Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CYFFREDINOL Y GLOWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CYFFREDINOL Y GLOWYR. SYR.—Drwy ryw amgylchiadau lluddiwyd ni yr wvthnosau diweddaf rhag parhau yn mlaen gyda phwnc yr undeb. Y mae hyny, i raddau, wedi cyfnewid ein cynllun yn ein hysgrif bresenol. Da genym, er hyny, fod gwr cyfarwydd yn ysgrifenu ar y pwnc hwn yn ein habsenoldeb. Gobeithiwn y bydd iddo barhau nes y byddo i'r undeb i gael ei sefydlu ar sylfeini cedyrn yn ein mysg. Da genym gael ar ddeall fod argoelion da arni yo. bregenol-fod y cycliwyniad yn rhag- arwyddo gwell llwyddiant yn y dyfodol na'r un cychwyniad a gafwyd yn flaenorol. Mae olowyr erbyn hyn yn eithaf ymwybodol ddaioni undeb, yn nghyd a'r angenrheidrwydd o hono; ond yr hyn ag yr ymdeimlant o'i herwydd ydyw, Pa fodd y mae myned yn milleni Mae llwyddiant y mudiad, yn ddi- ameu, yn ymddibynu ar hyn. Ein cynllun ni fyddai i'r personau hyny ag sydd yn teimlo ychydig dros gael undeb-fod i'r cyfryw i ddechreu cymdeithas, pe ond dau neu dri. Y mae ein cymdeithasau goreu wedi cychwyn fel hyn, a phaham lai gyda mudiad o'r fath hwn? Wedi hyny, fod i'r ychydig hyny a ymunant felly i fod ar eu heithaf, drwy bob dull cyfreithlon, i ymdrechu cael aelodau newyddion. Ni raid i'r cyfryw fod yn perthyn i'r un lofa, a goreu oil pe byddai i ddau neu dri o lofeydd i ymuno—bydd y fantais yn well er lledaenu egwyddorion undeb yn ein mysg. Wedi dechreu fel hyn. fod i gyfrinfa- oedd newyddion i gael ei selydlu, fel y byddo angen, yr un fath yn gymhwy« ag y sefydlir cymdeithasau dyngarol, ac y sefydlir eglwjsi Ymneillduol. Mae cychwyniad o'r natur hwn yn fwy dyogel—nid oes daioni yn deillio o ormod ysfa a show gydag un mudiad. Gan nad yw yn ein bwriad yn bresenol i ymhelaethu, y mae un peth ag y dymunem i'n glowyr i ddal sylw arno, sef y gynadledd ag a fwriedir ei chynal yn Mhontypridd ddydd Llun nesaf. Dysgwylir cynrychiolwyr o wa- hanol byllau y Deheudir i'r gynadledd hono, pryd y bydd pwnc yr Undeb, a phynciau ereill o bwys, o dan ystyriaeth. Da chwi, lo- wyr, gofalwch am hyn. Ystyriwn fod y gyn- adledd ddyfcdol hon yn beth ag a ddylai gael eich sylw difrifolaf. Cofiwn ein bod am y presenol yn myned ddyfnach, ddyfnach, yn ein hamgylchiadau; ond os am gael diwygiad, rbaid i ni roddi heibio ein syrthni, a gweithio yn egniol er adfeddianu yr hyn a gollasom. Yr eiddoch, &c., UN o HONOCH.

L'ERPWL.

AT DRETHDALWYR ABERDAR.

Advertising

(HYSBYSIAD).

Advertising

Y TRYCHINEB YN AVONDALE.