydnawn dydd Sul; Nazareth, Pentre, yn yr hwyr; Tonyrefail, nos Lun, yn nghapel y Bedyddwyr Blaen- llechau, nos Fawrth, yn nghapel y Wesley- aid a Llwynpia, nos Fercher, yn nghapel y Methdistiaid. Gwnaeth Plenydd ei ran yn deilwng ohono ei hun. Wedi yr holl areith- iau hyn, yr ydys yn hyderus gredu y bydd ffrwyth da yn deilliaw, ac na fydd i ymdrech- ion cefnogwyr sobrwydd fyned yn ofer, ond y bydd llawer yn ymuno &'r fyddin ddirwestol., AR ddiwedd rhes o berfformiadau yn y Royalty Theatre, Glasgow, hysbysodd Mr. Henry Irving mai 4,031p. oedd cyfanswm y derbyniadau yn ystod y deuddeg nos ag y chwareuodd efe a'i gwmni yno. Ni chymer- wyd, meddai, cyffelyb swm yn yr an amser, gan un chwareud^ yn y deyrnas-heb eithrio ei chwareudy ei hun-Drury Lane, Llundain. CYFLA WNWYD llofruddiaeth ysgeler iawn yn Nottingham, trwy i ddyn ieuanc 19 mlwydd oed, o'r enw Henry Smith Westby, saethu ei dad (Henry Westby) i farwolaeth, a thori gwddf cyd-ysgrifenydd ag ef mewn swyddfa cyfreithiwr, o'r enw William Onions, 15 oed. Pan y daliwyd y llofrudd, ae y dywedwyd wrtho fod y llanc wedi marw, a'i dad hefyd, atebodd, Y mae'n amser." ETHOUAD STAFFORD.—Cymerodd yr ethol- iad hwn le dydd Sadwrn diweddaf, a chy- hoeddwyd canlyniad y pleidleisio yn yr hwyr, pryd y safai yr ymgeiswyr fel y canlyn —Mr. Thomas Salt (C.), 1,482 Mr. George Howell (R.), 1,185 mwyafrif dros y blaenaf, 297. Y mae dychweliad Mr. Salt yn enill o un sedd i'r blaid Geid..dol, gan fod yr aelod blaenorol, y diweddar Mr. A. Macdonald, yn Ryddfrydwr. AETH Mr. Gladstone i weled pysgod- farchnadle Billingsgate, dydd Sadwrn, wyth- nos i'r diweddaf. Yr oedd nifer o longau yno yn arllwys eu llwythi o sprats ar y pryd, ac yn eu gwerthu i'r masnachwyr. Holodd yn fanwl am yr hyn a dalwyd 'fel rent, sefyllfa y lie, ac amryw bethau ereill mewn oysylltiad a'r fasnach yn gyffredinol. Ym- gasglodd torf fawr o'i amgylch, a chafodd ei gyfarch gyda bloeddiadau yn ami, ond ni rwystrwyd ei symudiadau. Nos Fawrth, Tachwedd 15fed, yn vestri capel Noddfa, Treorci, etholwyd y personau canlynol yn swyddogion o Gymdeithas Rydd- frydol y lie am y flwyddyn ddyfodoI :-Cad. eirydd, W. Jenkins, Ysw., Ystradfechan; ysgrifenydd, Mr. T. Morgan, ysgolfeistr, Cwmparc. I gyfansoddi y pwyllgor gweith iol, etholwyd y cadeirydd a'r ysgrifenydd, yn nghyd a'r Parch. W. Morris, a Mri. D. Mor- gan, adeiladydd, aEynon, manager. Hefyd, etholwyd personau i gyfansoddi y pwyllgor cyffredinol. DYNLADDIAD HONEDIG GAN RIENI.-Dydd Gwener, yn Bradley, ger Wolverhampton, cynaliwyd trengholiad ar gorff plentyn naw mis oed, yr hwn a anwyd cyn i'w rieni briodi, a'i dad yw Harrv Ashton, haiarn-weithiwr, Bradley. Tua chwech wythnos yn ol, priod- odd ei rieni. Profai y dystiolaeth na ddarfu i'r plentyn gael digon o feithriniaeth, a'i fod yn fynych wedi ei gamdrin gan y tad, ac yn ddiweddar, trwy esgeulusdod y tad, iddo gael ei ysgaldanu. Dywedodd y meddyg, yr hwn a wnaeth yr archwiliad post mortem, i angeu gael ei achosi trwy newyniad ac ysgal- danau. Dychwelodd y rheithwyr y ddedfryd o Ddynladdiad" yn erbyn y tad a'r fam. Nos Fawrth, y 15fed, cyfarfu aelodau pwyllgor Eisteddfod Alban Elfed, 1881, yn y Morning Star, er cydeistedd i swper ar ol y llafur yn nglyn a'r Eisteddfod. Yr oedd yn bresenol Mri. T. Howells (Hywel Cynon), Walter Hannah (Aberaman), John Evans (yr ysgrifenydd), John Lake, Phillip Phillips, Roger Davies, John Thomas, David Phillips, Daniel Jones, Cox, a Fairbairn, yn nghyd a'r Proffeswr A. N. James a beirniad y cyfan- soddiadau. Wrth adolygu gweithrediadau yr Eisteddfod, ar ol y swper, dywedwyd fod y terfysg a ddygwyddodd ar ddiwedd y cystadlu wedi peri colled o tua 20p. yn y gyngherdd. Yn 1874, bu pwyllgor Alban Elfed yn golled- wyr o 65p. ond talasant bawb ei ofyn, a gwnaethant yr un peth eleni. Canwyd amryw ganeuon yn rhagorol gan Mri Lake, Davies, ac ereill, ac ymadawyd wedi cael cyfarfod dyddorol ac adloniadol iawn. Sr. PAUL.Perfformir yr oratorio hwn gan Gor Undebol Aberdar, Rhagfyr 26ain a'r 27ain, 1881. Cynelir y cyfarfodydd, ar y 27ain, yn y New Market Hall, lie digon eang i gynwys rhwng tair a phedair mil o bobl, gyda phob cyfleusdra er cysur pawb. Eleni fydd yr wythfed wyl flynyddol, ac y mae y cor uchod yn prysur barotoi er rhoddi gwledd i hoffwyr cerddoriaeth glasurol. Nid yw y pwyllgor wedi arbed traul na thrafferth i wneyd perfformiad o draethgan orchestol Mendelssohn, St. Paul," yn un teilwng. Y maent wedi sicrhau prif ddatganwyr y genedl i gymeryd rhan, sef Miss Mary Davies, Llundain; Madam S. A. Williams-Penn, Pontypridd; Lucas Williams, ac Eos Mor- lais. Bydd Band Cyfarthfa yma hefyd, pa un a gynorthwyir gan rai o brif chwareuwyr Gloucester a Bryste. Ymddengys adolygiad ar y draethgan gan Mr. Rhys Evans, arwein- ydd y cor, yn y GWLADGARWR yn ystod yr wythnosau dyfodol. TRYCHINEB ERCHYLL AR Y MOR.-Pell- ebra gohebydd y Central News, fod yr ager- long Solway (Cadben Fry), perthynol i'r Mri. Sloane, o Glasgow, wedi gadael Belfast prydnawn dydd Mawrth am Bryste ac Aber- tawe, gyda chargo cyffredinol. Nifer y criw oedd 19, a chariai 14 o deithwyr. Am chwech o'r gloch, foreu dydd Mercher, dryll- iodd baril o naptha, pan oedd ger y Skerries, ac mewn moment yr oedd y llong yn fflam- iau. Yr oedd chwech o'r teithwyr, pa rai oeddynt ar y steerage-deck, ar unwaith ar dan, a llosgwyd hwy i farwolaeth. Er fod ystorm gref yn chwythu ar y pryd, darfu i rai o'r lleill lwyddo i fyned ymaith mewn cwch. Ni wyddis pa un a laniodd hwnw a'r pump oedd ynddo. Erbyn y prydnawn, daeth pilot-boat i gynorthwyo y Solway, a llusgwyd hi i harbwr Kingstown. Y mae pedwar o bersonau wedi lloagi yn ddrwg, ac ni ddysgwylir iddynt fyw. Yr oedd pedwar o filwyr yn mysg y meirw.
[No title]
Y FLWYDDYN ddiweddaf, yr oedd y dreth ar de yn 6e. y pwys. Trethwyd 154,824,020 o bwyai, yr hyn a ddaeth a'r swm o 3,870,655p. i fewn i drysorfa y wlad.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. AMSER GWELL. Mae rhagarwyddion y byd masnachol yn dynodi amser gwell; a phan ddaw amser gwell i fasnachwr, daw yn amser gwell ar y gweithiwr yr un modd. Masnach fywiog a llwyddianus ydyw prif symudydd gwaith a chynog a phan ychwanegir yr olaf, mae hyny yn brawf amlwg fod bywyd newydd yn y wlad. Rhagolygon masnach y Gorllewin, yn ei gwahanol adranau, yn llewyrchus a chalonogol, a'r wlad yn llawn bywyd o'r naill gwr i'r llall. Archebion cyson a rheolaidd yn melinau dur a haiarn, a'r lleoedd fuont gynt yn farwaidd yn ymloewi a bywiocau mewn adnewyddol fywyd. Rheilffyrdd newydd- ion yn cael eu hadeiladu i wahanol gyfeiriadau yn Orllewinol, a chyfoeth mwnawl yn cael ei ddar- ganfod yn barhaus gan anturiaethwyr sydd ar ymdaith parhaus yn gwneyd ymchwihadau trwy ddyffrynoedd a thros fynyddoedd a fuont gynt yn gartrefle a maes helwriaeth y dyn coch. Yn mlaen" ydyw arwyddair y wlad, a'r bobl sydd yn ei phreswylio, fel nad yw arafwch a chysgadrwydd yn cael eu hadnabod o fewn y terfynau. Seilbrawf dymunol i bobl Prydain fod masnach America yn fywiog a llwyddianus, am fod y berthynas rhwng y ddwy wlad mor agos, fel y gellir dweyd fod cysur a llwyddiant y naill fel y llall yn tarddu o'r un ffynonell, ond rhaid cydnabod gyda dyledus barch fod Jonathan yn curo John Bull mewn symudiadau anturiaeth- us, a dynodir gwlad y blaenaf a'r bobl yr un modd gan ysbryd adfywiol tebyg i'r llanc hwnw gynt o Forganwg, pan yn gadael cartref am aur- gloddiau California, Coes bren neu oriawr aur-cydaid o gregyn heddwch neu ddim." Mae bywiogrwydd a marweidd-dra masnachol o dan lywodraeth amgylchiadau, tel y llywodraetn. ir trai a llanw y mor gan symudiadau y lloer. Tybiodd rhai, flynyddoedd yn ol, yn Nghymru, fod agoriadau masnach yn grogedig wrth wregys gwr o Sais, ond cawsant weled a theimlo yn wahanol pan faglwyd ein masnach- aeth mewn glo a haiarn. Mae effeithiau yr an- nymunoldeb hwnw yn aros hyd heddyw, ac nid yw yn debyg y gwneir y golled i fyny am flynyddoedd i ddyfod. Gwall pwysig ydyw camarwain deng mil neu ychwaneg o bobl, am fod hyny yn niweidiol i'r bobl a gam-arweinir, ond ei fod yn dylanwadu yn ddrwg ar y werin yn gyffredinol. Condemnia rhai grfundrefn y ..cyfnewid mewn masnach, er fod y cyfryw yn rheolaidd a chyfiawn, ac yn hwylusdod mawr mewn ardaloedd newyddion lie nad yw march- nadoedd yn gyfleus. Mae yn bosibl cam- ddefnyddio llawer trefn a rheol dda, a gwneyd y cyfryw yn niweidiol ac nid yn llesol. Nid oes un adran o fasnach y byd all fod yn an- nibynol, am fod y naill adran yn dibynu ar y Hall, a phan fydd pethau yn cydgordio, rhed yn llyfn, fel nad oes dim un rhagolwg wahanol na chawn lwyddiant ar fasnach ac amser gwell. AGERLONGAU. Cynyddu mewn rhifedi mae' agerlongau L'erpwl. Er's ychydig yn ol, mae cwmpeini agerawl y Seren Wen wedi cael dwy agerlong yn ychwaneg, a dwy eto i ddilyn yn lied fuan. Bydd y ddwy nesaf i gael eu hadeiladu gyda dur. Fe wel y darllenydd, wrth hyn, y bydd galwad am lawer o ddur o rywle, pwy bynag a fydd mor ffodus a chael yr archeb. Gwneir gwelliantau, braidd, yn mhob llong newydd a adeiladir, a'r gwelliant olaf ydyw fod lie teithwyr y trydydd dosbarlh yn rhanedig i dair adran, yn hollol ar wahan oddiwrth eu gilydd, i'r dyben, meddir, o ateb gofynion Bwrdd Masnach. Mae cystadleuaeth yn creu byvyd newydd yn y gyfundrefn fordwyol, fel y ceir pob cwmpeini a berchenogant agerlongau yn gwneyd pobpeth allont i fod yn mlaen ar eu cydredegwyr, i'r dyben o ychwanegu cwsmeriaid. Taclusrwydd, gorwychder, a chyflymder ydyw arwyddair y dydd; ac os llwyddir i ychwanegu y gwelliantau yn y deng mlynedd nesaf fel yn y deng mlynedd sydd wedi myned heibio, fe fydd Prydain a'r Amerig yn agosach i'w gilydd nag oedd Llundain i Gaerfyrddin ddeugain mlynedd yn ol. Mae yr arafwch cyntefig wedi ei gwbl golli yn y gorphenol, yr agerbeirianau yn chwyrnellu o'r wlad i'r dref, ac o'r dref i'r ddinas, a meibion a merched dynion yn ymdeithio fel pe ar adenydd y gwynt. Os wyt am ddilyn y byd, ddarllen- ydd, agor dy lygaid, oblegyd nid amser i hepian ydyw yr oes hon. AMRYWION. Ychydig wythnosau yn ol, twyllwyd amryw fasnachdai yn Leeds, Huddersfield, a threfydd ereill, i rai degau o filoedd gan ddyn ieuanc yn y cymeriad o fasnachdeithiwr. Dywedai ei fod yn dal cysylltiad a masnachdy mawr yn Moscow, ond nid gwirionedd hyny. Bid a fyno, cafodd ei ddal yn Berlin, a threfnir cynlluniau er ei ddwyn o dan law y gyfraith, i ddyoddef y gosb a deilynga. Yn y desgrifiad ohono, dywedir ei fod yn Rwsiad o genedl, yn fachgen- bywiog, ac yn ysgolor o'r dosbarth blaenaf. Mae amryw hysbysiadau twyllodrus yn britho y newydd- iaduron, yn sicrhau gwaith a chyflogau i ddyn- ion yn y wlad hon a gwledydd ereill, a dylai y cyhoedd fod ar eu gwyliadwraeth rhag y twyll- wyr, am nad ydynt yn ddim amgen na'r hyn a eilw y Sais yn Long firms," yn derbyn arian drwy anwiredd, a phrynu pob math o nwyddau, ond nid ydynt un amser yn talu am danynt. B6dau symudol ydynt, fel na cheir hwynt yn aros am wythnos yn yr un man. Mae y Long firms a'r Money lenders yn greaduriaid i'w gochelyd, os na fydd dyn am losgi ei fysedd, a thalu arian am ddim. Nid oes nemawr i ddinas na thref na cheir ynddi amryw o'r cymeriadau uchod, ond hawdd y gellir eu gochel trwy fod yn ofalus ac os bydd ambell i hen gadnaw o Gymro yn cael ei faglu, arno ef ei hun y bydd y bai wedi iddo gael ei rybuddio. CYNRYCHIOLAETH STAFFORD. Mae yn debygol y bydd yn ymdrechfa galed am gynrychiolaeth Stafford, eisteddle y diwedd- ar Mr. Alexander Macdonald. Mr. Thomas Salt fel Ceidwadwr, a Mr. George Howell yn y cymeriad o gynrychiolydd y gweithwyr. Os ydyw yr olaf yn gywir yn ei osodiadau fel cyn- rychiolydd llafur, dylai gael ei ethol ar bob cyfrif, am fod angen cynrychiolwyr a safant dros hawliau y bobl. Mae ami un wedi myned i Sant Stephan o dan y ffug-esgas o fod yn gyfeillion y dosbarth gweithiol, ond nid ydynt, mewn gwirionedd, yn ddim amgen na chyfeill. ion mwyaf mynwesol perchenogion cyfalaf. Mae yn anmhosibl i ddyn allu gwasanaethu dau arglwydd; felly, mae yn anmhosibl i neb fod yn gyfaill i'r gorthrymedig tra fydd yn mwyn- hau y seigiau danteithiol sydd yn arlwyedig ar fwrdd yr uchelwr yn y palasdy gorwych wrth droed y bryn. Nid oes neb yn fwy dall na'r sawl na fyn weled.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Newyddion Diweddaraf.
Newyddion Diweddaraf. BWRIADA y Ddirprwyaeth Freniniol ar ddamweiniau mewn mwngloddiau dalu ymweliad a'r Deheudir ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.
TAN MAWR YN LLUNDAIN.
TAN MAWR YN LLUNDAIN. Dydd Llun, yn Islington, Llundain, llosgwyd i'r llawr weithfeydd papyr lliw Mri. Jeffreys. Niweidiwyd nifer o siopau a thai cyfagos. Bernir fod y golled a wnawd rhwng 30,000p. a 40,000p.
CYTHRWFL COLEG PONTYPWL.
CYTHRWFL COLEG PONTYPWL. Y mae efrydwyr ieuainc ac ufudd y coleg uchod wedi cyhoeddi rhestr o'r pranciau a chwareuwyd arnynt gan yr efrydwyr hynaf. Y mae enwau wyth o'r efrydwyr da wrth waelod y mynegiad.
HELYNTION TUNIS.
HELYNTION TUNIS. Yn Paris, dydd LluD, eyhoeddwyd newyddion oddiwrth General Sussier yn hysbysu i'r nerthoedd Ffrengig gael eu gorchfygu ary 13eg, a'u gyru yn ol i'r heol Gabes. Bu rhaid iddynt adael 10,000 o ychain ar eu hoi. Y mae ym- laddfeydd ffyrnig yn myned yn mlaen rhwng yr Arabiaid a'r Ffrancod.
DIENYDDIAD YN DERBY.
DIENYDDIAD YN DERBY. Dienyddiwyd Alfred Gough, boreu dydd Llun, yn Derby, am lofruddio geneth fechan yn Chesterfield. Denodd y ferch i le unig, ac ar ol ei threisio, tag- odd hi. Cyfaddefodd ei euogrwydd nos Sul, gan ddweyd pe y meddianai ar gant o fywydau y buasai yn barod i'w colli i gyd os byddai hyny yn effeithiol i ddwyn bywyd yr un fechan yn ol. Cerddodd yn gadarn i'r dienyddle, a gwasanaethwyd gan Marwood.
DIRWEST YN ABERTAWE.
DIRWEST YN ABERTAWE. Mae Abertawe yn fyw gyda'r mudiad dirwestol, ac y mae Mr. R. T. Booth yn darlithio bob nos ar y pwnc, ac yn par- hau i addurno y rhai a gofleidiant ei egwyddorion a'r rhiban glas. Nos Wener, ymunodd 1,500 o bersonau a'r fyddin ddiiwestol, ac ar nos Sul, ardyst- iodd 2,402 o bersonau yn ychwanegol. Yn ystod pedair noson, y mae dros 6,000 o bobl wedi cymeryd yr ardystiad nad oeddynt yn ddirwestwyr yn flaenorol.
Y DIWEDDAR MR. MACDONALD.
Y DIWEDDAR MR. MACDONALD. Y mae awydd cyffredinol yn bodoli yn mysg glowyr Lloegr, ac yn mynwesau llaweroedd o'r Cymry hefyd, am godi rhyw adeilad er coffadwriaeth am y dyn gonest a didderbynwyneb uchod, yr hwn a fu y fath bleidiwr selog dros iawnderau y gweithwyr yn Nh$y Cyffredin. Nid ydys wedi penderfynu ar y ffurf y cymer y eoffadwriaeth Ie; ond os teimla rhyw frawd y carai wneyd yr hyn sydd yn ei allu dros y mudiad, ymofyned am lyfr casglu oddiwrth Mr Wm. Crawford, Ys- grifenydd Undeb Oenedlaethol y Mwn- wyr, Durham.
ENCILIAD YSGOLFEISTR.
ENCILIAD YSGOLFEISTR. Yn nghyfarfod misol Bwrdd Ysgol Ystradyfodwg, dydd Llun, hysbysodd y clerc (Mr. D. Rosser) ei fod wedi derbyn llythyr o Queenstown, oddiwrth Mr. T. Jones, diweddar ysgolfeistr yn Nghwm Clydach, yn mynegu ei fod ar y ffordd i America, ac yn anog y Bwrdd i ethol meistr newydd. Pan awd i'r helyntion arianol, ac wedi cyfrif pobpeth at eu gil- ydd, cafwyd fod y swm o 4s. 2c. yn ddy- ledus i Jones, ac nad oedd (fel yr ofnodd rhai o'r aelodau) rhyw ddeg punt o arian y Bwrdd wedi "myned i 'Merica" hefyd. Pasiwyd yn unfrydol fod i Jones gael ei ddiswyddo. Onid cau drws yr ystabl ar ol i'r ceffyl ddianc ydyw peth fel hyn ?
, TY-DORIAD BEIDDGAR YN LLAN,GENECH.
TY-DORIAD BEIDDGAR YN LLAN- GENECH. Prydnawn y Sul diweddaf, ymwelodd ty-dorwr a ffermdy Caergors, ger Llan- genech, pan oedd v teulu yn y capel, gan gymeryd ymaith benadur. Pan ddych- welodd Mr. J. Jenkins, gwelai fod y drws yn agored a'r ty wedi ei chwilio. Ym- ddengys i'r Ileidr, ar ol hyny, wneyd ei ffordd i ffermdy arall o'r enw Brynsheffre. Yn anffodus, yr oedd gwr y ty, y ferch, a'r forwyn yn yr eglwys. Taflodd y filain y drws yn agored, gan ruthro at Mrs. Davies, yrhon oedd yn dyrwyn pwysau y cloc ar y pryd. Ymaflodd ynddi gerfydd ei gwallt, a thynodd allan gylleJl cigydd o'i logell, gyda'r bwriad, wrth bob tebyg, i'w thrywanu; ond, yn ffodus, ynyr ym- drechfa, syrthiodd case y gyllell i'r llawr, ac fel y plygai ar ol hwnw, diangodd Mrs. Davies allan gan waeddi" murder," pan redodd yr adyn ymaith. Hyderir y daw yn fuan i'r ddalfa. -Q
ANGLADD SYR HUGH OWEN.
ANGLADD SYR HUGH OWEN. Pe ba'i y Cymro gwladgarol uchod vedi cael byw hyd Ionawr nesaf, buasai fn 78 mlwydd oed. Credir y cyrhaedda u weddillion i Lundain dydd Iau nesaf '24ain cyfisol); ac fe daearir hwynt yn Nghladdfa Abney Park prydnawn dydd Sadwrn canlynol.
Y TYWYSOG LEOPOLD AR FIN PRIODI.
Y TYWYSOG LEOPOLD AR FIN PRIODI. Y mae y Frenines wedi derbyn hysbys- iad am fwriad y Tywysog Leopold, Due Albany, i ymuno mewn, glan briodas a'r Dywysoges Helena o Waldeck. Cymer- odd yr amgylchiad hwn le oddeutu tri iiwrnod yn ol. Y mae y Dywysoges yn chwaer ieuengaf i frenines presenol y Netherlands, ac yn nai i frenines Sweden.
Helynt yr Iwerddon.
Helynt yr Iwerddon. RHAGOR 0 YSGELERDERAU. Saethwyd Luke Draelon, beili, yn ngwasan- a.eth Mr. Ferrell Nolan, o Legboy, ger Bally- hannis, yn farw, nos Iau, pan ar ei daith yn ymweled a chymydgo. Yr oedd ei deulu wedi myned i orphwys, gan gredu yr arosai gyda'i gyfeillion dros y nos, ond yn y boreu, deffrowyd hwy i glywed y newydd fod ei gorff wedi ei ddarganfod. Nid oes neb eto yn y ddalfa. Ar nos Sul, ymgasglodd nifer o ddynion arfog wrth dy ffermwr o'r enw Johnstown, ger Ballwa- town, a gollyngwyd nifer o ergydion i'r parlwr, gan niweidio Johnston. Ei drosedd oedd talu ei rent yn erbyn protestiadau y tenantiaid ereill. Y fath bechadur I Mewn cyfarfod o ynadon y sir, yn Longford, dan lywyddiaeth Iarll Longford, penderfynwyd deisyfu ar yr awdurdodau yn Dublin i ganiatan ychwaneg o heddgeidwaid. Yn Glenwood, Tipperary, ymosododd niferlo ddynion ar 60 o ychain perthynol i ffermwr enw Mason, yr hwn a dalodd ei rent, a niweid. iwyd amryw ohonynt mor fawr fel y buont feirw, ac y mae ereill mewn cyflwr peryglus. Ar ystad Iarll Orkney, cafodd rent warner o'r enw McKey ei rybuddio i ymadael a'i swydd, a thorwyd bedd gyferbyn a'i dy, fel arwydd o'r canlyniadau pe troai yn ystyfnig.
[No title]
Y CENEDLOEDD sydd yn arfer bwyta pysgod unwaith y dydd feddant y meddyliau cryfaf. MEWN cyfarfod cyhoeddus a gynaliwyd yn St. Petersburg, yn ddiweddar, dywedwyd mai cyflog y bobl gyda'u gilydd oedd pedwar ceiniog y dydd, a'u bwyd eu hunain. YN ystod yr wythnos ddiweddaf, yr oedd 62 o achosion newyddion o'r dwymyn goch yn a.d. ran Merthyr, a chymerir pob rhagofal am y dwymyn yn Mountain Ash hefyd. UN Mr. Sendall sydd wedi ei benodi fel Llywodraethwr Natal, yr hwn benodiad sydd wedi creu cryn lawer o anfoddlonrwydd ya mysg y Nataliaid. CYMERODD ffrwydriad le yn un o byllau Ar- glwydd Granville yn Hanley, dydd Llun. Caf. odd dau ddyn o'r enwau Baker a Jones en fladd, a phedwar ereill eu lIósgi yn drwm. RHODDWYD prawf arall o werth tir yn Llun- dain, ychydig ddyddiau yn ol, pan dderbyniodd y Grocers' Company y swm o 20,000p. oddiwrth lywodraethwyr y Bank of England am blotyn o dir cyfagos, am yr hwn, bedwar can' mlynedd yn ol, y talwyd 38p. DYSGWYLIA Mr. H. M. Stanley y bydd ei daith bresenol yn Affrica yn fwy llwyddianus na'r un flaenorol, ac y bydd yn alluog i gwblhau map o'r canolbarth. Cafodd adferiad i'w iechyd, a phrysura yn mlaen i'r rhanau hyny na sang. wyd eisoes gan unrhyw Ewropead.
Ymfudiaeth.
Ymfudiaeth. Y SWYDDFA YMFUDOL GYMREIG. JL Goruchwyliwr Cyffredinol a Chynrychiol- ydd Trwyddedig y gwahanol gwmniau agerawl a fordwyant o Lynlleifiad i wahanol wledydd y byd. Manylion a chyfarwyddyd i'w cael drwy anfon llythyr fel y canlynN. M. JONES (Cymro Gwyllt), Passenger Broker, 28, Union-street, Liverpool. Amser hwyliad y gwahanol agerlongau, a phris- oedd y cludiad yn y trydydd dosbarth :— Llinell Inman—yu wythnosol. pris, 6p. 6s. White Star „ 6p. 6S. Y National Line „ 6p 6s. LiineH y Cunard i Boston, dydd Mercher; a'r Sadwrn l Efr.og Newydd pris y cludiad, 6p. 68. Llinell Allan, yn morio i wahanol borthladdoedd, megys Halifax, Boston, Baltimore, Portland, a Montreal; pris y cludiad, 6p. 6s. He cajiol, 8p«. 8s. Llinell y Guion yn morio bob dydd Sadwrn am Efrog Newydd pris, 6p. 6s.; lie canol, 8p. 8p. Llinell y Dominion i wahanol borthladdoedd» fel yr Allan Line, gydag ychwanegu New Orleans, gan droi i mewn i Galveston o Texas pris, 6p. 6s. Llinell agerawl Lamport dc'Holt yn wythnosol i Buenos Ayres, a phorthladdoedd ereill. Y pris i Buenos Ayres—lOp. i berson unigol; ac uwchJaW hyny, fel y canlyn :— Cwmni uwchlaw 6 a than 10 9p. lOfl. Cwmni uwchlaw 10 a than 15 9p. Cwmni uwchlaw 15 a than 20 8p. fljs. Cwmni dros 20 a than 40 8p. Os. Cludiad plant yn amrywio yn ol yr oedran. Dyraa y porthladd lie y glania teithwyr fyddant yn myned i Patagonia; ond cofied y darllenydd fod y llywodraeth Argentaidd yn anfon pobl i wahan- ol barthau o'r wlad yn rhad o Buenos Ayres, yr un fath ag y danfonir hwynt i'r Wladfa Gymreig. BarDed pob ymfudwr drosto ei hun am y wlad oreu i fyned iddi, ac na fydded i neb fod mor ddwl a chymeryd ei arwain yn fyrbwyll gerfydd ei drwyn. heb yn gyntaf bwyso y mater cyn cjiwalu cartref. Mae yn elw a chynaliaeth i mi gyfar- wyddo ymfudwyr; ond ni charwn fod yn enog o gamarwain a thwyllo neb er mwyn ychydig geiniogau. Gallaf ddweyd hyn, fod genyf y tjr Cymreig helaethaf yn L'erpwl, a digon o le .^ysnr- us i letya ymfudwyr yn ddidrafferth. Byd^S ya ddoeth i ymfudwyr ffurfio minteioedd bychaip, er myned gyda'u gilydd, lie bynag y byddont wedi meddwl am ymfndo, yr hyn fyddai yn gysut yehwanegol iddynt ar y daith drosforawl. C«&ed ymofynwyr y cyfeiriad :— CYMRO GWYLLT, American Eagle, 28, Union-street, Lirerpaol. O.Y.-Mae o bwys arbenig i deithwyr i aafon i'r porthladd am gyfarwyddiadau, yn hytrach nag ymddiried i orucbwylwyr yn y wlad, Ilawer o ba rai na wyddant y gwahaniaeth rhwng ynrfndloag a ffedel-faen y crydd, neu fwrdd tori y ^8#iwr» —C. G. t 2:. If"
EISTEDDFOD DEHEUDIR OYMRU.
I Lougher, Merthyr, yr hwn a sylwai fod 1 eymhwysder Mr. Rosser at y gwaith wedi ei sefydlu yn nglyn ag Eisteddfod Merthyr. i Cariwyd y cynyg, a dychwelodd Mr. Rosser ddiolchgarwch, a chynygiodd fod Mr. D. Leyshon, Graig Brewery, i fod yn is-gadeir- ydd, a chariwyd hyny. Cynygiodd Mr. TnnAa Hftnl-v-felin. fod Mr. Rhys T. Williams i gael ei ail ethol yn ysgrifenydd, a I chytunwyd ar hyny. Cariwyd cynygiad o eiddo Mr. Rosser fod Mr. Merchant, National Bank of Wales, yr hwn oedd ganddo yn ei i law yn bresenol 200p. o arian Eisteddfod Deheudir Cymru, i gael ei apwyntio yn drysorydd, yr hyn a gariwyd, yn nghyd a chynyg arall yn apwyntio pwyllgor o'r cwmni oedd, yn bresenol, gydag awdurdod i ychwanegu at eu nifer. Ar yr un tir, ethol- wyd yr is-bwyllgorau canlynol :—Is-bwyllgor Cerddorol, Mr. D. Rosser, Mr. H. Mills, Mr. D. Thomas, a Mr. T. Williams; Is- bwyllgor Llenyddol, Dewi Wyn, Teganwy, Cadifor, Mr. Joseph Davies, a Mr. Jones, Heol-y-felin. Hyderai Mr. Rosser y byddai i'r is-bwyllgorau gyfarfod yn fuan. Cynyg- iodd Mr. Lougher fod ysgrif-rwym warantol i gael ei pharotoi erbyn y cyfarfod nesaf, a bod pob aelod o'r pwyllgor i'w harwyddo y pryd hwnw. Eiliwyd gan Mr. Jones, Heol-y-felin, gyda'r ychwanegiad mai lleiafswm gwarantiad pob aelod oedd 2p. 2s. Cariwyd hyn. Cynygiodd Mr. Rosser fod yr ysgrifenydd i gael ei dalu 38s. yr wythnos, a'i dreuliau teithiol. Cynygiodd Mr. Williams wneyd y gwaith yn ol 75p. am dymor. Cariwyd y penderfyniad, a gohiriwyd y cyfarfod am bvthefnos.