Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Penillion i'r Cig Rhad

[No title]

BARGOV3D-

LLITH O'R DERI.

CASTELLNEDD.;

CRANOGWEN YN RHYMNI.

ABERAFON.

At Bwyllgor Eisteddfod Treherbert,…

Nodiadau Cerddorol,

PWLL Y BUTE, TREHERBERT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PWLL Y BUTE, TREHERBERT. MR. GOL.Yr wyf fi yn synu na fydde rhai o'r gweithwrs o'r lie hyn yn hala i weyd am y strike sy'n Pwll y Bute yna. Dyna. John ni a'r plant yn segur er ys jist mish nawr, heb enill dim yn siwr i chi, mae arna. i ofan yr aiff hi yn dlawd arno ni, a na chawn ni ddim bwyd o'r shop os na thalwn ni heb fod yn hir wath o ble gall y siopwr i roi e os na thaliff neb iddo. Ma yma igeine yn segur yr un peth a John ni; fe wedas i wrth John am sgrifenu, ond fe ballws am i fod e'n ffeili spelian Cymrag, ne chi gelsech yr hanes yn well ganddo fe. Y mae John yn dweyd i bod nhw yn penderfynu sefyll yn erbyn i'r cwstwm newydd gal dechre yn y pwll yma a nine'r menywod yn dweyd y gwnawn ni'n goreu gyda nhw achos bydd rhaid cael y dwbwl shifft yn y ty hefyd—bydd llawer ragor o gost ty yn myn'd a bydd y ty yn. agored bron trwy'r nos. Pan ddetho i'r Cwm hyn gynta, yr o'wn i yn gwel'd y tai yn od iawn, achos mai tai bac a ffrant i nhw, a wi'n cofio i fi ofyn i un pryd hyny, pan o nhw yn bildo un fel hyny, a dyna yr hyn a ddwedodd hi yn ol, bod nhw'n meddwl ca'l y dwbwl shifft i'r gweithe yma, a bod un shifft i fyw yn y frant ac un arall yn y bac. "W el, beth yw y tri room da yna ar y 110ft 1" meddwn i. "0, lie i'r lodgers yw e," medde hithe. A nawr dyma nhw yn cynyg y dwbwl shifft yn y gwaith, ac ar ol i ga'l e i'r gwaith pwy drusfc sy' na ddaw e i'r tai; achos ma yma gyment o dai cwmpni. Nawr, os y'ch chi, gweithwrs y Cwm yn erbyn y shifft hyn, helpwch weithwrs y Bute yn awr ynte mae yn siwr o ddod, a falle i'r tai hefyd. Gobeithio y deallwch chi hwn, ac y caiff ddod mas yn y GWLADGARWR. SHAN MORGAN.

GYFARFOD LLENYDDOL TRINITY,…