Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

FICER WAKEFIELD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FICER WAKEFIELD. GAN OLIVER GOLDSMITH. Wvfieithiad neillduol i'r GWLADGARWR.] PENOD XXXII. Y Diwedd. T BOREU nesaf, can gynted ag y deffroais, cefais fy mab hynaf yn eistedd wrth ochr fy ngwely, yr hwn a ddaethai i gynyddu fy llaweoydd gyda thro arall o ffortiwn yn fy ffafr. Yn gyntaf, wedi fy rhyddhau oddi- wrth y cytundeb a wnaethum y dydd o'r "blaen yn "ei ffafr, hysbysodd fi fod fy mar-- jsiandwr, yr hwn a fethasai yn y brifddinas, wedi ei ddal yn Antwerp, ac yno wedi ihoddi fyny eiddo oedd lawer yn fwy na gwerth yr hyn oedd ddyledus i'w ofynwyr. Darfu i haelfrydedd fy machgen fy modd- hau gymaint a'r ffortiwn annysgwy-liadwy hon. Ond yr oedd yflwyf rai amheuon pa un a ddylwn o gyfiawnder dderbyn ei gynyg. Tra yr oeddwn yn myfyrio ar hyn, daeth Syr William i'r ystafell, i'r hwn yr hysbvsais fy amheuon. Ei opiniwn oedd kyn) gan fod fy mab yn meddu ar ffortiwn fewr trwy ei briodas, y gallwn dderbyn ei gynyg yn ddibryder. Ei neges, fodd bynag, oedd i'm hysbysu, gan iddo y nos o'r blaen anfon am y trwydaedau, ac yn eu disgwyl bob awr, gobeithiai na fyddai i mi wrthod fy nghynorthwy i wneyd yr holl gwmni yn ddedwydd y boreu hwnw. Daeth troed- was i fewn tra yr oeddem yn siarad i ddweyd wrthym fod y genad. wedi dy- vhwelyd; a chan fy mod erbyn hyn yn barod aethum i lawr, lie y cefais yr holl gwmni mor llawen ag y medrai cyfoeth a diniweidrwydd eu gwneyd. Fodd bynag, gan eu bod yn awr yn parotoi ar gyfer seiemeni ddifrifol, darfu i'w chwerthin fy anfoddloni yn hollol. Dywedais am yr agwedd sobr, weddus, a mawreddog, ddylai fod arnynt ar y fath achlysur, a darllenais iddynt ddwy bregeth-wers fechan mewn trefn i'w parotoi; eto ymddangosent yn berffaith afrywiog ac aflywodraethus. Hyd yii nod with fyned yn ml&en tua r eglwys, fr hon yr oeddwn yn eu harwain ar y ffordd, yr oedd pob difrifoldeb wedi eu llwyr adael, a themtid fi yn ami i droi yn 01 mewn llidiogrwydd. Yn yr eglwys, cododd anhawsder newydd, yr hwn nid oedd yn hawdd ei benderfynu; hyny ydoedd, pa bar oedd i gael eu priodi gyntaf. Yr oedd priodferch fy mab yn myntumio mai Arglwyddes Thornhill (yr hon oedd i fod) ddylai gymeryd y blaen; ond gwrth- edai y llall gyda gwresogrwydd cyfartal, gan dystio na fyddai hi ddim yn euog o'r fath anfoesgarwch am y byd. Dygid y ddadl yn mlaen am ryw gymaint o amser xhwng y ddwy ochr gydag ystyfnigrwydd a dygiad da i fyny ag oedd yn gyfartal. Ond gan fy mod yn sefyll yr holl amser liwn a'm llyfr yn barod, yr oeddwn o'r diwedd wedi blino yn hollol ar y ddadl, a chan ei gau, dywedais,- Yr wyf yn gweled nad oes yn yr un ohonoch feddwl i gael eu priodi, ac yr wyf yn meddwl y byddai eystal i mi ddychwelyd eto, canys yr wyf yn tybied na fydd dim busnes i gael ei wneyd yma heddyw." Darfu i hyn ar unwaith eu dwyn i reswm; y barwnig a'i foneddiges briodwyd gyntaf, ac yna fy mab a'i gymdeithes gariadus. Yr oeddwn yn flaenorol y boreu hwnw vedi rhoi eirchion am i gerbyd gael ei tfdanfon am fy nghymydog gonest Flam- borough a'i deulu, ac erbyn i ni ddychwelyd i'r gwesty, cawsom y pleser o ddeall fod y ddwy Miss Flamborough yno o'm blaen. Hhoddodd Mr. Jenkinson ei law i un, ao arweiniodd fy mab Moses y llall i fyny; ac yr wyf wedi cael alian oddiar hyny ei fod yn wir hoff o'r ferch; a'm eydsyniad a'm cynysgaeth a gaiff, pa bryd bynag y tybia yn briodol i ofyn am danynt. Nid cynt y dychwelasom i'r gwesty nag y daeth niferoedd o'm plwyfolion, wedi clywed am fy Uwyddiant, i'm llongyfarch; ond yn mysg y lleill oedd y rhai a godasant i'm gwaredu, a'r rhai a geryddaswn yn flaen- orol gyda'r fath fywiogrwydd. Dywedais yr hanes wrth Syr William, fy mab-yn- nghyfraith, yr hwn a aeth allan a cherydd- odd hwynt yn dra llym; ond wedi eu gweled yn digaloni wrth y cerydd, rhodd- odd iddynt haner gini yr un i yfel ei iechyd, a chodi eu hysbrydoedd. Yn fnan ar ol hyn galwyd ni i wledd foneddigaidd, yr hon a barotoisid gan gogin- ydd Mr. Thornhill. Ac ni fyddai yn an- mhriodol sylwi, gyda golwg ar y boneddwr hwnw, ei fod yn awr yn byw fel cydym- aith mewn ty perthynas, yn cael ei hoffi yn dda, ac yn anfynych yn eistedd wrth ochr y bwrdd, oddigerth pan na fyddo lie wrth y llall, canys nid ydynt yn gwneyd dyeithr- yn ohono. Cymerir ei amser i fyny yn bur llwyr mewn gofalu am ei berthynas, yr hwn sydd ychydig yn bruddglwyfus ei ysbrydoedd, ac mewn dysgu chwythu yn y corn Ffrengig. Y mae fy merch henaf, beth bynag, yn para i'w gofio gyda hiraeth, ac y mae hyd yn nod wedi dweyd wrthyf, er fy mod yn ei gadw yn secret, pan fydd iddo ef ddiwygio y gall y bydd iddi roi jffordd. Ond i ddychwelyd (canys nid wyf yn arfer crwydro fel hyn) pan oeddym yn myned i eistedd i giniaw, yr oedd ein seremon'iau yn myned i gael eu hadnew- yddu. Y cwestiwn oedd. pa un a oedd fy merch hynaf i eistedd uwchlaw y ddwy briodferch ieuanc; ond torwyd y ddadl yn fyr gan fy mab George, yr hwn a gynyg- iodd fod y cwmni i eistedd fel y mynent- pob boneddwr yn ochr ei foneddiges, Der- byniwyd hyn gyda chymeradwyaeth mawr gan bawb, oddigerth fy ngwraig, yr hon, fel y gwelwn, nid oedd yn hollol foddhaol, gan ei bod yn disgwyl caelyplesero eistedd ar ben y ford, a thori cig i'r holl gwmni. Ond er hyn oil, mae yn anmhosibl darlunio ein digrifwch. Nis gall&f ddweyd pa un a oedd mwy o wit yn ein pJith yn awr nag arfer, ond yr wyf yn sicr fod genym fwy o chwerthin, yr hyn a atebai'r dyben cystal. Un Joke wyf yn gofio yn neillduol: yr oedd yr hen Mr. Wilmot yn yfed at Moses, gwyneb yr hwn oedd wedi ei droi i gyfeir- iad arall, atebodd fy mab, Madam, yr wyf vn diolch i chwi." Ar hyn darfu i'r hen foneddwr wincio ar y gweddill q'r cwmní, a sylwi ei fod ef yn meddwl am ei feistres. Wrth hyn tybiwn y byddai i'r ddwy Miss Flamborough farw gan chwerthin. Cyn gynted ag yr oedd ciniaw drosodd, yn ol fy hen arfer, deisyfais am i'r bwrdd gael ei symud ymaith i gael y pleser o weled fy nheulu oil unwaith ar aelwyd siriol. Eis- teddai fy nau fychain un ar bob penlin, a'r gweddill o'r cwmni gyda eu partneriaid. Nid oedd genyf yn awr ddim tu yma i'r bedd i'w ddymuno, canys yr oedd fy holl ofalon drosodd, a'm pleser yn annhraethol. Nid oedd dim yn awr yn aros, ond i'm diolchgarwch mewn ffortiwn dda fod yn fwy na'm hymostyngiad blaeLorol mewn adfyd. DIWEDD.

Eisteddfod y Tabernacl, Maesteg,…

ABERYSTWYTH.

[No title]

Yr Eisteddfodau Presenol.I

LLANELLI.

[No title]

Nodiadau Cerddorol.

ABERTAWE.