Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

"Llais o G-ymru Wyllt."

.1. Anrhydedd i Gymro.

GWYL FLYNYDDOL YR HEN FRYTH-ONIAID…

BARGOED.

GLYN EBBWY.

Y TON, YSTRAD DYFODWG.

Nodion o'r Deri.

Bwrdd Ysgol Aberdar.

!Bwrdd Ysgol Merthyr. 1-1

AT Y BEIRPD.

[No title]

FY M \M YN WEDDW.

Y LLYSFAM DDA.

Helyntion yr Alltwen.

[No title]

DOWLAIS.

ABERDAR.

RHYMNI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYMNI. BWRDD YSGOL BEDWELLTY.—Nos Fawrth diweddaf, yn nghapel Ebenezer, Twyncarno, bu y Parchn. J. Jones (Mathetes) (B.), G. Owens (A.), ac E. Davies (M.), yn rhoddi cyfrif o'u goruchwyliaeth ar y Bwrdd uchod am y tair flynedd. Cymerwyd y gadair gan Mr. John Lewis. Galwodd ar Mathetes i ddechreu. Dywedai mai yr Eglwyswyr oedd a mwyafrif y Bwrdd am y ddwy flynedd gyntaf, a'u bod wedi treulio y ddwy flynedd hono yn hollol segur ac am hyny, fod y plwyf wedi colli wyth cant o bunau o grants. Dangosodd y cyfnewidiad sydd wedi bod yn ngweithrediadau y Bwrdd oddiar pan ddaeth yr Ymneillduwyr i'r mwyafrif, a'r ymdrech y maent yn wneyd yn bresenol i ddwyn addysg effeithiol trwy y plwyf. Cyfeiriodd at yr an- nhegwch gafodd Ymneillduwyr y Bwrdd gan y wasg Seisnig, a rhyw fodau bychain di- egwyddor oedd yn galw eu hunain yn report- ers, y rhai oeddent gymysg—Pabyddion ac Eglwyswyr, rieu ddynion gwasaidd yn llaw eu meistri a thrwy hyny, fod rhesymau, ar hyn oedd yn ffafriol i'r Eglwyswyr, yn cael ymddangos yn barhaus, tra yr oedd eiddo yr Ymneillduwyr yn cael eu cuddio neu eu cam- ddarlunio yn hollol. Am hyny, gorfu i'r Bwrdd basio penderfyniad i gau drws yn erbyn y rhai a alwant eu hunain yn reporters, ac i'r newyddiaduron gael y penderfyniadau yn unig, a hyny trwy law yr ysgrifenydd. Cyfeiriodd at yr arolygwr oeddent wedi ei ddewis, ac mor ffodus oeddent wedi bod i gael dyn o allu a medr Mr. Hogg. Ar ol Mathetes, galwyd Mr. Da vies, a chafwyd araeth fanol a galluog ganddo yntau, yr hon oedd yn cyffwrdd a lluaws o bynciau ei rag- flaenydd, ond yn sylwi arnynt mewn gweddau gwahanol. Rhoddodd luaws o engreifftiau i'r modd y byddai y Pabyddion a'r Eglwyswyr yn taflu rhwystrau ar eu lfordd i weithredu yn effeithiol i godi ysgolion, &c.; ac am hyny, fod y plwyf yn golledwyr o ganoedd o bunau mewn grants. Cyfeiriodd yntau at allu Mr. Hogg fel arolygydd, a'i fod, trwy ei ddoeth- ineb dihafal, wedi adferyd llawer o'r arian oedd y Bwrdd wedi eu colli. Yna, darllen- odd Mr. Owens bapyr, yn rhoddi golwg eang ar waith y Bwrdd yn ystod y tair blynedd. Cafodd y tri dderbyniad brwdfxydig dros ben, gyda'r eithriad o haner dwsin o rai di- egwyddor, ac yn caru gwneyd rhwyg yn rhengatt yr Ymneillduwyr i foddio eu huchel- gais eu hunain. Pasiwyd penderfyniad o ymddiried ynddynt yn nghanol taranau o gymeradwyaeth. Yn sicr, mae y tri yma yn deilwng o seddau o ran egwyddorion Ym- neillduol. a gallu i gario yr egwyddorion hyny trwy rwystrau.—Gohebydd.

TROEDYRHIW.

BLAENRHONDDA.