Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
amaethwyr profiadol, fe ellid yn hawdd gy- mhwyso pethau o fewn cylch y deuddeg mis dyfodol, a. thrwy hyny i ddwyn y meistri i gydnabod y llafurwr yn deilwng amy llafur a gyflawna. Dychwelodd dau Gymro o Wynfa y Chupat, a chyrhaeddasant i L'erpwl nos Sadwrn, drwy Plymouth. Cymro genedigol o'r America ydyw un o'r enw David Roberts, o ardal Oskosh, Wisconsin bachgen ienanc ydyw y ilall, o'r enw Evan Jones, o Ffestiniog, Gog- ledd Cymru. Hynod o ddigalon ydyw yr ølwg ar bethau yno, a dim gobaith am un gwelliant, yn ol barn y ddau gytaill hyn. Amser yn unig a brawf ynfydrwydd yr an- tnriaath i wlad lie nad oes un cysur i ddyn er iddo weithio yn galed am ei gynaliaeth. Hwyrach mai gwell gadael y pwnc lie y mae, gan fod tynged y Wladfa wedi ei selio gan anffodion y deng mlynedd sydd wedi myned heibio, er cymaint y llafur a wnaed yn y di- ffaethwch. LBWTS A VAN.—Bydd genyf adolygiad ar brif anwireddau y dyn hwn wedi y gorpheno ei ffrwgwd. Fy fheswm dros adael iddo i fyned yn mlaen ydyw fy mod am roddi pob chwareuteg iddo i arllwys ei gwd huddygl yn llwyr ar dudalenau y Darian. Wedi y gor- pheno, hydd i mi ei brofi yn llnuiwr anwir- edd mor ddued a luniodd y cythraul duaf a ddiieth i'r b\d evioed. Bydd i Hi; brofi hefyd fod John Mills yn euog, fel golygydd a rhan berchenog y Darian, o gyhoeddi celwyddau Oedd yn wybudus iddo ef. Brysied y llo Afan i orphen, gan ei fod mor bt-rsonol gyd- nabyddus a fy helyntion er y dydd y cynal- iwyd Eisteddfod ,yr A i It we 11. Nid wyf yn adwaen y dyn, am wn i, ond y mae ereill yn adwaen y dyn ag sydd yn fy adwaen inau. Dim ychwaueg yn awr.—Yr eidduch, CVMRO GWYLLT.
HELYNTIOSf CWMOVWY.
HELYNTIOSf CWMOVWY. MR. COL.,—Darfu i mi unwaith sychu fy yagrifell oddiwrth y llyffaint gwenwynllyd sydd yn y lie hwn. Ond yn y GWLADGARWR diweddaf gwelais nodyn wedi ei gyfeirio ataf yn cynwys rbes o ofyniadau, a sicrwydd ydyw fod Un o'r Llyffantod wedi lhvyddo igael llythyr ysgar rhyngddo a chywilydd, ao wedi ail briodi a haerllugrwydd. Cofied Un o'r Llyffantod chwyddedig a bolwyntog hyn mai ofer fydd ei ymgais i wneyd ei hun yn wyn trwy ymolch mewn dwfr brwnt a llawn parddu ofer hefyd fydd iddo geisio duo adenydd yr Eryr a chalch gwyn, am na wna ei galch end llosgi ychydig ar y croen, a chynhyrfu y teimladau nes peri iddo ei ddyuoethi fwy nag a fwriadodd. Darllened y liyifaint hyn, a chant atebiad llawn i'w gofyniadau. Y mae glowyr Pwll y Wyndham ar strike i wrthwynebu y gostyngiad, yr hyn a dder- byniodd y fyddin lyffantaidd am bedair wjthnoB ar ddeg cyn eu dyfodiad hwy allan. Dywed Un o'r Llyffantod" ei fod wedi myned i fewn ar yr hen raddfa. Cofied fod yr hen raddfa hono yn debyg iawn i hen dwca oedd gan fy nhad i wneyd llwyau coed -yn ague a treulio'n ddim gan henaint-am eu bodyngweitbio yn agos i ddau swllt y turn yn is na'u cymydogion nesaf, pa rai mewn enw sydd yn dilyn yr un raddfa a hwythau. Dywedasoch yn eich llythyr pe buasech yn gofyn i Mr. Halliday neu Mabon, y buasent yn eich cynghori i dderbyn jr hen bris. Dafllenwch hanes cyfarfod y glowyr yn Merthyr, a chewch weled fod yno fwy o ddyn- oliaeth na hyny. Pasiwyd yno nad oedd neb i weithio diwrnod ar yr hen raddfa hyd nes y buasai pawb yn derbyn yr un peth. Credaf hefyd mai talp o gelwydd noeth lymyn oedd yr hanes am y rhai oedd wedi cynyg eu hunain i'r manager, ac yntau yn eu gwrthod. Pe b'ai hyny yn wir, pa angen a pha gysondeb fod y llyffaint hyn yn myned amgylch ogylch y lie fei rhyw would-be recrui ing sergeants er ceisio denu dynion i weithio. Aeth un o'rMlyffaint hyn at hen waig oedd yn dlawd ei hamgyichiadaui ofyn 17 Ily I am ei bachgen i'r gwaith. Dywedodd yr hen wraig yn sarug wrthynt y buasai yn rhoddi ysgrepan ar ei ysgwyddau yn gyntaf, a gwneyd cardotyn ohono, cyn y c'ai weithio gyda ohreaduria.id a'i cotiau o chwith. Yr oedd Un o'r LlyfIantod" yn honi ei fod yn adnabod yr Eryr, a'i fod yn hen awyddog yn y Wyndham. Dywedaf finau hefyd fod dau o'r llyffaint wedi bod yn siarad .â'r Eryr yn ddiweddar. Ni fu yr Eryr yn uwch na gweithiwryny Wyndham, a hawdd- ach fydd i lien alltudion St. Patrick lenwi Pwll y Wyndham a bugtl colomenod, nac iddynt byth adnabod yr Eryr presenol sydd ar ei aden uwch eu penau, am fod ei drigfan yn rhy uchel i lyffaint coesddu y ffosydd Ileidiog'd'i llygf.id marwaidd ei ganfod ddigon eglur i'w adnabod. Terfynaf, rhag eich biiiio â meithder. ERYR Y FOEL. MR. GOL. ,-Ar ol i mi ddarllen nodyn "Eryr y Foel," Mehefin 22ain, meddyliais yn y fan y buasai ei nodyn yn sicr o glwyfo rhai ac erbyn heddyw, yr ydym yn deall ei fod wedi clwyfo rhai yn beryglus. Clywais fod rhai yn dweyd na charasant hwy fod yn lie yr Eryr; diamheu y wir, nid yw yn weddus i ddynion a phenau gwael godi i'r ucbder y mae yr Eryr yn lledaenu ei adenydd ynddo. Ond beth dynodd fy sylw fwyaf oedd gweled Un o'r Llyfantod yn arddel yr enw yr wythnos diweddaf ar dudal- enau y GWLADGARWR. Dyna i chwi game! Yr oeddet, atolwg, mor benfeddal a dweyd, pe buasai i chwi ddanfon at Mr. Halliday neu Mobon, i ofyn pa un gwell fyddai i chwi dderbyn yr hen bris a myned at eich gwaith, neu ei wrthod. Diamheu y cynghorent hwy chwi i dderbyn yr hen bris, ao heblaw hyny cynghorent chwi i aros allan nes y caffai eich cydweithwyr yr un peth. Chwi welwch fod Iiyny wedi ei basio yn y cyfarfod diweddaf yn Merthyr, ac hefyd, chwi welwch nad yw yr Eryr yn dweyd dim ond yr hyn sydd wir. ERYR ABALL.
Dyn yw Dyn, er hyny.
Dyn yw Dyn, er hyny. ME. GoL. ,-Anfarwolodd gwirionedd lawer brawddeg farddonol a rhyddieithoL "Hvsbys y dengys dyn# O ba radd y b'o '1 wreiddyn," meddai rhyw fardd, ac anfarwolwyd y gwirion- edd a gynwysa'r ddwy linell. Mae'r gynghan- edd sydd rhyngddynt yn bert, ond y gwirionedd hynododd hwynt. Gallesid meddwl, yn y blyn- yddau llwyddiant diweddaf (coffa da. am danynt), fod ambell lew wedi ei draws- newid yn oen, ac ambell eryr ysglyfaethus wedi derbyn deubarth ysbryd diniwaid y golomen. Ymddygent mor wahanol yn y blynyddau hyny i'r rhai caledien blaenorol, fel y gallesid meddwl yn wir eu bod wedi colli eu hen hanian bwystfilaidd, ao wedi dyfod yn greaduriaid-nid yn unig diniwaid, ond buddiol hefyd. Ond 0 1 y fath gamsyniad I Y nhw yw nhw eto; y mae'r amser tylawd hwn wedi hen eabonio mai nhw yw nhw o hyd. Nid oedd yr ymddygiadau gwahanol ynddynt ond eglurhad ar eu natur llwynog^idd a ffals yn awr y gwelir hwy y peth ydynt mewn gwirion- edd. Gormeswyr treisiol oeddent, a dyna ydynt yn bresenol. Mae yr amser tlawd yn ddigon 6 faich arnom heb gael dychryn trais wedi ei gyd- wau &'r tylodi a oddefir genym. Mae'r dyfeis- iadau diweddar i gael gan y gweithwyr i gymeryd y gostyngiad diweddaf yn eithafol o felldigedig: Cymeryd gostyngiad neu atal gwaith, yr an a fynoch dewiswch chwi drosoch eich hunain I" 0 ddyfais! Llwyddodd i raddau pell; ac oni b'ai y Cymro o Landinam, yr oedd cwympiad o ddau awllt yn y bunt ar ddyfod yn beth oyifredinol. Yn awr, ddarllen- ydd hawddgar, y mae llawer yn chwerthin yn iach, am fod y perohenogion yn myned yn ben- ben a'u gilydd, fel ag i anog y glowyr; i strike yn bresenol; ond danod di i fi, oa na chawn ni ddigon o amser i alaru am hyn eto. Gwell i ni yw gweled y meistri yn un ac heddychol ¡¡"n gilydd na'u gweled yn cweryla. Dywedaf ragor, byddai yn well i ni, cyn pen pum' mlynedd, i gymeryd dau swllt y bunt o gwympiad na gweled y meistri yn ymranu, fel y maent yn debyg o wneyd yn bresonol.. Tra mae'r mwyaf- rif yn llawenhau am yr hyn sydd yn myned yn mlaen y dyddiau hyn yn Nehendir Cymru, y mae rhai yn galaru, am eu bod yn gweled drwg yn deor yn y nyth y tu ol i'r lien, yr hwn, yn ei amser, a ddaw dros y nyth yn hatch neu gysawd o ddrygau cymdeithasol. Peidier bod yn rhy wyllt; os bu angen am bwyll a doethineb neill- duol erioed yn ein plith, yn awr yw hyny. Dichon y rhegir fi am ddweyd hyn, ond ni waeth am hyny; nid y tro oyntaf a fydd i fi gael hyny am ddweyd yn erbyn mympwy rhai dynion. Mr. Gol., os byw ac iach, rhoddaf i'r darllen- wyr gyfres o lithiau addysgiadol oddiwrth orlif- iad Tynewydd yn y rhifynau dyfodoL WM. TELL.
LLYTHYRAU " TELOR TAWE" A…
LLYTHYRAU TELOR TAWE" A J. G. EVANS. MR. GOL.-Caniatewch i mi ychydig o'ch gofod er ateb y cyfaMl J. G. Evans mewn cysylltiad a'r pwnc uchod. Fel y mae yn wybyddus, ymddangosodd ysgrif ganddo yn GWLADGARWR diweddaf yn rhyddhau ei hunan o fod yn awdwr y llythyrau uchod gyda llaw, fy mod i wedi dweyd wrth ei frawd, yn blaen a chroew, mai efe oedd y Telor." Wel, yn awr, dywedaf yr hyn sydd wir Fel yr oeddwn yn nghwmni eich brawd yn dyfod adref o'r pratice (erbyn Eis- teddfod Zoar, Ystalyfera), yr oddem yn siarad am lawer o bethau, a daeth llithiau y "Telor" i sylw genym. Gofynodd eich brawd i mi pwy oeddwn yn feddwl oedd yr awdwr ? Dywedais nad oedd fawr pwys genyf pwy oedd, ond Rhydd i bob meidwl ei farn, ac i bob barn ei llafar," a dywedais fy mod yn credu mai John ei frawd oedd y "Telor." Nid oeddwn yn meddwl fawr y pryd hwnw y buaswn ar y GWLADGARWR yr wythnos ar ol hyny, dim ond ei grybwyll fel secret rhwng dau gyfaill. Dyna'r cwbl a fu ar y mater, gwnewch chwi beth a fynoch ohono, nid yw fawr gwahaniaeth genyf. Yr wyf yn credu eich bod am ddadl, os felly, bydded hysbys i chwi a phawb ereill fy mod yn troi yr ychydig allu sydd ynwyf at bethau sydd uwch ao yn fwy teilwng na phardduo ein gilydd ar g'oedd y wlad. Terfynaf gyda dymuno pob llwydd i chwi a phawb oil. Ni wnaf sylw eto o'r drafodaeth hon. — Yr eiddoch, &c., CHARLES DAVIES (Alaw Meudwy). [Tystiwn nad Alaw Meudwy yw "Telor Tawe." —GOL.]
Baban-laddiad Honedig yn Aberdar.
Baban-laddiad Honedig yn Aberdar. Dydd Llun diweddaf cynaliwyd trengholiad yn Ngorsaf yr Heddgeidwad, Aberdar, ar gorff baban a gawsid nos Sadwrnar waelod peirianbwll, yn Ngweithiau Haiarn Llwyd- coed. Tybir mai mam y plentyn yw dynes ieuanc o'r enw Ann Thomas, yr hon fu am ysbaid yn forwyn yn y Welsh Harp, Trecynon. Yr oedd hi yn bresenol yn ystod y trenghol- iad. Wedi gwrando rhai tystiolaethau, caf- wyd tystiolaeth Dr. Davies, yr hwn a ddy- wedai ei bod yn anmhosibl dywedyd pa un a oedd y plentyn wedi cael bodolaeth ar wahan oddiwrth ei fam a'i peidio. Gohir- iwyd y trengholiad hyd dydd Sadwrn nesaf.
[No title]
Y mae gwallt Jennie Linde erbyn hyn can wyned a'r eira.
Llith o Gwmtawe.
Llith o Gwmtawe. MR. GoL. ,-Er fod y "Oymru fu" yn nodedig ao yn ddiarebol am eu hofergoel- iaeth, a Chymru yn ei hamser, gan ei bod yn ordoedig gan dywyllwch anwybodaeth, yn fagwrfa pob math o chwedlau gwraohaidd a disail; y mae goleuni yr Efengyl a gwawl addyag yn graddol symud lleni caddugawl yr amseroodd tywyll hyny i ffwrdd, fel erbyn heddyw ychydig mewn cymhariaeth sydd yn rhoddi y cool lleiaf i'r hen ddywediadau a gyfrifid yn verbatim yn yr hen amser gynt. Dilys genyf, pe caem waredigaeth hollol o'r ofergoeledd a'r ffol-bethau gweigion sydd yn aros yn ein plith er dyddiau ein tadau, y byddai hyny yn ddyrchafiad ac yn lies tymor- ol a thragywyddol i'n cenedl. Ond er y deill- iai y fath fendithion anmhrisiadwy oddiwrth hyny i chwi, a'oh rhywogaeth Mr. Gol., byddai yn fendith, ie, yn amddiffyn i ni, y tylwyth adeiniog, pe cai yr hen ddywediadau hyny a ddyfeisiodd rhywtai o'r cyndeidiau tynergalon er dyohrynu plantos dideimlad ao annynol rhag tynu ein nythau, eu cadw yn eu grym cynhenid, sef- Y Bawl a dyno nyth y Dryw A gaiff ei boeni tra f o byw. Y sawl a dyno nyth y Telor A gaiff ei cnwythu yn rhacs phylor, &c. Pan oeddwn i yn gyw bach, yn nyth fy rhieni, er's tua 40 mlynedd yn ol, yr oedd yr hen ddywediadau uchod yn ddigon o amddiffyn rhag rhaib unrhyw blentyn drwg a ohreulawn ond erbyn heddyw, y mae yr amseroedd wedi newid, os gallwn gymeryd y plantos diymen- ydd sydd yn bwhwman trwy Udgom y North- man yn specimen o hiliogaeth Cymry gwar- eiddiedig, sef yr ymlusgiad malwodenaidd a gyfenwa ei hun Gohebydd Teithiol" a'r llebwst clogyrnog ei iaith a chelwyddog ei ymadrodd hyny "Shon o'r Cwm." Y mae y ddau gorach anwar hyn wedi deall a theimlo fod fy nghlust yn deneu a'm llygad yn dreidd- gar; o ganlyniad, y mae eu hysbrydoedd maleisddrwg yn llosgi gan awydd am dynu fy nyth, ei chwilfriwio, a'i gwasgaru i bedwar gwynt y nefoedd. Ha ha byth nis gwnant, er hyny, oherwydd y mae brig llathrwydden yn mhell uwchlaw oyrhaedd ymlusgiaid sydd yn trigo mewn carthffosydd a thomenau. Ni fuaswn yn gwneyd un sylw ohonynt oni bai eu bod yn pardduo cymeriadau personau o dan y dybiaeth mai un o'r cyfryw yw y Telor. Felly, nid ydyw ond teg hysbysu nad oes a wnelo y personau hyny y mae y ddau gorgi bawaidd hyn yn chwyrnu ao yn cyfarthamynt, .'m llithiau, yn fwy nad oes a wnelo cariad at uniondeb a geirwiredd a'u calonau llygr- edig hwy. Paham na nodent rhywbeth allan o'm llithiau fel mater na ddylai gael ei gy- hoeddi ? Oherwydd fod ganddynt reawm da dros hyny-nis gallant. Facts are stubborn things. Gwelais fod eich gohebydd "ysbrydoledig" Wil o'r Wenallt" yn eich rhifyn cyn y di- weddaf yn gofyn fy marn ar helynt ysbryd y coed gooseberries." Ar fy ymweliad arwynt- ol diweddaf a'r Cwm, gwnaethum ymchwiliad i'r achos (yn ddystaw fach, Mr. Gol., cefais beth o'r helynt gan Wil ei hun), ao wele swm a sylwedd y cwbl:—Nad ydoedd yr helynt uchod yn deilwng nac yn worth haner eich trafferth i ymuniawni baglau brain," a ohywiro aneirif wallau ysgrif "Wil" er ei chyhoeddi, gan nad ydoedd ond ymgais di- ohellddrwg o'i eiddo i sarhau a phardduo oymeriad dyn ieuano ag sydd gymaint uwoh- law "Wil," druan, yn mhob peth o duedd dda ag ydyw y nefoedd uwchlaw y ddaear, a hyny yn unig am ei fod yn tybio mai y dyn ieuanc uchod yw y Telor. Rhaid cael genau glan i oganu," Wil." Dyn a'th helpo trodd dy ymgais yn llawn mor aflwyddianus a'r "llythyrau cymaradwyaeth" '(?) hyny a anfonaist i'r swyddfa ar fy rhan er s ychydig yn ol. Gan fod y fath ysfa ohebiaethol wedi ymaflydynot paham nadymgymeretathraethu dy len ar yr ysbryd hwnw fu yn "aflonyddu ar heddwch" a meddianau trigolion Y—w trwy gipio ymaith eu gwyddau i'w puddlo. Diau genyf dy fod wedi clywed am hyny. Carwn gael dy farn dithau ar hyn mewn ad- daliad. Hyd hyny, bydd wych. Yr oedd Mr. J. G. Evans, Pontardawe, yn eich rhifyn diweddaf, yn berffaith iawn pan yn dweyd mai nid efe oedd y Telor ond nis gwn pa un a ydoodd yn iawn ai' peidio pan yn son am danaf fel "gohebydd o'r lieyma." Beth ydyw eich barn chwi, Mr. Gol. 1 Deall- wyf ei fod yntau wedi cael ei gyhuddo. Pwy nesaf, wys? Nid adwaen i mo Mr. Evans nac Alaw Meudwy yn bersonol, ond adwaen- wyf Alaw Meudwy fel dyn ieuanc ag sydd yn ymddyrchafu yn lied addawol i sylw fel cerddor. Dymunwyf ei lwydd, ond bydcled iddo gofio na wna camgyhuddo personau ychwanegu yr un mymryn at ei falltioli. "Ddawhiddim." Wrth derfynu, carwn roddi gair o gynghor i'r boneddigion (?) uchod, a llyma ef -GWYL- IWCH. Maddeuwch fy meithder. Bydd genyf faterion dyddorol i'w trafod y tro nesaf. Look out, fecfu/yn, for the next, There's many an interesting text, Ar fwrdd TBLOR TAWE. Gallwn sicrhau nad ew y Telor yn trigianu yn Mhontardawe, er fod ei ddyledswyddan yn ei orfodi i ymweled a'r lie yn fynych.— GOL.]
cojs TABERVACL, SGI WEN, AG…
cojs TABERVACL, SGI WEN, AG EISTEDDFOD ABERTA WE. MR. GOL.Fel y mae llawer o'ch darllen- wyr yn gwybod, yr oedd yn Eisteddfod ddi- weddaf Abertawe wobr i gor o un gynulleidfa a ganent yn oreu "Then round about," &c., ac enillwyd y wobr gan gdr y Tabernacl, Sciwen. Gan fod y si ar led fod anoneatrwydd wedi ei chwareu gan y cor hwn mewn cysylltiad a'r gystadleuaeth grybwylledig, carwn gael gwybod,— op 1. A ydyw yn ffaith fod oddeutu 25 o g6r Horeb, heblaw aelodau o gorau ereill, yn cynorthwyo y cor uchod pan yn y gystadleu. aeth yr ydym yn son am dani ? 2. Os ydyw, a fydd y cor hwn mor onest a rhoddi y wobr a dderbyniodd trwy gam- dystiolaeth yn ol i ysgrifenydd yr eisteddfod, fel ag y gallo efe ei rhoddi i'r ail gdr yn y gystadleuaeth ? 3. Yn ngwyneb nacad oddiwrth y c6r i'r oynygiad yn owestiwn 2, a hwythau yn euog, a ydyw ysgrifenydd yr eisteddfod yn barod i gymeryd legal proceedings yn eu herbyn am anonestrwydd ? Atebion i hyn o lith rydd fawr foddhad i lawer heblaw BILLY FAIlt -PLAT.
[No title]
P RIO DAS. Mehefin 28ain, yn swyddfa y cofreatrydd, Merthyr, Mr. David Lewis, gdf yn Blaengwawr, a Mia.< Rachel Jenkins, mereh ieuengaf Mr. T. Jenkins; Little Wind-street, Aberdar. Boed i'r ddan ddyn 'nawr briodwyd Fod yn ffyddlawn hyd eu bedd I'w mynweaau bood dyliiiant lachawdwriaeth lawn o hedd. Harddu'r grefydd a broffeaant Fyddo'u dyben penaf hwy, •> thra'n teithio gyrfa bywytl Boed eu pwys ar farwol glwy. —GyfaUl. MAR WOLAETHA U. Gorph. 2ail, Mr. Morgan Dities, chandler, 6cc Merthyr Tydfil, yn 68 ùed, Mehefin 25ain, yn 48 mlwydd owl, Mrs. Jane Lewis, anwyl briod Mr. Hilias Lewis, Bridge- place, Uwmbaeh. Cafodd ei tharo mor ddi- symwth gan yr inflammation fel ac y bu farw bron yn annysgwyliadwy. Yr o;dd yn un a fawr berchid yn y lIe. Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol yn y Cemetery, pryd y gwein- yddwyd yn ynod darawiadni gan y. Parch. J. Morgan, y gweinidog. Nawdd y nefoedd fyddo dros y teulu galarus a'r perthynasau oIL Mrs. Lewis, er eiD triatwch, Wedi cefnu arnom ni, Bron a methu credu' r syniad Mae ei hoff hanwyliaid hi; Megys ddoe hi rodiai'n addas I oedfaon gras y nef, Reddyw wedi oyrhaedd adref I ganu'r anthem iddo Ef. —Deirjryn.
Advertising
Y Bedwaredd Fil allan o'r Wasg. REQUIEM GYNULLEIDFAOL. Anthem er coffadwriaeth am y diweddar BABOH. JOHN ROBERTS (IEUAN GWTLLT). Gan Joseph Parry, Mus. Bao. GEIRIAU GAN MYNTDI 00. I. Wylwn I wylwn cwympa'r cedyrn, Gwympa cedyrn Seion wiw Wylwn wylwn dianc adref Y mae cewri mynydd Duw Cyd-alarwn dan y atormydd, Crogwn ein telynau'n ayn, Crogwn hafyd bob llaweuydd Ar hen helyg prudd y glyn Y cadarn a syrthiodd, mae bwlch ar y mur, A Seion ar suddo mewn triatwch a chur, IL Ond udgorn Duw a rwyga feddau'r llawr A syrth y ser yn deilchion ar un awr Dyad dial Duw! Dydd gwae i fvrddiwn fydd, Ond dydd gollyngdod teulu'r nef yn rhydd. ill. Clywaf laia o'r Ne'n llefaru, Treiddia drwy hen niwl y glyn, 'Rhai sy'n meirw yn yr Iesu, Gwyn eu byd y meirw byn Molianwn! Gorfoleddwn Cawn gwrdd i gyd-ganu,-cyd,foli,oyd-fyw Mae allwedd marwolaeth wrth wregya ein Duw. Pris Pedair Oeiniog yn y Ddav, Nodiant. AUan o'r Wasg erbyn Mehefin 12fed, ac i'w chad gan yr Awdwr a'r IJyfrwerthwyr. ANTHEM 0 FAWL (CYMTTLLEIDFAOL) AR WAREDIGAETH Y GLOWYR Y Ddegfed Fil allan o'r Wasg. DYWED Daily News Llundain am Mai 30ain An Anthem which cannot fail to become popular throughout the Principality Pris Pedair Cainiog yn y ddau Nodi ant, I'w chael gan yr Awdwr a'r Llyfrwerthwyr. 1575 Y MAE Mr. DANIEL EVANS (Eos Dar), (TENOR), YN agored i dderbyn engagements fel soloist mewn Cyngherddau ac fel Beirniad Eistedd- fodol. CTFJSIBBB—13, Mary Street, Aberdare, Glam. 1591 DYMUNA Mr. R C. Jenkins (BARITONE), Dysgybl i Signor Garcia, B.A.M., HYSBYSU y cyhoedd ei fod yn agored i -LJL dderbyn engagements i ganu mewn Eistedd- fodau a chyngherddau fel arfer, a bod ei gyfeiriad o hyn allan fel y canlyn :— 3, vittoria-street, Greenfields, LlaneUy. O.Y.—R. C. J. oedd enillydd y vocal and har- mony scholarships am 1875 a 1876 yn Mhrifysgol Aberystwyth. 1524. Y MAE MR. GWILYM THOMAS, (BARITONE), 0 gyngherddeu y Crystal Palace a St. James's Hall, Yn agored i dderbyn Engagements fel datgan- wr mewn Cyngherddau ac Eisteddfodau. Cyfeiriwoh-MR. GWILYM THOMAS, PORTH, near PONTYPRIDD. 1570 Y 1ILUI Miss LIZZIE WILLIAMS, RAM. (LLINOS Y DB,) VN agored i dderbyn Engagements i ganu -*• mewn Eisteddfodau, Cyngherddau, &c. Gyfeiriad,—-27, Fabian-street, St. Thomas, Swansea. 1491 ARNOLD COLLEGE, Walter's Road, Swansea. PRINCIPAL REV. EDGAR WILLIAMS, M.A., B.D. T\UTIES will be resumed on Tuesday, July JLJ 24th. For Terms, &c., apply as above. 1589 DALIER SYLW. Y GWAED YW BYWYD Y DYN. GWAED DRWG XTW'R aohos o'r rhan fwyaf o'r olefydau gwaethat X ac y mae'r corff dynol yn dioddaf oddiwrtfe- ynt. Y Gwaed sydd yn derbyi! y gwan wyn, •ao ytB M gario i'r gwahanol ranau o r corff, nes dwyn ypt yn miaen y Blaet, Scirry, Cornwydon. Penddynoql Clwyfau, Croen Garw, Ysfa y Cnawd, &c. GWAED DRWG Yw'r achos o'r Piles, Inflammation y Llygaii, Gwynegon, (Jout. Danodd, Spleen yn y Dane^ y Pen, &o.. Stitches yn yr Ochrau, 4o, GWAED DRWG Yw'r achos yn ami o Glefydau'r Afu. Diffyg TrauL Jaundice nea'r Clefyd Melyn, Dwfr Poeth, ISØf- der Yobryd, &c. GWAED DRWG Yw'r achos o'r Manwynion neu Glefyd y Brenin, Chwydd yn v Glands, Olefydau Benywaidd, megw Atahadau Natur, Heintiau, Ohwys Oer. Nervfe Ei<wan, Cryd, Gloeaiadau, Darfodedigaeth, &c. Felly, mae o'r pwys mwyaf i Buro, GlanhaaJ^ Uhryfhau y Gwaed, a thrwy hyny Dadwreida& pob Afieohyd, trwy gymeryd y fed dyginið fwftr at y GwHivl, lief H PATENT L-.o br prawf o'r effaith neL lduoi qd.1 ynddynt, gosod- eryma rai o'r tyBtiolaethau sydd yn fy meddiant c- 8YR,—Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu oV l ea inawr a wnaeth eioh Pills rhyfeddol o'r enw Hughes Patent Blood Pills," i mi. Yr oeddyto am ddwy flynedd mewn blinder mawr gan Ysfatt Phoethder y Cnawd, wedi eu haohosi gan Ddis- temper y Gwaed, ao wedi cymeryd ond ycliydigar Pills hyn, mi a gefais lwyr rhyddhad, ac yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd.-B, THOMAB. Dolau. Llanelli. Ghcellhad hynod o'r Distemper a'r Piles (TalfyriadL SYB,—Drwv gymeryd eich Pills hynod at y Gwaed, sef "Blood Pills," cafodd fy merch weQ- had neillduol oddiwrth Darddiant ar y CnawdL Poon yn y Pen ac yn y Cluniau, dim ArchwaetK Gwrthwyneb v Gyfla, a mawr fliod-ir gan Ataliad- au Natur. Hefyd, trwy gymeryd yr un Pilte. cefads lwyr iachad oddiwrth y Piles. Fe ddjOK pawb wybod am danynfc.—D. DAVIES, Willmii Street, L'lanelly^ GhoeUhad oddhorth y Piles. STB,—Yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydtf arnaf i'ch hysbysu fv mod wedi cael budd mawr drwy gymeryd dau flychaid o'ch Pills gwerthfawr, sef Hughes' Patent Blood Pills." Yr oeddwk yn methu cerdded cam braidd, ac yn methu eistedEi; oherwydd y Piles a phoen yn y rhan istlaf o'r cefii, y Cluniau, a'r Pen, ac yn teimlo yn bur wan. HBto awr yr wyf yn hollol iach, ac yn teimlo yn bur dcft- olchgar.-MARY JAMES, Cwmbran, Awst 20, 18i6. Y mae'r Pills hyn yn Patent. Cosbir pob ffqft- iad. Registered Trade Mark—" Blood Pills. Ar werth mewn Blychau yan »oll iJhemists ydeynlg# amis, lie., 2s. 9c., a 4s. 6c. Gyda'r post Is. 2s. llc., a 411. 9c. oddiwrth y Patentee— Jacob Hughes, Apothecaries' Hall, Llcmetyfr London Agents—Barclay, Sutton, Ntwhuryy Sanger, Hovecdon. Bristol—Pearce. Warrffi. Liverpool-Evans & Son, Raimes. Cardiff-Kemftai.. Manchester—Mather. -4 AT YMFTOWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Stemners. N M. JONES (CTMUO GwrijjT), Passenga* Broker, 28, Union-street Liverpool, wyliwr i'r Llinellau canlynol :—Inman Line Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, StaU Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a5* Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr ftr cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofaS ddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. J AS. REEB. brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Oymro allu hysbysu « Gyhokdd fod ganddo y TY GYMREIw eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr as Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing Stage.—Cofier y Cyfeiriad, N. M. JONES (CnlRo GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool. D.S,—ftellir ymhoU yn Aberdar A John Janns; Crown HoteL Eisteddfod Gerddorol a Llenyddoi Ponypridd. CYNELIR yr Eisteddfod uchod ar DIJTI)J> LLUN, GOBPHBNAF 30ain, 1877. Prif Destynau.—Oerddoriq^th. fT (M L I'r c6r a gano yn oreu Y Mab AfiacUonJ'* gan J. A. LlOyd, o'r Gerddorfa, Rhif 55, gwobr, 15p.; ail wobr, 5p. 2. I r cdr o'r un gynulleidfa a gano yn orett "Bavaria;" gwobr, 3p. 3. I'r hwn neu'r hon a yn N"1J ar y berdoneg "Ciychau AlJemlyri," gawx Pencerddl Gwalia; gwobr, os. 4. I'r Drum and Fife Band a chwareuo yn orera March of the Men of Harlech "—y band i ddei^f y trefniant; gwobr, 2p. 5. I'r pump a gano yn or eu "I waited for the Lord," gan Mendelssohn, i'w gael gan NovaHe, Ewer, and Co., Llundain; gwobr, 10s. tio. 6. I'r Tenor a Bass a gano yn <-reu y deuaref "Awelon Eryri" (Tafalaw), o'r Gcrddorfag gwobr, 10a. 7. Am y pedwar penill goreu o glod i David Davies, Y&w., Cilely, ar y mesur a elwir Ym- daith gwyr Harlech;" gwobr, 10s., gan Mr. Wm, Lewis, Trefforest. CYPANSODDIAD :—Am y Triawd goreu, T ddau am yr un"—y geiriau i'w cael ar y prm- gramme gwobr, 2p. PRYDnEST — Gorlifiad Pwll Tynewydd, a'r amgylchiadau cydfynedol;" dim dros 300 o linell- au; gwobr, 5p. TRAETHAWD :—" Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda, gwobr, lp. BeirniadMYNYDDOG. Programmes, ceiniog yr un, drwy'r post, ceiniflg a dimai, yn barod yn fuan. I w cael gan yr ysgrifenydd, DAVID FRANCIS. Coedpennaoen Schools, new Pontypridd. 1569