Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Undebol Mountain…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Undebol Mountain Ash, Calan, 1877. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADA.IL BARDDONOL. Yr Englynion i'r "Bsrllan." Pedwar-ar-ddeg yn ymdrechu. Y Perllanwr ei hun.-Dim braidd o farddoniaeth na chynghanedd. Ceisied eto. Garddwr. — Mae dau Arddwr yn cys- tadlu. Deallant cyn y diwedd pwy yw pwy. Gwallus iawn. Gall ddyfod. Colledwr.—lawn y dywedodd, waith mae yma ei well i'w cael. Mae'n deall cynghanedd yn lied dda, ond nid oes digon o farddoniaeth yn ei englynion. Nid yw Doeth afal," yn ymadrodd doeth yn y byd. Allt wyliwr o Wyllt Walia.-Nid yw yn ymddangos ei fod yn deall fawr am englyn na chynghanedd. Iolyn ap lolo.-Mae yntau yn mhell ar 01 y tro hwn. Coch y Berllan (yr ail).-Gwyr hwn dipyn am gynghanedd, ond y mae ei englynion yn rhy hen-ddullweddiadol. Nid oes ynddynt fawr blagur bywiol i'w gweled fel sydd ar goed y Berllan. Ceisied eto, waith y mae ar ol y tro hwn. Meudwy. —- Mae efe heb feudwro'n ddigon pell eto i diroedd swynol barddon- iaeth i allu gwiso'r Berllan mewn sidan cynghaneddol. Ceisied nyddu eto. Coch y Berllan.—Rhy hen yw hwn eto. Dylid cael tipyn o bethau newydd am. wobrwyon newyddion. Geiriau llanw hefyd-gormod o lawer mewn mor lleied o le a dau englyn, megys,- Y Berllan wiwlan welir. Mae y linell hona mor hen a fy mam sydd 85 mlwydd oed. Byddweh yn fwy ffres y tro nesaf. Gellwch ddyfod os nad ydych yn rhy ddiog. Afal aur.-Go wych fel cynghaneddwr a bardd. Mae gydag ef bentwr o ansoddeir- i-au yn yr englyn cyntaf. Nithied yn lanach v tro nesaf, cyn dyfod i farchnad y gystadleuaeth. Cymered galon, er fod ereill o'i flaen y trolhwn. Perllanydd.-Dau englyn gwych iawn. Cynghaneddion da. Tipyn rhagor o ofal fuasai'n dyfod a'r bardd hwn yii nes i'r dorch. Ar y mwyaf o ansoddeiriau sydd ganddo. Nid yw ei linell olaf i gyd yn seinio gwir synwy*, debygwyf i:- Ac yn dyoddef cnwd addien. Perchen teimlad sy'n gallu dyoddef, ac nid coed y Berllan. Ail ystyried Perllanydd, a daw yn well. Un haerllug ar y Berllan.-Barddonol iawn yn wir. Ei fai yw diffyg gofai, yÐ fy marn i. Mae ei drydedd linell o'r englyn cyntaf yn glogvrnog iawn. Trueni fod cynghaneddwr mor dda wedi peidio minio ei fwyell yn well wrth naddu y llinell hon. Mae ei englyn olaf wedi ei hagru dipyn trwy gymaint o sillgolli, nes yw'n gorfod myned y naill ochr i roddi lie i ereill y tro hwn, er cystal bardd ydyw. Garddwr. — Englynion da nodedig a thlysion iawn. Mae ychydig wendid yn y gair cyrch," a'r ail linell yn yr englyn cyntaf, i ateb y rhanau ereill o'r cyfansodd- iad. Ond y iiiae gogoniant y gweddill yn cuddio y gwendid hwn yn wych -iawn. Ap Adda.—Englynion tlysaidd a bardd- onol iawn, mewn llawysgrif brydferth. Mae ei gynghaneddion yn ystwyth. Ys- grifena d/ddan yn lie dyddan yn yr englyn cyntaf. Anadl Haf.-Rhwng dail un o'r prydd- estau y cefais hwn yn guddiedig ar ol i mi feirniadu'r Englynion ereill, a pharodd i mi beth trafferth afreidiol. Cymered addysg. Anfoner cystadleuaeth ar bob testun ar ei ben ei hun i ifewn, neu'n am- lyeach nac y gwnaeth y cyfaill hwn y tro hwn. Englynion da, llithrig, rhwydd, a go farddonol. Ar y mwyaf o ansoddeiriau sydd yn yr englynion, ac nid ydyw'r llinell olaf mor dda ac y dylai fod i gydweddu a'r lleiil. Y goreu'n yn olaf, fel coron ar ben tywysog, ddylai fod. Cofied y bardd hwn y tro nesaf, fel na fyddo ar ol o ryw ychydig fel hyn. Y farn yr wyf wedi dyfod iddi yw hyn, ar ol pwyso mor gywir ag y medraf, mae Garddwr ac Ap Adda bia y wobr rhyng- ddynt. Fel na byddo camgymeriad, gan fod dau ymgeisydd dan y ffugenw Garddwr, yr wyf wedi ysgrifenu buddugol o dan ffugenw'r Garddwr cydfudugol ag Ap Adda. Dyma ddechreu englyn y Garddwr hwn, sef yr enillwr: — Las oror-tlysau arian. Tebygwyf fy mod wedi gwneyd y mater yn eglur fel na fydd camgymeryd un fa lle'r llall. Mater cynil yw myned rhwng dau Arddwr, yn neillduol beirdd. Pob o afal i Garddwr ac Ap Adda am eu llafur. WILLIAM WILMAMS. Cynon Cottage, Mountain Ash.

Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfod…

Victor Hugo.

Advertising

OENIN A'[ NODIA DA U.

FSCER WAKEFIELD.