Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Masnach yr Haiarn a'r Glo. Culni, gofid, niwl, a thywyllweh sydd yn parhau i ordoi masnach ein gwlad y 4yddiau hyn, ac nid yn unig masnach^ ein gwlad ni, ond gwledydd y byd yn gyffredinol. Yn yr America, hyd yn hyn, nid oes ond eloffni a gwendid yn holl aelodau masnach y wlad hono; ac, ys rlywedodd eich goheb- ydd manylgraff o L'erpwl er ys tro yn ol, "Yno yr aeth masnach i lawr gyntaf, a rhaid iddi -ildechreu adfywio yno cyn y igwelir daioni mewn un wlad arall." Trown -ddalenau y newyddiaduron o FFRAINC A BELGIUM, y mae gostyngiad yn mhris yr haiarn yn ITfrainc, fel yr ystyrir ei fod wedi ei ddwyn i'w gwr iselaf; er hyny, nid oedd pwyllgor y Forge Masters yn alluog i arddangos yn <eu cynulliad diweddaraf unrhyw gyfnewid- iad yn arddrych gyffredinol masnach yr iiaiarn Ffrengig, eto, coleddir gobeithion y bydd i amgylchiadau masnach adfywio i ryw raddau yn y Gwanwyn dyfodol. Nid oes dim adfywiad yno ychwaith yn masnach y glo. Mae masnach yr haiarn yn Belgium yn parhau i arddangos marweidd-dra neill- duol. Nid yw masnach y glo chwaith yn arddangos braidd un adfywiad. Ni fydd y Than ddiweddaf o'r gaaaf i ymddangos yn fwy ffafriol na'i ddechreu. Y prisoedd yn parhau yn isel, mor isel, fel nad oes i gyf- alaf na llafur un elw. Wrth sylwi ar fasnach y glo yn NGOGLEDD LLOEGB nid oes dim gwellad. Mae glofeydd nwylo Durham yn fywiog, ondyn Northumberland y mae marweidd-dra yn gordoi y lie. Glo «t wasanaeth tai yn hynod farwaidd yn ei weithiad, a'r stoc yn cynyddu. Gwerthiad masnachol y golosglo yn hynod wanaidd a marwaidd. Masnach yr haiarn bwrw a r haiarn gweith-orphenol yn farwaidd, a r prisoedd yn iselach nag y maent wedi bod. Nid oes dim gwolliant yn swn masnach haiarn bwrw gorllewinbarth Cumberland, a matnaoh y glo yn y niwl. Mae masnach glo rhanbarth ogleddol SIR GAEREFKOA yn hynod ddrwg, a dywedir fodmasnach yr haiarn yn aros yn llwyr a hollol. Mae masnach gyson yn parhau i gBel ei gwney ;yn ngweithfeydd haiarn rhanbarth ddeheuol y sir hon, y founderies yn neilldiiol yn dra ffafriol yn eu harchebion sydd ar law. Y mae masnach y glo yn dawel, a llawer o r ^yftau heb fod yn haner gweithio. Yr un modd y mae drwy holl ranbarthau Lloegr. Yn CA.SNEWyDD-AB.-WTSG dechrenir siarad yn obeithiol am dymhor o lwyddiant masnachol yn fuan i ddyfod, ond mor bell ag y mae awyrgylch dalengylch fasnachol yr ardal yn perthyn, nid oes yr un arwydd o newidiad buan. Ond fel y gwelir yn yr hanesion uchod, nid yw De- heudir Cymru yn sefyll yn unigol yn y | marweidd-dra sydd yn gordoi masnach y slo a'r haiarn, a phan ddaw cyfnewidiad er gwell, caiff Deheudir Gwlad y Bryniau mwn-gyfoethog fwynhau rhan o'r buddiant masnachol Gwan oedd yr allforiad yr Wythnos ddiweddaf, mewn gwirionedd, o r braidd yr allforiwyd haiarn. Haiarn bwrw yn awr yw y gangen fwyaf elwol o fasnach y rhanbarthau hyn. Yn nghymydogaeth PONTYPOOL, y mae gweithfeydd Cwmni Haiarn a'r Tin Plate mewn llawn waith. Mae y gweith- feydd hyn yn adgyfnerth arbenig i'r dref hon a'i rhanbarthau cylchynol yn ystod xhyferthwy y sefyll allan diwecldaf. Ni fu cymaint a diwrnod o atalfa ar waith yma yn y cyfnod trychinebus hwnw. Mae gweithfeydd dwfr Pantteg yn parhau i Toddigwaithi nifer luosog o weithwyr yn nghylch y lie. Yn EYMNI y mae y gweithgarwch cynyddol y sylwyd oedd wedi cymeryd lie yn rhai o'r gweith- feydd haiarn wedi ei ganlyn gyda mwy o hrudd-der ac iselder yn y gweithfeydd cymydogol. Fel hyn yr ydym yn cael, er fod gwelliant amlwg wedi cymeryd lie yn Crlyh Ebwy a Thredegar, yn Blaenafon y maent wedi bod dan orfod i chwythu allan un o'u ffwrnesi toddol, fel nad oes yn awr -ond pedair, o ddeg, mewn gwaith. Mae CWMNI NANTYGLO A'R BLAENA. wedi dyfod i benderfyniad i gau y rhan hyny o'u gweithfeydd sydd yn Cendl. Fel iheol, *mae y glofeydd yn gweithio yn weddol reolaidd, oddiwrth fel y maent wedi bod, ae oherwydd hyny, mae yr olygfa dylawd sydd yn gordoi y cylchoedd hyn i raddau yn cael ei lleddfu. Yn MERTHYR TYDFIL mae masnach y glo yn parhau yn ei nod- -wedd gyfartaleddol. Mae y prisoedd yn "tueddu at ostyngiad, ac y mae hyn yn galw, meddynt, am ostyng y cyflogau; ac tnae y sibrwd ar led yma, y bydd hyn i gymeryd lie o hyn i ben mis i ddyfod. Dywedir fod gwaith patent fuel i gael ei gychwyn yn Aberaman, a chlywais hefyd fod tua dau cant o lowyr wedi eu cau allan dydd Iau diweddaf, yn un o byllau P. D., I Nyffryn Aberdar. Mae masnach yr I haiarn yn DOWLAIS yn weddol dda, ac arwyddion parhaol yn cael eu rhoddi y bydd masnach dda y gwanwyn hwn i gael ei gwneyd. Yn CAERDYDD, ymddengys, er fod mis cyntaf y flwyddyn 1877, wedi myned drosodd, nad oes dim gwelliant yn masnach y glo, nid am nad oes gwaith yn y pyllau glo, a'r hyn a weithir yn lied fawr, a'r galw am dano yn weddol dda, ond fod y prisoedd. er yn sefydlog, yn aros at the low ebb ys dywed y morwyr, a dywedai clamp o sais wrthyf, that which has characterised them for some months past. Mae y gweithwyr yn cadw draw rhag gwneyd cytundebau mawrion. Allforwyd y rhan fwyaf o'r glo yr wythnos ddiweddaf, i For y Canoldir, India Ddwyr- einiol, a Gorllewin a De America, yn cyn- wys 73,075 o dunelli, 3,425 o patent fuely a 773 o dunelli o haiarn. Yn rhanbarth ABERTAWE mae pethau yn graddol ymddangos fel i ragarwyddo adfywiad mewn masnach. Diwedd yr wythnos ddiweddaf yr oedd gwell arwyddion o ymofyniad am haiarn gorphen-weithiol, a'r prisoedd yn fwy sefydlog. Ond teimlir, fodd bynag, cyn y gellir cael dim tebyg i adfywiad yn mas- nach yr haiarn, y rhaid cael codiad yn mhris yr haiarn, neu ostyngiad yn y cyflog- au, neu yntau gael prisoedd yr ymborth i lawr yn rhyfeddol. Yn rhanbarth LLANELLI mae y glofeydd yn weddol reolaidd, drwy fod y gweithwyr wedi caniatai gostyngiad yn y cyflogau. Mae pris y glo ar lan y pyllau yn fwy isel nag y bu yn nghof neb. Mae dociau Llanelli yn llawn o longau yn llwythog o lo, neu yn llwytho, ond y mae gerwindeb yr.hin yn eu rhwystro i hwylio, MASNACHD EITHIWR.

Advertising