Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
GALLUOEDD Y MEDDWL.
GALLUOEDD Y MEDDWL. Yr oedd anianyddiaeth naturiol yn ei chyflwr babanol am yn ages i ddwy fil o flynyddau wedi i fesureg gyrhaedd i'w Surfarddercbog, eanys nid yarddengt s fod aniatyddiaeth naturiol wedi ei h adeilad u ar sylfaen sefydlog, nac wedi ei cbario i unrhyw radd o addfedrwydd byd yr ail ganrif ar bymtheg. Yr oedd cyfundraeth Dçs Cartes, yr boll o ba un oedd yn dyfc- osodiadau, yn ffynu yn rhanau mwyaf goleuedig Ewrop hyd derfyn yr ail ganrif ar bymtheg. I Syr Isaac Newton y perth- yn yr anrhydedd o roi y ffurf o wyddor i'r i'r gaiighen hon o athroniae-th; ac ni raid iddi ymdda'egos yn rhyfedd os bydd an- ianeg y meddwl dynol ganrif iiea ddwy eto yn ddiweddarach cyn cyrhaedd addfed rwydd. Derbyaio ld ychwarse^iadan mawr ion oddiwrth lafur amryw awdwyr diwedd- ar, megys, Locke, Hied, Syr W. Hamilton, Dugald Stewart, ac ereill, end dichon y gsll fod arni angen ychydig yn fwy eto cyn y gall hawlio y teitl o wyddor; a rhald ei phuro o lawr tyb-osodiad, y rbai arweiniasaot amryw ysgrifenwyr i amheu- aeth. Geill ddigwydd mewn gwyddor fel mewn' adeilad, fod gwall yn y sylfaen yn gwanhau yr oil, a pha fwyaf y dygir yr adeilad yn mlaen, daw y gwendid hwn yn fwy eglur ac yn fwy bygythiol. Ym- ddengys fod rhywbeth cyffelyb i hyn wedi cymeryd lie yn eia cyfandraethau o berth- ynas i'r meddwl. Y mae ychwanegiadau a dderbyniasant oddiwrth ddarganfyddiadau diweddar, er yn bwysig iawn ynddynt en hunain, wedi taflu caddug o dywyllwch dros y cyfan; ac wedi arwain dynion yn hytrach i amheuaeth nag i wybodaeth. Rhaid fod hyn yn ddyledus i ryw gyfeil iornadau sylfaenol nad ydynt wedi eu can- fod; a phan gywirir y rhai hyn, gellir gobeithio y bydd i'r gwelliantau a wnaed firael eu heffaith ddvladwv. Y ffrwyth olaf y sylwaf arno o'r an- hawsder i wneyd ymchwiliadau i alluoedd y meddwl yw, nad oes braidd un ran arall o wybodaeth ddynol, yn mha un y mae awduron medrus wedi bod yn dueddol i redeg i annghyfdvbiaethau dyeithr, ac hyd yn nod i ffoliaebau dybryd. Pan gawn athronwyr yn honi nad oes gwres mewn tan, na dim lliw yn yr enfys—pan geir yr athronwyr mwyaf difrifol o Des Cartes i lawr hyd Esgob Berkeley yn ceisio casglu jhesymau i brofi bodoiaeth byd materol, ac yn acalluog i ddod o hyd i tturhyw resym- au a ddalmnt archwiiiaeth; pan yr ydym yn cael Esgob Berkeley a Hume, arddan- soddwyr mwyaf treiddgar yr oes aeth heibio, yn honi nad oes y fath beth a mater yn y bydysawd—nacfyw yr haul, y lloer, y ser, y byd a brcswyliwo, ein cyrff ein hunain ac eiddo ein cyfeillion, yn ddim amgen nag amgyffrediadau neu ddirnad- aethau yn ein meddyliau ein hunain, ac Dad oes dim mewn natur ond meddyl- ddrychau ac argraffiadau, heb un sylwedd ar ba un eu hargreffir; nad oes wir debyg- olrwydd mewn arwireddau (axiomsJ mesur- onol; dywed wn, pan ystyriom y fath I wylltineb a hyn o eiddo llawer ysgrifenydd galluog, yr ydym yn barod i feddwl nad vw yr oil ond breuddwyd dynion gwag- ddychymygoi, y rnal jdjct wedi yuiudjTJsu yn y rhwydwaith a nyddwydd allan o'u liymenyddum eu hunain. Ond dylem ystyried mai pa fanylaf a chywreiniaf y rhesyma dynion oddiar dwyll-egwyddorion, mwyaf oil fydd y gwrthuni yr arweinir ,hwynt iddo; a phan fydd i'r cyfryw wrth- uni fod yn gycorthwyol i ddwyn i'r goleu y twyll-egwyddorion oddiwrth ba rai y deill- iodd, bydd yn hawddach maddeu iddynt. Nid ymgymeriad dibwys, ad nid gorch- wyl hawdd yw traethu ar y meddwl dynol a'i alluoedd, ond gwnawn ein goreu yn y sylwadau dilynol i egluro ein syniadau o barthed iddo. Arweinir ni yn awr i sylwi:— I. AR Y UHANIADAU o ALLUOEDD Y MEDDWL. Yn y pwnc hwn. braidd y ceir un dau athronydd meddyliol i gydolygu, ac nid oes un rhaniad wedi ei gynyg ir byd ar nad yw yn agored i lawer iawn o wrth- resymau. Dywed Eeid fod galluoe ld y meddwl yn g if-edm yn cael ea rlianu i'r deall a!r eivyllys, tra yr hona S} r William Hamilton nad yw hwna ond y rhaniad gwerinol a chyffredin a ddaeth i lawr trwy yr oesau odliwrth Aristotle a'i ddisgyblion. Yn ol dysgeidiaeth Aristotle, y mae yr ewyllys yn cynwys y pwerdu gweithredol y galluoedd wedi eu dwyn i waith ac ymarferiad, neu i ddyianwadu ar y meddwl i weithredu, megys chwantau, nwydau, a aerchiadau. Dywed yr un gwr a'i gaolyn- wyr, fod y deall yn cynwys eiu galiuoedd myfyriol, trwy ba rai y byddwn yn am- gyffred gwrthddrychau, neu yn eu cofio, a chyda pha rdi yr ydym yn eu dadansoddi a'u cyfuno—eu barnu, a rhesymu o barthed iddynt
[No title]
Perfformir Samson" yn Nghasnewydd Clun y Pasc gyda cherddorfa ac organ. Bydd .xcursion rad yn cychwyn o Aberdar, d-rwy Pontypool, yn y boreu.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. Ymddengys fod rhai o'n gohebwyr yn teimlo dros urddas ac anrhydedd yr hen sefydliad cenedlaethol— YR EISTEDDFOD, ac y maect yn ein rhifynau diweddaf yn cynyg rhai awgrymiadau tuag at ddiwyg- iad. Diau fod yr elfen arianol wedi dyfod yn un gref a phwysig mewn cysylltiadau eisteddfodol, ac mai mater o £ s. d. yw hi gan lawer un. Rhaid i'n gohebwyr gofio. er hyny, fod yn rhaid cael y ceiniogau cyn y gellir cario eisteddfod yn mlaen yn hwyl- us. Y mae, er hyny, lawer amod a rheol yn perthyn i'n heisteddfodau ag y byddai yn dra dymunfil i'w symud. Dyna reol o hanfodiad diweddar, a sawr yr arian yn drwm arni, yw "Cedwir pris tocyn blaen- sedd ar y buddugol." Yn awr, pe byddai y buddugol yn dygwyad bod yn bresenol, gallai mai nid yn y flaensedd y gwnai ef eistedd,. ond yn yr olsedd. Clywsom gerddor o fit, y dydd aiall, yn dweyd iddo enill gwobr am gyfansoddiad. cerddorol mewn eisteddfod yn Nghymru Nid oedd efe yn bresenol na cbybrychiolydd iddo, a dyma yr ysgrifenydd yn danfon y pres iddo, ond y tocyn blaensedd, with gwrs, wedi sisiyrno ymaith. Ei syniad ef am hyny oedd fod rhywbeth mor ien yn yr ymdrafodaeth—dim magnanimity o gwbl, na dim yn deilwng o'r heu sefydliad eistedd- fodol. Yr ydym yn credu, hefyd, y dylai mymryn bach vn fWy 0 ofal am ddirgeiiad gael ei gadw rhwng pwyllgorau, ysgrifen- yddion, a beirniaid. Rywfodd neu gilydd, deuir i wybod yn lled rigil gan amryw pwy fyddant y cystadleuwyr mewn rhai eistedd- fodau. Ni ddylai hyn fod, a gobeithio y gwelir diwygiad yn y cyfeiriad h;kn. Byddai yn dda genyvn ni weled yr hen eisteddfod yn ail wisgo ei hurddas hynafol, ac y mae yn sefyll ar law y genedl iddi fod felly. Yr ydym yn deall fod conglau plwyf Aberdar, Aberaman, a Chwmaman, wedi dyfod allan yn holl angerdd eu llidiawg- rwydd yn erbyn v mudiad i gael treth at y DDARLLENFA NEWYDD yn Aberdar, a chafwyd cyfarfod ystormus yn y Neuadd Ddirwestol dydd Gwener. Dyweded y cynhyrfwyr hyn y peth a ddywedont, yr ydym ni yn beiddio dweyd, yn ngwyneb eu holl dwrw a'u taranau, nad yw hi yn un plufyn yn nghap Aberdar ei bod heb yr un ddarllenfa na rhvdd na chaeth o fath yn y byd yn 1877. Lleoedd bychain, haner maint Aberdar, yn gallu ymffrostio yn eu darHenfeydd, ac Aberdar fawr ei bri heb yr uu Pa beth sydd yn neddf y dreth ceiniog y bunt yn anymarferol i Aberdar yn fwy na thretydd ereill, lie mae yn gweithio yn ardderchog ? A beth yw ystyr yr holl fwg a mellt sydd wedi bod yn gwau yn ddiweddar ? Tebyg nad oedd rhai o'r grwgnachwyrhyn yn gwario Ikwer chwech yn y flwyddyn am yr hyn nid ydyw fara, oc eto yn anfoddlon rhoi ychydig geiniogau o dreth i ddodrefnu a choethi meddyliau bechgyn gweithiol Aberdar a'r cylchoedd! Gwir fod opposition mawr wedi bod i'r pare flynyddau yn ol, ond y mae psfwb a'i rhodia heddyw yn d ganmol ac yn canmol yr idea o fyned i'r draul i'w wneyd. Ar gyfer adioniant i'r corff, dealler, y bwriadwyd y pare, ac addefwn ei bod o bwys gofalu am y corff; ond nid yw y corff, yn y diwedd, ond y gragen sydd am y boneddwr ysbrydol sydd yuo yn preS- wylio. Dyma gynyg ar droed yn Aberdar i gael ymborth ac adloniant i'r boneddwr hwnw, ond wele'r batteries yn dyfod i Gwmaman, Cwmdar, a Chapcoch, ac yn chwystrellu bygythion trwy y Cwm Un peth a ddywedwn. Hwyaf i gyd y bydd Aberdar heb ddarllenfa gyhoeddus, hwyaf i gyd fydd ei henw a'i hanes dan warth ac anfri.
Advertising
BREAKFAST — Epps's COCOA. — GRATEFUL AND COMFORTING.—"By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of diges- tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well-selected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a deli- cately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be gradually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hundreds of subtle maladies are floating around us ready to attack wherever there is a weak point. We may escape many a fatal shaft by keeping ourselves well forti- fied with pure blood and a properly nourished frame.Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Sold only in packets labelled James Epps and Co., Homoeopathic Chemist- London." L332 NI CHEDWIR HWYNT.—'Y mae y cyhoedd yn cael eu rhybuddio yn erbyn peirianau gwnior had- lawn ac o wneuthuriad gwael, y rhai yn fynych a argymellir ar y prynwyr oherwydd yr elw mawr a geir, rhagor rhai o wneuthuriad da, am bris rhes- ymol, y rhai ni chedwir ganddynt, ac yr ydym yn anog prynwyr i fynu gweled Taylor's Patent, a phan na chahuir hwynt, anfoner am y darlunlen at TAYLOR'S PATENT SEWING MACHINE COMPANY, Great Driffield, neu 97, Cheapside London, E. C. 1441* RHYBUDD.- Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow- dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair. onglog, yn dwyn enwau I. RECKITT A'I FEIB- ION yn nghyda'r arwyddnod masnachol, 1441.
Eisteddfod y Tabemacl, Maesteg",…
Eisteddfod y Tabemacl, Maesteg", Nadolig, 1876. BEIRJFLADAETEC Y CYFANSODDIADAU GAN IEUAN DIFED. Can Goffadwriaethol Mr. JVm. Howells. Tair can wedi eu derbyn. M- ai,a.-Can fach dlos a chymedrol, a digon rhydd oddiwrth waUau ieithyddol, ond heb lawer o uewydd deb ynddi. Galarwr.-Dull hen-ffasiynol ydyw rhoddi "trinfa" i angeu ar ddeohreu galargerdd. Y mae y ddau benill blaenaf o'r gau hon yn cael eu defnyddio i'r dyben hyny. A'i osod i huno dan weryd y gwys. Yr un ystyr sydd i'r^ddau |air yna- gweryd" a gwys." W. Howell sydd heddyw o dan dy grafangau, sydd sill yn rhy hir. Tra buius hefyd ydyw rhoddi llythyren benigol yn lie enw y gvrthddrych. Y mae gormodiaeth yn y linell hon,- Dy golyn a dynodd, a choncrodd dy lid. Nid y Cristion, ond Crist a dynodd golyn angeu. Corsen Egwan. —Caa fach dlos, bert, a llithrig, o chwech peDill ydyw hon. Cynwysa fwy o newydd deb a bywiogrw ydd na'r lleill. Y mae hefyd yn hollol rydd oddiwrth y lol ffugiol ac eithafol sydd yn rhy ami yn nodweddu ein galargerddi. Corsen Egwan yw y goreu. Y Cyfiviihiad or il Three things a icife should be," g-c. Pedwar-ar-ddeg wedi eu derbyn. Perthyn i'r ail ddosbarth fel cyfieithwyr y* mae Estron o'r Dwyrain, Ynysfardd Coch, Cymro, Ymgeisydd, Carwr Rhin- wedd, Cyfieithydd, Gomer, Llew o'r Llwyni, a Clogyrnog. Y mae Clogyrnog wedi bod yn llawer mwy ffodus yn newisiad eiffugen w nac yn ei gyfieithiad. Y mae amryw yn y dos- barth hwn nad ydynt yn ymgynyg at gadw un mesur o gwbl. Y mae ereill sydd yn cynyg yn dra diffygiol mewn iaith, mydr, ac aceniaeth briodol, tra y mae yr oil ohonynt yn gwyro yn mhell iawn mewn synwyr oddiwrth y gwreiddiol. Eu prif fai ydyw ceisio cyfieithu y geiriau a gadael y meddwl ar ol. Yn y desbarth blaenaf saif Celynfryn, Gutto'r Collier, Welshman, Arab, a Mab a Thad Fanny. Celynfryn. — Cyfieithiad da y penill olaf sydd fwyaf diffygiol. Gutto'r Collier.-Cyfieitbiad gwych etr, ond nid chwaethus ydyw— Awrlais uchel gloch. Welshman.—Da iawn. Arab.—Ymgais ganmoladwy eto, ond ar y mwyaf o duedd i fod yn eiriog, a cheisio gwthio pob syniad o'r gwreiddiol i'r linell gyfatebol o'r cyfieithiad, yn hytrach na myfyrio prif syniadau y dernyn, a'u rhoddi yn eich dull naturiol eich hun. Mab a Thad Fanny.—Cyifeithiad eglur a naturiol yn darllen yn rhwydd a llithrig. Y mae yn rhoddi i ni feddwl y gwreiddiol mewn dull mwy syml, eglur, a "darllen- adwy nag un c'r lleill. I hwn y'dyfernir y wobr. Can Goffadwriaethol i'r diweddar J.\Jenkin8t Ysw., Gelli. Pedair can i fewn. Cymydog.-Ceir yn y pedair llinell flaenaf engraifft Iled dda o arddull faledaidd y gan hon Newydd prudd, anhawdd ei gelu, Ddaeth i'm rhan yn syth o'r Gelli Newydd wnaeth rhyw dristlawn dry dan, Nes yw anian fel yn gruddfan. Lied ddibwynt yw y gan ar y cyfan; y mae hefyd yn afresymol o faith-120 o linellau; ac y mae wedi ei gosod mewn arddull mor gwmpasog, fel y mae yr awdwr yn rhoddi i ni yr un syniadau drosodd a throsodd lawer gwaith. Gallesid caethiwo pob syniad o werth sydd yn y gan hon o fewn terfynau tri neu bedwar penill. Carwr Ehinwedd.—Can dda ar y cyfan. Cynwysa rai penillion tarawiadol a chy- mhwys o'r gwrthddrych, ond gwelir ynddi amryw ddiffygion. Y mae yr It yn faen tramgwydd i hwn eto. Defnyddia eiriau llanw a thermau anmhriodol hefyd mewn manau, fel y gwelir yn y llinellau can- lynol:— Mae'r tyscion yn llawer a'u ochain heb rid. Mae coron anrhydedd yn uchel ei phen. Ti godaist dy ben i'r nen gyda'r Wyddfa— [sill yn rhy fyr.] A'i ddysgu i gadw hei (!) hoff ddeddfau cun. Or braidd y gallwn ddisgwyl hyd yn nod i un o wyr yr hen blwyf i waeyd camsyn- iad mor ddybryd a hwn gyda y rhagenw ei, Rhag sathru y blodau aroglant ei fedd. Gall blodau wasgar eu harogl ar fedd, ond nis gallant arogli bedd. Berf weithredol ydyw arogli yma. Deigryn Hallt.—Can ddestlus a rhagorol ydyw hon, ac 61 llaw y cyfarwydd arni. Y mae yn gwbl rydd oddiwrth wallau celfyddydol, ac yn rhestru yn uchel mewn teilyngdod barddonol. Buasai yn dda genyf pe gallwn ddweyd ei bod yn ddar- luniadol o'r gwrthddrych y cenir iddo; ond teimlwyf mai hyn yw ei phrif ddiffyg. j Diau fod yr awdwr yn ddamweiniol wedi dyfod ar draws rai o brif Dodweddau y gwrthddrych; ond a ohymeryd y gan fel cyfanwaith, y mae yn hollol anmhriodol ac eithafol i Mr. Jenkins. Y mae amryw benillion yn y gan hon na vstyriai y rhai oeddynt gyfarwydd a'r gwrthddrych hwynt yn ddim amgea na gwatwariaeth. r, 15 Pruiidlais. Y mae b„a eto yn fardd o radd uchel y mae yn ^eell ei waith yn Gu; ao wedi oi gyflawsd yn alluog. Dengys ei gyfansoddiad hefyd ei fod yn gwbl gyfar- wydd a gwrthddrych ei gan. Y mae mewn can gymedrol a diiodres o 48 o linellau wedi llwyddo i roddi i ni ddesgrif- iad bywiog a grymus o'r gwrthddrych yn mhrif nodweddau ei fywyd cymdeith- asol. Yn y gerdd hon ni a gawn Yswain y Gelli, ac nid neb arall. Ni a welwn yma yr hen foneddwr Cymreig gwledig a Ohymroaidd ei arferion, — calon-agored, cymwynasgar, a dirodres—wedi ei wisgo yn ei ddillad ei hun, ac nid mewn dillad .benthyg. Pruddlais yw y goreu. Pwnc Ysgol ar Olygfeydd y~\Groes." Y mae psnciau ysgol wedi myned dipyn yn anmhoblogaidd yn awr. Dichon y barna'r mwyatrif mai nid arddangosiad o chwaeth dda ydoedd gosod "pwnc" fel hwn yn destyn mewn eisteddfod. Fodd bynag, y mae yr unig ymgeisydd sydd ar y maes, sef "Ymgeisydd Brysiog," wedi dangos llawer o lafur ac ymchwiliad mewn cysylitiad a'r testyn, ac y mae yn teilyngu y wobr pe dim ond am hyny.-A.r air a chydwybod,— IEUAN DYFED.
Siop yr Eilliwr.
Siop yr Eilliwr. Cymerodd Ben. Dduwinydd y gadair nos Fawrth, am saith o'r gloch, pryd yr agorodd y cyfarfod mewn ysbryd caredig, a galwodd ein sylw at y pwnc oeddem wedi ei adael. Meddai, fy nghyfeillion, yn ol eich hewyllys yn nghyd a'ch taer ddymuniad, yr wyf wedi cydsynio a'ch cais i gyrneryd llywyddiaeth y cyfarfod hwn. Fel y dywedais y pryd hwnw, gan nad pa bwnc bynag a fuasai yn dyfod o flaen ein sylw4 na chawsai ddianc yn ddibris a byrbwyll, pa un ai ffafriol ynte condemniol fyddai yn ein barn; ac yn awr, fel y dywedais wrthych y cyfarfod olaf, y buasai yn well i ni adael pwnc y seats hyd y tro hwn, er i ni gael gwybodaeth fwy cyflawn o'r amgylchiadau felly, gan fy mod yn gwybod fod rhai ohonoch wedi bod yn ymchwilio i'r peth, mi eisteddaf gan eich cofio o'r ddeddf-i beidio bod yn drahaus. YR EILLIWR: Foneddigion, y mae wythnos wedi myned heibio er y cyfarfyddasom fel hyn o'r blaen, ac yr wyf fi wedi bod ar fy holl egni yn chwilio i'r achos o enwi y person- au nad oeddent yn talu am eu lleoedd. Bum gyda diaconiaid a brodyr o'r eglwys, ond yn methu cael un wybodaeth benderfynol ar yr pwnc, yn mhellach nag fod yr awdurclod wedi dyfod oddiwrth y meistr, a bod sicrwydd nad oes mwy na dau arall a llaw yn y mudiad, sef yr Arch a Dai Pwd y Glee. Yn mhellach, dywedaf mai dyma y personau sydd ac wedi bod yn trafod inaterion yr eglwys fel y bydd- ont hwy yn gweled yn dda. Os buasent yn ewyllysio rho.ddi arian tlodion at ryw wasan aeth heb wasanaeth y cysegr, nid oedd eisieu ymgynghori a neb, ond eu rhoddi, a hyny wrth y deg punoedl am hyny, na rodder yr I? oil o'r bai ar y meistr, gan y gwelwch fod ereill a llaw gyfartal yn y gwaith, ac feallai mwy .hefyd. JOHN BEN CYBLOG Mr. Oadeirydd, y mae ein parchus Eilliwr wedi myned yn mhell iawn, ac feallai wedi rhoddi un cam yn mhellach na'r testyn, ond gan ei fod yn dal cysylltiad a'r pwnc dan sylw, dichon ei fod yn oddefol. Tynodd ei araeth fy sylw at un peth neillduol, sef mai rhyw ychydig berson- au sydd wedi arfer cario materion yr eglwys yn y blaen. Y mae y peth hwn wedi cymeryd llawer awr o fy sylw, ac yr wyf bob tro wedi ei daflu o'r neilldu yn wawdlym felly, y mae yn wir dda genyf gael siarad yn nghyd a chlywed siarad ar y pwnc yn y fan hon. Yn ddiamheuol fod yr Eilliwr, yn ol pob peth wyf yn ddeall, wedi dweyd wrthym wirionedd bob gair am y frawdoliaeth dan sylw, ond y mae genyf eto air am Mr. Dyeithrddyn. Gwyddai ef, cyn ei fod wedi dyfod i'r lie, mai felly yr oedd, a dylasai fod yn gwybod hefyd mai dyma un o'r pethau mwyaf damniol sydd wedi llusgo i'n eglwysi, o amser Crist hyd yn bresenol. Dyma y peth a alwaf fi yn draws- arglwyddiaeth yn ei eithafion, sef peth sydd yn tagu pob planigyn, yn gormesu y tlodion, yn cyfnewid y wedd efengylaidd i haerllug- rwydd a chasineb ie, y mae fel gwynt y Gogledd yn deifio o'i flaen bob heddweh, cariad brawdol, a'r teimladau hyny a ddylent y fod gan bobl grefyddol yn mhob man felly, credwyf y dylasai, yn un o'r pethau cyntaf, geisio symud y peth sydd wedi bod yn fwy na haner dinystr i'r eglwys i ffwrdd yn union, gan ddyfod a phethau sydd yn gydfynedol a dynoliaeth, cariad, a Christionogaeth yn ei Ie, a chredaf y cawsai y pieaer o himpio llawer o'r newydd,*gweled planigion bychain z' yn yiiiagor, a pher afalau yn addfed, i gario gwasanaetli y cysegr yn mlaen yn heddychol, cariadus, a liawen. Yn lie hyny, dyma eto rai o bersonau goreu yr eglwys yn cael eu henwi ar g'oedd, eisieu na buasent wedi talu yn flaenovol am eu lleoedd, fel ac yr oeddynt wedi arfer, h.y., talu am eu lleoedd cyn fod yr amser yn ddyledus. NED Y OAWR Mr. Cadeirydd, yr wyf wedi bod vn gwrando yn astud ar siarad y cyfeill- ion yma, ac er nad wyf yn fawr o ymresymwr yr wyf yn wrandawr liawen felly, yr wyf yn dweyd wrth bob un sydd yma am roddi yr ymadrodd ar led os bydd i beth o'r fath ddygwydd etc, y byddaf fi, yn enw ein bren-
iaeirniadaetliau Cerddorol…
iaeirniadaetliau Cerddorol ein Heisteadfodau. Caniatewch i mi gongl fechan i ddwevd b gair neu ddau ar y testyn uchod. Yr wyf yn medawl mai y canu corawl yw prif ad-dyniad em heisteddfodau, ac y mae llawer iawn o siarad cyn yr eisteddfod pa gorau svdd yn debyg o ddod i gystadlu, ac ar ol yr eisteddfod pa gor emllodd. Mae y wobr, braidd bob amser, am gauu y prif ddanj, fel y dywedir, yn gymamt a'r holl fan wobrwyon gyda'a giiyoa. Mae llawer iawn o draul a thraffertk 1 f6 fan ?6r ddysgu y dam neu y daman a bydd o bosibl, ddau neu dri mis o amser yn cael eu haberthu er parotoi evbyii dydd yr wyl, a dichon y bydd y cor yn dyfod o bellder i gystadlu. Felly, gwelir fod y gvstadlenaeth yn un bwysig, ac edrych arni o bob cyfeiriad. n yr hyn oedcivvn am godi i sylw yw yr anmhnodoldeb o. beidio cael beirniadaeth tanwl a chyson ar y gystadleuaeth, neu yn hytrach, dyledswydd ein beirniaid i roddi beirniadaeth fanwl a cby. on. Yn gymaiut ag mai dyma y wobr fwyaf, gellid yn naturiol ddisgwyl y byddai mwy o le yn cael ei roddi i'r feirniadaeth yma nag un o'r testynau ereill; ond nid felly y mae. Bydd hon yn ami iawn y fwyaf diaddurn o'r holl feirniadaethau i gyd dichon na cheir dim ond yn unig dweyd pa gor a ystyrir yn oreu-dim tri gair, fe ddichon, er dangos yn mha le y mae y naill yn rhagori ar yllall. Nid wyf yn ystyried peth felly yn feirniadaeth o gwbl; nid yw ond apology am. feirniadaeth. Mae v beirdcl lawer ar y blaen yn y cyfeiriad yma." Gwna. y beirniad llenyddol feirniadu pob cyfansodd- iad yn fanwl a chyson. Gwelir yn ami iawn. haner coron o wobr, a beirniadaeth ar vnanvr am wythnosau. Wel, os ydyw gwobr mor ddiniwed a hyna yn teilyngu beirniadaeth. fanwl a i chael allan drwy y wasg, beth am y corau ? oni ddylent hwy gael y cyfryw freint- iau < Yr wyf wedi bod mewn amryw eistedd- iodau, ac yn clywed rhai o brif gorau y genedl a dim ond gair neu ddau o feirniadaeth. Pa- ddyben i gor i aberthu dau neu dri mis o amser i bar-otoi ei-byn cystadleuaeth, a chael dim yn y diwedd ond yn unig glyvved pwy yw y goieu? Dichon y bydd yr arweinydcL wedi gweithio allan ei holl ideas ar y darn, ac wedi cymeryd trafferth fawr i wrteithio y lleisian, &c. Pa ad-daliad sydd am y dra- ffrerth fawr yna, os yn anfuddugol, a dim beirniadaeth er dangos iddo pa le yr oedd wedi methu ? Heb hyny, beth yw dyben cystadieuaeth? nid yw amgGn na chwareu plant. Yr wyf yn ystyried fod gan bob cor hawl i ofyn beirniadaeth. Dywed ambell un nad yw amser yr eisteddfod i gael ei dreulio i ddarllen beiruiadaethau, &c. wel, os na. chaniata amser i roi beirniadaeth ddydd yr eisteddfod, gellir cael rhywbeth tebyg i'r hyn yr ydym yn gael yn gyfFredm, sef gair neu ddau gyda dweyd pwy yw v buddugol, a'i chael ya gyflawn drwy y wasg. Ceir pob beirniadaeth ond beirniadaeth gorawl trwy y wasg yn bresenol, paham na cheir hon hefyd? Byddai yn rhwym o fod yn adeiladol i feddwi pob cerddor; o herwydd y mae mewn beirn- iadaeth dda, bob amser, wersi sydd yn rhoddi goleuni ac addysg i unrhyw |ddarllenydd meddylgar. Byddai hyny yn fantais i lawer un nad oedd yn bresenol yn yr eisteddfod i gael darllen a gweled sylwadau ein prif ddyn- ion ar wahanol ddarnau cerddorol, a thrwy hyny gyfranu addysg a derchafu chwaeth-c gerddorol. Gwn y bydd pob un a ddarllenodd sylwadau beirniadol Eos Rhondda ar ddat- ganiad "Samson" yn Aberdar, y Nadolig, yn barod i dystiolaethu hyny. Byddai yn an- mhosibl i unrhyw ddyn o feddwl ac amgyRred: rhesymol ddarllen y sylwadau gorchestol hyny heb dderbyn Ilawer iawn o addyssr srerddorol o r fath fwyaf pur. Nid yw fawr pwys wrth ddarllen sylwadau yr Eos ar berfformiad f< Samson, pa un a oedd y darllenydd yn bresenol yn y cyfarfodydd ai peidio; os bydd ganddo gopi o'r darn, gall ei ddilyn drwy y darn, a derbyn addysg wrth fyned drwyddo. Wel, yr un modd gyda beirniadaethau corau, byddai darllen sylwadau gan ddynion cyffelyb yn dreat i bob cerddor yn ogysfcal a'r cystadl- euwjr, a byddai yn llawer mwy boddhaol i'r corau na'u gadael heb ddim ond yn unig ddweyd pa gor sydd i gael y wobr. Yr wyf yn credu y rhoddai derfyn hefyd ar y grwg- nach geir byth a hefyd ar ol pob cystadleuaetk gan y corau, -eu bod wedi cael cam. Pee rhoddid beirniadaeth gyflawn, gwelai y corau beth oedd eu diffygion, a pha Ie yr oedd y buddugol yn rhagori. Cawsom esiampl nod- edig o'r ddau gynllun yma o feirniadu, a'r modd.yr oedd y naill yn rhagori ar y Hall, yn eisteddfodau Merthyr, y Nadolig diweddaf. Yr oedd yr un darn, a'r un corau yn y ddwy eisteddfod, ond beirniaid gwahanol. Mewn un eisteddficd, deohreuodd y beirniad feirn- iadu trwy roddi hanes ei daith i'r lie—yr oriau y bu yn teithio, pa faint o oriau y bu heb ddim ymborth, ei oedran, nifer ei wyrion, yn ngliyd a'u cyfreithlondeb, &c.— mewn gwirionedd, yr oedd yn bentwr gorchestol o bob lol; ond dim beirniadaeth, ond yn unig ddweyd ei fod yn ystyried No. 2 yn oreu. Beth sydd a fyno beirniadu corau a'r fath. nonsense a hyna; nid yw pethau fel yna yn. ddim ond insult ar gorau ac arweinwyr galluog. Y peth cyntaf ar ol myned allan oedd dechreu. da.dleu, ac felly y gallesid dysgwyl iddi fod. Aethum i'r eisteddfod arall i gael clywed yr un darn, a'r un corau yn canu yno drachefn. Canodd y tri char yn ogoneddus ac ar ol i'r tri ganu, mewn ychydig fynudau, dyma y