Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Siop yr Eilliwr.

Yr Eisteddfod Genedlaethol.

------.--------------Colli…

Y DIAFOL YN EI GERBYD.

Y DIWEDDAR DAFYDD RHYS THOMAS,

YNYSMEUDWY.

YSTRAD RHONDDA.

--------TON, YSTRAD.

Advertising

BLAENAFON.

BLAENAU.

O'R GORLLEWIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R GORLLEWIN. (Allan o newyddiadurcm Cymreig America). Gweithia gweithfeydd peirianau y Balwin, Philadelphia, ar archebion o Cuba a South America, ac y mae ganddynt 1,039 o ddw.ylaw. Y mae gweithfeydd olew y Standard, Cleve- land, wedi cyflogi 111 o wneuthurwyr berwed- yddion, i wneyd cant o oil tanks newyddion at eu masnach.. Dim end tri o byllau sydd yn gweithio yn foundry Warren, Phillipsburg,. New Jersey. Gall y gwaith eang hwn docldi 100 tunell a haiarn pig bob dydd. KNiGHTSviLLE, INDIANA.—Masnach lo yn weddol o fywiog. Byddai yn lawer gwell pe celid fwy o R. R. flats. Mae cwmni y felin a'r ffwrneisi wedi lesio tir glo yn agos i'r lie, ac yn bwriadu gweithio'r glo yn fuan. Go- beithir y cychwyna y felin a'r ffwrnes cyn bo hir. "Araf iawn yw'r gweithfeydd yn Hyde Park, ar yn ail wythnos ydym yn gweithio. Rhwng naw a deg shift fydd genym trwy'r mis dan y D. L. & W. R. R. Co." Nid yw melin Belfont, Ironton, Ohio, wedi rhedeg ond 27 wythnos yn ystod y flwyddyn ddiweddaf 19 wythnos y chwech mis cyntaf, ac wyth wythnos y chwe' mis olaf. O'r unarddeg ffwrnes blast sydd yn Pitts- burg, y mae pedair yn segur. Maent wedi darganfod mynydd haiarn tua thriugain milldir o Duluth, Minnesota, yr hwn sydd yn wyth milldir o hyd, milldir a. haner o led, a 1,200 o droedfeddi uwchlaw llyn Superior. Dyma farn y Wasg (America) am Miss Marian Williams: — Llongyfarchwn y Gymraes ieuanc athrylithgar, Miss Marian Williams, ar ei gyrfa lwyddianus yn yr Athrofa. Gerddorol Freninol. Yn ychwan- egol at y safle uchel a gyrhaeddodd yn yr arholiadau blaenorol, hi a orchfygedd nifer luosog o gydymgeiswyr galluog drwy enill y Westmoreland Scholarship eysylltiedig ar sefydliad clodfawr uchod." [Bydd Miss Williams yn cynrychioli "Dalila" yn Samson yn Aberdar, dydd Gwener y Groglith nesaf, yn Nghyngherddau yr Undeb Corawl.] MAR WOLAETHA U. Hydref 25ain, 1876, o'r darfodedigaeth, yn 41 mlwydd oed, Hopkin Davies. Ymfudodd ef a'i wraig i'r wlad hon yn agos i bum' mlynedd yn ol, o Creynant, sir Forganwg, lie yr oedd yn enedigol. Bu y cyfaill yn dilioeni am yn agos i" ddwy flynedd. Boreu dydd Mawrth, Ionawr 16eg, pan ar ei ffordd i'r ysgol, boddodd John Hughes, chwe' mlwydd oed, mab Mr. Evan Hughes a'i briod, pa rai sydd yn byw- yn Thompson Run, ger y lie uchod. Pobl o Droedyrhiw, sir Forganwg, ydyw Mr. Hughes a'i briod. Claddwyd y gweddillion y dydd canlynol yn ngladdfa y lie uchod. Yn Nanticoke, Pennsylvania, William P. Hughes, yn 50 mlwydd oed. Bu yn dihoeni am rai misoedd, ond ni bu ei gystudd olaf ond byr. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol, a diau fod eu colled yn fawr, er y credwn fod y symudiad wedi bod yn elw iddo ef. Gan- wyd Wm. Hughes yn Glanybad, ger Caerdydd. Ymunodd a'r Bedyddwyr yn Rftydfelen, Mor- ganwg, er ys ugain mlynedd yn ol. Claddwyd ef ger Plymouth, y Parch J. P. Harries yn gweinyddu.

BRYSTE.

GWAELOD-Y-GARTH.

[No title]