Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
ABYSSINIA-D YCHWELIAD MR.…
ABYSSINIA-D YCHWELIAD MR. POWELL. Rhyw yehydig fisoedd yn ol, fe gofia ein darllenwyr i ni wneud yn hysbys trwy ein colofhau fod un o'r Mri. Powell, enwau pa rai sydd mor gynefin mewn cysylltiad a masnach lo Deheudir Cymru, wedi cael ei ladd, tra ar ymweliad ag Abyssinia, gan lwyth anwaraidd, a bod ei frawd, a Mr. Jenkins, ei frawd-yn-nhyfraith, wedi cych- "Wyn tuag yno er gwneud ymchwiliad i'r amgylchiad, a dial os oedd modd, ar y llof- ruddwyr. Y maentyn awr wedi dychwelyd, -wedi eyflawni yr amean oedd ganddynt mewn golwg. Y maent wedi llwyddo i ddvfod o hyd i weddillion eu perthynasau lloruddiedig, y rhai a adnabyddid ganddynt trwy nodau neillduol ar eu danedd, &c. Hefyd y maent wedi dial am y lofruddiaeth, trwy gymeryd gallu arfog o eiddo Tywysog Kassai, oTigre, yn erbyn llwyth y Shangalla, cyflawnwyr y weithred. Pan eyrhaeddodd y dyeithriaid i diriogaeth y Tywysog-yr hwn, fe gofir oedd cyfaill Arglwydd Napier yn ystod y rhyfel Abyssiniaidd — cafodd Mr. Powell a'ifrawd-yn-nghyfraithsicrwydd ganddo y byddai iddo gynorthwyo pob Pry- deiniwr mewn cyfynfer. Wedi rhoddi gallu arfog iddynt, a chyfieithydd a elwid Mer- chis, aethant rhagddynt, ac yn fuan daeth- ant i'r lie y cyflawnwyd y creulonder. Modd bynag, yr oedd y Shangallos, rywfodd wedi cael hysbysrwydd o.'u dynesiad, ae wedi ffoi y rhan fwyaf; Lladdwyd wyth o'r Shangallos anwaraidd, un o barai awisgai got Mr. Powell a lofruddiwyd, a'r hwn, fel y cafwyd ar ddeall wedi hyny, oedd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn nghyflawn- iad y weithred. Llosgwyd hefyd bump o bentrefydd i'r llawr, yn y rhai y cafwyd dau ddryll a rhai pethau ereill. Cymerwyd pedwar cant ar ddeg o ychain oddiarnynt, a gwnawd pob peth er dangos iddynt y gosp yr oeddynt wedi gosod eu hunain yn agored iddi trwy eu gweithred ddrygionus.
LLOFUDDIAETH HYNOD YN BRUSSELS.
LLOFUDDIAETH HYNOD YN BRUS- SELS. Y mae llofruddiaeth hynod wedi ei chyflawn yn Brussels. Yr oedd y ty No. 7, Rue de Brabant, wedi bod yn cael ei breswylio yn ddiweddar gan ddwy foneddiges o'r enw Van de Poel, mam a merch—y naill yn 75 a'r llall yn 38 mlwydd oed. Yr oedd y boneddigesau hyn, er eu bod mewn amgylchiadau da, yn dra hynod yn eu hymarferiadau, ac ni chadwant neb i weini arnynt. N i chyfeillachent a neb, ac o'r braidd yr oeddynt un amser i'w gweled gan eu cymydogion. Dydd Sul wythnos i'r diweddaf, galwodd eu nith i'w gweled, ond ni allodd gael ULrhyw atebiad i'r drws, ar yr hwn hefyd y gwelodd bapyryn a'r fair "Oddicar- tref." Dydd Mercher diweddaf, ymwelodd a'r He drachefn, a thrwy iddi gael pethau yn yr un sefyllfa, ofnodd fod rhywbeth allan o Ie, ac ymofynodd a'r heddgeidwad. Gwthiwyd y drws yn agored, a chafwyd y ddwy foneddiges ynfeirw. Yr oedd y fam yn gorphwys ar yr esmwythfainc, tra y gorweddai y ferch mewn llyn o waed at y llawr. Yr oedd yn amlwg fod y ddwy wedi eu llofruddio gan offeryn eyffelyb i forthwyl. Nid oedd dim o'r dodrefn wedi eu symud, na dim yn eisiau. Bernir fod y llofruddiaeth wedi ei gyflawni dydd Iau, wythnos i'r diweddaf. Y mae yr awdurdodau yn gwneud ymchwiliad i'r achos, ond yn hollol aflwyddianus hyd yn hyn. Y mae yn ymddangos mai yr amcan wrth lofruddio y ddwy foneddiges oedd yepeilio, canys yr ydym yn cael fod y swm o 11,000 francs, y rhai oedd wedi eu derbyn y diwr- nod blaenorol, yn nhydag yehydig ddodrefn neillduol, yn eisiau. Cawn hefyd fod dyn sydd wedi bod yn eu gwasanaeth wedi cael ei gymeryd i fyny ar ddrwgdybiaeth. Y mae ar ei wyneb amryw fan archollion, a spotiau o waed ar ei ddillad, ac nis gall roddi unrhyw hysbysrwydd boddhnol pa fodd y treuliodd efe y noson y cymerodd y llofruddiaeth Ie. I
FFRAINC.
FFRAINC. Yr oedd Ymerawdwr Ffraine, nos Lun ■diweddaf, yn bresenol yn yr opera,, a der- byniodd longyfarchiad brwd. Yr oedd hefyd prydnawn dydd Mawrth yn cerdded ar terrace gerddi y Tuileries, yn nghwmni M. Beviller. Llongyfarchwyd ef gan oddeutu dwy fil o bersonau ag oeddynt wedi ymgynull mewn lie penodol i'r dyben hyny. Y mae bod iechyd yr Ymerawdwr wedi ei adferyd i'r fath raddau, wedi tawelu llawer ar Ffrainc.
SPAIN.
SPAIN. Dywedir fod Marshal Serrano yn bygwth xhoddi i fyny y Regency pe dygwyddai i annealltwriaeth gyfodi rhwng yr Undebwyr a'r Progressists. Y mae buddugoliaeth wedi coroni ym- drechiadau y milwyr yn erbyn y gwrthry- felwyr trwy yr holl wlad. Er mai mudiad y Gwerinwyr oedd y gwrthryfel, eto yr ydym yn deall na ddarfu i luaws o ddynion goreu y blaid Werinol ddim ymwneud dim a'r gwrthryfel. Ni roddwyd cyflawn alia y blaid allan mewn amryw leoedd. Yn Barcelona, "er esiampl, gallasai y Gwerinwyr yn hawdd anfon allan 30,000 o wyr i'r heolydd, a lleoedd ereill mewn cydmariaeth, pe buasent oil yn dueddol i ymladd. Bernir yn awr na chymer unrhyw annealltwr- iaeth le mwyach ar ran y Gwerinwyr, ond y mae ofnau mawr yn nghylch y ddwy blaid arall-yr Undebwyr a'r Progressists.
AMERICA.
AMERICA. Cymerodd dam wain drychinebus le yn Ffair Talaeth Indiana, prydnawn heddyw, (Hydrefy laf.) Ffrwydrodd berwedydd Sinker & Co., o ddinas Indianapolis, ychy- dig fynydau cyn 4 o'r gloch. Yr oedd llu mawr o bobl yn y lie ar y pryd, ac y mae yn anhawdd yn bresenol cael y manylion. Gwyddys fod deuddeg o bersonau wedi eu lladd yn y fan, a thebyg y bydd i'r nifer a anafwyd gyrhaedd i gant. Mae y ddamwain y fwyaf dorcalonus a gymerodd le erioed yn y gymydogaeth hon, ac y mae wedi taflu prudd-der dros yr holl ddinas. Dygwyddodd y ffrwydriad pan oedd y lie yn llawn o ymwelwyr. Can belled ag y gellir cael sicrwydd heno, lladdwyd pedwar ar bymtheg o ber- sonau. Mae y cyffro a'r dyryswch mor fawr fel mae yn anhawdd cael rhestr gywir o'r clwyfedigion. Cyrhaedda nifer yr anaf- usion yn agos i gant. Symudwyd y nifer fwyaf o'r meirw i swyddfa trefijwr cladd- edigaethau, lie y cynelir trengholiad yforu.-(O'r Drych.)
Advertising
IMPORTlIT WOOCE! J. RICHARDS, Chemist & JOru«rg^st, (Registered by Examination.) APOTHECARIES HALL. 13, CARDIFF STREET, ABERDARE, BEGS respectfully to inform the inhabitants of Aberaman, Cap Coch, and Cwmaman, that he has purchased the business lately occupied by Mr A. Williams, and formerly by Mr Charles, opposite the Rock Inn, Aberaman, and trusts that by selling genuine articles at a moderate price, and paying strict attention to business, will merit for me a share of public patronage and support. Stationery, Berlin, Scotch Fingering, and other Wools, Crotchet, and Knitting Cottons, will also be kept in stock. A large quantity of Paper Hang- ing", and other goods, whicu will be cleared off at a sacrifice, to make room for a New Stock. Obsetve the address:— Opposite the Rock Inn, ABERAMAN.
EISTEDDFOD WIR GYMREIG- I…
EISTEDDFOD WIR GYMREIG- YDDOL Y GYFEILLION, G W ENER Y GROOLITH, 1870. Llywydd,—MB. EDWARD PLTJMMEB, Arolygydd ;Glofeydd Glyn Ebwy. Arweinydd,-MR THOMAS MORGANS, (Llyfnwy.) PRIF DESTYNAU: £ e. c. Traethawd ar y Saeson yn Nghy- mm V 1 0 0 Pryddest ar "Y Pren Gwahardd- edig." •• ..100 l'r Cor, heb lod dan 40 mewn rhif, a geno yn oreu x Gwanwyn,' gan D. Emlyn Evans.600 Bydd yr hoU destynau, yn nghyd ag enwau eu gWbhanol feirniaid, mewn Prwygraifft ar ol y 15fed o Dachwedd, ac i'w gael ar dderbyniad dau lythyrnod gan yr ysgrifenydd, 1 J. R, GRIFFITHS, (Rhystyn), Gyfeillion, ,¡; Near Pontypridd.
Advertising
CYMRU A GHERDOORIAFJH. TEMPERANCE HALL, TREDEGAR. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD Gerddorol ac Adroddiadol yn y lie uchod ar y 15fed o Dachwedd nesaf, pryd y gwobr- wyir ar y testynau canlynol:— £ a. c, 1. I'r cor, ddim dan 100 o rif, a gano yn oreu "Worthy is the Lamb" a'r "Amen Chorus," o'r Messiah. 27 0 0 2. I'r parti, ddim dan 20 o rif, a gano ya oreu "Y Dderwen Lydan Glwys," allan o Fiwsig y iviloedd, rhif 18. 6 0 0 3. I'r cor o'r un gynulleidfa, na fa yn fuddugoi o'r blaen, ddim dan 25 o rif, a gano yn oreu "Ust! Gorwynt" allan o'r Gyfres. 2 0 0 Beirniad y Gerddoriaetb,-MR. JOHN THOMAS, Blaenanerch. BYDD CYNGERDD FAWREDDOG yn yr hwyr. Bydd y gystadleuaeth gorawl yn y cyfarfod dau o'r gloch. Rbaid ivr Coran ar y tri thestyn cyntaf anfon eu henwau i'r Ysgrifenydd erbyn y 23ain o Hydref, a'r gweddill o'r testynau erbyn yr 8fed o Dachwedd. Rhaid i'r cyfansodd- iadau ar y Don, mepur y 9fed, C. S. R, i fod yn llaw yr Ysgrifenydd erbyn yr 16 o Hydref, a'r enwau priodol dan seL Cedwir pris tocyn os na fydd y buddugwr yn bresenol. Ysgrifenydd, Mr Thomas Jones Price (Alawydd y Dyffryn,) Wine-st., Pontlotyn, nr. Rhymney, xMon. Y Cyfarfodydd am lOt, 2, a 6 o'r gloch. Y Gyngerdd am 7. THE UTMOST MONEY ADVANCED ON PLATE, WATCHES, AND ALL SORT OF WEARING APPAREL. A LARGE quantity of Mens' and Womens' Second-hand Clothing always on Sale. A large assortment of Watches and Wedding Rings always on Sale, cheap. Sums to any amount from jElO to £ 50 lent at a moment's notice, on good security, by special agreement. All Sort of Goods and Plate bought for Cash. —A Private Office attached. D. S. Bydd drws neillduol yn agored am 2 o'r gloch bob prydnawn dydd Sadwrn. Observe the Address :— ABRAHAM FREEDMAN, PAWNBROKER, No. I], Canon Street, (Next door to the Brecon Old Bank) ABERDARE. MAPIAU. DYMUNA William Williams, Llyfrwerth- wr, &c., Tonypandy, hysbysu ei fod yn Oruchwyliwr i werthu Mapiau o bob math, dros G. W. Bacon a'i Gym., pa rai ydynt y rhataf a goraf. "MOB O GAN YW CYMRU I GYD." CALFARIA, CLYDACH. CYNELIR Eisteddfod Gerddorol ae Adrodd- iadol yn y He uchod Dydd Nadolig, 1869, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y darnau canlynol:— CANIADAETH. 1. I'r Cor, heb fod dan 30 o rif. a gano yn oreu !xtai," gan JOHN TITOMA*, Blaenanerch, o'r Cerddor Cymreisr 9 0 0 2 I'r Cor, heb fod dan 25 o Jif, a gano yn oreu c. See the Chariot at hand," o'r Musical Times 3 0 0 3. I'r parti o 12 a gano yn oreu "Gwenynen fach yr Haf," o Greal y Corau 1 0 0 4. I'r 4 a gano yn orea The Bells of Aberdoyey," trtfniant Hamilton 0 12 0 5. I'r 3 a gano yn oreu "Y Meudwy," o'r Gyfres Gerddorol 0 10 6 6 I'r ddau a gan > yn oreu «• Y Gareg Ateb," gan GWILYM GWENT 0 10 0 7. I'r fenyw a gano yn oreu Y Fwyalchen," o'r Welsh Melodies, gin J. TBOMAS 0 7 6 8. I'r gwryw a gano yn oreu "Ni raid i ni ofni," o'r Storm 07 6 9. i'r gwryw a gano yn oreu y rhan gyntaf o «• The Trumpet aha 1 Sound," HAHBttt. 0 7 6 ADRODDIAETH. 1. Am yr adroddiad goreu o Cj flafan y GWrl o'r Adroddiadur 050 2. Am yr adroddiad goreu o Llafurwr Tlawd' oCr Adroddiadur 0 5 0 ABEITHYDDIAETH. 1. Am yraraeth oreu ar destyn rhaddedig ar, y Pryd 0 } 9 2. Eto ete eto 0 10 BEIRNIAD,—EOS BHONDDA. AMODAU. Bydd hawl gan y Beirniad I atal y gwobrwyon oni bydd teilyngdod. Ffugenwau y cystadleawyr i fod yn Haw yr Ysgrifenydd erbyn y tied o Rhigfyr. J. B. JONES, i. CLYDACH, near Swansea, Ysgrifenydd. Cynelir Cyngherdd Fawreddog, yn yr hwyr gan Gor y lie, yn cael ei gynorthwyo gan rai o brif gantofion yr ardai.
DYDDIADUR Y METHODISTIAID…
Newycld ei gyhoeddi: wedi ei argrajfu yn ddestlus ar bapyr cla, mewn llian, 6.c.; mewn Pocket, Is.. DYDDIADUR Y METHODISTIAID CALFINAIDD AM 1870. YN cynwys Dyddiadur, Almanac, Sabbothau 1871-72, Cofion Methodistaidd, Diffygion, Prisiau Stampiau, Profiad Ewyliysiaa, Y Llythyr- Swyddfa, Trefn Gweinyddiad Priodaeaa yn y Capelan, Y Teuln Brenhinol, Y Weinyddiaeth bresenol, a'u Cyfiogau, Aelodan Seneddol Cymru, Taflen o'r Pleidleisiau, Prif Weinidogion Prydain. o 1754 hyd yn awr, Aughydffutfwyr yn y Senedd bresenol, Arglwydd Raglawiaid Siroedd Cymm, Ystadegan Crefydd yn Mhrydain, yn cynwya yr holl enwadau crefyddol; Rhestr o Weinidogion, Pregethwyr, Capelan y Method iati aid Calfinaidd, &c., Cylch Cyfarfodydd Misol ac Ysgrifenyddion, &c., y Siroedd, Y Cymdelthaefaoedd-eu trefn &!u Swyddogion, &c., Y Gymanfa Gyffredinol at Swyddwyr, &c., Y Cymdeithasaa Cenhadol, Ac., Athrofeydd, &c., Athrawon, Efrydwyr, Swyddwyr, Arholwyr, &c., Trysorfa y Pregethwyr, Ordein- iadau y De a'r Gogledd, Crynodeb o Gyfrifon y flwyddyn, Marwolaethau PregeAwyr. FFSIBIAU. Ceir ynddo 136 o dudalenau, yn nghyda phapyr gwyn wedi ei lii^ellti yn y rhai 6c. a'r rhai Is., yr hyn a'i gwna y cyflawnaf a'r rhataf a gyhoeddwyd eto yn ein hiaith. Anfoner pob archebion at P. J WALTERS, MM Street, Aberdare, neu i Swyddfa Y GWKADQABWB. Yr elw arferol i Lyfrwerthwyr. Mae wedi ei gefnogi a'i gymeradwyo yn neillduol yn y Cyfarfod Miaol, ac yn y Gym- deithasfa ddiweddaf. 0 blith lluaws o lyth- yrau canmoliaeth, detholir y rhai canlynol:— Abercarn, Hydref 20, 1869. Anwyl Fra wd. Yr wyf wedi fy moddhau yn fawr yn eich Dyddiadur am 1870. Cynwysa amryw 9 bethau buddiol na eheir mewn Dyddiaduron ereill, ac y mae wedi eiwnioyndaa. Jiwch rhagoch. Yr eiddoch yn ffyddlawn, D. SAUNDEBS. Anwyl Frawd.—Da genyf eicli gweled yn cyhoeddi y Dyddhfr eleni eto. Dylai gael pob ceFnogaeta, oblegya ceir ynddo bob peth ellir ddysgwyl mewn llyfr o'i fath, a thraragora mewn llawer ystyr ar ei ragflaeawyr. Na iydded i'r anturiaeth ar in cyfrif fod yn golled i thwi. Yr eiddoch yn ffyddlawn, THOMAS JAMBS, M.A., Llanelli. An wyl Frawd.- Vr ydwyf wedi edrych dros eieh Dydd- iadur am y^flwyddyn ddyfodol, ao wdioaelboddlonrwydd neillduol yn ei drefn a'i gynwysiad Y mae ynddo gyflawn- der o wybodaeth amrywiog, ystidegau cyfandebol gwerth- fawr. a hytforddiadau buddiol J bawb. Yr wyf yn gobeithio y caifif gylchrediad eang, ac yr ymgymetir ag eiyn gyffred- mol. Yr eiddoch yn gywir,—ISIWTN. • Dian fod y Dyddiadur presenol o ran sione- rwydd, dillynder, a ptarydferthweh ei ddiwyg- celfyddol yn gystal ag yn amry wiaeth, defnyddioldeb, a cliyfaddas- der ei gynwysiad llenyddol, yn ihaitori llawer ar ei holl ragflaenolion. Gellir yn ddibetrus ddatgan ei fod yn bob peth ag y gall y cofnodydd' dyddiadurol yn rhesymol ddys- gwyl neu ddymuno ei gael mewn unrhyw Ddyddiadur Cymreig neu Saesonig, am br is mor g, medrol a theg ag yw eiddo y Dyddiadur hwn Mae yn hynod gyfaddas at wasanaeth yr amaethwr, y masnachwr, a'r llenor-pob un yn ogystal a'u gilydd. Haeddai werthiant rhwydd a helaeth.- DEWI WYN o ESSYLLT. Edrychais yn fanwl dros y Dyddiadur am 1870, ac yr wyf yn dymunj eich llongyfarch yn eioh llwyddiaa- yn ei dd'giad allan mor dlwa. Cynwysa ei dudalenan lawer o wybodaeth amtywiog, CTyno. a gwerthfawr; ae ni ddylai neb a alio ftorddio ei gael fod hebddo.—DAFTSB MORGANWG.
Advertising
Yn awr yn Barod, Pris Swllt mewn amlen, neu ddeunaw ceiniog mewn Main hardd, YB 73KNOGOIL FAnDDOL; GAN DAFYDD MORGANWG, MERTHYR. Pob archebion i'w hanfoo ir Awdwr, neu i Swyddfa'r G WLADGARWR, Aberiar. TEMPERANCE HALL, ABKEDAB. BYDDED HTSBYa Y CYNKHE Gwyl Gerddorol Undebol itTiriiYii ABRHUAE, YN Y NBUADD UOHOD, DYDD NADOLIG, RHAGFYR 25, 1869. 1. I'r Cor o'r un gynulleidfa, ddim dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu yr "Hallelujala Chorus," o'r Engedi, i'w gael gan Novello Ac Co., gwobr £20. 2. I'r Cor o'r un gynulleidfa, ddim dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu O! Qymm Anwylaf," gan J. Thomas, Blaenanerch, tft. Cerddor Cymreig, gwobr £ 5. (Cyfyngedig i gor na enillodd £ 10 o wobr o'> blaen) ITEIUXIID: MB. J. THOHAI, Blaenanerch. Y programme yn awr yn barod, ac i'w coel gaa yr Ysgrifenydd,— THOS. HOWELLS, (Rywel Cynon), Ysg., Printer, Aberaman. Y If SISIAt. EGWYDDORWAS (Apprentice) ynSwydda fa'r "GWLADGARWB, Aberdaj.