Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL. BRWYDR FAWR YN SIMNITZA. CAERCYSTENYN, Meh. 30.—Y mae brwydr ofnodwy yn cael ei dwyn yn mlaen ger Simnitza. Danfonir adgyfnerthion mewn brys gwyllt o Rutschuk, Shumla, a Nicopolis. Y mae y Tyrciaid yn para i ddal eu tir, tra y mae eu magnelfeydd yn gwneyd hafog ar y JEtwsiaid. Adroddir ddarfod i ymgais a wnaed gan y "Rwsiaid i groesi y Danube ger Nioopolis droi yn fethiant. Bwriadant gynyg croesi yn Turtukai. 'wu BUCHAREST, Meh. 29.-Derbyniodd y Gradd Duke Nicholas groes ardderchog St. George, o'r ail ddosbarth, am iddo groesi y Danube yn llwyddianus yn Sistova. I BUCHAREST, Meh. 30.—Y mae yr Ymer- awdwr Alexander yn lletya mewn amaethdy. a'r enw Dracia, ger Turnu Magurelli., CAERCYSTENVN, Meh. 30.—Yfmae y Rws- iaid wedi croesi y Danube mewn man rhwng Nico olis a Sistova, gyda425,000 o wyr. (rwnaethant ymgais i daflu pent yn groea i'r afon, ond rhwystrwyd hwy gan|y gwnfadau Tyrcaidd. Y mae y catrodau Rwsiaidd, yn ymwasgaru dros holl Dobrudscha. BUCHAREST, Meh. SO.—EReithiwyd prif groesiad y Danube gan y Rwsiaid, wrth enau yr afon Veda, gyferbyn ag ynys Vardin. Gwrthsafodd y Tyrciaid y croesiad gyda thri o fagnelfeydd ond gorfu iddyntgilio yn ol. Tybid y collai y Rwsiaid o ungain i ddeng mil ar hugain o wyr wrth groesi y Danube, ond ni chollasant yn y man lleiaf dros fiL .Siom wyd y Tyrciaid gan y dysgwylient y byddai y Rwsiaid i groesi yr afon yn is i lawr. Dywedir i'r Rwsiaid danio at y clafdy yn Ardahau, er eu bod yn gweled y faner yn ahwifio ar yr adeilad. Ymddengys nad yw pethau yn gysurus iawn rhwng Persia a Thwrci. ,Y mae Persia yn achwyn yn enbyd ar ymddygiad swyddog- ion Twrci yn ystod y chwe' mis diweddaf. PARIS, Gor. 1.—Dywedir fod gwrthryfel wedi tori allan yn Slonim a Lithuania. BRWYDR YN BULGARIA. 0 Shumla, dydd Sul, ysgrifena Gohebydd y Daily Telegraph fel y canlyn Cymerodd y frwydr gyntaf yn Bulgaria le ddoe (Sadwrn), a therfynodd mewn buddugoliaeth Dyrcaidd. Daeth y Rwsiaid yn mlaen o Sistova tua Biela, pentref tuag ugain milldir o'r lie hwnw. Yma yr oedd y Tyrciaid yn lln mawr, a dechreuodd brwydr ofnadwy. Ymladdai y ,ddwy ochr fel pe byddai yr holl ryfelgyrch yn dibynu ar ganlyniad y frwydr hono. Dechreuodd y Rwsiaid ymosod gyda ffyrnig- rwydd mawr, ond teneuid eu rhengau yn ofnadwy gan fagnelau y Tyrciaid. Ymladdai -traedfilwyr y Tyrciaid hefyd gyda gwroldeb neillduol, a'c yn y diwedd, wedi colled fawr, gorfu i'r Rwsiaid encilio. Y mae nifer o garcharorion Rwsiaidd wedi d'od i Gaercystenyn o Asia. Ymddygir atynt yn garedig gan y trigolion. Y RHYFELAWD YN ASIA LEIAF. TIFLIS, Gorphenaf 2.—Gwnaeth y Tyrciaid ymosodiad ffyrnig o Kars foreu Sul, gan gynyg stormio y bryn lie yr oedd dau vo fagnelau y Rwsiaid yn tanio ar y dref. •■■Corfu iddynt gilio yn ol wedi ymladd amryw oriau. Yr oedd y colliadau yn drymion o bob ochr. ST. PETERSBURG, Gorphenaf 2.-Derbyn- iwyd y-bryslythyr swyddogol a ganlyn, Mazra Ar ol brwydr Zewin, anfonodd Cad. Loris Melikoff gorfilu i gymeryd medd- iant o Mellidroz, tref tua pymtheg milldir o Zewin, gyda'r bwriad o atal Mukthar Pasha i fyned i roi ymwared i Kars. Os daw yn angenrheidiol, codir gwarchae Bayazid ar y :26ain o Fehefin. Anfonwyd adran o Ardahan dan y Cad. Komaroff, ac ymosodasant ar 3000 o Dyrcaid, ar Mehefin 28, ar uchelfeydd Ardanutsch, gan eu gyru o'u safleoedd, a'u hymlid mor belled a phentref Batz. Syrth- iodd y gwersyll Tyrcaidd yn Ardanutsch, yn gynwysedig o 220 o bebyll, i ddwylaw y Rwsiaid, gyda chyflenwad mawr o ymborth. Coll odd y gelyn uwchlaw 100, tra o du y Rwsiaid ni laddwyd ond un, a 17 yn glwyfedig. CROESIAD Y DANUBE. SHUMLA, Gorphenaf l.yCyfrifir nifer y Rwsiaid a groesasant yn Sistova yn 30,000. Dechreuasant ymdeithio tua Biela, ond ataliwyd hwy gan y Tyrciaid yn Pavlo. Y mae y Rwsiaid yn para i dAnbeleni Rust- .chuk. Y mae y consul-dai wedi dianc heb niwed, ond y mae y gweddill wedi eu dinystrio. Y mae y trigolion yn ffoi tua Varna. Yr oedd colled y Tyrciaid yn Matchin yn 700. Nid oadd eu colled ond bychan yn Sistova, tra y cwympodd 2000 o'r Rwsiaid yno.

Y RHYFEL DWYEEINIOL.

Advertising