Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

LLANDYBIE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDYBIE. CYFARFOD CYSTADLEITOL.—Cynaliwyd cyf- arfod cystadleuol yn nghapel Trefnyddion y lie uchod nos Saclwrn, Chwefror y lOfed, dan lywyddiaetli Mr. J. Job, Sunny Hill. Clorianwyd y cantorion gan Mr. W. Lewis, Penygroes a'r adroddiadau gan y Parch. T. J. Pl.'itchal'd, Cross Inn. Wedi cael anerch- iad gan y cadeirydd, a dywediadan gan y beirdd, awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod yn y drefn ganlynol :—Adrodd Salm xiii, i blant dan 14 oed chwech yn cystadlu rhanwyd y wobr "rhwng Mr. Daniel Pugh a Miss Jane Lloyd, Llandybie. Canu "Alexander" (o lyfr leuaii Gwyilt), i rai dros 40 oed un yn trio, sef Mr. Thos. Williams, Piode Cottage, a chafodd y wobr. Dadganu y bass "Ham- burg" (o lyfr Stephens a Jones) deg yn cystadlu goreu, Mr. J. Jones, Rock. Dar- .1 llen unrhyw ddernyn roddir ar y pryd deg o ddarllenwyr; goreu, Mr. J. Williams, Piode Cottage. Un cor o blant a gynygodd ar Wele ni yn dyfod (o'r Band of Hope), sef cor y Wesleyaid, dan arweiniad J. Williams, a chafodd y wobr. Areithio ar Yr Ysgol Sill pedwar o areithwyr; rhan- wyd y wobr rhwng Mr. W. Llewelyn, Piode, a Mr. E. Morgan, shoemaker. Canu "St. Peters," i rai dan 16 oed 24 yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Mr. W. Walters, Red Cow, a Miss J. Jones, Cross Inn. Canu y Saboth," i bedwar chwech parti yn treio; goreu, Mr. J. Williams a'i gyfeillion. Canu y tenor Glanrhondda:" dau yn cystadlu, sef Mri. J. Williams ac 0. Oliver, Penygroes, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Y wenynen sillebol: pump sillebwr; goreu, Mr. J. Willianjs. Canu "Y weddwfam," iferched chwech yn cystadlu goreu, Miss E. Morgan, Saron. Araeth ddifyfyr 11 yn trio goreu, Mr. E. Morgan. Canu "Sarah:" dau gor yn cystadlu, sef eiddo'r Wesleyaid a'r Trefn- yddion, Llandybie y blaenaf dan arweiniad .J. Williams, a'r olaf dan arweiniad J. Davies a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Yna, deuwyd fX brif destyn y cyfarfod, sef canu "Salome:" dau gor yn cystadlu, sef yr un dau ag oedd ar y testyn diweddaf, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Yna, terfynwyd y cyfarfod, ac aeth pawb i'w cartrefleoedd yn gysurus; wedi cael cyfarfod adeiladol, hwylus, a da.- Musebius.

LLANELLI.

ABERDAR.

NEBO, GLYNCORWG.

PENILLION

CAERFYRDDINT

LLANSAWEL.

YSTRAD RHONDDA.

TREORCI.

TREHERBERT.

PENTRE RHONDDA.

TON, YSTRAD.

HEOL FACH.

AT Y imiirix

CYWYDD'"

PENILLION I'R MOR.

LLINELLAU