Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. Cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn Orafton Hall, dydd Mercher, Mehefin 27ain, i gynorthwyo y Temperance Hospital, o dan aawdd yr enwogion canlynolThe Marquis of Huntley; Earl of Caithness; Sir Robert Anstruther, M.P. J. J. Grieve, M.P. C. ,Dalrymple, M.P. A. Whitelaw, M.P. Dr. Oameron, M.P. a Geo. Anderson, M. P. Cymerwyd rhan gan yr enwogion canlynol:— Miss Florence Clyde, Miss Mary Davies, IR.A.M. Miss Emilie St. Clare, R.A.M. Miss Maggie Montgomery, Mr. Duncan Finley, Mr. T. D. Williams (Eos Dyffryn), H.A.M. Mr. J. L. Wadmore, R.A.M. Mr. G. H. Lackaer, Mr. G. S. Graham, a Mr. Marlande Clarke. Cyfeiliwyd gan Miss Maggie Montgomery a Mr. J. T. Mew, R.A.M. Musical conductor Mr. Duncan Finley. Yr oedd y programme yn cynwys cerddoriaeth Albanaidd, Saesonig, Gwydd- elig, a Chymreig. Yr oedd y gwahanol gantorion yn canu yn rhagorol dda; ac y mae yn dda genym ddweyd i Miss Mary Davies ac Eos Dyffryn gael derbyniad gwres- og iawn. Y mae gan yr Eos lais p*erus, ac 0 quality pur; y mae ei iittonation yn bur, a'i eiriadaeth yn dda, ac yn canu gyda theim- lad gwirioneddol.—Musicus.
--ABERDAR.
ABERDAR. Y mae yn dda genyf fod Mri. Richard Lewis •a David Lewis, o'r Trecynon Seminary, wedi pasio eu haroliad yn anrhydeddus y blaenaf i Athrofa Aberhonddu, a'r olaf i Arthrofa y Bedyddwyr yn Manceinion. Y mae parch mawr yn ddyledus i Mr. James, eu hathraw, am ei ymdrech i barotoi p.)bl ieuainc i'r gwabanol sefydliadau. Hir oes iddo i barotoi lla^yer eto, yw dymuniad-Thmnas ap Evan.
[No title]
ENAINT HOLLOWAY.—Y Frech Goch a'r Scar- latina.—Dyma y ddau ymosodydd peryglus sydd yn dyfod ar draws ein plant gyntaf ar ol eu geni. Mae y ddau glefyd yn heintus ac yn galw am driniaeth ddoeth. Yn yr anhwylder blaenaf ceir fod y chest yn dyoddef; ac yn olaf dyoddefa y gwddf. Bydd y fam, neu yr hon fyddo yn gweim, yn sicr o gael fod Enaint Holloway yn feddygin- iaeth anmhrisiadwy yn yr achosion peryglus hyn. Ond ei gymhwyso at y gwddf, y ddwyfron, ar cefn rhydd esmwyth-had diffael; hyrwydda yr anadliant, lleddfa y peswch, dwg y lliw priodol yn ol i'r gwefusau, a chyll y gwynebpryd yr ym- ddangosiad, gwelw sydd yn rhagwyddo sefyllfa bervgluH y cyfansoddiad. Nidynumg y me yr Enaint gwerthfawr hwn yn iachau y clefy o ei Iron, ond symuda yr achos o bob ol-effaitn.
HELYNTION PENTYRGH.
HELYNTION PENTYRGH. MR. GOL.,—Hynod mor ddoniol a digrifol y mae y gwr bach a eilw ei hun "Rhywull," yn y GWLADGARWR am Mehefin 15fed, yn trin cymeriadau gwyr Pentyrch, yn enwedig y Broliwr y sonia gymaint am dano. Yr oeddem ni yn meddwl fod y gwr cegrwth Twyn y garth" wedi pardduo llawn digon ar ein cymeriad, os nad oedd yn ymylu ar y gormodol; ond gyda bod awn trystfawr Twyn y garth" yn diflanu yn y pellder, wele y broga bach "Rhywun" yn dechreu ysgrech- ian, gan wneyd oernadau annaearol ar ein pabell eto. Yn nechreu ei lith, geilw ni "y broliwr ewynog o Pentyrch teitl go lew, onite, Mr. Gol. ? Y mae y bitw bach hwn yn siwr o fod yn cael gwaew ofnadwy yn ei siol; y mae yn addef yn ei lith doniol ei fod wedi cael gwaew yn ei fol nea peri i'w hymys- garoedd gythryblu o'i fewn pan yn nghwmni y Broliwr;" ond erbyn hyn, y mae yn bur debyg fod y gwewyr a deimlodd yn ei fol wedi codi i'w ben, gan wneyd chwyldroad ofnadwy ar ei ymenydd gwan, nes y mae o dan ddylanwad y twymyn hwnw yn cicio a churo, baeddu a dwrdio pawb a phob peth ddelo i'w ffordd. Druan bach edrychwch arno yn ymdrabaeddu yn y baw a'r llaid, y mae ei farf a'i wyneb gwelw, yn nghyd a'i holl gorff yn un pentwr o aflendid gan y llys- nafedd gwenwynig a lifa allan o'i drwyn bas- tardaidd yn wir i chwi, carwn gael gwybod gan y gwr trystfawr hwn am ba beth yr ydym wedi bod yn brolian cymaint yn ei gylch ? Nid ydym ni eto yn gwybod, ond hyn a wyddom, pe buasai y gwr bach "C" yn cymharu yr enw broliwr iddo ef ei hun, buasai yn uebycach i'w le o lawer, canys dyna ei hen arfer ef yw ceisio bod yn— Ddyn glan dan glod hunan. Dywed hefyd yn ei lith ei fud "wedi cael prawf ar ein gallu barddonol;" ha ha yn mlia le, "C." y cefaist y fantais i wybod dyfnder ein galluoedd barddonol, ac i wybod beth allem wneyd efo'r gynghanedd A fuost ti rywbryd yn ceisio goleuo a dvsgu ychydig ar y broliwr yn nhywyll-leoedd y gynghanedtl gaeth os do, yn mha le a pha bryd 1 Yr ydym yn cofio yn bur dda i ni fod yn nghwmni y "Rhywun" hwn unwaith mewn eisteddfod a gynaliwyd nid can' milldir o G-, a chafwyd prawf o alluoedd y cyfaill y prydnawn h" nw; cafwyd testyn i gyfan- soddi arno, ac ow y fath helynt a fu yno am rai oriau-carthai ei geg fel hen fenyw wedi llyncu llon'd dwrn o ddrewlwch, rhuai fel tarw gwyllt, a malai ewyn fel ci yn y gynddaredd wyllt, am na ddeuai y gynghan- edd megys wrth wallt ei phen ond methodd y cyfaill y tro hwn eto, a syrthiodd yn ol i waeth tywyllwch nag oedd ynddo o'r blaen. Gan hyny, nid oes rhaid i ni wrth help y cyfaill bostfawr "Rhywun" i'n tywys d'n goleuo trwy dywyll-leoedd y gynghanedd gaeth, gan fod genym well athraw ar y bwrdd o'n blaen a chan fod y Rhywun hwn yn byw mewn cymaint o anwybodaeth a ninau, carwn iddo ei astudio yn fwy. manwl cyn ceisio gwneyd dim ar lun englyn byth mwy. Peth arall sydd yn ei ysgrif ddoniol yn peri i ni chwerthin yn iach yw, ein bod yn dwrdio a rhegi y sawl a gymerth arno ein dysgu yn llwybrau y gynghanedd gaeth;" clywch, clywch,' satan yn ceryddu pechod. Os oes rhai o'n beirdd bach am ddysgu rheol- au y gynghanedd gaeth, ewch at yr oracl mawr hwn, efe a'ch tywys i binacl uchaf y cynghaneddion caeth; ond cofiwch na wnewch ofyn y cwestiwn lleiaf iddo, onide efe a'ch chwytha i ddiddymdra yn y fan, gan gymaint nerth gwynt yr hunanoldeb sydd o fewn ei gorpws bach. Dywed hefyd os ydyw Twyn- y garth' yn meddwl y gwna ein tynu trwy gynffon y sarff" les i ni, iddo wneyd hyny ar frys. Well done, Rhywun," nid oes rhaid i ti gyfeirio cymaint at Twyn y garth," oblegyd gwyddom fod "Twyn y garth" a "Rhywun" yn byw o dan yr un eroen. Byddwn yn dra diolchgar i Twyn y garth os medr efe lyfnhau ychydig ar ein gwar, yn nghyd a chymhwyso tipyn ar ein trwyn, pa rai sydd yn ei flino yn fawr ond yn sicr i chwi, Mr. GoL, yr ydym yn dra boddlawn i'r gwar a'r trwyn sydd genym, hyd nes caffom well. Ond er cymaint ydyw ymffrost y brawd, gall pob un ag sydd yn ei adnabod hawdd dystio nad rhyw luniaidd annghyffredin yw ei gor- pws bach aflerw yntau, oblegyd ni welodd llygaid erioed wyneb mwy hagr nag sydd gan y bastard-fardd hwn.—Yr eiddoch, N ID BROLIWR.
LLITH BROCHWEL.
LLITH BROCHWEL. MR. GOL.-Y mae 11awer o bethau yn galw arnaf i ymaflyd yn yr ysgrifbin yn y lie tafodlyd yma-gweithgarweh crefyddol, a dynion sydd a'u holl galonau yn gwneuthur daioni, yn mhob ystyr, yn cael eu condemnio gan eu cyd-ddynion, a hyny ar g'oedd gwlad yn gyffredinol. Chwi wyr yr ysgrifellau, ni ddylai y pethau hyn fod felly, a'ch ymgais chwithiau ddylai fod i sobreiddio yr eglwys, a cheisio achub y rhai hyny sydd wedi ym- ollwng i'w chwantau a'u blysiau ac nid ceisio darostwng y person hwnw fyddo a'i holl egni yn ceisio llesoli cymdeithas. Yr wyf wedi dy weled dithau Brochwel an- niddig yn Demlydd Da cyn hyn, ac yn canu can agoriadol i'r eisteddfod hono fu gan-y Temlwyr yn y lie hwn ond nid wyf yn meddwl y cei gynyg y tro hwn, na, fe welwai pob gwyneb fyddai yn edrych ar dy goryn moel a'r olwg wyllt ac annyddan sydd arnat; os gellaist oernadnu yr A. B. C." gyday foneddiges brydweddol hono, ac os cefaist glod y diwrnod hwnw, yn nghysgod y ferch y cefaist ef, am hyny paid a brolio. Nid yw dweyd yr a. b. c. ond yr hyn y gall pob plentyn wneyd; am hyny, Mr. Brochwel, gad ddynion sydd yn ceisio dangos gwerth- fawrogrwydd cynawnder y Gwaredwr i bechadur noeth a thlawd yn llonydd; ac os wyt dy hunan wedi gorwedd yn ngadair diog- wyr, paid a rhwystro ereill i weithio tra y mae eu cyneddfau mewn grym. Paid a defnyddio y G-s y rhagor, oblegyd nid oes ond un o'r lie hwnw, sef Gadlys, yn y gymydogaeth, ac yr wyf o'm calon ynllawen- hau ei fod yma. Meddwl am hyn Brochwel, ac ymjrsgwyd o'r llwch, a thyred i wneuthur da. YSTRADFAB.
EISTEDDFOD PENGLA WDD.
EISTEDDFOD PENGLA WDD. MR. GOL.,—Mewn atebiad i Ymofypydd yn eich rhifyn am yr wythnos cyn y diwedd- af, dymunaf ei hysbysu fod yr holl weithred- iadau mewn cysylltiad ag Eisteddfod Pen- clawdd yn cael eu cario allan i'r manylwch eithaf heb un chwant nac awydd ar yr ysgrif- enydd nac ychwaith ar un o aelodan mwyaf distadl y pwyllgor i gadw eiddo neb ar gam, bydded y swin beth o fo—ceiniog neu ddim- eu-gan fod yr oil ohonynt uwchlaw cael eu temtio gyda'r fath small mercies. Ar yr un pryd, ymddengys ei fod yn awyddus am wybodaeth, a byddai yn gamwri mawr ar ein rhan i beidio ymdrechu cyflawni y diffyg amlwg y mae efe yn llafurio dano. Yr ydym yu ateb fel yma :-Oblegyd yr amddifad- rwydd truenus o gommon sense y mae y rhai a fwriadaiit fod yn gystadleuwyr yn yr Olympia Eisteddfodol yn ei arddangos wrth ddanfon am y progammes, beth pe dywedwn oddiar brofiad yn yr amgylchiad yma, fod rhai wedi anfon am brogrammes drwy amgau stamps mewn llythyr ond wedi annghofio dodi yr un y tu allan, a minau wedi gorfod tala mwy na'r cynwys heb son am ychwaneg Trachefn, darfu i gyfaill o Dreforis anfon atom yn ein hysbysu ei fod yn amgau stamps, ond er manwl chwilio ni chawsom afael arnynt, ac ni wyddom ddim am danynt os na chadwyd hwynt yn stamps arhaoi ar ei ddy- chymyg crwydrol. Yn wir, Mr. Gol., y mae yn gofyn amynedd fob i fod yn ysgrifenydd eisteddfodol. Dyna un Jordan, o Llan- samlet, yn anfon post-card am brogramme, ac yn addaw danfon stamps gyda thruad y post. Anfonwyd y programme iddo, ond ni chyf- lawnodd ef ei addewid. Tebyg iawn y bydd yn rhaid iddo fod mor onest a chadw ei air y tu draw i'r Iorddonen. Dyma yr amgylchiadau yr ydym wedi llafurio danynt, a beiddrwn ddweyd fod y pwyllgor wedi ymdrechu cyflawni pob peth yn onest ac anrhydeddus, ac mewn rhai am- gylchiadau er colled iddynt en hunain. Pe buasai Ymofynydd wedi bod mor fon- eddigaidd ac anfon yn gyfrinachol, diamheu y cyflawnid ei ddymuniad ond yn awr, rhaid iddo ymfoddloni ar fod ei lafur yn null and void. Y mae rhagolygon yr eisteddfod yn addaw- ol iawn, a phob arwyddion y ceir cystadleu- aeth ardderchog. Penclawdd. J. B. THOMAS, Ysg. O.Y.—Dealled pawb a fwriadant gystadlu ar y Little Church" ei fod yn agored yn yn unig i ddeuddeg o wrywod.—J. B. T.
EISTEDDFOD GLYNGORWG.
EISTEDDFOD GLYNGORWG. AT YR YSGRIFENYDD. SYR,-Gwelais yn hanes eich eisteddfod yn y GWLADGARWR diweddaf, mai eiddo "Mab Anian" oedd y goreu ar yr englynion i Fis Mehefin." Am nad oes genyf eich cyfeiriad, dymunaf eich hysbysu mai John Thomas Morgan (Ieuan Araul), Rhigos, ger Hirwaun, ydyw yr awdwr; a byddaf yn ddiolchgar i chwi am anfon y wobr i'r cyfeiriad uchod.- Yr eiddoch," J. T. M.
AMDDIFFYNIAD.
AMDDIFFYNIAD. MR. GOL.Gwyddoch fod Mr. Daniel James (alias Daniel Ddu) wedi ymfflamychu yn ofnadwy yn y GWLADGARWR diweddaf, a thegwch a minau fyddai cael amddiffyn fy hun yn ngwyneb y cyhuddiadau enllibus a chelwyddog a wnaed ganddo. Ceisia actio ei hun allan fel boneddwr geirwir a gonest, ond bradycha ei hun yn ofnadwy, oblegyd y mae ei gynffon gelwyddog yn profi yn eglur i fi mai mwnci ydyw. Nid ydwyf fi, syr, am godi fy ngordd i ladd chwanen. Cawsai lonydd genyf oni b'ai ei fod, ar ol dweyd un anwiredd, yn gorfod o angenrheidrwydd i lunio cant arall i'w ddal i fyny. Ymddengys i fi, ar ol ail edrych dros bethau, fy mod wedi cymysgu y drafodaeth yn y Llanelly Guard- ian a'r dyn a ymddangosodd yn y Darian, mewn perthynas i'w haerllugrwydd ef fel hogyn anmhrofedig yn defnyddio enw yr an- farwol Daniel Ddu. Ond rhag meithder, chwi ganiatewch i fi, Mr. Gol., i nodi allan rai o'r anwireddau cableddus sydd yn gyn- wysedig o ddechreu hyd ddiwedd ei lith am- ddiffynol. Cymeraf hwynt yn un ac un. 1. Dywed fy mod wedi cynyg 5s. iddo am ysgrifenu llith droswyf. Dyna anwiredd bob gair. Dim o'r fath beth erioed. Cofied Mr. James fod y fath haeriad celwyddog yn libel ar fy nghymeriad, a'i fod wedi gwneyd ei hun yn agored i gael y fraint o brofi ei haer- iad mewn llys cyfreithiol. 2. Haera eto, gyda'r un gau ysbryd, fod dadl frwd wedi bod rhyngwyf ag Alaw Hendy yn y Llanelly Guardian. Dywedaf finau yn bendant, eto, naddo, Mr. D. Junes ac her- iaf chwithau i brofi hyny. 3. Y mae ei eiriau ei hun yn ei grogi; dyma nhw :-Dywed iddo alw :'yda mi i ofyn paham yr oeddwn yn ysgrife:iu anwireddau am dano, ac i minau ateb "0 uicl fi a'i ysgrif- enodd ac iddo oherwydd hyny gael ei daro asyndod, nes gofyn nid chwi a'i ysgrifen- odd, onid yw eich enw chwi wrtho V Pa fodd y gellwch chwi, Mr. D. James, gysoni eich dywediadau eich hunan, yn enw- edig gan eich bod eisoes wedi dweyd eich bod wedi cael cynyg 5s. genyf am ysgrifenu dros- wyf. Nid oes dim eisieu i mi, Mr. Gol., i ddweyd yn bendant eto dyma anwiredd goleu, gan fod ei eiriau ei hun yn ei gondemnio. 4. Dywedaf eto yn ngwyneb haul a llygad goleuni, na ddarfu i mi ar unrhyw amgylch- iad nac unrhyw adeg i roddi hawl i Mr. D. James i ddefnyddio fy enw i mewn cyswllt ag Alaw Hendy na neb aralf ar dudalenau papyr newydd, nac un man arall; ac o ganlyn- iad, mae Mr. D. James yn euog o anwiredd dybryd. Mr. Gol., gelwir fi gan D. James yn "gel- wyddog/' "Tad y celwydd," ac yn "llercyn." Diolch rcldo am ei gomplimetds boneddigaidd a grasol; ond gwyddoch, syr, nas gallant fod yn dyfod gyda good graces oddiwrth lencyn dibrofiad fel efe, ac nis gallaf finau eu derbyn ychwaith ond ar yr un tir yn unig, sef "nas gellir dysgwyl oddiwrth asyn ond cic." Gwyddoch hefyd, syr, fod y llanc hwnw ag sydd yn ddigon haerllug i ddefnydd- io enw y diweddar, yr anwyl, a'r galiuog fardd y Du o Geredigion, a hyny cyn fod ei lwch wedi braidd oeri yn mhriddellau y dyffryn, yn ddigon rhydd i lunio a dweyd unrhyw anwireddau a fyno—mi a'i cynghor wn ef, syr, i ymneillduo i Jericho hyd nes y bydd ei farf wedi tyfu, neu os ydyw yn pen- derfynu dilyn llwybrau anwiredd, iddo iastud- io yn ofalus beth ydynt gynwys deddfau ein gwlad ar enllibo ei gytoydogion diniwed. Wrth derfynu yr amddiffyniad hwn, yr wyf yn galw arno, trwoch phwi, Syr, mewn iaith eglur, i gyfiawnhau ei hunan yn ngolvg y wlad am ei haerllugrwydd yn defnyddio enw yr anfarwol Daniel Ddu. Cofied mai nid ymfiiamychiad a chelwyddau sydd yn eisieu arnaf ii a llawer ereill yn y lie hwn, ond ateb piuen a phendant. Byddaf fi, yn nghyd ag ereill ag sydd yn anwylo coftkdwr- iaeth yr anwyl Daniel Ddu, yn dysgwyl hyn oddiwrthJ yn fuan, onide—ni dd'wedaf ychwaneg yn bresenol.—Ydwyf, Llanelli. DAVID JONES.
"WIL O'R WENALLT" AC " YSBRYD…
"WIL O'R WENALLT" AC YSBRYD ION GWMTAWE." MR. GOL.Crefwyf yn ostyngedig eich camatad a'ch hynawsedd i anton anerch at eich gohebydd talentog, doniol, a byd enwog (!), Wil o'r Wenallt. Rhaid i bawb gyfaddef y byddai yn sarhad ac yn ddianrhydedd o'r mwyaf ar ei ardderch- ogrwydd antfaeledig a dihalog (1) pe na thalwn deyrnged o warogaeth a pharch i'w fawrhydi anrhydeddus, a hyny pan yr ymostyngodd ef yn ei arddull dduwinyddol ac ysbrydegol i fy nghyfarch yn bersonol, a hyny ddim llai na dwywaith ar faes y GWLAD'WR bach Dyma ymostyngiad, onide, teilwng o efelychiad i ymherawdwyr a breninoedd < Er mai ataf fi yn bersonol y cyfeiriai, eto, gallai nad ydych chwi tua'r swyddfa yna. yn ei ddeall, oherwydd ei arddhll annghyffredin o osod "ygaregi lefain o'r mtir," &c. Er hyny, rhaid cyfaddef eich bod yn ysgoiheigion o radd flaenaf yr oes, neu byth y buasech yn gallu amgyffred ei ysgrifau dwfn-dreiddiol, chwaethus, trefnus, a ch.aaurol, chwaithach eu cyfieu i iaith a brawddegau ymarferol y bobl gyffredin. Er ei j^orion enfawr ar y eyffredin mewn pethau a gwybodaethau annghyffredin a mawreddog, eto, gorfyddir ef i gydnabod mai yn m) d y gydwybod effro y mae yn byw. Ymddengys fod ei gydwybod yn ngafael pryf ysol a difaol yr euog, y rhai nad ydynt yn gorphwys na dydd na nos. Eithr fol cancr, yn ddifar weithiau, cwyd pangfeydd ofnadwy y celwydd i fyny gan ei datlu ar draws y muriau moel- ion, nes y dychymyga ei fod yn gweled mil- oedd ar tiioedd o ellyllon y fagddu yn gwibio o'i ddeutu, gan wneyd pob math o ystumiau a lleisiau gwatwarllyd, anwnaidd, ac uiiernoi. Pan ddaw o afaelion y pangfeydd yna, bydd rhyw gryd aefchus yn ymaflyd jnido, nes peri i'w ddanedd a'i gymalau i guro yn nghyd yn ofnadwy ac ofn ac arswyd yn ei ymlid fel arthes wedi colli ei chenawon, fel nad oes iddo lonyddwch na dydd na nos. Ni huna ae ni chwsg y gydwybod euog, canys beth a wneir iddi ? Pan fyddo y drwg-ysbryd yn eithafol o boenus, gyr am Diana y delyn i gael moment o orphwysdra weithiau a phan ddechreua Bili chwareu, syrth i lesmair, ac yn y fan gwel ryw ryfel ofnadwy o ddinystriol; amddiffynfeydd yn cael eu cyfodi o bob tu iddo magnelau yn rhuo bwledi yn gwau a chleddyfau 9 bidogau yn chwifio o bob tu iddo, gan beri dychryn ac arswyd anesbon- iadwy iddo, druan ohono Yr euog yn ffoi heb neb yn ei erlid: gwel ryw lu enfawr o ysbrydion coed gooseberries, &c. Beth sydd yn aflonyddu arnat, Wil? Beth oedd yn galw am dy wasanaeth arnaf fi ? ai dim i'w wneyd a'i ddweyd yn un man arall, a ie ? Mentraf ddweyd wrthyt dy fod wedi dyfod o hyd i gyflawn job am y gweddill o'th oes, os na fydd i ti osod dy draed yn y tir, a hyny yn go fuan. Yn awr, Mr. Wil, er i ti danio dy ddau torpedoe fawr ar fy nhraws, a hyny yn hollol ddialw, eto, yr wyf yn fodd- lawn ei gadael hi ar hyn, dim ond i ti beidio ymyraeth & mi mwy nes byddo galw am hyny; ac fel iawn am fy hyfdra hwn arnat, mi a ad- roddaf i ti ystori fach, dwt, ac hefyd nid 'storimohoni, eithr ffaith, a dyma hi:—"Bu i Edgar, brenin y Saxoniaid, orchfygu y Cymry; ac fel treth (tax), gorfododd hwy i dalu 300 o benau bleiddiaid (wolves heads), a hyny yn flynyddol am lawer o flynyddau. Felly, di- fawyd y bleiddiaid o Brydain." Wel, rhag i'm ystori fyned yn feichus, bydd hysbys i ti fod arnaf ofn, pe yr enillwn faes y gyflafan ofnadwy (?) arnat, mai rhywbeth tebyg i eiddo Edgar fyddai fy nhreth-mii dim ond penau gwyddau, gieir, turkeys, &c. Gan hyny, heddwch, heddwch, a hyny ar y tir a ewyllysiwch. Peth blin annghyffredin fyddai i ddau ddyn mawr, pwysig, a dylan- wadol (?) fel ni i syrthio i tirae bapyr. Mae lie i ofni y bydd i rywbeth heblaw Wil a'i ysbrydion i ddyfod yn destyn siarad wrth fyned a dyfod o'r Ysgol Sul. Y mae lie i ofni y bydd i "darian y gwirionedd (?). yr hon a honi fod genyt, syrthio o'th law, ac y bydd i ti a'th darian gael eich lapio i fynu gan Mr. Libel, a'ch selio a sel Mr. Forgery, am y gweddill o'th oes. Hynyna y waith hon. Hai ati, Wil. PERLLANYDD. i
.Gair o L'erpwi
Gair o L'erpwi MAE rhagolygon yr wythnos hon yn amlygjr bywiogrwydd arbenig, am fod yma ddau trey. yn tynu syl.'v. y wlad. Y cyntaf ydyw yr Air- ddangosfa Amaethyddol, sef yr un Freninol. yr hon a gynelir yn flynyddol ar gylch, o dam nawdd prif fonedd y deyrnas. Mae celfyddyA a chywreinwaith i'w ganfod yn amlwg yn y cyd— gasgliad o wahanol offerynau a pheirianao. Dyfeisiadau dynol wedi cyrbaedd pwynt arucheJ mewn perffeithrwydd, yr hyn a ddengye allu dytt tra yn cael ei gyfarwyddo gan ryw ddirgel By- mudydd, er dadblygu o flaen y byd fawredd a. gogoniant celfyddyd, a phrofi yn amlwg drwy y cywreinion fod a fyno yr Anweledig a dyfeisiadE- au dyn, a bod hyny yn profi ar unwaith mai ffynonell pob gwir fawredd yw Duw. Hwyr- ach na fydd pob darllenydd yn cydnabod y fara hon yn uniongred, ond ni waeth am hyny tra. bydd pethau gweledig o waith dwylaw yn cadam- hau y gosodiad, a hyny uwchlaw pob amhenaeth. Mae uchder, lied, a dyfnder y pethau bychtin fcl y mawr yn amlygiad trylwyr fod i'r meddwl1 dynol wahanol nerthoedd, yn cael ei anilygm mewn amrywiol ffyrdd, a llawer ohonynt yn. hynod syml. Mae yn y wers a ddysgir yn ar- ddangosfeydd ein gwlad ddigon o amly^rwydd fod a fyno Mciutonydd y Bydysawd ( The Geo- metrician of the Univene) a phethau bychain y llawr, fel y gallwn yn hawdd ganfod y mawr trwy y pelydr bychan. Bydd genyf air yn. mhellach yr wythnos llesaf, wedi cael cipdrem ar y lie yn ei gyflawn orwychder, gan y bwriad- wyf ymweled a'r lie eto, wedi y caff ) ei ago-r dydd Mercher nesaf, a bydd yn agored hyd wythnos i heddyw (dydd Linn.) Canfyddais yn barod nad yw y Cymry yn ol gyda pheirian- waith, cystal a chenedloedd ereill. Canf\ ddais- un yn neilldnol, sef Mr. H. Yorath, Caerdydd.. Mae lluaws o ddefaid, moch, ceffylau, ac anifeil- iaid corniog wedi cyrhaedd y lie cr y Sadwrn, a- tliebyg ydyw y bydd y cfyfan yn y lie priodol cyn haner dydd yfory, gan fod rheolau arbenig yr arddangosfa yn gofyn hyny oddiwrth bawb arddangoswyr o fewn yr adeilad. Mae yn wiedd i'r llygaid i gael edrych ar gywreinion y gwa- hanol agerbeirianau, rhai ohonynt mor fychain, ag y gallai gwr cadarn eu cludo ar ei gefn yn. gwbl ddi(lirafferth. Peirianau symudol at was- anaeth amaethwyr wedi cael eu gweithio yn nghyd yn y fath fodd fel ag y gellir eu symad i'r fan a fyner lie byddo galwad am eu gwasan- aeth. Gwahanol fathau o sugnedyddion, ond y cyflenwad hela-ethaf ohonynt geir yn ngorsaf y bydenwog Tangye, o Gaerodor. Mae rhywbeth neillduol yn y celfi hyn, oblegyd maent yn tyna cymaint o sylw, a phrawf o hyny yw i dramor- ddyn bwrcasu nn o'r peirianau dydd Gwenpr, pan ddygwyd hwynt i'r eafle gyntaf. YR ail beth a defygir i sylw ydyw Eisteddfod y Saeson, sef cylchwyl flynyddol y rhedegfeydcL ceffylau ar faesydd Aintree, lie yr ymgynulla y tyrfaoedd bedair gwaith yn y flwyddyn ond y cynulliad yr hon ydyw yr uchelwyllle mae nn rhedegfa arbenig. sef am y Liverpool Cap. Bydd llawer un yn troi ei gefn ar L'erpwi y tro hwn, fel llawer tro yn flaenorol, yn ddigon gwag et logell, wedi cael gwers gostfawr, ond heb gael yr effaith dyladwy ar ymenydd y dyn. Llawer llanc a ddyryswyd ar lwybr bywyd wrth ym- wneyd a'r rhedegfeydd ceffylau yn L'erpwl, fel lleoedd ereill —colli arian a cholli cymeriad anoL byth. Rhagolygon iysglaer a dymunol yn troi. yn dywyllwch caddugawl, a gobeithion, cysur, a dedwyddweh wedi cwbl ddiflanu, a byth mwyach i ddyohwelyd; oblegyd unwaith y cylF dyn ieuanc ei safle mewn ymddiriedaeth nid yn ami y ceir enghraifft am neb yn adenill ei safle yn cl. Cylclioedd iselaf mewn cymdeithas fydd ei le mwyach, ac odid na ddaw yn ei dro ya gydnabyddus i, rhanau mewnol ystafelloedd y carchardy. Nid mynych y bydd meibion ieu- ainc Gwlad y Giln yn cael eu maglu, a da iawn hyny, er ein anrhydedd fel cenedl. Gadawn y pedwar carnolion a'u hedmygwyr chwaethus i ddilyn eu chwilfrydedd darostyngol, lie nad yw rhinwedd a daioni byth yn agor llygad. Mae W. Rathbone, Ysw., A.S., y trydydd aelod dros L'erpwl, wedi enill dygasedd adran benodol or Gwyddelod, sef yr Home Rulers, am na fuasai yn ddigon gwasaidd i ymrwymo mewn gair a gweithred i bleidio y mesurau ynfyd a ddygir o flaen senedd y wlad gan y dosbarth. eithafol hwnw ag sydd fel pla yn Nhy y Cyffredin- Fel boneddwr a gwladweinydd didderbynwyneb siaradodd a'r cenadon Gwyddelig, a dywedodd na allasai fel Prydeiniwr mewn meddwl, barn, a gweithred, byth ymostwng i fradychu ei wlad i'r fath eith ati on, trwy roddi ei air i gefnogi. symudiadau gwallgofus a gorphwyllog, ac nad oedd y Gwyddelod, fel eorff o bobl, byth yn foddlon, er cael ohonynt fwy o fendithion &- rhagorfreintiau na neb cenedloedd ereill agsydd yn (fcieiliaid teilwng o goron Prydain. Bydded y caulyniad y peth a fyddo, ni wna Mr. Rath- bone: byth lyfu tracd Gwyddelod er mwyn "cadw ei le yn y senedd. Nid yw yn debyg fod llawer o berygl y bydd iddo golli dim arn vmhod cyd- ymffurfio ag edmygwyr y Llywodraeth cartrefol yn y 'Werddon. Nid digon ganddynt gael pob m^ynderau a breintiau dinasyddol fel dynion ereill; os ca Pat droedfedd, fe fydd yn sicr o ofyn am y llathen, hyny yw, y blaid hono a. berthynant i gorlan y Pab. Mae nerth a dy- lanwad brodorion Gogledd yr Iwerddon a bres- wyliant yn y dref yn ddigon cryf i wrthweithio.
--Masnach yr Haiara a'r (Ho.
,thoddi block ar ffordd y Bwrdd Cymodol, er ..ei daflu, yn yfflou dros y reiliau. Mae y Bwrdd hwn wedi bod o fendith yn Neheu- •dir Cymra a sir Fynwy. Mae yr olygfa Tewllyd sydd ar weithfeydd haiarn y ,1(1) fluthfa, Ynysfach, Hirwaun, Llwydcoed, Abernai.t, A beraman. y Gadlys, Plymouth, .¡g. Trefforest yn iasau ac yn ia oesol ar y gwahanol ardaloedd Mae y glo ager vn myned yo tnlaen n weddol reolaidd. Blin genyf vrth ddyfod heibio oedd gweled <Glofa Blaengw ;wr fel yn gorwedd yn y llw\d'evp, a dim ond rhyw yehydig \n gweithio vfo er ctid w y gwuith yn glir a '•dinitf eidiau. Yn rhanbarth CAERDYDD ■sfifefais, yn groes i'm dysgwyliad, a'r un mo id i d 15 sg vyli idaa ereiil, fod Undeb y Meistri «edi penderfyGU peidio rhoddi orhybuddion i droi o'r tJeilhu y Sliding ..Seide, yr hyn svdd wedi ereu cryn lawen- ydd drwy v wlad. Nid oes cynydd wedi <jytoer dlle yn glo a allforiwyd yma yr wythn s ddiweddif, ir h; n oedd fel y • carjlyn :—88.781 o dunelli o lo; 660 o dunelli o patent fuel; a 3,552 o duoelli o ,deheu-.f,yut ra w y n til d ar Abernant ar Plymouth, er rhwystro y deifwynt difaol i chwythu ate *n sefyll allau yno tua diwedd y mis i n GOWER ROAD, ,ger Oasllwchwr, g<stvngwy cvflogau yr ychyiig eith •»yr a weithient yn Nglofa y Bisweil heb roddi yr un rhj budd o hyny! Yr oedd swrn y gostviigiad yn 5^ y dydd, .aef o 4s 2i 3a 9c y dydd. 0 ganlyn- iad ym<tiUwy i gweithio dydl Sadwrn, ac y maeat oil allan hyd yn hyn. Dydd Iau diweddaf caws ait ymddyddan a'r prif or- qichw) liwr, oud nid oes eytundeb hyd yn liyn wedi ei wneyd rhwng y plei'liau. MASN ACHDEITHIWR.