Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Yr hyn a Welais ac a Glywais…
-0. Yr hyn a Welais ac a Glywais yn America. GAN J. J. DAVIES- (IEVAN DDTJ). Llith VI. MR. GOL. Y mae genyf eto yr hyfrydwch 0 ddiolch i Thomas Williams (Glanllechau), Alltwen, a Jane Morgan, Dyffryn, am eu «jaredigrwydd yn anfon i mi sypynau o wa- hanol newyddiaduron. Y mae darluniau y Graphic o ddamwain y Tynewydd yn daraw- iadol a derbyniol iawn. Yn ddiweddar telais YMWELIAD A NATHAN DDU, gynt o Lywel, yr hen fardd awenyddol hwnw iu'n swyno Cymru ganwaith gyda'i ganiadaa melusber. Tehyg fod yr hen frawd hwn wedi gadael ei fro gyhenid flynyddau yn ol, gan ymfudo i Utah i ddilyn ei ffawd. Y mae ^fe yn cartrefu yn bresenol yn Mill Creek, OddeutU dwy filldir o fangre ei frawd Ieuan, ac yn gweithio yn y canyons yn y mwnglodd- iau aur. Pan ar ymweiiad ag ef cefais ym- gom felus, a llawer o adgofion swynol am Gymru fu." Elai dros rai o'i ganiadau yn wir, yr oedd ei ddatganiadau yn beraidd dros ben..Ymddengys fod Nathan yn medru <5yfansoddi mor hylwydd yn y SeiBneg ag yn yr hen Omeraeg ei hun. Nid yw ei adgofion am Wlad y Bryniau wedi durfod, na'i dan gwladgarol wedi dinbdd y mae efe heddyw yn cofleidio Cymru, Cymro, a Chymraeg gy- maint ag erioed. Rhyfedd fel mae'r hen fardd wedi cadw yn ei brydwedd; er ei fod yn bresenol oddeutu ugain mlynedd yn hen- ach na Ieuan, ymddengys mor hoew ag hog- lanc deunaw oed. Yn flaenorol i'm hymwel- iad a Nathan, rhoddodd efe y llinellau can- lynol o'i eiddo i mi:— ANERCHIAD I IEUAN DDU. Teuan bach, gwr o iawn bwyll, Ond odid wyt uu (li, I WYII; Minau Nathan lDwyn ethawl, < iol-u dyn a gelyn iawl, "Paethum i'th wel'd y doethawr, 0 ben sgwydd mynydd mawr; Er «wei'd bardd yn. ei harddwch, A fflam o'r hen awen fflwch. Dyro Uw dditraw ddwyfron, A dvrt) hwyl i daro hon. Gwir awen a gyneua J Idyn call efo deal I da. Mae'n noddfa rhag boddia byd, A nifer ei hen ofid Beth yw'r b d o bwvth i'r bardd, Na'i huf.n chwaith i'r hoewfardd; Dedwydd yw a Duw yn dai Yr enaid yn yr anial. Gwyraw i'r goriwaered Mae d ddiau m hoes -'r oes a, red Oystuddiwyd, br-thwyd fy'm bron, A llwydais dan golledion Er hyn o anwar enyd, Y g&n ni fethodd i gyd; Mae eto swyn a mwyni *nt Yn ei thfiu ac yni ei thant. Ni wrddiB na newyddir Eto i m drwoh o heddwch hir. Ihw Ieuan Ddu yn ei gan I nythu ar bwye Nathan. NATHAN UDU 0 LYWEL A'I OANT. Parodd Nathan i mi ei gofio ef yn garedig at ei hen gymdeithion yn Nghymru. Y mae ei wraig yn fyw ac iach, ond ymddengys ei fod wedi claddu amryw o'r plant—dwy o'i ferched hynaf pan yn briod. Rhyw fachgen hynod o gyffrous yw Jerome B. Stillson, GOHEBYPD Y NEW YORK HERALD yn Utah. Mae y brawd hwn wedi gwneyd y Talaethau Americanaidd yn ferw gwyllt gan ei delegramau a'i lythyrau cyffrous a dteJwyddog 0 Utah i'r Herald, yn cyhoeddi iod y Mormoniaid yn ymarfogi yn erbyn y Llywodraeth, ac yn dysgu trin arfau yn mhob èwr o'r diriogaeth. Dichon fod rhai o'r di- nasyddion yn parhau i ymgadw at fyned trwy 0u hymarferiadau milwrol yn flynyddol, yr hyn yw dvledswydd ac arfer pob dinesydd- Americanaidd; ond nid oes y sail leiaf i'r haenad fod y Mormoniaid yn pwrcasu arfau a chad ddarpariaethau, nac ychwaith yn bwr- iadu codi arfau yn erbyn awdurdodau y Llyw- odraeth Unedig. Pobl yn ymofyn heddwch yw y Mormoniaid, ie, pobl sydd yn chwenych byw trwy lafur eu dwylaw eu hunain, ac nid trwy anrhaith terfysg a rhyfel. Nid oes o fewn yr holl Weriuiaeth bobl yn fwy gwlad- garol a phleidiol i'r cyfansoddiad Gwerinol Americanaidd; nid oes ganddynt hwy ddim i'w enill trwy gyffroi rhyfel. Ond er yn coleddu y teimladau mwyaf heddychol a gwladgarol tuag at Lywodraeth yr Unol Dal- -aethau, nid at yn feichiau y bydd iddynt oddef ymosodiadau terfysg-luoedd arfog a dilywodraeth wedi paentio eu hunain yn ar- ddull ellyllon y fagddu; nid oes genyf sail i gredu y cymerant eu gyru fel deadell o ddefaid o'i ffermydd a'u dinaaoedd, i fod yn grwydriaid yn yr anialwch, megys y gwnawd a hwynt yn Kirtland, Jackson County, a Nauvoo, gan adael eu meddianau yn feddiant diymryson i ysbeilwyr llofruddiog; credwyf nad ydynt yn gyrnaint o gowardiaid a hyny. Dangosodd y Mormoniaid yn adeg y Gwrth- Tyfel mawr Deheu America, eu bod hwy yn caru yr Undeb," ac yn chwenych byw mewn heddwch; y maent heddyw eto yr un fath, yn barod i gyhwfanu baner eryraidd y ser a'r brith-resi. Ond dyna, Mr. Gol., bum bron annghofio traethu fy lien ar Jerome B. Stillson, y go- hebydd Herdldauld hwnw. Tebyg mai un o fechgyn cyffrous a breuddwydiol Syr John > Barleycorn yw Mr. Stillson, ac yn arferol a dilyn crwydriadau nosawl, megys y gwna y lluaws perthynol i'i' frawdoliaeth hono; a phan yn dychwelyd o un o'i grwydriadau nosawl o Camp Douglas, noB Sadwrn, Mai 26am, dywed i ryw elyn (dychymygol) saethu ato pan yn nghyfliniau Salt Lake City; ond -er i'r awdurdodau wneyd pob ymchwiliad yn y lie, methwyd cael gair gan Gentile na Mor- mon i gyduno a thystiolaeth Mr. Stillson, nid oedd neb wedi clywed trwst ergyd gwn na llawddryll. Y dydd Iau canlynol, yr oedd y brawd yn mwynhau ei hun yn y Walker House—boat-ding home anrhydeddus yn y brifddinas Formonaidd cafodd ei gin- iaw am haner am wedi un y prydnawn, gyda llymaid o grog yn dda fel arfer; yn mhen llai nag awr, wele y boneddwr sychedig yn gorchymyn quart o whiskey i'w ystafell, i'r hyn yr ufuddhawyd yn uniongyrchol. Och y canlyniad alaethus, canys yn ol tystiolaeth Jerome, wele yn mhen ychydig o fynudau yn ganlynol, daeth boneddwr i guro wrth ei dd6r, gan estyn iddo bapyryn o'i law chwith, ac yna tynu cyllell allan gyda ei ddeheulaw, gan ei drywanu yn ei fynwes ond yn ffodus trwy fod y gohebydd p dan ddylanwad yebryd- oedd crylion, ni chafodd yr anaf lleiaf gyda'r eithriad o archolli y croen yn ysgafn. Rhodd- odd yr alarwm allan yn y tf, a bu y perchen- og a'r gweinyddion yn gwneyd pob ymchwil- iad am y brad-lofrudd; ond yn gwbl ofer, gan fod yr ymosodydd tybiedig wedi diflanu megys pe'r ddaear wedi ei lyncu. Anfonwyd am Mr. Burt, cadben yr heddgeidwaid y maer, Mr. Little, Mr. McCormick, y banewr enwog buont hwy a Mr. Erb yn gwneyd yr ymchwiliadau manylaf trwy yr holl gyffiniau, heb gael y sail leiaf y gallent gaiifod olion lleidr na llofrndd. Anfonodd y maer a'r cadben gais am gael ymweiiad personol a Mr. Stillson yn ei ystafell; ond gomeddodd y boneddwr syfrdanedig hyd ryw adeg ddyfod- ol, gan nad oedd, meddai ef, yn gyfleus ond y gwirionedd noeth yw ei fod yn rhy feddw ar y pryd i dderbyn y eyfryw ymwelwyr, ac os y gwelodd lofrudd yn dyfod ato nad oedd ond un o'r cythreuliaid gleision (blue devils) ydynt yn arfer ymweled a meddwon parhaus. Wedi iddo sobri anfonodd delegramau cyffrous i'r New York Herald, fod rhyw frad-lofrudd- ion wedi ymgeisio at ei fywyd. Nid yw yr awdurdodau dinasol yh myned i adael y mater i orphwys, mynant yr ymchwiliad trylwyraf i'r achos, a chaiff Stillson brofi ei bwnc, neu gael ei wneyd yn gelwyddwr cyhoeddus ger gwydd byd ac eglwys. Y staff lygredig gy- ffelyb sydd yn perthyn i'r'alt Lake Tribune, yr Anti-Mormon Newspaper, a dyrna'r cyf- ryngau sydd yn galw am ragor o filwyr i Utah, ac yn eeisio cytfroi terfysgluoedd i ym- fftirfio yn erbyn y bobl hyn er eu gyru allan o'u meujydd a'u dinasoedd.. Credir yma fod y L ywydd Hayes yn ddyn heddychol, ac am ymgadw at lythyren y cyfansoddiad Gwerin- ol, a bod ei Weinyddiaeth yn rhagori yn mhell ar eiddo ei rhagflaenoriaid os y pery efe felly, nid oes y perygl lleiaf am wrth- darawiad rhwng yr awdurdodau Mormonaidd a'r Llywodraeth Undebol. Ond os yr anfonir rhagor o filwyr i Utah, megys y ceisia yr Anti-Mormon carpet baggers, pob peth yn dda, derbynir hwynt yn roesawgar, gan y dygant gyda hwynt filiynau o'r mighty dollars i'w dosbarthu yn Utah. Bu ymweliad byddin fawr Johnson ag Utah ugain mlynedd yn ol y fendith fwyaf a gafodd y Mormoniaid erioed, canys yr oeddynt yn flaenorol i hyny heb arian, a bradd mor dlawd a Lazarus ei hun ond yn ganlynol, cyfoethogwyd hwynt trwy fasnachu a'r milwyr yn wir, o'r 60 miliwn o ddoleri a gostiodd y rhyfelgyrch hwnw, daeth llawer ohonynt i'r coffrau Mor- monaidd. Mae'r fyddin bresenol ag sydd yn arferol o aroa yn Camp Douglas, y cwsmer- iaid goreu a fedda masnachwyr Salt Lake City a'r cyffiniau. Nid oes yma y bwriad lleiaf i aflonyddu ar lanciau y cotau gleision,' sef bechgyn y brawd Jonathan. Rhodder iddynt hwy gymdeithas merch Sion Heidden, a gwnant yn burion, heb wneyd yr aflonydd- wch lleiaf i'r Mormoniaid. Gallaf ddweyd yn ddibetrus wrth fy nghyfeillion pryderus fod yma heddwch yn teyrnasu, a phawb yn ddiofn ond y cyfryw ag yr aflonyddir arnynt gan y cythreuliaid gleision Nid wyf wrth wneyd y sylwadau blaeuorol yn ceisio tra- dyrchafu pob peth perthynol i Utah, am y gwn mai NID GWYN POB MYNYDD. Nid wyf yn bwriada darbwyllo dynion i ym- flldo yma gyda'r meddylddrych dedwydd fod cartrefi cyBurus yn barod iddynt, ddim ond myned iddynt; na bod aur yn barod ddim ei gasglu, a'i perllanau toreithiog yn eu haros er iddynt dynu a mwynhau eu ffrwythau. Nid oes yma ddim i ddyn er ei gynaliaeth a'i ddedwyddwch ond llafur ei ddwylaw ei hun pawb yn gorfod gweithio, a neb yn byw yn segur ar ffiwyth llafur ei gyd-ddyn yr hen- uriaid, yr offeiriaid, yr esgob, a'r apostol yn cydweithio a r diacon a'r aelod cyffredin. Y mae yr esgobion Mormonaidd yn wahanol i esgobion ereill, gan eu bod yn cael gwas- anaethu eu swyddi eglwysig yn ddidal. Yn gyffredin y mae y flwyddyn gyntaf yn flwydd- yn galed i'r ymfudwr, neu y new comer, fel ei gelwir yma gan y rhaid iddo i aroa ei dro er cyrhaedd y gwaith goreu neu y ty mwyaf taclus oherwydd byddai yn annheg i droi allan hen sefydlwyr er rhoddi lie i newydd- ddyfodiad. Cwynir yma am brinder arian, gan fod haner masnach y Diriogaeth yn cael ei chario yn mlaen drwy gyfnewid nwyddau. Y rheswm o'r prinder arian yw nad oes hawl gan Diriogaeth i fathu arian. Rhaid i Utah gael dyfod yn Dalaeth cyn y bydd arian yma yn doraethog. Yn fy llith nesaf ceisiaf roddi desgrifiad o Salt Lake City, y brifddinas Formonaidd.
EISTEDDFOD GORONOG TONDU.
EISTEDDFOD GORONOG TONDU. Mae pwyllgor bydglodus Ysgoldy y Tondu am ymddwyn mor rasol tuag at bwyllgor yr eisteddfod a gwrthod beuthyg yr ysgoldy i gynal yr eisteddfod am ryw resymau nad oes neb yn gwybod beth ydynt. Purion fyddai i drigolion Tondu i ddangos ychydig o gydymdeimlad tuag at bwyllgor yr eistedd- fod, a dangos i'r byd nad ydynt yn hofii culni a gweithredoedd fyddo yn anwladgar. Nis gellid tro mwy gwael a chenfiganllyd, cwbl annheilwyg o Gymry, Cymro, a Chym- raeg. Gobeithio fod yn y Tondu ddyn ion a gwell calonau ganddynt nac awdurdodau yr ysgoldy. Gall fod yno gapel eang, a bydd i' awdurdodau y cyfryw fod mor galon agored a rhoddi ei fenthyg i gynal yr eisteddfod, gan fod cynyrch arianol y eyfryw yn myned at ddybenion da.-Penybont.
AMDDIFFYNIAD.
AMDDIFFYNIAD. MR. GoL.Crefaf am ychydig o'ch gofod yr wythnos hon er dweyd gair parth y Ilith anwireddus a ymddangosodd ar eich tudalen- au llachar am Meh. 22ain, o dan y penawd uchod, ac wedi ei arwyddo gan David Jones, Llanelli. Dywed fod Daniel James wedi methu ateb rhyw Mr. G. a ofynai iddo yn berffaith dawel paham yr oedd ef yn mabwys- iadu enw yr anfarwol Daniel Ddu. Anwir- edd noeth o eiddo D. Jones yw hynyna. Ni ofynodd Mr. G. i mi paham yr oeddwn yn defnyddio neu fabwysiadu enw yr anfarwol Daniel Ddu, ac felly anmhosibl oedd i mi fethu ateb ei ofyniad. Cofier mai D. Jones luniodd yr anwiredd yna, a bydd yn nod yn ei dalcen, fel y gallo pawb ei adnabod wrth y nod hwnw. Onid trueni meddwl fod dyn o safle D. Jones yn rhoddi ei hun mor isel a llunio anwireddau ag y mae pawb darllenwyr yn gwybod nad oes mymryn o wirionedd ynddynt ? Yn nesaf, dywed na roddodd efe erioed hawl i mi ddefnyddio ei enw mewn cysylltiad ag enw Alaw Hendy na neb arall. Mr. Gol., dyna anwiredd noeth eto, a gwyr D. Jones hyny yn dda hefyd. Daeth D. Jones ataf ti i'r gwaith ar yr 2ail o Mehefin, os wyf yn cofio yn dda, a chynygiodd bum' swllt i mi am ysgrifenu llith mewn cysylltiad ag Alaw Hendy a'r merched, y rhai a drinir ganddo yn ei lith, a rhoddi ei enw ef wrtho a'i anfon i'r GWLADGARWR ie, syr, cynyg pum' swllt i mi am ymyraeth a phethau nas gwyddwn ddim oil o'u plegyd. Peidied Tad y Celwydd, beth bynag, cyhuddo neb o ddweyd anwiredd. Cymered D. Jones yr awgrymiad. Dywed eto, na fu dadl rhyngddo ef ac Alaw Hendy yn y Llanelly Guardian. Anwiredd noeth eto. Gwyr D. Jones fod dadl wedi bod rhynddo ef ac Alaw Hendy yn y Llanelly Guardian, a gwyr hefyd fod y ddadl hono wedi myned mor frwd a pherson- ol fel y gorfu ar y golygydd folitio ei ddrws a throsglwyddo llith D. Jones i'r fasged am ei fod yn rhy bersonol. Geilw D. Jones fi yn gelwyddwr, ond pa ryfedd pan mae y dyn mor anwireddus yn nghyich pethau ereill; nid yw bosibl iddo ddweyd y gwir parthed i minau: Cofier mai peth lied chwithig yw gweled y rhai sydd yn byw mewn. tai gwydr yn lluchio ceryg. Mr. Gol. a darllenwyr gwrandewch, fe aethum i dy D. Jones ar yr 21ain eyfisol, a gofynais iddo paham yr oedd yn beiddio dweyd y fath anwireddau arnaf ar faes newyddiadur? O," ebe fe, nid fi a'i ysgrifenodd." Nid chwi a'i ysgrifenodd," ebe finau, onid yw eich enw chwi wrtho 1" Ie, fy enw i sydd wrtho, ond cafodd y llith ei ysgrifenu gan bregethwr galluog, a'r pregethwr hwnw filldiroedd lawer oddiyma yn byw." 0 wel, yn wir," ebe finau, os mai fel yna y mae pethau, wn i beth i ddweyd. Pregethwr yn enllibo a phardduo cymeriadau yn ddiachos Ie, yn wir, pregethwr a'i ysgrifenodd," ebe fe, ond y mae yn wir ddrwg genyf ei fod wedi gwneyd cymaint o gam a chwi." Dyna eiriau D. Jones, Mr. Gol., ond cofier nad wyf fi mor benfeddal a chredu fod un pregethwr yn Nghymru a ysgrifenai y fath gruglwyth o anwireddau. Pe dywedai D. Jones mai rhyw hen lercyn o'r un egwyddor ag ef ei hun a'i ysgrifenaij buaswn yn ei gredu ar unwaith. Mae plant Efa yn Iluesog iawn yn Llanelli. Pwy ond dyn allan o'i bwyll roddai ganiatad i ddyn arall i ysgrifenu llith i sarhau cymeriadau a rhoddi ei enw ef wrtho ? Pwy ond dyn wedi llwyr ymwerthu ei hun i'r diafol a ddywedai yn ngwyneb person hedd- yw nad oedd ef wedi gwneyd dim allan o Ie, a chynyg pum' swllt iddo am ysgrifenu llith o dan ei enw ef i'r GWLADGARWR, ac yfory yn ei warthruddo ar faes newyddiadur ? Rhaid fod cydwybodau rhai personau megys wedi eu serio a haiarn poeth. Pa hyd y goddefir y cynhyrfwyr a'r llunwyr anwiredd- au hyn ar y ddaear! Cofied D. Jones na wnaiff dychmygion anwireddus y tro yn He ffeithiau. Gwelaf ddigon eglur mai eiddig- edd at Alaw Hendy a merched aLlan yma sydd wedi cynhyrfu D. Jones. Os mai fi oedd wedi pechu, paham y mae y rybidyn yn trin a thrafod y merched hyn ac Alaw Hendy? Os yw D. Jones yn ewyllysio ymddadleu ag Alaw Hendy, pobpeth yn dda gadawer llonydd i mi. Nid wyf fi yn gweled un daioni yn deilliaw o'r cweryla yma ar faes newyddiadur, yn enwedig a dyn mor anwadal a dauwynebog a D. Jones. Ni roddwn geiniog am lon'd gwlad o'r cymeriadau hyn. Gobeithio y bydd y gair hwn yn foddion effeithiol i derfynu yr ymrafael hwn, a dWYD D. Jones i rodio llwybr y gwirionedd.- Ydwyf, dros y gwirionedd, Llanelli. D. JAMES (Daniel Ddu).
GLYJf EBWY.—" DIDYMUS" A DAT…
GLYJf EBWY.—" DIDYMUS" A DAT GTNIAD "CANTATA Y PLANT." MR. GOL.,—Yn y GWLADGARWR am Meh. y 15fed, gwelais, er siomedigaeth i mi ac ereill, gofnodiad o arogl sarhaus mewn cys- ylltiad a pherfformiad Cantata y Plant yn y lie uchod, gan un a eilw ei hun yn Didymus o'r Glyn. Dywed yr hen ddiareb, "Tebyg i ddyn y bydd ei lwdn." Felly y gellir dweyd am ysgrif Didymus-y mae yn dwyn delw ei pherchenog. Nofiedydd rhagorol ydyw; cystal ganddo notio mewn gwynt ag ydyw ganddo mewn dwfr. Ond y mae yn wir ddrwg genyf weled ei fod yn ceisio nofio mewn llaid o annghyfiawnder. Dywed fod ga,iddo "barch mawr i Aberdar, oblegyd mai ynu mae tardd- le ffynonellau ein llwyddiant mewn amryw ystyrion-mai yno y cafwyd yr ysgogiad cyntaf er dwyn oddiamgylch y gystadleuaeth fawr." Da iawn; ond y mae yn syndod na fuasai efe a'i gyd-ragorolion yn y lie hwn wedi dangos y parch hwnw tuag ati pan gafwyd mantais i hyny.P A ddarfu iddo gymeryd rhan er dwyn oddiamgylch dysteb deilwng Caradog 1 Ni chlywais i fod neb yn Nglyn Ebwy wedi gwneyd dim. Sonia, hefyd, fod "rhyw waith da" wedi dechreu yn Aberdar, a bod y contagion wedi llwyr ymaflyd ynom ninau a chyn hir, ceir clywed fod Glyn Ebwy wrthi o ddifrif yn cario yn mlaen i berffeithrwydd, yr hyn y mae Aberdar wedi dechreu. Rhyfedd iawn, onide ? Ai tybed fod yr Aberdariaii yn an- allnog i gwblhau y gwaith da, a'i ddwYJl i berfFeit?.rwydd eu hunain ? Ond rhag eich blino a. rneithder, Mr. Gol., aeth Didymus i Saron, a chafodd yr hyfryd- wch o glywed y Cantata yn cael ei berfformio. Credodd y buasai y newydd-deb yn dwyn llonaid capel o wrandawyr; ond Och meddai, "nid oedd yn haner llawn." Pe buasai y perfformiad wedi cael ei gynal yn nhapel byddai yn llawik o wrandawyr, a phob peth wedi cael ei gyfiawni uwchlaw ei ddysgwyliad. Nis gallaf gredu fod Didymus yn gwrando y perfformiad o gwbl, oblegyd m soniodd air am Miss Henry, yr. hon a arddangosodd allu a medrusrwydd di- gyffelyb ar y perdoneg. Nid yw Misa Henry ond o ddeuddeg i bedair-ar-ddeg mlwydd oed. Nid yw Mr. David Owen ond tua ugain oed. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ddau ddyfod allan i ddangos eu gallu mewn modd cyhoedd- us. Gwyddai Didymus hyn hefyd. A phe buasai y datganiad islaw ei ddysgwyliad, ai gormod ganddo gydymdeimlo a phlaut sydd yn llafurio yn galed gyda'r Ysgol Sabothol ? Y gwirionedd ydyw hyn, yn ol barn diragfarn pawb a glywsom yn siarad am y datganiad, y I byddai yn anhawdd cael ei well. Gan fod Didymus yn codi enw Mr. Meth lie wis fel enw digon uchel igael gwell cynull- eidfa y nos Sadwrn dilynol i wraudo arno yn perfforinio hanes Joseph, ceisiaf gofio gair neu ddau yn Seisneg o eiddo Mr. Lewis yn Saron. Dywedodd :—"I never was better pleased. I have enjoyed myse,f. The can- tata has been well rendered all through. Great credit is due to Mr. Owen for his trouble, and the intelligence which he has displayed in performing the cantata," &c. edi i Mr. Lewis bertformio Joseph, efe a ddywedodd, yn mhlith llawer o bethau ereill: We cannot boast that we are ttie first to perform a cantata in the neighbourhood. No; the, firBt was in Saron, and that was done excellently." Credwyf fod y nodiadau hyn yn ddigon i argyhoeddi pob darllenydd pwyllog fod gwell cyfarfod wedi ei gael yn Saron uar un a. ddesgrifir gan Didymus. Na ddiystyra ddydd y pethau bychain." HENAFGWR.
LLITH BROCHWEL.
LLITH BROCHWEL. Mr. GOL.Yr oeddwn yn meddwl rhoddi heibio defnyddio dim o'r hen gyllell ysgythru am dymhor yr haf ond yn sicr y mae rhai plant yn para yn lied wyllt o hyd, ac o gan- lyniad y mae yn rhaid treio dod a nhw dipyn i'w lie, welwch chwi. Gormod o ddelio a, Shon Heiddyn ar yr amser tlawd yma yr hen geffylwr wedi tori ei eollar bone yn y gwaith, ac yn ei yru o'i le wrth gledro ei better half pan o dan ddylanwad Shon, welwch chwi. Deio Arythr yn pregethu i'w gydletywr ar fore'r Saboth, oherwydd nad oedd wedi rhodio yn ol ei ewyllys ef yr wythnos flaen- orol, a dim cymaint a chodi o'r gadair boreu y Sul, er mwyn i Deio gael eistedd. Dyma i chwi sylwedd. y bregeth Tydi, y rodney, nid ydwyt deilwng o fod yn yr un man a mi y mae dy hugan yn dangos mai rodney yd- wyt mi a'i rhoddaf i ti." Nid wyf yn caru adrodd y rhelyw o'r ansoddeiriau, oherwydd yr oeddynt dipyn yn fygythiol o ardal y dwrn, welwch chwi, ond yn lied Gristionogol, oherwydd y mae Deio yn grefyddwr ac yn Demlydd Da (neu ddrwg, ond efe a wyr oreu pa un o'r ddau). Bachgen chwimwth yw Deio nid yw ef yn prisio bwrw enaid am- bell un o honom, chwedl yntau, a thagu am- bell i hen eirw, yn enwedig os y gwna ddal goleu i'w gariad pan yn croesi nant ar noson dywell. Wel, y mae bai ar ddynion am ed- rych ar ei gariad, chwaethach gwneyd un gymwtynas a hi onid yw Deio ei hun yn ddigon i ofalu am dani ? Crwt y G-s yn galw pawb na wnant rodio yn ol cyfarwyddyd ei spectol yntau yn ddiaflaid Pwy roddodd hawl i ti farnu, G. ? Cofiwch chwi, y rhai ydych yn ■ a nu ereill, "mai a pha farn y barnoch ych bernir, a pha fesur y mesuroch yr adfesurir i ehwithau. Yr eiddoch, BROCHWEL YSGYTHROG.
LLITHIAU SHON HUW.
LLITHIAU SHON HUW. Mit. GOL.-Goddefwch i mi trwy eich papyr clodfawr hysbysu y gwr uchod, mai nid ysgrifenu y cyntaf a wnaethum er mwyn ail ysgrifenu, na, nid oeddwn yn meddwl gwas- traffu mwy o amser yn ei gylch, oblegyd y Ily mae is law sylw genyf er's tipyn bellach ond bydded hysbys i'r bostfawryddol Mr. Huw, os aiff yn ddadl rhyngom, fod yn rhaid iddi fod yn ddadl deg, h.y., yn unol a moes- oldeb. Diolch yn fawr i ti, Mr. Shon, am dy gynghor gwerthfawr, sef bod yn fwy unol a mi fy hun o hyn allan. Yr wyf bob amser Mr. Gol. yn barod i dderbyn perl o enau llyfant ond Shon, cyn rhoddi cynghor, cofia bob amser fod yn lan dy hun ac er mwyn i ti fod yn add fed i roddi cynghor i mi yn yr ystyr yma, bydd cystal a thynu yr aneirif drawstiau o'th lygad dy hun, ac yna y gweli, ond yn hynod aneglur, y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Wrth ddarllen ei fraddeg- au tlysion yn ei lith diweddaf, deallais yn union fod ei gymeriad yn cael ei nodweddu a'r nodwedd ofnadwy hono, sef drwgdyb iaeth.. Wrth weled ei gymydogion tawel, y rhai sydd yn trigo yn ddiofal yn ei ymyl, yn cael eu drwgdybio ganddo o fod yn awdwyr o'm llith diweddaf, dyma bersonoliad byw mewn cnawd o ufudd-dod, yn ymaflyd yn ei ysgrifbin er mwyn hysbysu y doniol G-r, eu bod oil yn ddieuog o'r llith hwnw. Na feddwl drwg am y gymydog, Mr. Shon, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl. Addewais yn fy llith diweddaf rhoddi gwybod- aeth i'r wlad am y prif nodweddiadau oed&- yn cyfansoddi eu cymeriadau, ond gwelaf fod un ohonynt wedi syrthio i fedd o dawet- wch ond am Shon, rhodda ef ei hanes ca hun. Dywed mai cneifiwr moch ydyw o ram ei alwedigaeth ac hefyd yn mha beth y mae C, yn credu, sef yn yr athrawiaeth o adgyfodiad moch y Gadareniaid, y rhai y syrthiasant- dros y dibyn i'r mor a boddi. Cawn ragor ganddo y tro nesaf o bosibl. Hefyd, cry- bwyllodd ar ddiwedd ei lith yn nghyich y cyfaiil hwnw a ddefnyddiodd yr S. H. ar ddiwedd y Bobi a'i lith. Dywedodd mai yr amcan oedd mewn golwg wrth wneyd hyny oedd er mwyn i'r ardal dadogu v gwaith iddo ef; ond druan ohonot Shon, nid oes digon o fewn dy goryn i ddweyd mor ysblenydd a hyny, na, gwag yw dy goryn, onide ni fuaset yn meddwl byth fod yr ardal yrt meddwl mor uchel am danat. Er mwyn dyfod i ryw bwynt Mr. Gol., goddefwch i mi ofyn i Shon yn y He blaenaf A oes yna ryw leshad yn deilliaw i'r rhai a ddarllenant dy lithiau ? 2. Pa amciin sydd mewn golwg genyt wrth geisio taflu dy lvsnafedd ar ddynion ereiii, a- cheisio eu darostwng i lawr ar draui dyrchafir rhyw goryn gwag fel yr eiddot ti ? Ac os na roddi atebiad i'r uchod, yr wyf yn taflu yr ysgrifbin o'r neilldu hyd* nes y deui yn gallach. PHENIX.
Gair o L'erpwl
Gair o L'erpwl YMWELODD y Cynly wydd Grant a'r dref dydd Iau diweddaf, a gwnaed croesaw llHwr iddo gan y maer, A. B. Walker, Ysw., ac aelodaw y Cynghor Trefol. Eisteddodd rhvw ddau- cant a haner i wledda yn neuadd y drcf ac wedi clirio y byrddau Crifwyd urnithiaij gwresog ar gysylltiadau y ddwy "lad. a'r toimladau cvnhes a fodolant rhwng deibaid y Deyrnas Gyfnnol a dinusyddion y WelïlWteth- fawr yn y Goillewin. Dengys y brysgenadau pellebrol fod ein cefnderydd Anierll-anaid'd yn cydlawenhau a tTrant am y croesaw a'r cariadoldeb a ddangos ir tuag ftto ar ei vui- weliad a Phrydain. Sicr ydyw pan ddy- chwelo y Cadfridog i'w famwlad y bydd ganddo ryw beth i'w ddweyd am Brvdam a. Phrydeinwyr, ac nad yw trigolion y wlad hen yn gwbl amddifad o'r elfenau gwerthfawr hyny a gyfansoddant wir wladgarwch. Nid a, ddangosiadau ffngiol a wneir yma i ddinas- yddion gwledydd tramor. Lletygarwch gwir- ioneddol sydd yn nodweddu boneddwyr yn Mhrydain, lie y ceir hwynt, a gellir rhestTtt Maer presenol L'erpwl yn mhlith gorenou y wlad mewn pob daioni yn ei fendithion i?r tlawd, yr un fath ag yn ei wleddoedd i'r cyf- oethogion. Gwir ei fod yn gyfoethog, ac mor wir a hyny mae ganddo gaion i gyfranu o'i gyfoeth i bawb yn ddiwahaniaeth, ac yn eu plith y Cadfridog U. S. Grant o'r AmerIg. MAE yn ymddangos fod rhyw nifer o garn- fradwyr wedi bod yn dirgel gynllunio i osod atalfa ar dramwyfa fordwyol Camlas y Suez, ond fod yr awdurdodau wedi cael allan yn brydlon er gosod gwyliadwriaeth brydlon ite. dir a mor, a bydd i'r neb a gynygio wneyd rhywbeth yn y cyfeiriad o atal tramwyfa -v gamlas gael dyoddef y canlyniadau. Pe llwyddid i gan y gamlas byddai yn golled an- rhaethol i drafnidiaeth y wlad hon, pan y mae cymaint o'n hagerlongau vn mordwyo trwy y gamlas i'r India, Chiua, a phartnan- ereill y tudraw i linell y cyhydedd. Os my& rhai o'r Llywodraethau cyfandirol ymyraeth yn y mater, fe fydd yn rhaid i Brydain ddangos fod ganddi hawl i amddiffyn y brif- ffordd, a chadw yn ol ymyrwyr taeog a di-vtr- ionus nad ydyut byth yn meddwl am un daioni, ond beunydd yn ymdroi mewn an- wiredd a drwg. Beth bynag ydynt feiau y Llywodraeth Brydeinig, mae iddi rinweddai* hefyd, ae nid tebyg ydyw y bydd neb a'r sydd yn gwybod rhywbeth am y byd yn barod i feio John Bull am sefyll dros ei hawliau yn ei gysylltiad a'r Gamlas. Mae y dramwyfa. yn gaffaeliad g.werthfawr, ac ni ddylid et cholli er dim trwy fod yn ddifraw ac esgeulusr- wrth ymwneyd a edyledswyddau gwfadwr- iaethol. Gan fod yr hawl mewn llaw, mae yn hawddach ei dal na'i hadenill yn ol ar 01 ei cholli. MAE y glowyr sydd yn sefvll allan y-n- erbyn y gostyngiad mewn gwahanol barthair o'r sir hon yn rhifo tua phedair-mil-ar-bym- theg pedair mil yn cael eu cynorthwyo gan drysorfa yr undeb, a phymtheg mil heb°UB. math o drysorfa i ddibynu arni o gwbl. Cymerodd y tahad cyntaf i'r underfowvr^le yr wythnos ddiweddaf, pryd y derbyniodd per- sonau mewn oed ddeg swllt yr un, a phlant o dan ddeuddeg, swllt y pen. Dywedir fod amryw wedi dychwelyd i weithio ar hen delerau, ond fod miloedd eto allan, ac ni<5 oes neb all frenddwydio beth fydd y carilvr- iad. am fod pethau yn edrych yn dywjll a chymylog. RHAID i flaenoriaid yr undeb yn Nghymrw agor eu llygaid os ydynt am ddal afc yr athrawiaeth mai yr undeb ydyw yr -iniir gynllun i godi y dosbarth gweithiol i sefyllfa o urddas ac anrhydedd. Gan fod v sfrih3 a'r cwerylon cysylltiedjg a hwy wedi m.-thii a chyrhaedd yr amcan, ai nid doeth ynddynt- fyddal ceisio meddwl am ryw gynllun arall. pdaw i ddim byth mwyach wrth osod llafur i ryfeh gydn chyfalaf, am fod ymrysonfeydd or lath wedi methu fwy nag xtawaith ;*anr hyny, goddefed y darllenydd i mi alw ei sylw .^d oes dim da yn deilliaw o ryfel, 1 b es oblegyd canlyniadau y cyfryw yn oes or byd ydyw tlodi a gwae. Gwn fod pmi un yn Nghymru yn coleddu y svniad fy uiod' i, fel person, yn elyn annghynv>d]awr; i v,lsdef> y glowyr, mae hyna yn gamsynied cith fo* oblegyd credwyf mewn undeb wedi ei syl- faenu ar egwyddorion da, a chvnildeb yn brif arwyddair iddo. Mae sefyllfa deithasolygweithwyr yn galw am gynildeb a rhagddarbodaeth er cyfarfod a gwahanol amgylchiadau cyfyng ar amrywiol adegao. Gan fod haner poblogaeth y gweithfeydd y^