Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Adsain yr AiL

Advertising

CWMTWRCH.

CAERFYRDDIN.

LLANFABON.

PENYGRAIG.

MYNWENT Y ORYNWYR.

PORTH, CWM RHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PORTH, CWM RHONDDA. GWYL DE PLANT YSGOL Y BWRDD.-Dydd Gwener diweddaf, gorymdeithiwyd y gymyd- ogaeth gan Ysgol y Bwrdd, yn cael ei blaenu gan ei Fife and Drum Band, pa un sydd yn anrhydedd iddynt Yr oedd yr orymdaith a golwg brydferth iawn arni, ac mewn rhif oddeutu 370. Am bed war o'r gloch eistedd- wyd wrth y byrddau, ac 'roedd yn blesergweled y plant yn mwynhau eu hunain. Hyn trosodd aethpwyd i'r cae, a dyma lie aroswyd hyd nes oedd y nos yn dechreu gorchuddio y Cwm, pan ymadawodd pawb wedi eu boddloni. Oedd managers yr ysgol yn bresenol, ac iddynt hwy yn fwyaf neillduol oedd y mudiad hwn yn ddyledus. Pob parch iddynt, ac i bawb ereill sydd yn cofio yn garedig am y ieuainc. MARWOLA.ETH MRS. H. N. DAVIES.-Dydd Sadwrn, tarawyd y gymydogaeth a phrudd- der calon oblegyd marwolaeth Mrs. H. N. Davies, am dri o'r gloch y boreu. Ymadaw- odd a'r byd hwn wedi goddef byr gystudd. Oedd yn barchus gan bawb, yn nghyd a'i hanwyl wr, Dr. H. N. Davies, pa un a en- wogodd ei hun yn y gyfiafan ddiweddar yn Mhwll Tynewydd. Deallir y cymer yr angladd le dydd Iau, Medi 27ain.—Ab I. P.

Advertising

PONTYPRIDD.

EISTEDDFOD DEMLYDDOL DOS.BARTH…

DERI.

RESOLVEN.

TONYREFAIL.

ABERDAR.

LLANDILO.

LLANELLI.