Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
At Gantorion y Cysegr. DYMUNIR hysbysu fod yr ANTHEMAU sydd i gael eu harferyd yn Nghymanfa Ganu y Methodistiaid Calfinaidd, Aberdar, yn 1882, i'w cael gan-WALTER LLOYD, "Gwlad- garwr" Office, Aberdare. P.4 IDs. America America, P.4 10s AT YMFUDWYR YN GYFFREDINOL. AGERLONGAU Wythnosol (Llinell Newydd) i .NEW YOKK am £ 4 10s. Am gludiad a phob hysbysrwydd angenrheidiol, cyfeiriwch lythyr a stamp at W. C. THOMAS, Passage Broker, 35, Union Street, Liverpool. 2579 "Llwybrau Moliant." LL YFR Tonau i ateb Llyfr Hymnau y Bedyad- L wyr, gan y Parch. Lewis Jones, Treherbert. Pris gostyngedig (er clirio stock fawr allan). Hen Nodiant, llian, (gynt 2s. 6c.) 2s.; Solfa, llian, (gynt 2s. 6c.) 2s. Telir y cludiad. WALTER LLOYD, Swyddfa'r GWLADGARWR, Aberdar. Y MAE Miss LIZZIE WILLIAMS, R.A.M., (Llinos y Ik) YN agored i dderbyn Engagements i ganu mewn Eisteddfodau, Cyngherddau, Oratorios, &c. Cyfeiriad—Miss L. WILLIAMS, 20, Mansel-street, Swansea L-351 BWRDD Y GOLYGYDD. DALIER SYLW.—Oherwydd ein bod yn myned i'r wasg mor gynar, dymunwn yn barchus ar ein gohebwyr caredig i drefnu i ni gael eu cynyrchion foreu dydd Sad- wrn, am y byddai hyny yn rwyddineb mawr i ni, ac yn sicrhau cyhoeddusrwydd prydlawn i'r eiddynt. PACMAN COCH.-Llith o'r un natur ag eiddo y "Tramp" sydd genych. Y mae un ohonoch yn ddigon. AT R. C. JENKINS, Cambrian Stores, Hanelli.— Y mae J. Lewis, Cwmgarw, am i chwi ei hys- bysu eich rheswm dros beidio danfon program yr Eisteddfod iddo. Danfonodd arian atoch am dano er's tair wythnos. WEDI dyfod i law, llythyr oddiwrth T. Puntan, o America. M ABWYDDAIR FO RHYDDID FOB GRADD HEB NA LLADD NA LLID. I ABERDAR, GWENER, TACH. 25,1881.
U YR YSGRIF DIROL.
U YR YSGRIF DIROL. MAE cynhyrfwyr yr Iwerddon wedi deall erbyn hyn fod yn rhaid iddynt hwythau, fel pawb eraill o ddeiliaid ei Mawrhydi, dalu ufydd-dod i gyfreithiau y wlad, ac mai nid trwy ymrysonau ac ysgelerderau y mae dwyn Llywodraeth o allu Prydain Fawr i wasan- aethu ar eu hopiniynau, ac i ganiatau iddynt hawliau mor afresymol ag a ofynant hwy am danynt—ie, mor afresymol, fel na allai Cyfiawnder ei hun eu caniatau iddynt, ped anerchent ef yn y modd mwyaf heddychol, gostyngedig, a didwyll. Y mae rheswm mewn gofyn am ardreth deg, ond nid oes dim mewn anog pobl i beidio talu ardreth o gwbl. Cynyreh diwydrwydd o ryw natur neu gilydd yw Eiddo yn y man cyntaf, ac os ydys fel hyn yn myned i'w ysbeilio o'i hawl- iau, drwy beidio talu rhent i berchenogion, pa le y mae ei wobr, a pha le mae yr anog- aeth a'r cymhelliad i ymdrech, arbedus- rwydd, a darbodaeth 1 Byddai y diogyn ar dir mor fanteisiol a'r diwyd, y meddwyn ar dir mor fanteisiol a'r dyn sobr, a'r lleidr ar dir cwbl mor fanteisiol a'r dyn gonest, canys yn ol rheolau y gyfundrefn hon, elai eiddo yr unigolddyn yn eiddo pawb, ac eiddo pawb yn eiddo nebun, a chynyrchid math o gyd- raddoliaeth (equality) tebyg i hwnw y bu y Ffrancvr unwaith mor ucbel am dano. Ond gadawer fod eymdeithas yn cael ei gosod mewn sefyllfa gyfartal yfory nesaf. Pa cyhyd, tybed, y parheuai felly ? Y mae cyd- raddoliseth yn sefyllfa anmhosibl ei chyr- haedd la'i sefydlu, oblegid byddai chwaeth- au, tutddiadau, ac arferion dynion mor wahanol i'w gilydd, fel y byddent yn rhwym o effeitlio gwahanol sefyllfaoedd. Byddai un o duedi arbedus, un arall o duedd was- traffus, fel y byddai y naill yn cynyddu mewn (yfoeth, a'r llall yn lleihau mewn cyfoeth, ac felly sefyllfa o anwastadrwydd cymdeitiasol yn cael ei chreu yr ail waith. Nid ar 3 sefyllfa o gydraddoliaeth o unrhyw natur y mae llwyddiant a manteision cym- deithas jn ymddibynu, eithr yn hytrach ar yr ymareriad o'r rhinweddau a'r egwyddor- ion o duwydrwydd, rhyddid, a chyfiawnder cyffredirol. Oud wrth edrych i mewn i weithredadau yr Ysgrif Dirol yn yr Iwerdd- on, y mie lie i gasglu fod gan yr amaethwr Gwyddelg beth lie i achwyn, ond nid mwy nag sydd gan yr amaethwr Cymreig, Ysgotig, a Saesong, canys y maent yn llafurio oil o dan yr inrhyw anfanteision. Gwelwn fod gostyngidau yn cael eu heffeithio yn ar- drethoed yr amaethwyr Gwyddelig, a da iawn hyiy ond y mae eisieu yr un pethau yngymlwys ar amaethwyr Cymru, Lloegr, a Chelyddn, ac y mae llawn gymaint o eisieu tir-ddeilidaeth sefydlog (fixity of tenure) arnynt lefyd ag sydd ar y Gwyddelod. Y mae yn pfus genym ni am un tir-berchenog yn rhoda noteision i'w ddeiliaid i godi yn eu rhentoed dair gwaith yn ystod saith mlyn- edd o anser, ac os na chydsynient, yr oedd- ynt yn jael eu troi ymaith. Pa anogaeth oedd ym i ddiwyllio tir, ac i amaethu mewn modd giyddonol, a pha gariad ac ymddiried- aeth a a ai hyn ei feithrin yn y deiliad tuag at ei arlrydd 1 Yr ydym yn cofio sefyllfa ar yr amaehwr Cymreig mor gaethwasaidd a honcr agy mae negro Canolbarth Anrica yn y;?- v ytnsymud o dani. Yr oedd ofn yn ei galon arno i wisgo dim ag oedd yn well na chob ffwstian ar ei gefn esgidiau trwchus, a "milgwns" (hoelion) yn eu trwynau, ar ei draed Sul a Sadwrn crys gwlanen, heb son am unrhyw fath o frest lliain iddo o gwbl, am ei gefn a neised o gotwm, a chlwm llyn- clwm, am ei wddf. Buasai yn berygl ei weled yn marchogaeth ar farch i un man heblaw i'r ffair a'r farchnad, ac ni chymerasai lawer am fyned mewn cerbyd, rhag ofn i'w y r, arlwydd dybied fod byd rhy dda ac esmwyth arno. Cawl fyddai ei fwyd i frecwast, cig mosh bras wedi rhwstio i giniaw, a bara llaeth, feallai, i swper. Ni welai na gwas na morwyn liw ar lymaid o ddioden gylch- ogylch y flwyddyn, nac ond tra anaml y meistr ei hunan ychwaith. Yn wir, yr oedd yn rhaid iddo ef bob amser fwyta mor syml a gwisgo mor ddirodres a IOAN FEDYDDIWR yn Anialwch Judea Os buasai ei arlwydd yn canfod argoelion fod ei dir yn cnydio yn dda, ei ydlan yn ymlenwi yn weddol, ac yntau yn dechreu ymdrwsio tipyn, buasai yn sicr o gael codiad yn ei rent, serch mai efe ei hun, drwy draul a diwydrwydd, oedd wedi bod yn achos o'r cyfnewidiadau a buasai bob amser hefyd, ac ar bob achos, yn rhwym o roddi ei bleidlais i'w feistr, neu fod mewn perygl o golli ei nerm ac onid oedd hyn yn ormes ac yn orthrwm creulawn, ac yn dangos yn eglur fod cymaint o anghen diwygiad yn y gyf- amodaeth dir-ddeiliadol yn Nghymru, Lloegr, a Chelyddon ag sydd yn yr Iwerddon ? Dywedir fod Ysgrif Dirol yr lwerddon yn cynwys elfenau dinystr i'r arlwyddi, am fod gweinyddwyr ei deddfan yn darostwng y rhentoedd gymaint ag o 25p. i 30p. y cant. Wel, dim o'r fath beth, canys nid yw y gos- tyngiad ond ychydig iawn yn y bunt yn y diwedd. Bwrier fod yr arlwydd yn codi 2p. yr erw am ei dir, ac fod y rhent yn cael ei gostwng gymaint a 25p. y cant, ni fyddai hyny yn y diwedd ond 5s. yn y bunt o os- tyngiad, a byddai y deiliaid wedi hyny yn gorfod talu 1p. 10s. am ei erw dir. Y mae 25p. y cant o ostyngiad yn edrych yn fawr ar yr olwg gyntaf, ond nid yw er hyny ond ychydig mewn cymhariaeth, pan yr ystyrir fod yr arlywydd yn codi mwy o'r haner o rent am ei dir nag a ddylai. Ardreth tir yr erw, da a drwg gyda'u gilydd, yn Mro Mor- ganwg, yw lp. la., ond bydd ei haner, gan nad beth am ddwy ran o dair ohono, ddim gwerth rhagor na 5s. yr erw, ac, yn fynych, lawer ohono ddim yn werth y draul a'r dra- fferth o'i drafod. Tybiwch fel hyn fod genych 100 erw o dir am 105p., ac fod haner y tir hwnw ddim rhagor na gwerth 5s. yr erw. Beth ydych fel hyny yn dalu am yr baner arall a ystyriwn yn weddol dda. Bydd- wch yn talu lp. 17s. yr erw, ac ar yr haner hwn y byddweh yn gorfod ymddibynu am eich rhent, eich trethi, eich tal am lafur, ac am adnoddau eich bywiolaeth. Ni cheir ar y tir hwn gyda'i gilydd, ac ar flwyddyn ffafriol, braidd dun ell yr erw o wair, neu chwech Ilestfaicl o wenith, ac ni cheir am y dun ell wair hono ragor na 3p. yn yr ydlan. Yn awr, y mae genych lp. Is. o ardreth, 8s. o bob trethi, 10s. am dori, cynauafu, a chywain yr erw wair, a 10s. tuag at gynaliaeth y ceffylau, fel nad oes genych yn ngweddill o'r 3p. tuag at gynaliaeth eich hun a'ch teulu ond 11s. yr erw, neu 55p. y flwyddyn ar yr holl fferm. Y mae yn wir y daw yr adladd i tua 15s. yr erw, ond y mae genych 10s. i'w talu i weithiwr cyson, yn nghyd a llawer i'w dalu am adgyweirio yr ermigau amaethu, fel nad oes rhwng pobpeth ond bywyd isel, tlawd, ac annghysurus, yn dygwydd i ran amaethwr tiroedd canolig Bro Morganwg. Y mae rhentoedd ein tir yn rhy uchel, a'r tir-ddeil- iadaeth yn rhy ansicr, fel, yn ol ein barn gydwybodol ni, y mae eymaint o anghen am Ysgrif Dirol ar Gymru ag oedd ar yr Iwerddon, ac yr ydym yn credu yn ddiysgog y ceir hi hefyd.
Helynt y Gantata.
Helynt y Gantata. 1, DR. JOSEPH PARRY AT EI GYDGENEDL. Musical College of Wales, Abertawe, Tach. 15, 1881. Fy ANWYL GYDGENEDL,—Yn ngwyneb yr yracsodiadau bryntion sydd wedi eu gwneyd arnaf gan bersonau dienw, gyda golwg ar fy meirniadaeth ar y Cantawdau yn Eisteddfod Merthyr, yr wyf yn dymuno gosod ger eich bron y ffeithiau canlynol. Yn gyntaf, fy mod wedi darllen y cantawd- au drosodd ar wahan yn y modd manylaf— bob ban a chord, ac yna, bernais bob un yn gyfochrog, yn mhob rhifyn o'r gwaith, er cael allan y goreu, a'r canlyniad o hyn ydoedd i mi gael Taliesin Ben Beirdd yn oreu, Romberg yn ail, a Corelli yn drydydd. Yn ail, dylai y cyhoedd wybod hefyd mai myfi a gafodd y cyfansoddiadau ddiweddaf, wedi i'm cydfeirniaid eu darllen, a chymerais ddigon o bwyll i fyned drostynt gyda'r gofal mwyaf, gan nodi allan yr holi wallau a'r diffygion ac na chefais yr un gwall wedi ei nodi gan y lleill a brofir gan lythyr Alaw Ddu, a chan bob ymgeisydd arall ar bob un o'r testynau. Yn olaf, aethum dros y goreu drachefn, gan ei ddarllen a'i chwareu yn fanwl drwyddo, er penderfynu a ydoedd yr oreu i fyny a'r safon a'r lie yr amcenid iddo gael ei ddatganu, fel engraifft deilwng o allu cerddorol Cymru a'm barn onest a difrifol ydoedd nad oedd yma deilyngdod digonol o'r wobr. Ysgrifen- ais fy holl feirniadaethau air yn air, fel y'u cyhoeddwyd wedi hyny, o leiaf, wythnos cyn myned i'r Eisteddfod, a'm dedfryd o barthed i'r Gantawd ydoedd atal y wobr. Nid oedd genyf ychwaith y ddamcaniaeth leiaf pwy, ydoedd Corelli. Fel profion anwadadwy fod fy meirniad- aethau wedi eu hysgrifenu, fel y dywedais uchod, cyn i mi fyned i Ferthyr, dymunaf gyflwyno i'ch sylw y tystiolaethau canlynol:— 56, Middleton Square, London, E.C., Tach. 5ed, 1881. ANWYL DR. PARRY,- Y n y Faner am Medi 21ain, y mae un a eilw ei hun Gohebydd Crwydrol yn herio ar i chwi gyhoeddi yr hyn oil a ysgrifenasoch ar y Cantawdau cyn i Mr. Curwen gydsynio a chwi i atal y wobr. Gallaf, drwy wybodaeth ber- sonol,. dystio fod eich beirniadaeth, yr hon a ym- ddangosodd yn Nghronicl y Gerddor am Hydref, wedi ei hysgrifenu cyn i chwi fyned i Eisteddfod Merthyr, a'ch dyfarniad oedd atal y wobr.—Yr eiddoch, &c., H. EDWARDS, Hon. Sec., Dr. Joseph Parry. London Welsh Choir. Gwalia House, Tavistock Square, London, W.C., Tachwedd 5ed, 1881. ANWYL SYR,-Gyda golwg ar eich beirniadaeth ar Eisteddfod Merthyr, yr wyi fi yn dyst ei bod wedi ei chwblhau cyn dydd cyntaf yr Eisteddfod. Y mae sylwadau "Gohebydd Crwydrol" y Faner, felly, yn hollol annghywir, mor belled y mae a fynont a chwi. Yn sicr, dylai gywilyddio ddarfod iddo ysgrifenu cynifer o bethau mor ddisail am danoch chwi a minau, o dan y penawd, Helynt y Gantata." Yr wyf wedi galw arno mewn dau lythyr, yn y Faner, i dynu ei eiriau yn ol am danaf fi, neu eu pron ond hyd yn hyn, nid yw wedi bod yn ddigon o foneddwr i wneuthur y naill na'r llall, am y rheswm na fedr wneuthur yr olaf, ac na fyn (rhag cywilyddio ei hun yn fwy) wneuthur y cyn- taf. Ond na hidiwch, gallwn gymeryd cysur, gan mai gwan iawn yw ei ddylanwad i'n niweidio yn marn y cyhoedd.—Gyda chofion caredig, ydwyf, yr eiddoch yn gywir, EDWARD JBNKINS, Cor. Sec. London Welsh Choir. Dr. Joseph Parry. 16, Henrietta-street, Swansea, Tach. 7fed, 1881. ANWYL SYR,—Eel arweinydd y London Welsh Choir, dymunaf ddatgan fy nygasedd llwyraf at waith un a eilw ei hun Gohebydd Crwydrol" yn ymosod arnoch yn y Faner gyda'r fath haerllug- rwydd a malais, drwy eich cyhuddo o gyfnewid eich beirniadaeth ar ol cyrhaedd Merthyr Tydfil, a hyny ar ol deall fod y ddttn feirniad arall yn cytuno mai Corelli oedd y goreu, ac yn teilyngu y wobr. Yn rhinwedd fy swydd fel arweinydd y cor uchod (sefrhoddwyr y wobr), gwelsoca v n briodol i ddan- gos eich beirniadaeth i mi. A. -1 ei darllen, teimlais yn bur siomedig nad oedd yr un o'r can- tawdau yn teilyngu y wobr, ac ymdrechais ddadleu o blaid y goreu, pwy bynag ydoedd, ond yr oeddech yn ansigledig, a chan fod genyf finau berffaith hyder yn eich gonestrwydd a'ch gallu, tewais a son. Fel un sydd yn caru gonestrwydd Eisteddfodol, ac yn cashau o waelod fy nyhalon waith unrhyw ddyn yn ymosod yn faleisus ar ei gyd-ddyn, a hyny o dan gochl a chysgod ffugenw, teimlaf mai fy nyled- swydd ydyw amddiffyn y gwir yn y mater uchod. -Yr eiddoch yn gywir, Eos MORLAIS. Joseph Parry, Ysw., Mus. Doc., Swansea. (Tw barhau.) MR. CURWEN AC "UN O'R PWYLLGOR." MR. GOL. ,-Buoch yn ddigon caredig i gy- hoeddi copi o lythyr Mr. J. Spencer Curwen, yr hwn a ysgrifenwyd fel ffafr bersonol" (u a personal favour") ar gais Dr. Parry, ac a drosglwyddwyd i ofal ei amddiffvnwr, ei nodd- wr, a'i gymwynaswr uchelgeisiol a bombast- aidd i'w gyhoeddi drwy holl newyddiaduron Cymru, oddigerth rhai eithriadau. Fel un sydd wedi darllen holl ymdrafodaeth yr helynt hwn, efallai y goddefwch i min- au ychydig o'ch gofod i ddilyn rhagymadrodd eich gohebydd i lythyr Mr. Curwen. Hefyd, ymgeisiaf brofi annghysonderau, dywediadau, a gwrthddywediadau y beirniad newydd "a dibrofiad hwn. Yn gyntaf, dywed eich goheb- ydd fod Crwydriad," alias Llew Llwyfo, yn herio neb i brofi mai anwiredd ac athrod yw yr hyn a draethwyd am Dr. Parry parth ei feirniadaeth ar y Cantodau uchod, sef mai ar ol dyfod i Ferthyr, ac ar ol gwybod pwy oedd Corelli, neu Mr. W. Jarrett Roberts, Caer- narfon, y penderfynwyd atal y wobr. Wel, darllenais lythyr yn y Faner am Tach. 9fed, mewn atebiad i un Mr. W. A. Davies, gan Un o'r Cyhoedd," yn esbonio yn fanwl a theg ffeithiau nas gellir eu gwrthbrofi." Nid oes a fynwyf fi a'r rhan olaf o'r sylw uchod, sef mai ar ol gwybod pwy oedd Cor- elli yr ataliwyd y wobr," er y myn rhai o'n hysgrifenwyr mai gwir yw hyny ond deuaf â ffeithiau i brofi mai ar ol dyfod i Ferthyr y penderfynodd Dr. Parry i atal y wobr. Dyfynaf ychydig o'r esboniadau ar y pwnc. Yn ol telegram Mr. Curwen, efe, sef Mr. J. S. Curwen, a feddyliodd gyntaf am godi y safon ac atal y wobr, trwy ryw ddylanwad- au a dywed (gweler y telegram) fod Dr. Parry wedi cytuno a hyny. Dyma'r telegram: —" After going over Cantatas again, have come to conclusion to withhold prize. Dr. Parry agrees. Do you agree 1" Onid yw y telegram ei hun yn profi mai yn Merthyr, ar drydydd dydd yr Eisteddfod, y cytunwyd i atal y wobr 1 Barned y byd. Gwir a ddywedodd "Un o'r Pwyllgor" nad oes eisieu gair o es- boniad mwy i wrthbrofi haeriadau disail gan yr Un o'r Pwyllgor hwn, y W. A. Davies, a'r Pro Bono Publico (sef y tri yn un), na chynwysiad y telegram ei hun, fel ag i argy- hoeddi pob dyn o farn a dywedaf finau yn bendant a phendifaddeu mai yn Merthyr, ac nid cyn hyny, y penderfynodd Dr. Parry atal y wobr. A wado hyn aed A hi, A gwaded i'r haul godi." Wei, yn awr, &f at lythyr Mr. J. Spencer Curwen. Dywed mai copi ydyw, ond nis gellir credu hyny fel ffaith, am fod yr Un o'r Pwyllgor hwn, mewn llythyrau blaenor- ol, yn euog o adael allan ranau gwir bwysig o frawddegau er hwylusdod iddo ef a'i ffug- ymddadleuwyr. Wedi darllen llythyr Mr. J. Spencer Curwen, dywedaf, heb ofn nac ar- swyd, fod y llythyr yma o eiddo un o'r beirn- iaid yn gyfryw ag i gondemnio holl achos yr amddiffydwyr trechedig hyn, canys y mae yn dadlenu dwy ffaith ag y mae cwmni Ochr arall i'r 'atori yn eu gwadu yn bendant, a'r rhai, hefyd, sydd yn cadarnhau y ffeithiau a gyhoeddwyd ar y cyntaf gan "Crwydriad," ac a barhant o godiad haul hyd fachlud dydd," sef yw hyny, fod Dr. Parry am wobrwyo ym- geisydd arall, ac nid Corelli, fel yr oedd efe, aef Curwen, yn bwriadu; ac hefyd, fod y gorchwyl o feirniadu yn anhawdd iddo ef, sef Dr. Parry, am ei fod yn adnabod y llawysgrif- au. Ond, cawn drafod hyn yn fwy manwl yn nes yn mlaen, pan y deuwn at y sylwadau hyny. Hefyd, nis gall undyn lai na meddwl nad ydyw cynwysiad y llythyr (byth-edifeir- iol) hwn yn ddim amgen na llythyr o gydym- deimlad, fel "ffafr bersonol" (o dan y fath amgylchiadau, pan y mae reputation dyn yn "concerned") o'r hyn oedd wedi ei amlygu iddo trwy ohebiaeth gyfrinachol, canys dywed felly yn ddifloesgni. Ond, y sylw cyntaf y cyfeiriaf ato ydyw cyfaddefiad Mr. Curwen ei hun, mai cael ei dynu allan, yn erbyn ei, ewyllys, a ddarfu ef, a hyny gan Dr. Parry, wrth gwrs. Dyma eiriau Mr. Carwen ei hun — I am extremely reluctant to write a word about any of the adjudications at Merthyr." Dyna ei gyffes air yn air, heb eisieu gair o esboniad y mae ei leferydd yn ddigon croew." Ond fel "esboniad" nad oedd gan y dyeithrddyn hwn na bias nac awydd i ys- grifenu o gwbl, ond fel ffafr bersonol," a chymhelliad arbenig Dr. Parry iddo wneyd hyny, dywed air yn air, You beg of me, however, as a personal favour," &c. Onid yw y frawddeg yna yn profi mai trwy ddylanwad yr ohebiaeth gyfrinachol yr ysgrifenwyd y llythyr hwn i Dr. Parry 1 Gellir sylwi, hefyd, 1 yn y fan hon, nad oes gair ynddo yn cymhell nac yn caniatau ei gyhoeddiad ond pan dder- byniwyd hyd yn nod ddadleniadau bradychus iddynt hwy mewn ffurf o gydymdeimlad, wele y frawdoliaeth yn rhuthro i'r wasg, gan frad- ychu cyfrinach Mr. Curwen, yr hwn a ysgrif- enodd yn gyfrinachol, a hyny yn extremely reluctant," ac fel personal favour," ond nid fel llythyr i gael ei gyhoeddi. Camgymeriad ofnadwy ar ran y frawdoliaeth oedd ei gy- hoeddi o gwbl, canys y mae y llythyr yn profi tuhwnt i bob amheuaeth mai mewn ysbryd addfwyn, caredig, yr ysgrifenodd efe, fel dyn yn dyfod allan i achub dyn arall rhag angeu fel beirniad Eisteddfodol. Oud, gall Crwydriad ddweyd am Curwen,— Cawr a fu hwn i'm cryfhau." (I'w barhau.)
^enedig'aeth.
^enedig'aeth. LEWIS.—Tachwedd 5ed, priod Mr. Thomas Lewis, Grawen Terrace, Merthyr Tydfil, ar ferch. Galwant hi yn Morfudd. Un geinwedd yw hon, a gwynach--na'r eira Yn ei oror weniach Ni welwyd ei hanwylach. I6n, rho ftldd i'r Forfudd fach. Hir oes o fywyd hapus I'r lili, Morfudd Lewis Boed hi a'i rhiaint lion yn byw Dan nawdd ein Duw daionus.-A. V.
Priodas.
Priodas. JONES-JARMAN,- Tachwedd 13eg, yn Taber. nacle y Deri j gan y Parch. J. Williams, Beuian Dowlais, a'r Parch. J. Jarman (tad y briodas ferch), ac yn ngwydd y cofrestrydd, Mr. Evan Jones, Aberhonddu, fi Miss Mary Jane Jarman o'r Deri.
Marwolaethau,
Marwolaethau, WHEELER.—Tachwedd 18fed, yn 56 mlwydd oed, Adam Walker Wheeler, 7, Dean-street, Aberdar. THOMAS.— Tach. 19, Gomer Jones Thomas, yn 5 mlwydd a 10 mis oed, wedi wythnos o gystudd caled. Yr oedd yn wyr i'r llenor Caerwyson. Claddwyd ef, dydd Sal, yn nghladdfa gyhoeddus Aberdar. Gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. J. Davies, New Tredegar; ac yn nghapel y gladdfa gan y Parch. J. Davies, Soar. Daeth i'r angladd dyrfa fawr, a rhoddwyd heibio ysgolion Soar a Salem, er rhoddi cyfle i'r aelodau fod yn bresenol. Ehedodd Gomer bach o'i ddygnawl boen 0 fyd o wae i lys digymysg hoen. Y dwymyn goch-gelynes plant y wlad— Mewn cyfnod byr wnaeth ei hangeuol frad. Ond cau ei lygaid wnaeth ar fyd o loes, I'w hagor draw yn mro anfarwol oes. Brythonfryn. GRAY.—Hydref 28ain, 1881, yn 60 mlwydd oed, Mr. John Gray, arolygwr gweithfa gopr Mri. Husseya'iGyf., Pittsburgh, Pennsylvania, America. Yr oedd yn enedigol o Dreforris, Abertawe yn gefnder o du ei dad i D. Gray, Ysw., Maesteg yn gefnder o du ei fam i W. William, Ysw., Church-square, Treforris. Bu yno dros 30 mlynedd. Yr oedd yn adnabyddus iawn trwy holl ddinas boblogaidd Pittsburgh. Llanwodd amryw o swyddau anrhydeddus. Bu am dymor yn aelod o'r Cynghor Trefol. Yr oedd yn gefnogol iawn i bob symudiad Cymreig, a theimla holl Gymry y dalaeth hiraeth a cholled fawr ar ei ol. Cafodd ei fagu yn eglwys henafol Philadelphia, Treforris, a chadwodd ei grefydd a'i gymeriad yn ddiargyhoedd hyd y diwedd. Yr oedd o linach yr hen Gray, Aberrneurig, ac o'r un cyff a D. Gray, pregethwr godwyd yn Nhreforris yr un adeg a Mr. Saunders, Aber- tawe, ac a fu farw yn ddyn ieuanc 24 mlwydd oed. Dywedodd Mr. Evans, Tonyrefail, un- waith, Os nad yw crefydd o waed, mae yn hoffi rhedeg yn y gwaed ac felly am dylwyth y Grays o Dreforris. Mae llawer ohonynt, yn ein cof ni, wedi cyrhaedd yr aneddle lonydd lie na ddywed neb o'i phreswylwyr, Claf ydwyf." Cafodd gladdedigaeth barchus. Yr oedd tua chant o gerbydau heblaw gwyr traed. Yr oedd yr angladd yn cyrhaedd tua milltir o ffordd. Yr oedd y Free Masons, yr Alfrediaid, a'r Foresters yn cerdded o'i flaen, yr hyn a brofai fod y dinasyddion yn chwenych anrhydeddu y gwr. Nawdd y Goruchaf fyddo dros ei weddw a'i blant, ei frodyr, a'i chwiorydd, yw dymuniad ei hen gyfaill- W. Thomas.
[No title]
"MAE'R gwenith wedi myned i lan." "0, wel, trowch ef yn whiskey, ac fe aiff i lawr wedi hyny." ENAINT A PHELENI HOLLOWAY.—Ychydig iawn o bersonau sydd mor ffafriedig gan amgylchiadau fel ag i'w galluogl i basio yn anniweidiedig v trialon tost o dymor garw. Gyda phen-ddyferiad- au (catarrhs), pesychiadau, ac anwydwstydd (influenzas) sydd yn ddigonedd yn mhobman, fe ddylai fod yn gyffredinol wybyddus fod Enaint Holloway, ar ol ei rwbio yn ddiwyd ar y ddwyfron, yn rhoddi ataliad ar ymosodiadau gwaethaf y doluriau hyn, ac yn gwella, mewn modd aicr, glefydau mwy sobr a pheryglus y gwddf a'r ysgyfaint. Rhaid i wirionedd yr haeriad hwn aros yn ddiamheuedig yn ngwyneb miloedd o iystion byw annghyhuddiadwy, y rhai yn bersonol sydd wedi deillio y buddiantau mwyaf posibi oddiwrth y driniaeth hon pan oedd eu dyoadef- iadau presenol yn frawvehus, a'u rhagolvgpn dyfedol yn rhai mwyaf digalonus. Mae'r ddwy feddysriniaeth yn gweithredu yn rbyfeddtl dda gyda'n giJyid,
Tystiolaethau Pwystg II QTJIMNE…
Tystiolaethau Pwystg I QTJIMNE BITTERS G-W1LY.M "IVANS. f lL¿ 1 .J;L J..i. Á.. Brynhyfryd, ger Abertawe Anwyl Syr, — Yr ydwyf wedi bod yn gwertliu y,- Quinine L>iite;s'' mij r. b yuyd'i&u btiiacli. Y maent wedi gwneyd Lavre/ o Jts yn yr arrtal vca. ac v mae clyfodia-i dy.-<iaer iddynt. Yr ydwyf wedi sylwi yn fauol ar eu heffaith ar wahanol bersonau, ac yr y, w\-f wedi gweled rhai o'r dolur- iau gwaethaf a al.'ai ueb ddychyatygu yn cael eu llwyr wellhau trwy ddefuyddio y meddyglyn yma. Y mae plant o bob oedran, dyuion ieuanc a lien, gwragedd a mer^hed, oil yn tystiolaetnu i'w heffaith daionus. Y mae yn drueni na ellid eu darostwng ychydig yn ei; pris, heb wanycuu eu heffaith gan fod canoedd o bobl weinion yn sychedu am dreio ei heffaith, ond eto heb Lodd i wneyd hyny.—Yr eiddoch yn serchog, ISAAC OWEN. From Griffith Williams. Llanerciiymedd Angle- sea Syr,Da genyi gael y cyfleusdra i aufon gair ganmoliaeth i'ch "Quhmie Bitters." Y maent yn dderbyniol iawn yi. y gvmydogaeth hon. Gwerthais lawer ohonynt J'n ystod y biynyddau diweddaf, ac y mae y galwari arnynt yn parhau gynyddu. Nid oes meddyginiaeth yn g iddynt at iselder ysbryd, uiityg traul, dychiuiniad- au y galon, a chur yn y pen. Yr eiddoch yn gywir, Medi 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS. From Mr. John Lhvyd (loan Cynffig), Mynydd Cynffi'j Syr,—Bu'm yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbrvd, diffyg archxaeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blinder mawr. Prynais botelaid 4s- 6d. oddjwrth Mr. Richard Jenkins, Kenfig Hill, ac ar ol i mi ei cliymeryd, teimlais fy t I -ti 0 hun wedi adferyd i'm iechyd arforol, ac yr- alluog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i ereill, a thystiolaeth y rhai hYllY yw eu bod wedi derbyn lies annhraethol trwyddynt. a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu eadw bob awser fel trysor penaf y teulu. From the Rev. J. H. Williavis (Brynfordd), Head Master of the Dowluis Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,-The wonderful efficacy of your <s Quinine Bitters to restore health and vigour, after lingex-ing illness and debility, has been recent- ly and sufficiently proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J. Ellis Edwards. M.R.C.S. L.S.A., g-c., Saint Clears Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,-Having been so frequently asked by my patients as to the desirability of taking your Quinine Bitters," I have for the last two vears e given it a fair trial, and find it, without exception the most pleasant and effectual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S. L.B.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph Rees, Cardigan; Mr. Griffith Williams, Llanerchymedd* Mr. W. H. Thomas, Dowlais Mr, John Francis* Wrexham Mr. Myrddin Davies, Swansea Mr. Hugh G. Hughes. Holyhead; Mr. W. Sims, Aberaman; Mr. E. P. Wynne, Aberystwyth • Mr. Jones, St. Asaph Mr. D. Evans, Oemrnaes' Montgomeryshire; Mr. J. P. Jones, Aberayron; all chemists and gentlemen who have every facility for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. Mr. Watkin J. Thomas, Chemist, Aberdare, Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist. Llanellv. Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.-I am happy to state that the sale of the Quinine Bitters is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects, and very lately two very distinct and remarkable cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believe in. -Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Peny. groes, North Wales. August 26th, 1880. I have taken your Quinine Bitters for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. The benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. Sept. 27th, 1880. I certify that the preparation known as Gwilym Evans's Quinine Bitters is quite free from mineral, and that the ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Office, Tre- lech. Sept. 15th, 1880. My dear Sir,—Although you must be overload- ed with testimonials in favour of your now celebrated Quinine Bitters," yet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those o my customers who have truly proved its renovating properties always tahe one, two, or three bottles thereof (as the case may require), every Spring and Autumn, testifying that they derive much more benefit thereby thaw they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part continually increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24th, 1880. Mr. e. Isgoed Jones, Chemist, Llanrwst, has seId grosses of the Quinine Bitters," and from close observation of their effects, can vouch for their efficacy as a tonic in cases of extreme debility, &c., being particularly suitably to patients receveriagfreJP long illness. -) :J"