Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
CASTEF LLNEDD-E-TSTEY DDFOD…
CASTEF LLNEDD-E-TSTEY DDFOD Y GROGLITH. MR. GOL.Gwelir, wrth edrych i golofn- au yr hysbysiadau, fod pwyllgor yr eisteddfod wedi newid y prif ddarn. Yr amcan mewn ngolwg wrth osod "Ffarwel iti, Gymru fad" ydoedd cael darn newydd hollol yn y cylch Iiwn ond gan fod y darn yn bur drwm i gorau bychain, a'u bod hwy yn annghyfleus i'w ddysgu yn awr, penderfynwyd i osod HClyw, 0 Dduw, fy llefain" yn ei Ie. Bydd y cyfnewidiad hwn yn fanteisiol i'r cdrau yn gyffreclinolegan ei fod wedi bod mewn ymarferiad o'r blaen. Hyderwyf y daw holl gorau y cylch i'r gystadleuaeth, gan fod Castellnedd yn fan canolog i blant y gerdd yn Nghwmnedd, Cwmafon, Owmtawe, Sciwen, a Briton Ferry. Ati ynte, gerddor- ion, a dewch yn lluoedd i Gastellnedd Gwener Y Groglith.—Ydwyf, &c., E. WILLIAMS.
MB. W. ABRAHAM (MABON), A'B…
MB. W. ABRAHAM (MABON), A'B SLIDING SCALE. MR. GOL.- Yr oeddwn wedi bwriadu un waith roddi heibio ysgrifenu ychwaneg ar y pwne uchod am y presenol; ond gan fy mod wedi derbyn dau lythyr yn ddiweddar oddi wrth Mabon yn dal perthynas a'm llytiiyr olaf yn peri i mi newid fy mwriad, ac ail- ymgymeryd a'r gorchwyl o ddwyn y pwnc i "fwrdd y'cyhoedd." Achwyna Mabon yn y llythyron crybwylledig fy mod wedi ei gam- gyhuddo yn fy llythyr olaf pan yn dweyd "ei fod ef wedi addaw ateb unrhyw gwestiynau a ewyllysiwn eu gofyn iddo," &c. Ond chwareu teg iddo, y mae wedi bod yn llawer mwy boneddigaidd wrth ysgrifenu ataf y troion hyn na'r tro blaenorol, canys dywed, "Os mai fy nghof a'm twyllodd, ei fod yn gam- synied." Gan fy mod bob amser yn ymddwyn tuag at fy nghyd-ddynion yn rhesymol, pan y byddant hwythau yn gwneuthur felly a minau, cydnabyddaf yn onest mai y cwestiyn- au ddylasai fod, ac nid unrhyw gwestiynau, &c. Y mae yr eglurhad hwn yn llythyrenol yn rhyddau Mabon o'r camsynied; ond mae ei adyledswydd fel cynrychiolydd ei gydweith- wyr i roddi atebion ar bynciau tywyll, dyrus, a phwysig yn aros yr un. Wrth ddarllen sylwadau Mabon, yr oedd y cwestiwn hwn yn codi i'm meddwl, Paham na wnai efe sylw o'r gweddill o'm llythyr, ac nid ar ryw air neu ddau? Yr oedd yr atcbiad yn swnio ar fy nghlustiau, sef am nad oedd ynddo yr un clause ag y gallai wneyd business o hono. G*yr eich darllenwyr yn eithaf da mai dyled- swydd gwas i'w feistr neu feistri, yw dyled- swydd Mabon &'i gydgynrychiolwyr tuag atom ni. Yr hyn a gydnebydd pob dyn. rhesymol hefyd yw, pan fyddo gwas neu weision yn cael eu cyflogi, a'u talu am eu gwaith gan eu cyflogwyr, y dylai y cyfryw roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth mewn modd didwyll i'w cyflogwyr. Ie, meddaf, ac nid rhyw ran o hono, a'r rhan hono yn methu dal archwiliad. Llawer o ysgrifenu a beio sydd ar fy nghyd- weithwyr am na baent yn talu eu cyfraniadau tuag at dalu treuliau y Bwrdd, &c., ac nid wyf am foment am amddiffyn.na chyfiawnhau ymddygiad fy nghydweithwyr yn peidio talu, o herwydd y mae y Bwrdd, fel sefydliad, mewn perygl o gael ei ddiddymu wrth hyny; ond, ag edrych ar y cwestiwn mewn goleuni arall, a ydyw yn llawer o ryfeddod nad yw gweithwyr Deheudir Cymrii yn ffyddlon yn talu, pan nad yw ein cynrychiolwyr yn cyf- lawni eu dyledswyddau yn ffyddlawn ac agored? Y mae y cwestiwn yn un eithaf priodol, feddyliwn i; beth feddyliet ti, ddar- llenydd? Onid.yr un egwyddor yw y naill a'r llall] Dyledswydd ein cynrychiolwyr^ meddaf, ydyw rhoddi cyfrif o'u goruchwyliaeth fel gweision ffyddlawn, heb gelu dim; a'n dyled- swydd ninau o'r tu arall ydyw eu talu cyhyd ag y gwnant hyny, fel ag y carem ninau gael ein talu bob amser am yr hyn sydd iawn, a dim ond hyn. Yn awr, gan mai fy mhrif amcan bob amser ydyw ceisio dwyn pethau i well trefn, a chan mai yr un amcan y mae ein cynrychiolwyr yn broffesu gadw megys nod i gyrhaedd ato; os ydynt felly yn wirioneddol, ac yn barod i wneyd yr hyn sydd o fewn eu gallu i gyrkaedd yr amcan hwnw, onid cam yn yr iawn gyfeiriad fyddai iddynt, yn ngwyneb y ffaith Dad yw yn debyg y gellir cyhoeddi ysgrifeniadau ysgrifenydd y llaw fer am dymor, beth bynag, fod mor Qstyngedig a chydsynio a'r pwyllgorau hyny fyddo am gy- farfod a hwynt i ymdrin a'r amrywiol achwyn- iadau sydd wedi tarddu, ac yn bodoli, o herwydd gweithrediadau afresymol ein cy- nrycliLolwyr ar y Bwrdd? Beth dal siarad sicr yw fod yn beth anhebgorol angenrheidiol ei gael cyn y symudir ymaith y teimlad an- nymunol sydd yn bodoli yn ein plith. Eto, cyn y llwyddir i sefydlu gwell trefn, gwell huriau, llai o waith, a chodi ein gilydd i sefyllfa mwy dyrchafedig, rhaid wrth undeb, cydweithrediad, a chyd-ddealldwriaeth. Cyn y llwyddir i sefydlu Undeb eadarn a chryf, rhaid wrth ymddiriedaeth y gweithwyr yn y blaenoriaid a ohyn y llwyddir i enill ym- ddiriedaeth y gweithwyr, rhaid i'r blaenoriaid gerdded yn uniawn a didderbynwyneb. Os dywedant eu bod yn gwneuthur felly, byddant yn dweyd yr hyn nad ydynt yn foddlon brofi. Un gair wrth derfynu, am fod fy amser ar hyn o bryd yn digwydd bod yn brin. Os na wnant gymerycl i fyny yr awgrym sydd o fewn y llythyr hwn, dylent guddio eu gwynebau mewn cywilydd, am fod y bai braidd yn gyfangwbl yn gorphwys wrth eu drysau hwy. -Yr eiddoch yn frysiog, Deri, Ion. 27. JOHN LEWIS.
IIUMB TJGIAETH I AN CI YDD…
IIUMB TJGIAETH I AN CI YDD OL. MR. GOL.Maes ardderchog ydyw y maes eisteddfodol Americanaidd i feirdd Cymrn, os ydys i farnu oddiwrth helyntion diweddar. Y wobr o Wisconsin heb ei thalu i Gurnos cadair a gwobr awdl "Owain Glyndwr" yn cael ei hatal; a phum doler ar ugain Brython- fryn, o Cincinnati heb eu talu, ac y mae rhyw grybwylliad yn y Drych diweddaf, mai Dewi Idloes yw Azariah, ac mai efe bia y wobr. Yn awr i brofi i'r byd mai twyll a humbug Ianciyddol yw hyn, ni wnaf ond crybwyll un ffaith. Yr oedd y cyfansoddiadau i'w hanfon i Dewi Glan Peryddon, Arvonia, Kansas. Danfonais fy mhryddest iddo ef. Mewn rhifyn o'r Wasg rai wythnosau cyn y Nadolig, gwelais restr o'r ffugenwau oedd wrth y gwa- hanol gyfansoddiadau, y rhai a anfonasid gan y beirniad Dewi Glan Peryddon. Yr oedd un-ar-ddeg ar y bryddest, a dim ond un Azariah yn eu mysg, a hono oedd fy eiddo i. Derbyniodd Mynyddog lythyr oddiwrthyf dranoeth i'r eisteddfod yn gofyn am iddo fy ngynrychioli. Nid wyf wedi clywed gair oddiwrtho ef nac ysgrifenydd yr eisteddfod, at yr hwn yr ysgrifenais ddau lythyr. Os Ita ddaw gair ryw ffordd neu llall o hyn i ben wythnos neu naw diwrnod, mi a droaf ffroen y magnel mwyaf sydd yn fy meddiant tua Cincinnati. BRYTHONFRYN.
BWBDD IECHYD ABEBDAB.
BWBDD IECHYD ABEBDAB. MR. GOL.-Llawer ydyw yr addewidion a wneir yn amser etholiadau gan ymgeiswyr am z, eisteddleoedd ar y gwahanol fyrddau. Y mae eu haddewidion yn llawn, ond eu cyflawni sydd ddiffygiol. Carwn i rai o honynt gofio fod dydd cyfrif i ddod, pryd y ceir eu bod yn weision drwg a diog, a phryd yr ymdreehir cael rhai a gyflawna eu gwaith yn fwy effeith- iol. Ond y mae yn dda i'r cyhoedd nad yw holl aelodau Bwrdd Iechyd Aberdar o'r un nodweddion, ac os gwir yr oil a welais ac a glywais, y mae yr aelod ieuangaf dros Ward No 1 yn gwneyd gwaith a haedda ganmoliaeth. Y mae yn wybyddus i ddarllenwyr lluosog y GWLADGARWR fod cynyg wedi ei wneyd yn ddiweddar i godi tal y Bwrdd Iechyd o wyth ceiniog i swllt y bunt, fel y gallent wario arian ar yr hyn nad oes gwir angen am dano, oddieithr lles rhyw bersonau neillduol. Da genyf weled fod D. E. Williams, Ysw., Y.H., w.édi gwrthwynebu y cynygiad, a'i fod wedi gwneyd hyny gyda chymaint o Iwyddiant, er fod y tal i fod o hyn allan yn ddeg ceiniog y bunt. Yr oedd y Bwrdd hefyd hyd yn ddi- weddar yn talu swllt y llath, yn un o'r Wards, am gartio cerig wedi eu briwio i'w gosod ar yr heol, a'r pellder mwyaf i fyned a hwynt oedd 300 llath; ond bu yr aelod uchod yn foddion i'w tynu i lawr i wyth ceiniog, ac y mae yna le eto i wneyd arian da. Y mae angen eto myned ar warthaf y rhai hyny sydd yn derbyn swllt a grot y llath, a'u dwyn i lawr i ddeg ceiniog, yr hyn a fuasai yn degwch a'r ddwy ochr. Os gwir yr hyn a glywais, yr oedd yno bill o ddeg punt, yn gofyn swllt y pwys am ryw nwydd, yr hwn, pan edrychwyd arno gan lygaid oraff aelod Ward No 1 ac ereill, a welwyd fod wyth ceiniog y pwys yn llawn ei werth. Daeth i'm clustiau hefyd fod pobl Hirwain yn gorfod byw ar ryw haner parhad y gas lights i'r hyn ydyw yn Aberdar. Yn Hirwain yr oeddynt yn cael eu gosod allan am ddeuddeg yn lie pedwar o'r gloch y boreu. Er fod gan Mr. Williams ran yn y gwaith nwy, safodd dros yr hyn oedd deg i bobl Hirwain i'w gael, er gweithio yn erbyn ei fuddiant personol. Dyma y fath ddynion sydd eisieu eu cael ar y gwahanol fyrddau- dynion sydd a llygaid yn eu penau, y rhai a fedrant edrych ar y symiau bychain yn gystal a'r sydRau mawrion, ac os medrir tynu y bil- iau bychain i lawr yn ol 30 neu 50 y cant, paham hefyd na ellir tynu llawer i lawr ar y contracts mawrion, a gwneyd i ffwrdd a'r extras diddeddf sydd fel cynffonau hirion ar eu holau. Gobeithio fod yr adeg wedi myned heibio, pryd yr oedd y crefftwyr a'u cri yr un fel a'r rhaihynya welais yn gweithio i'r Llywodraeth, yn gwaeddu, "Digon o arian. Cofia di Pedr, cofia Pedr dithau." Medr llawer o ddynion drefnu eu harian eu hunain yn dda, pan y maent yn hollol ddifater am y modd goreu i drefnu arian y cyhoedd. Paham na fynir gwerth am werth yn nglyn a'r byrddau, yr un fath ag y gwneir gan bersonau unigol. Gobeithio nad oes yna ddim y tu ol i'r lien. -Yr eiddoch, MYRDDIN.
IOAN GLAN TEES A'I ENGLYNION.
IOAN GLAN TEES A'I ENGLYNION. MR. GOL. ,-Caniatewch ychydig o'ch gofod i mi alw sylw at yr englynion uchod. Wrth ddarllen y Cambrian (cyhoeddedig yn Aber- tawe) am Ionawr y 26ain, gwelais hanes presentation i H. Bowen, Ysw., Treforis, gan ddosbarth Llanelli, o urdd y Dyngarwyr. Yn ddiau, yr oedd y boneddwr uchod yn haecldu gwneuthur ohonynt hyn iddo, oher- wydd nid oes un o'i sefyllfa ef yn nosbarth Llanelly na'r dosbarth newyddanedig, sef Dyffoyn Tawe, wedi gweithio mor ddifefl a diwyd o blaid llwyddiant yr urdd Ddyngarol. Hefyd, nid yw wedi llesghau yn y dosbarth newydd, ond adnewyddu ei nerth i weithgar- wch mwy, gan fod yr urdd yn ei gwedd bresenol yn Nyffryn Tawe yn ei ieuenctyd, ac arni angen nerth a chyfarwyddyd, yr hyn a dderbynia bob amser gyda'r parodrwydd mwyaf gan Mr. Bowen. Oftd at y testyn. Adroddwyd penillion ac englynion ar y cyf- Iwyniad, ac heb hyny ni fuaswn yn ei ystyried yn gyflawn, gan mai yr awen sydd yn celebrato pob cyflwyniad o'r natur yma ac yn eu plith, adroddwyd y rhai canlynol o waith loan Glan Tees: "Englyn neu ddau i Bowen,—a brydaf Ar barodol awen Un a geidw ein goden, Mal trysorydd bydd yn ben. Er rhoi anrheg i Henri,-was addien, Ein swyddgar uchelfri; Mae'n ddyn gwladgar, hygar, i Ddoeth lanw 'i waith eleni. Nid rlioi anrheg,,i Henri,—rhaid cofio'r Bryd eyfiawn i'w dalu Am ei lafur cywir, cu, Heb orchudd haedda 'i barchu." Nis gallwn gymeradwyo y bardd yn cyf- ansoddi englynion mor fratiog a dienaid a'r uchod i foneddwr teilwng, a'u gyru allan trwy y Wasg Seisnig. Shameful! Glan Tees. Ni fuaswn yn gwneyd sylw ohonynt oni b'ai fod y bardd yn abl i wneyd englyn- ion cywir, a bod ei destyn yn haeddu cywir- deb o leiaf. Maddeued y bardd i mi am alw ei sylw at ei esgeulusdod—parch tuag at y boneddwr teilwng, ac eiddigedd tuag at ei ddifaterwch yntau, a'm cymhellodd i wneyd hyn.—Yr eiddoch,
Advertising
PELENI HOLLowAy-Iechyd a Hoenusrwydd- Mae yr afu mwyaf iach ar brydiau yn ddarostyng- edig i afreoleiddiad y peiriant treuliol, ond gellir ar unwaith ddychwelyd trefn trwy gymeryd y Pelenau byd-enwog hyn, y rhai nis gellir eu can- mol yn rhy uchel. Byddai dogn yn awr ac eil- waith yn llesiol i bawb, ond dylai dyn claf gymeryd cwrs o honynt yn rheolaidd. Mae yn rhyfeddol canfod fel y cryfheir yr archwaith a'r treuliad gan y Pelenau hyn; a'r gallu a feddianant i ddwyn y trefniant corfforol i weithrediad iachus. Ychwan- egant at gryfder gewynol a nerth meddyliol y rhai a'u defnyddiant. Mae Pelenau Holloway yn ami In gwellhau clefydau y peiriant treuliol ar ol i bob moddion arall fethu, ac y maent yn neillduol wasanaethgar mewn achosion o anhwylderau yr afu a'r arenau. 366
OGOF OBLANDO.
OGOF OBLANDO. PA BETH A DDAW OHONI 1 MR. GOL.,—Yn nghanol berw a dwndwr, gloewi arfau a son am ryfel, nid peth hawdd yw dyfalu beth ddaw ohoni. Yr oeddem ni, tua'r Ogof yma, wedi arfaethu, pan oedd yr hen flwyddyn ar redeg allan, y buasem wedi cael achos i lawenhau a gorfoleddu cyn hyn ond er siomiant i ni yn ein cartref mynyddig, wele'r cyfan yn yr un man yn union ag oeddynt yn mis Rhagfyr diweddaf, os nad yn waeth. Y Twrc—ie, syr, yr adyn barbaraidd, annynol, ac uffernol, enw yr hwn sydd yn drewi yn ffroenau holl garwyr heddwch, gwareiddiad, a Christionogaeth—wedi gwa- hodd rhai o brif ddynion y prif Alluoedd i'w brif ddinas ei hun, er mwyn ei hyfforddi a'i osod yn mhen ei ffordd, fel y gallai efe deithio yr un llwybrau a chenedloedd gwareiddiedig ereill yn troi y glust fyddar ar bob cynghor da a fyddai yn debyg o'i lesoli ef ei hun, ei ddeiliaid, a'r byd yn gyffredinol. Dyma'r boneddwr y soniwyd am dano yn yr araeth feiddgar, ie, ddwl hono, a draddodwyd yn y Guildhall, Llundain, gan y Gwir Anrhydedd- us Arglwydd Beaconsfield (coffa da am ei enw, ac hwylused ei gamrau i dir ei hir gartref) ar y 9fed o Dachwedd diweddaf, pryd y dywed- odd ei bod yn rhaid i Loegr amddiffyn union- deb, purdeb, a gonestrwydd, y fath adyn di- egwyddor. Diamheu, syr, yr oedd my newly- created Lord Beaconsfield wedi cael touch of Turkey on the brain ar yr adeg hono, a'i fod yn teimlo ei hun fel pe mewn ivhirligig, cyn byth y buasai efe yn rhoddi genedigaeth i'r fath eiriau, yn y fath amser, ac ar y fath achlysur. Yr oedd efe yn gwybod cystal a neb dyn byw, ac wedi cael profi hyny hefyd ar rai adegau, fod yno hen areithiwr hyawdl arall i ddyfod i'r maes, sef Public Opinion, i ddweyd ei farn ar y mater. Hen areithiwr noble yw hwn, syr. Pan y coda efe ar ei draed i siarad, y mae seneddwyr, prif-weinid- ogion, breninoedd, ac ymerawdwyr, yn tewi a gwrando. Nid oes petrusder yn meddwl y mwyaf cyfarwydd, pe b'ai yr hen frawd heb godi ar ei draed i ddweyd ei feddwl, y buasem erbyn hyn hyd ein clustiau mewn rhyfel, a galwad arnom i fyned trwy y Crimean panorama unwaith yn ychwaneg ond diolch fyth, fel arall y bu. Y neb ag sydd wedi darllen ac astudio tipyn o hanes y Twrc oddiar ei ddyfodiad cyntaf i Ewrop hyd yn bresenol, nis gall lai na choleddu y syniadau mwyaf atgas am dano. Nid yw ei hanes, o'r diwrnod cyntaf y troediodd efe ddaear Ewrop hyd y fynud bresenol, ond un pentwr o greulonderau, Hadradau, llofruddiaethau, a phob math o erchylldra ag oedd yn bosibl i anwn allu eu dyfeisio. Trwy rym y cleddyf y sefydlodd efe ei hun yn Ewrop gyntaf, a thrwy rym yr un offeryn y mae efe wedi llywodraethu ei ddeiliaid gorchfygedig oddiar hyny hyd yn bresenol. i mae y Twrc, syr, yn dwyn i'n cof am "Yfory Shon Crydd" y bardd Telynog. Ni welodd Tel., druan, doriad gwawr "yfory" Shon Crydd, ac ni welwn ninau doriad gwawr y dyddiau hir- ddysgwyliedig hyny y soniwyd cymaint am danynt gan y Twrc, sef diwygio tipyn ar ei lywodraeth u-nbenaethol, a phasio deddfau a fyddant yn rhoi yr un chwareu-teg i'r Crist- ionogion ag i'r Mahometaniaid. Y mae efe wedi bod yn addaw peth felly er's ugain mlynedd, oddiar amodau Paris, y rhai a ysgrifenwyd a dagrau miloedd o weddwon ac amddifaid Prydain, ac a seliwyd a gwaed ein milwyr dewr. Trueni, ie, braidd na allem ddweyd ei bod yn bechod o'r fath waethaf, i'r gwahanol Alluoedd Mawrion ganiatau i'r fath ellyll ofnadwy gael anrheithio rhai o'r gwled- ydd ardderchocaf a fedd y byd, a'u troi yn anialdiroedd gwyllt a diffrwyth. Nid yw y Twrc erioed wedi deall y ffordd i ymddwyn yn deg a boneddigaidd, yn deilwng o ddynol- iaeth ac o Ewrop wareiddiedig. Mae un genedlaeth yn gadael y wlad yn union fel y cawsant hi, heb geisio nac ymdrechu am ddiwygiad, ond fel y gorfodir hi. Gyda golwg ar y gynadledd sydd newydd derfynu yn Nghaercystenyn, ni chafodd y Twre yfath fantais erioed o'r blaen, ac odid y caiff efe y fath fantais byth eto. Yn y gynadledd hen, yr oedd rhai o brif diplomatists y byd wedi cyfarfsd a'u gilydd, er siarad a rhesymu yn deg a diduedd, pa gwrs a fyddai oreu ei fabwysiadu er lies tymhorol y Twrc a'i ddeil- iaid gorthrymedig. Ceisiwyd, cynygwyd, a dadleuwyd llawer, ond i ddim pwrpas. Yr un oedd y Twrc y diwrnod olaf a'r diwrnod cyntaf y eyfarfyddodd y cenadwriaethwyr gyntaf, heb syflyd yr un fodfedd; ac yn wir, yn y diwedd, fel pe yn barod i chwerthin am eu penau. O'r hyn lleiaf, darfu iddynt ddangos rhyw ddifaterwch tuhwnt i'r cyffredin. Dywed gohebydd y Daily Neivs (Llundain) na ddarfu i un o gynrychioiwyr Twrci ddyfod i'r farewell meeting a gynaliwyd gan y cenad- wriaethwyr cyn ymadael pob un i'w wlad ei hun. Savet Pacha wedi myned i ryw ddawns, a Midhat, yntau, yn brysur iawn gyda business deuluaidd. Dywed yr un gohebydd fod pob un o'r llys-genadwyr yn teimlo yn highly indignant tuag at y Twrc, oddigerth un boneddwr o Sais, yr hwn, fe awgrymir, sydd wedi bod yn darbwyllo y Twrc trwy yr amser nad oedd Arglwydd Salisbury yn wir gynrychioli teimlad Pr/dain. Y Nefoedd Fawr yn unig a wyr pa faint fydd gan Syr Henry Elliot ac Arglwydd Beaconsfield i ateb yn y dydd olaf, os mai wrth eu drysau hwy y gorwedd gwir achos methiant un o'r cynadl- eddau mwyaf nerthol a welodd y byd erioed. ORLANDO.
Advertising
Ni CHEDWIB HWYNT.—Y mae y cyhoedd yn cael eu rhybuddio yn erbyn peirianau gwnior had- lawn ac o wneuthuriad gwael, y rhai yn fynych a argymellir ar y prynwyr oherwydd yr elw mawr a geir, rhagor rhai o wneuthuriad da, am bris rhes- ymol, y rhai ni chedwir ganddynt, ac yr ydym yn anog prynwyr i fynu gweled Taylor's Patent, a phan na chedwir hwynt, anfoner am y darlunlen at TAYLOR'S PATENT SEWING MACHINE COMPANY, Great Driffield, neu 97, Cheapside London, E. C. 1441.
NEW SOUTFl WALES.
NEW SOUTFl WALES. AT "BRYTHONFRYN." SYR,—Yn gymaint a'ch bod wedi eich pen- odi yn oruchwyliwr dan Lywodraeth Prydain Fawr a, Llywo lraeth Drefedigaethol y lie uchod, i gyfarwyddo dynion i ymfudo tuag yno, y mae genyf awydd cael gwybod dau neu. dri o bethau genych ag y dylai pob un sydd yn bwriadu ymfudo fod yn hysbys o honynt. Nid oes genyf fi yr un bwriad i fyned yno, cofiwch, ac ni lioffwn weled neb arall yn myned yno nac i unrhyw wlad arall, heb fod ganddynt ryw sicrwydd y gallant enill eu bywoliaeth yn gysurus ar ol cyrhaedd. Yn awr, gan mai gweithwyr yn benaf sydd yn myned tuag yno, hoffwn glywed (l.) Pa ran o'r wlad yr ydych chwi yn gymeradwyo iddynt sefydlu ynddi? (2.) Pa leoedd yw y rhai goreu yno i weithwyr? (3.) Pa beth ydyw sefyllfa y gweithfeydd a masnach yno yn ystod y misoedd diweddaf hyn ? (4.) Pa mor gy- surus ydyw ar deuluoedd a phersonau sengl yno yn bresenol? Yn ddiameu bydd gair o wirionedd ar y gofyniadau hyn yn dderbyniol gan lawer heblaw fy hun. Chwi sydd yn bwriadu myned tuag yno, arafwch, hyd nes y eewch sicrwydd o hanes y lie yr ydych yn myned iddo cyn cychwyn. Credaf na hoffech fyned o wlad dlawd i dlotach. Cewch air eto ar ol cael atebion gan Mr. Griffiths. Hyd. hyny-Eich cyfaill, REES T. WILLIAMS. Treherbert, Ionawr 30.
NODWEDDION Y CBOPWB.
NODWEDDION Y CBOPWB. MR. OOL.Mae cryn siarad ac ysgrifenu ar bwnc y Cropwr yn bresenol, a gall y bydd. ychydig nodiadau ar nodweddion y Cropwr yn dderbyniol gan eich miloedd darllenwyr, gan fod y cwestiwn yn dal cysylltiad agos & nifer mawr ohonynt. Y Cropwr, yn y cyf- lawniad o'i ddyledswyddau, a raid fod ya ddyn calon galed a digon o bres ar ei wyneb i wneyd pob peth a ofyna ei feistr iddo i'w gyflawni. Mae yn efynol i'r Cropwr fod yn ddyn a fyddo wedi ymwerthu i'r cythraul, fel yr hen bwyswr hwnw gynt oedd yn gosod i lawr ddeunaw cant yn lie tunell, pan oedd y dram yn pwyso tunell a phump cant. Rhaid i'r Cropwr fod yn ddyn ffals, dauwynebog, a gwenog heb hyny, ni bydd yn hir yn y swydd fel Cropwr. Bydd y* ofynol ei fod ya feddianol ar doraeth lied dda o hunan- gyfiawnder, er mwyn gallu dangos ei hun ya weddol ddefosiynol yn y capel neu yr eglwys. Hawdd maddeu iddynt pe y boddlonent ar ambell i gareg neu bresen ambell dro ond nid digon hyny, rhaid cymeryd y dram i gyd yn ami. Mae cydwybod y Cropwr wedi ei serio gan haiarn wedi cael ei boethi seith- waith yn ffwrnes y fagddu. Ei brif amcan ydyw bod yn ddyn mawr gyda'r arolygwr a'r perchenog, yna ni bydd un pwys i'w osod ar wirionedd a chyfiawnder. Gwiria yr hen ddiareb Gymreig sydd yn dweyd am osod cardotyn ar gefn ceffyi, a bydd yn un o'r gyp- wyr goreu yn y wlad. Felly yn union pan osodir hen gynffonwr ffals i fod yn Gropwr, ni cheir ei gyfrwysach pe y manwl chwilid byddin Lucifer. Yr wyf wedi hen adnabod y tylwyth hy., fel nad oes modd i mi fethu yn fy narluniad o'r gwagymhonwr annghyf- iawn. Dywedir fod glofa heb fod ugain milldir o swyddfa y GWLADGARWR, a bod yno Gropwr doniol yn cael y tal tywysogaidd o bump swllt y dydd, ond fod haner y cyflog yn cael ei wasgu allan o fer a gwaed y gweithiwr. Mae y pwnc i gael sylw pellach, felly ofer manylu yn awr i aros adeg mwy cyfaddas, pan bydd amser a gofod yn can- iatau. Hyd hyny y gorphwysaf, yr eiddoch, TWMI O'R BWLLFA.
RHAGOR 0 OLEU YN ABERDAR.
RHAGOR 0 OLEU YN ABERDAR. MR. GOL.Mae rhywun a eilw ei hun yn Drethdalwr, yn eich GWLADGARWR am yr wythnos ddiweddaf, yn siarad am gynildeb a. gofal rhag gwasgu ar y tlodion, yn llawn cystal ag y bu Judas Iscariot yji ei fan goreu. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am roddi lie i bawb draethu eu meddyliau. Nid fy amcan ydyw gwrthwynebu y Trethdalwr er mwyn gwrth- wynebu, end er mwyn cyfiawnder i'r rhai sydd yn aros mewn tywyllwch. Mae lawer yn hawddach i bobl Aberdar, lie mae heolydd da, i fyw heb gas, nag ydyw i bobl Cwmbach a Chwmaman, y rhai sydd mewn perygl o'u bywydau yn y tywyllwch ar hyd heolydd gwarthus. Os ydyw Ward No. 4, y South Ward, yn talu treth at oleuo heolydd yn rhywle, onid cyfiawn iddynt gael y goleuni fel lleoedd ereill o fewn y pi wyf ? Yr wyf yn meddwl mai cyfiawn fyddai i'r Bwrdd wneu- thur un o dri pheth, sef rhoddi lamps newydd- ion ar gyfartaledd i'r maesdrefi, fel y pentreL Aberaman, a Threcynon, gan eu bod yn talu trethi yr un fath neu iddynt ranu yn gyf- iawn y lamps sydd yn bresenol rhwng y pen- tref a'r maesdrefi; tynu ymaith ryw nifer 0" Aberdar, Aberaman, a Heolyfelin, a'u rhoddi rhwng y lleoedd sydd heb yr un. Neu, os na foddlonir i un o'r ddau a nodais uchod, tyner ymaith yn hollol y lamps sydd yn bresenol, a doder hwy i fyny yn y manau nad oes yr un hyd yn hyn, ac iddynt fod yn goleuo yno am gynifer o flynyddoedd ag y maent wedi gwasanaethu y lleoedd lie y gwasanaeth- ant yn bresenol; eithaf cyfiawn fydd cael ein goleuo ar yn ail dymhor, os na ellir fforddio i bob rhai^gael ychydig oleuni yn y nos, heb- law goleu y lleuad pan yn Hawn. Dichon na fydd fy rhesymau ond fel gwegi yn ngolwg y Trethdalwr, ond fe fydd canoedd sydd ar dori eu gyddfau yn y tywyllwch yn gweled fod ynddynt gyfiawnder.-Yr eiddoch, TRETHDALWR ARALL.
DARLLENFA A LLYFRGELL NEWYDD…
DARLLENFA A LLYFRGELL NEWYDD ABERDAR. MR. GOL.-Er pan ysgrifenasom o'r blaen ar y pwnc uchod, y mae yn dda genym ddeall fod pwyllgor y mudiad wedi cyfarfod ddwy waith, yr hyn a rydd foddlonrwydd mawr i lawer heblaw nyni. Deallwn fod y pwyllgor
OENIN A'[ NODIA DA U.
Gellid meddwl fod y bodsawd pwysig c, Oenin wedi cael ei fodolaeth i'r dyben o ddechreu cyfnod newydd yn hanes yr ardal dawel hon, oherwydd ni fu ein mangre wledig yn faes y gad erioed o'r blaen ac mae trigol- ion y Ton o'r farn y buasai yn well i'r <1 Oenin i lechu yn nghesail ei fam ar goryn y mynydd, na cheisio briwio eu cymeriadau ar faes newyddiadur mor boblogaidd, a hyny mewn arddull a chwaeth sydd yn hollol annheilwng o newyddiadur Cymreig. Yr oedd dwyn un o fechgyn parchus yr ardal i •golofnau y GWLADGARWR, ar y 12fed o Ion., ) dan enwau isel (nicknames) yn gosod yr Oenin hwn yn ddirmygus yn ngolwg pob dyn o chwaeth, ac yn droseddiad anfaddeuol ir ddeddfau moesgarwch a diwylliad y oedwar-,edd ganrif ar bymtheg. Daw allan dan yr enw Oen," ond mae ei weithredoedd yn dangos mai blaidd rheibus ydyw. Gwisga fantell o ffug-sancteiddrwydd "Sr mwyn i ereill gredu ei fod yn teimlo dros annuwioldeb y cyfarfodydd llenyddol, ond hawdd gweled mai ei brif amcan ydyw rhwygo cymeriadau y llenorion, a rhegi y pwyllgor am wrthod rhoddi digon o le i'w hunanoldeb cf ar yr esgynlawr. Yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf, yr wyf wedi cyfarfod a lluaws o athrawon gau ar faes y GWLADGARWR, ond mae yr "Oenin" mewn chwaeth isel, dirnadaeth arwynebol, a thlodi meddwl, yn curo y rhelyw o'i frodyr. Mae moesgarwch yn gorchymyn iddo i ymneillduo o faes llen- yddiaeth, o dan fantell cywilydd, i blith an- wybodusion iselaf dinodedd. Y gwan Oenin," gwenwynig—ci foesau, Isel, annghoethedig; Anian ddaoth &nwn ddig, Yw anian ddrwg yr Oenig." 35r mwyn profi hyn, taflwn olwg dros ei lith "diweddaf; ond rhaid addef mai gorchwyl •^anhawdd ydyw hyny, gan fod ei holl lith yn iollol amddifad o resymau, aw mae yr hyn geisid ei ddwyn yn erbyn y cyfarfod yn diflanu o flaen mynud o ystyriaeth fel mwg 'O flaen y gwynt, fel nad oes dim yn aros ond -crug o ensyniadau enllibus. Wedi gwneyd ei gyfeiriadau brwnt at un o'r areithwyr, dywed, Ni ddywedodd ef fawr gwir am Byron, a dywedodd lawer o rywbeth hefyd. Dywedodd mai ei oedran ;yn marw oedd 37, pan mae pob geneth 15eg Qed yn gwybod nad oedd ond 36 oed yn marw." Wel, a gadael ei fod wedi gwneyd --Carngymeriad o flwyddyn yn y ffigyrau uchod, mae hyny yn dygwydd yn fynych gyda ein hareithwyr proftesedig wrth drin ffigyrau, .Y ^ttd nid wyf yn cofio gweled neb mor ynfyd .a':} edliwio hyny iddo ar faes newyddiadur .gyda',r fath awgrymiadau sarhaus a chlogyrn- Og. Ond Ah! "Oenin" bach, pa un o'r genethod pymtheg oed sydd wedi gwneyd • cymaint o ffyliaid ohonynt eu hunain a tlfi ? Tro dy gffn ar y genethod, a dos i'th fyfyr- gell, os oes genyt un i gael, a rhwloia dy lygaid fel y gwelot yn eglur, ac yna cei weled dy fod wedi bradychu dy anwybodaeth yn fawr trwy ddweyd mai 36 oedd oed Byron yn Marw. Cloddiaist bwll i ddal dy gymydog, ond syrthiaist iddo dy hun. Yr wyt heb ddysgn A B 0 y critics eto. Gyda golwg ar amddifadu Byron o'i an- rhydedd, ni cheisiodd neb wneyd hyny ond am fod Oenin wedi nodi gweithiau Byron fel safon jDurdeb llenyddiaeth, dangoswyd iddo ei fod wedi gwneyd camgymeriad dybryd. Pe buasai wedi nodi Byron ar gyfrif ei allu a'i athrylith farddonol, buasai yn gywir; ond -mewn purdeb, mae gvveithism Eben Fardd, Gwilym Hiraethog, Dewi Wyn, &c., lawn mor deilwng o'n cyfarfodydd llenyddol, er fod Oenin wedi ceisio eu sarhau ar draul dyrchafu y bardd Seisnig. Mai nid yn mhurdeb ei weithiau mae rhagoriaeth Byron, sydd wedi cael ei brofi gan brif feddylwyr yr oes. Dywed Dr. William Smith am y cyfan- Boddiad mwyaf sydd ganddo :—"It is, indeed, one of the most significant production -of the age of revolution and scepticism which preceded its appearance." Dywed Oenin mai few and far between ydyw y llinellau hyny ond dywed Dr. Smith, The tone of morality is throughout very low and selfish, -even materialistic." Gellid dyfynu golygiadau lluaws yn .ychwaneg, ond dichon fod eich bwrdd yn rhy lawn i ganiatau gofod yn bresenol, Mr. Gol., a dichon fod Oenin y Ton yn ystyried ei farn ei hun yn bwysicach na doctoriaid Lloegr, Pwy all gytuno pan mae y doctor- iaid yn methu 1 Mewn cysylltiad a swnio Stratford-on- Avon yn Stratford-on-Haven, nid ydyw ond ,-ymgais gywilyddus i bigo brycheuyn. Dichcn iddo osod yr h i fewn, er na chlywais neb yn dweyd hyny ond yr Oenin rhagfarnllyd hwn a gwyr pob un sydd yn hyddysg yn yr iaith hono mai Stratford-on-Aven y swnir yr enw gan y Saeson coethedig. Wele fi wedi myned dros brif linellau llythyr yr Oenin," a hawdd vdyw i bob un sydd wedi ein dilyn i weled naa oedd ei holl osodiadau ond truth o eiddilwch rhagfarnllyd. —Yr eiddoch, T.