Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD SCIWEN.

.I BEIRNIADAETH EISTEDDFOD…

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HIRWAIN, PRIODAS ANBHYDEDDUS.—Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, achoswyd cryn fywiogrwydd yn Hirwaun ac Aberdar aryr achlysur o briodas J. E. Price, Ysw., cvfreithiwr, Pontypridd, a Mies Agnes A. Williams, merch ieuangaf D. E. Williams, Yaw., U.H., Hirwaun. Cymerodd y seremoni le yn Eglwys St. Elvan, pryd y gweinvddwyd ar yr achlysur gan y Parch. H. Kirkhouse. Cyrhaeddodd y priodfad yr eglwys ychydig cyn 12 o'r gloch, yn nghwmni Mr. Becking- bam yn ei ganlyn yr oedd y briodferch, yn nghwmni ei hewythr, Mr. M. J. Edwards. Llawforwynion y briodasferch oeddynt Miss Bassett, Miss Fryer, Miss Jane Kirkhouse, Miss Alice a Miss Agnes Powell. Hebryng- wyd y cwmni i'r cglwys ac yn ol mewn chwech o gerbydau a dau geffyi yn mhob un. Paroto- wyd boreufwyd y briodas gan Mr. Gunn, Merthyr, a'r deisen gan Mr. Watkine, Castell Nedd. Yn mhlith y rhai a ymgymerasant o'r arlwyaeth foreuol, yr oedd Mr. a Mrs. D. E. Williams, (tad a mam y briodasferch), Mr. a Mrs. Howell Kirkhouse, Mr. M. J. a Mrs. Walter Edwards, Mr. a Mrs. Bassett, a Miss Bassett, Mr. J. Watkins, a Miss Payne, Mrs. J. Williams, Mrs. Moore, Mr. a Mrs. Powell, Mr. W. Powell, ieu., a Miss Alice ac Agnes Powell; Mr. a Mrs. Evans, Miss Fryer, Mr. H. a Miss K. a J. Kirkhouse, Mrs. Nixon Gray, Mr. a Mrs. Spickett, Parch. W. Williams, Mr. a Mrs. Leyson Rhys, Mr. Miers, Mr. Beck- ingham, a Mr. Chivers. Cadwyd y dydd yn Hirwain yn wyl cyffredinol, trwy fod y briod- asferch mor gynefin a chyfeillgar gyda'i chy- mydogion. Chwareuodd seindorf y ile amryw alawon yn ystod y prydnawD, ac hebryngas- ant y par ieuanc i orsaf y rheilffordd, ar eu ffordd i Hastings a Brighton. Cafodd rhwng 400 a 500 o blant wledd o de a bara brith, yn yr Ysgoldy Brytanaidd, ar ddymuniad a chost y briodasferch. BETHEL, CAERPHILI.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol yn y lie uchod ar y lOfed, lleg, a'r 12fed, o'r mis hwn. Pregethwyd ar yr ach- lysur gan y Parchn. J. Evans, Bethania, Dow- lais; R. Morgans, Glynnedd; R. Hughes, Cendl; D. Roberts, (T.C.) T. E. Rowlands, (B.), Caerphili; T. L. Jones, Machen; J. Jones, Pentyrch a T. Hughes, Maesycwmwr. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. D. Richards, gweinidog y lie, T. L. Jones, D. Roberts, Enos George, ac ereill. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog, cyfarfodydd llewyrchus, a chasgliadau da. WAUNARLWYDD— Yr Ysgol Frytanaidd.- Dydd Llun, yr lleg cyfiso], gwelid torfeydd yn tyru tua Waunarlwydd—y pentrefollyn llawn bywiogrwydd, y cymdeithasau dyn- garol yn cerdded, y banerau yn chwifio, yr offerynau yn diaspedain, y ddwy eglwys a'r ddau weinidog wedi dyfod allan gyda bywiog- rwydd byddinoedd yn rhuthro i'r frwydr a phe buasai rhywun yn gofyn pa arwyddion ydynt y pethau hyn, atebasid ef trwy ofyniad arall, sef, A ydwyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Waunarlwydd, ac ni wyddost fod yma Ysgol Frytanaidd ? Ie, dyna y secret-yr Ya- gol Frytanaidd oedd yn cael ei hagor, a'r holl gymydogaeth wedi dyfod allan fel un gwr, gan addaw cymhorth i yru anwybodaeth i ddifancoll oesol. Yn y prydnawn cafwyd anerchiadau rhagorol, ac yn yr hwyr cafwyd cyngherdd gampus gan glee party o Treforris, dan arweimaid Mr. J. George. Canodd y glee party yn rhagorol o dan ei arweinyddiaeth fe^rus. Diau fod Mr. George yn un o'r ar- weinwyr goreu, ac v mae vn lleisiwr o'r dos- barthblaenaf; er hyny, mor hynaws, llednais, gostyngedlg a phlentyn. Canodd Eos Dyff- ryn, Miss Bevan, &c., yn swynol iawn. Y mae yr ysgoldy yn adeilad hardd a chyfleus. Y mae rhai personau wedi tanysgrifio yn dra theilwng tuag ato. Gwelais enwau Col. Step- ney, A.S., am £ 20; Sterry, Ysw., £ 20 Mri. Harry a Bowen, 45. Y mae Mri. Harry a Bowen yn rhwydd anfarwoli eu henwau fel cyfeillion y gweithiwr a noddwyr addysg.-

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

CODIAD Y PRIS YN NGWEITHFEYDD…

LLADRATA PLENTYN.

[No title]