Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

HARRIET LEE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HARRIET LEE. Uan Awdwr "Gamer Jones Powel," ac "ElenWyn." PENOD XXXII. GALARU A LLAWENHAU. Tra y bydd un teulu yn galaru bydd un araU yn llawenhau, a hyny. ar rai adegau, yn hanfodi yn yr un amgylchiadau rhyfedd a rhywiog. Mae'r Yoel o dan y cwmwl hyd eto, Hm fod y colledig heb ei gael, er gwneyd pob gorchest i hyny. Beth a fyddai oreu ei wneyd, Pryse ? Ai anfon i ol Harriet yma i gydalaru a ni, men ynte anfon yr hanes calonrwygol iddi?" "Am" y cyntaf, sef cael Harriet yn ol, tranoeth i'r ffair ydyw; ac am anfon i'w hysbysu o'r tro trist, gochelweh ar eich perygl, onide, dichon y gwna hitbau ddi- vedd Rrni ei hun eto; gwell colli un na dau. '0 ddiU ddrwg, dewiser y lleiaf.' Gadewch bethau fel v maent Edgar, yn nglyn a Harriet, gan obeithio fod ei phre- senol hi yn well na'n heiddo ni, ac y bydd ei dylodol yn well nag y mae genym le i obeithio i'r eiddom ni byth fod. Collasom ni ein mab, ac ni chawn ef yn ol; collodd hithau un a ddylasai fod ya wr iddi, ond gall y ca hi wr urall tebyg iddo, yr hyn yw dymuniad fy nghalon iddi." Trodd Roderick Prosser allan yn foddhaol. Dyna ffodus yr ydym wedi bod yn nglvn a chael dau i fyned a baich bywyd oddiar ein hysgwyddau, onide, William ?" "Ie, mewn difrif. Y dydd o'r blaen yr oeddech chwi yn canu'ch telyn am eich Harriet rinweddol, ond gallaf eich cyfarch heddyw yn yr un cywair hwyliog, am fy ffawd inau yn d'od o hyd i Roderick "Pe galiern gadw y ddau hyn, ni soniwn i byth am werthu'r fferm i fyned yn ol i Gymru. 0! dyna naturiol yw eu clywed yn siarad Cymraeg glan gloew a'u gilydd, yr hyn a wnawn beunydd gyda'r fath "hyfrydwch a mwynhad." "Ai nid ydynt yn siarad gormod a'u gilydd, so yn cael gormod o hyfrydwch a mwynhad yn ngymdeithas eu gilydd? Ydynt." Mae'n gynar eto, William, i feddwl am hynv hefyd. A wyddoch chwi beth oedd Edith fach yn ddweyd y dydd arall ? Dywedodd fod y black drwg hyny wedi bod yn ei holi hi mewn Cymraeg pur un o ba le oedd Harriet, gan ei henwi, a bod Boderick wedi bod yn holi yr un peth iddi, a hyny y dyddiau cyntaf y daeth i aros yma!" Beth ydych yn siarad, ferch?" Mor wired a bod y Banau yn Brychein- log, a Llyn Llangors yn Nghymru, dyna i chwi! Os ydych yn amheu, galwaf hi yma yn awr, er i chwi ei chlywed hi yn dweyd eich hunan." Na, na, gadewch i ni gael gosod hyn at ein meddwl, a'u gwyHo hwy, rhag dygwydd rhywbeth a fyddo gwaeth na lladd y fuwch Bronwen." "Tro rhyfedd oedd i'r hysbysiad hyny ddyfod -allan mor fuan ar ol eia heiddo ni, ac mor agos i'r peth ag oeddem ni yn ei ofyn, onide?" "Ie. Cawn fyw i gael eglurhad ar hyn oil ond odid. Gwyliwn." Aeth John bach i lithro ar yr ia ar y llyn gerllaw, cyn fod yr ia agos digon cryf i'w ddal, torodd dano, ao aeth yntau i lawr. Yr oedd Edith yn gweled, a rhedodd adref i ddweyd yr helynt, a'r cyntaf a gafodd ydoedd Roderick. Llamodd hwnw at y llyn, torodd yr ia, daeth a John o'r dwfr yn fyw, a phan oedd ei rieni yn brysio i lawr. yn orwyllt, yr oedd yn dyfod i'w cyfarfod a'r bychan yn ei freichiau yn ddi- Anaf iddynt. Cusanai y fam ei bachgen anwyl, a phan ddeallodd yr helynt, bu bron iddi a chusanu Roderick hefyd! A phwy fam fuasai yn ei beio am hyny, canys yr oedd wedi peryglu ei fywyd ei hunan er achub ei mab iddi, ac wedi llwyddo. Dyna droi dalen Iled ddedwydd yn helynt Roderick yn y teulu. Dim amheu mwy, ond perffaith ymddiried o hyn allan. Ei werth ef o hyn allan yw gwerth John bach, ac nid oes gwerth ar hwnw. PENOD XXXIII. UN BHYFEDDOD YN ESGOR AE ARALL. Daeth y gwas newydd i gael ei hoffl gan bawb drwy'r teulu ar fyr o amser; yr oedd ei ofal am bob peth, a'i sirioldeb an- arferol yn rhwymo pawb i'w edmygu a'i barchu. Un hirnos gauaf wrth y tan, rhywfodd aeth yn ddechreu son am leosdd genedigol, pob un yn dweyd ei hanes ei liun. Yr eedd helyntion boreuol rhai o'r Indiaid yn ddoniol i'r pen. Yr hynaf ohonynt, yr hwn oedd ei dri-ugain oed, a ddywedai iddo ef gael ei eni mewn ogof gerllaw, ar ganol dydd, pan oedd hi yn liawn lloer, a bod o dair i bedair llath o ddyfcder o eira dros yr holl wlad; ady-. wedai fod rhai yn dweyd iddo gael ei eni yn droednoeth, ond nad oedd yn cofio. Daeth ar ei thro at Roderick, ac yr oedd yn rhaid iddo ef i ddweyd ei helynt, fel ereill, yn ei dro. Ond yr oil a ellid gael oddiwrtho oedd nad oedd ef yn sier a gafodd ) ef ei eni ai peidio, mai yma y cafodd ef ei hun, a phe elai yn gyfraith yn nghylch profi mai fe oedd e', feallai y deuai'r rheith- wyr a dedfryd.i'r llys yn ei erbyn. Ac am y cyfreithwyr, eu bod hwy wedi myned mor ddoniol a dysgedig fel y gallent ddadleu, a bron argyhoeddi dynion, mai nid hwy eu hunain oeddent eu hunain, ac mai'r diffyg penaf ynddynt oedd methu dweyd a phrofi pwy arall oeddent beblaw eu hunain. Yr oedd fel pe wedi penderfynu enill serch Harriet. Yr oedd mor ofalus ohoni, ac mor gymwynasgar a charuaidd iddi, a beu- nydd yn ei chwmni, fel ag y daeth hi yn wir hoff ohono. Yr oedd unwaith eto wedi dyfod yn bur dawel ei meddwl ar ol helynt y black afrosgo hwnw. Pan gyda'u gilydd un diwrnod, aeth Harriet yn sydyn ar draws hanes y black wrtho, yn nghyd ag anffawd y fllwch Bronwen, poor thing! Ni allodd Roderick wneyd fawr o'r helynt, ond dywedcdd y gallasai'r black fod yn ddiolchgar mai Bron wen gafodd yr ergyd, ac nid efe, ac y dylasai dalu am dani. Buasai yn dyfod i'r ddalfa pe gwnaeth- ai hyny," meddai Harriet barod ei hateb. Dichou y cawn wybod rywbryd, paham yr oedd belynt y black yn cael myned heibio mor ysgafn. Nid oedd Harriet haner boddlon ar yr hyn a ddywedodd o'i hanes ar yr aelwyd o gylch y tan, y nos arall, ac aeth i'w holi, am fod pawb wedi dweyd eu hanes ond efe, hyd yn oed eu meistr a'u meistres. Harriet, pe dywedwn i chwi o ba le y daethum i allan, byddai'r byd a'r Indiaid Americanaidd yn gwybod cyn nos yfory A gwn y byddai ar ben i fi feddwl am aros yma ddim yn rhagor! Byddai yn rhaid i fi i dori ar fy amod, ac ni chawn ddim am fy llafur y gauaf caled hwn <1 Rhyfedd y fath hen ridyll yr ydych yn credu fy mod, Roderick! Yr ydych yn meddwl yr awn i ryw drafferth dirfawr yn eich cylch! Pe byddech wedi lladd dyn a bwyta ei haner ni fuasech yn gosod duach nod arnoch eich hunan!" Daeth eu meistr heibio ar y pryd, ac ya eu gweled mor ddifrifol, meddai yn llawen fel arfer Hylo caru yr ydych, ganol dydd fel hyn ?" Ond cael rhai i garu eu gilydd, ni allant beidio gwneyd hyny ga-nol dydd fel canol nos, syr," meddai Roderick. Gwnaeth y geiriau hyn o eiddo y gwas newydd ofid dirfawr i Harriet. Credodd ar ei hunion ei fod yn llofrudd gwirionedd- ol! Dychrynodd gymaint wrth feddwl fod llofrudd yn byw yn yr un ty a hi nes y buasai yn ymadael yr awr hono o'r lie, onibai fod ami ormod o ofn myned drwy'r goedwig ei hun, am y buasai i'r dyn yn sicr o ddyfod ar ei hoi, am ei fod yn sicr o fod a rhyw ddrwg yn ei ben wrth ei dilyn hi fel yr oedd o hyd o tan i fan. Cafodd noson flin i'r pen y noson hono. Gwelai Roger yn ei breuddwyd yn dyfod ati; ond O! dyna 01 w g oedd arno! Nid oedd modd cael dim ond Saesneg oddiwrtho, a rhyfedd mor lleied o hwnw, ac ni wnelai nemawr ddim ohoni hi, ond edrych ami, a hyny yn lied ddigofus! Wylai yn hidl yn ei breuddwyd, wrth ofni fod ei serch ati wedi troi yn ddigofaint, ac ofnai ddyfod i'r un diwedd a morwyn y Gorllwyn, o achos pa un y cafodd y diniwed Thomas Cornelius ei grogi. DsfFrodd, a'i gobenydd wedi ei wlychu a'i dagrau, a diolchai mai breuddwyd oedd. Ymdawelodd am ei bod yn cael ei blino mor lleied yn nghylch Roger, ac wedi dyfod i feddwl mor ychydig am dano, a'r fath amgylchiadau wedi dygwydd yn nglyn ag ef. Cafodd ei meddwl ei fywhau yn awr eto i fyfyrio yn ei gylch, a cheisiai ddychymygu beth oedd ei sefyllfa erbyn hyn. Yr oedd yn tynu yn agos i ddwy flynedd yn awr er ei hymadawiad a'r Yoel, ac nid oedd wedi clywed yr un sill o Gymru er y dydd yr aeth ar fwrdd y llong gyda Jane Bright. Meddai mewn myfyrdod :— "Nid oeddwn yn credu pan yn gadael y Voel y buaswn cyhyd heb glywed oddi- wrthynt. Ac er i fl i wahardd i Roger i ddyfod ar fy ol yma, bum yn dysgwyl gweled ei wyneb hawddgar yn dyfod at y ty yn ddyddiol am y chwe' mis cyntaf, ond yn ofer. Diau fod ei fam a'i chwior- ydd wedi tynu rhyw foneddiges neu gilydd yno a lwyddodd i enill ei serch oddiarnaf. Neu dichon iddo fyned am dro at Syr Michael i'r Iwerddon, ac i un o hiliogaeth Mari ddenu ei galon ar ei hoi. Os felly y bu, nid oes lie genyf fi i feio dim, canys cefais bob cynyg ganddo a allasai ei roddi, a darfu i finau wrthod yr oil yn bendant a diysgog oddiwrtho. Dios y gallaf roddi i fyny meddwl am dano, ac y gallaf barotoi i dreulio gweddill fy nyddiau yma yn mhlith estroniaid paganaidd. Yr hyn sydd yn gwneyd hyn yn galed i fi yw y gallasai fod yn llawer gwell arnaf, ac y buasai felly onibai fy uchelfryd i fy hunan. Gwir fod yr hen foneddiges yn lied afrywiog ei thymerau, ac yn ymhel a'r hyn nad oedd ganddi hawl i hyny; ond dyna, dylaswn i fod yn ei hadwaen yn ddigon da, fel ag i gyd-ddwyn a hi, am yr ychydig oedd ganddi i fod yn swmbwl i bawb a phob peth o'i Chyleh. Ond ni ddaw ddoe yn ol,' a gallaf finau godi allor amynedd i fyny o geryg nadd dyoddefgarwch, ac aberthu y gorphenol a'i gysylltiadau ami, ac ymfoddloni ar y sefyllfa yr wyf ynddi. Pe gallwn gyfeirio llythyr at ferched fy ngwlad, gwnawn hyny, a chynghorwn hwy i beidio pechu yn erbyn serch diffuant, a diffodd cariad tanllyd fel y gwneuthum i, rhag iddynt ddwyn eu hunain i euogrwydd a thywyllwch caddugawl ar ganol dydd bywyd, fel ag y daethum i iddynt. Er fy mod yn ymorchestu i ymdawelu, y mae'r syniad o fyw yn unig ac yn weddw yn fy lladd yn ddyddiol." (l'w barhau.)

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

ABERDAR.

CAERFFILI.

PETHAU CHWITHIG YN NGHAER..FFILI.…

CAP COCH A'l HELYNTION. I